diff options
| -rw-r--r-- | .gitattributes | 3 | ||||
| -rw-r--r-- | 14865-h.zip | bin | 0 -> 977213 bytes | |||
| -rw-r--r-- | 14865-h/14865-h.htm | 3795 | ||||
| -rw-r--r-- | 14865-h/images/alun0ab.jpg | bin | 0 -> 80297 bytes | |||
| -rw-r--r-- | 14865-h/images/alun0as.jpg | bin | 0 -> 16473 bytes | |||
| -rw-r--r-- | 14865-h/images/alun0bb.jpg | bin | 0 -> 50974 bytes | |||
| -rw-r--r-- | 14865-h/images/alun0bs.jpg | bin | 0 -> 15268 bytes | |||
| -rw-r--r-- | 14865-h/images/alun105b.jpg | bin | 0 -> 113662 bytes | |||
| -rw-r--r-- | 14865-h/images/alun105s.jpg | bin | 0 -> 25283 bytes | |||
| -rw-r--r-- | 14865-h/images/alun25b.jpg | bin | 0 -> 52440 bytes | |||
| -rw-r--r-- | 14865-h/images/alun25s.jpg | bin | 0 -> 11683 bytes | |||
| -rw-r--r-- | 14865-h/images/alun33b.jpg | bin | 0 -> 100547 bytes | |||
| -rw-r--r-- | 14865-h/images/alun33s.jpg | bin | 0 -> 23474 bytes | |||
| -rw-r--r-- | 14865-h/images/alun40b.jpg | bin | 0 -> 69932 bytes | |||
| -rw-r--r-- | 14865-h/images/alun40s.jpg | bin | 0 -> 16023 bytes | |||
| -rw-r--r-- | 14865-h/images/alun48b.jpg | bin | 0 -> 87992 bytes | |||
| -rw-r--r-- | 14865-h/images/alun48s.jpg | bin | 0 -> 17387 bytes | |||
| -rw-r--r-- | 14865-h/images/alun56b.jpg | bin | 0 -> 92179 bytes | |||
| -rw-r--r-- | 14865-h/images/alun56s.jpg | bin | 0 -> 18453 bytes | |||
| -rw-r--r-- | 14865-h/images/alun88b.jpg | bin | 0 -> 85791 bytes | |||
| -rw-r--r-- | 14865-h/images/alun88s.jpg | bin | 0 -> 21317 bytes | |||
| -rw-r--r-- | 14865-h/images/alun8b.jpg | bin | 0 -> 72838 bytes | |||
| -rw-r--r-- | 14865-h/images/alun8s.jpg | bin | 0 -> 22806 bytes | |||
| -rw-r--r-- | 14865.txt | 4387 | ||||
| -rw-r--r-- | 14865.zip | bin | 0 -> 61002 bytes | |||
| -rw-r--r-- | LICENSE.txt | 11 | ||||
| -rw-r--r-- | README.md | 2 |
27 files changed, 8198 insertions, 0 deletions
diff --git a/.gitattributes b/.gitattributes new file mode 100644 index 0000000..6833f05 --- /dev/null +++ b/.gitattributes @@ -0,0 +1,3 @@ +* text=auto +*.txt text +*.md text diff --git a/14865-h.zip b/14865-h.zip Binary files differnew file mode 100644 index 0000000..10b76de --- /dev/null +++ b/14865-h.zip diff --git a/14865-h/14865-h.htm b/14865-h/14865-h.htm new file mode 100644 index 0000000..9f9f272 --- /dev/null +++ b/14865-h/14865-h.htm @@ -0,0 +1,3795 @@ +<!DOCTYPE html + PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Strict//EN" + "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-strict.dtd"> +<html> +<head> +<meta http-equiv="Content-Type" content="text/html; charset=US-ASCII" /> +<title>Gwaith Alun</title> + <style type="text/css"> +/*<![CDATA[ XML blockout */ +<!-- + P { margin-top: .75em; + margin-bottom: .75em; + } + H1, H2 { + text-align: center; + margin-top: 2em; + margin-bottom: 2em; + } + H3, H4 { + text-align: left; + margin-top: 1em; + margin-bottom: 1em; + } + BODY{margin-left: 10%; + margin-right: 10%; + } + .blkquot {margin-left: 4em; margin-right: 4em;} /* block indent */ + // --> + /* XML end ]]>*/ + </style> +</head> +<body> +<h2> +<a href="#startoftext">Gwaith Alun, by Alun</a> +</h2> +<pre> +The Project Gutenberg eBook, Gwaith Alun, by Alun, Edited by Owen M. +Edwards, Illustrated by John Thomas + + +This eBook is for the use of anyone anywhere at no cost and with +almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or +re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included +with this eBook or online at www.gutenberg.org + + + + + +Title: Gwaith Alun + +Author: Alun + +Release Date: February 1, 2005 [eBook #14865] + +Language: Welsh + +Character set encoding: ISO-646-US (US-ASCII) + + +***START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK GWAITH ALUN*** +</pre> +<p><a name="startoftext"></a></p> +<p>Transcribed from the 1909 Ab Owen edition by David Price, email ccx074@coventry.ac.uk</p> +<h1>GWAITH ALUN</h1> +<p style="text-align: center"> +<a href="images/alun0ab.jpg"> +<img alt="John Blackwell (Alun)" src="images/alun0as.jpg" /> +</a></p> +<p style="text-align: center"> +<a href="images/alun0bb.jpg"> +<img alt="Gwaith Alun" src="images/alun0bs.jpg" /> +</a></p> +<h2>Rhagymadrodd.</h2> +<p>Ganwyd John Blackwell (<i>Alun</i>) mewn bwthyn ger y Wyddgrug yn +1797. Un o Langwm oedd ei fam—gwraig ddarbodus a meddylgar; +a dilynai ei mab hi i’r seiat a’r Ysgol Sul, gan hynodi +ei hun fel dysgwr adnodau ac adroddwr emynau. Mwnwr call, dwys, +distaw, oedd ei dad, a pheth gwaed Seisnig ynddo; cydymdeimlai yntau +â’i fachgen.</p> +<p>Yn unarddeg oed, heb addysg ysgol ond yn awyddus am wybodaeth, prentisiwyd +ef gyda chrydd oedd yn fardd. Pan yn ddwy ar bymtheg, wedi bwrw +ei brentisiaeth, medrai fforddio prynnu llyfrau; a cherddai’n +aml i Gaer i chwilio’r siopau. Derbyniai gylchgronau, prynnai +lyfrau Cymraeg, chwiliai am feirdd. Llenorion yr ardal oedd ei +gyfeillion, y gynghanedd ei hoffter.</p> +<p>Yn 1823 disgleiriodd fel seren yn awyr Eisteddfod Cymru. Yn +Eisteddfodau Rhuthyn, Caerwys a’r Wyddgrug tynnodd sylw; gyda’i +awdl Genedigaeth Iorwerth II. yn y gyntaf, a chyda’i awdl Maes +Garmon yn yr olaf. Yr oedd ei fryd erbyn hyn ar gymeryd urddau +eglwysig, a chafodd noddwyr caredig.</p> +<p>Yn 1824 aeth i’r Beriw, pentref hyfryd ger y fan yr abera afon +Rhiw i afon Hafren. Yma dysgai Ladin a Groeg gyda’r ficer, +y Parch. Thomas Richards. Yn y lle tawel Seisnig hwn, cymerodd +ei awen edyn ysgafnach, cywreiniach. Clerigwyr pobtu’r Hafren +oedd ei gyfeillion, ac yn eu mysg yr oedd Gwallter Mechain ac Ifor Ceri. +Yma, at Eisteddfod y Trallwm, y cyfansoddodd ei draethawd gorchestol +ar yr iaith Gymraeg.</p> +<p>Yn Rhagfyr, 1825, ymaelododd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen; pasiodd +ei arholiad gradd olaf ym Mai, 1828. Ymdrechodd yn galed; a’i +fryd ar lwyddiant yn yr arholiadau, ar astudio llenyddiaeth Gymreig, +ac ar ymbaratoi at waith pwysig ei fywyd. Gloewodd ei awen, a +dysgodd felodi newydd, yng nghwmni Homer a Vergil.</p> +<p>Daeth adre at Eisteddfod Dinbych yn 1828; cafodd ynddi wobr am ei +Farwnad Heber, a chynrychiolai ei gyd-efrydydd Ieuan Glan Geirionydd, +trwy eistedd drosto yn y gader enillasai awdl Gwledd Belsasar.</p> +<p>Ionawr 15, 1829, ordeiniwyd Alun yn gurad Treffynnon. Bu yno, +yn fawr ei barch fel gweinidog a llenor, hyd 1833, pryd y rhoddodd Arglwydd +Brougham iddo fywoliaeth Maenor Deifi ym Mhenfro. Yn 1834 cychwynodd +y <i>Cylchgrawn</i>, cylchgrawn gwybodaeth fuddiol, mewn rhyddiaith +clasurol a phur. Yr oedd y <i>Gwladgarwr</i> eisoes ar y maes; +a digiodd Alun ei gyfeillion, yn enwedig Ieuan Glan Geirionydd ac Erfyl, +am wrth-ymgais. Ond ychydig elynion fu iddo. Yr oedd mor +anhunangar a hael ei ysbryd, mor ddifyr a mwyn ei gwmni, mor bur ei +fuchedd.</p> +<p>Bu farw Mai 19, 1840; a chladdwyd ef ym Maenor Deifi. Cyhoeddwyd +ei waith yn 1851.</p> +<p>Eos Cymru oedd Alun,—yn felus a dwys yr erys ei nodau yng nghlust +ei genedl.</p> +<p>OWEN M. EDWARDS.<br /> +<i>Ebrill</i> <i>9</i>, <i>1909</i>.</p> +<h2>Cynhwysiad.</h2> +<p>[Ceisiwyd trefnu’r darnau mor agos ag y gellid i’w trefn +amseryddol.]</p> +<p>I. Y WYDDGRUG. 1797-1824.</p> +<p>Iddo Ef<br /> +Angau<br /> +Cymdeithas Caer<br /> +Dau Englyn Priodas<br /> +Genedigaeth Iorwerth II.<br /> +Cerdd Gwyliedydd y Wyddgrugr<br /> +Llwydd Groeg<br /> +Eisteddfod Caerwys<br /> +Dafydd Ionawr<br /> +Gwyl Ddewi<br /> +Eisteddfod y Wydderug<br /> +Rhywun<br /> +Maes Garmon</p> +<p>II. ABERIW. 1824.</p> +<p>Bywyd yn Aberiw<br /> +Ifor Ceri<br /> +Emyn Pasg<br /> +Englyn i Ofyddes<br /> +A Pha Le Mae? (Cyf.)<br /> +Eisteddfod y Trallwm<br /> +Caroline<br /> +Beddargraff<br /> +Bugeilgerdd<br /> +Yr Hen Amser Gynt<br /> +I —<br /> +Gadael Rhiw</p> +<p>III. RHYDYCHEN. 1825-1828.</p> +<p>At Gyfaill<br /> +College Life<br /> +At Lenor<br /> +Telyn Cymru<br /> +At ei Rieni<br /> +Cywydd y Gwahawdd<br /> +Disadvantages and Aims<br /> +Calvinism<br /> +At ei Fam, pan oedd Weddw<br /> +Cwyn ar ol Cyfaill<br /> +Marwolaeth Heber<br /> +Seren Bethlehem</p> +<p>IV. BLYNYDDOEDD ERAILL. 1828-1840.</p> +<p>At Manor Deifi<br /> +Cathl yr Eos<br /> +Abad-dy Tintern<br /> +Cân Gwraig y Pysgotwr<br /> +Y Ddeilen Grin</p> +<h2>Y Darluniau.</h2> +<p>ALUN</p> +<blockquote><p>“Does destyn gwiw i’m cân,<br /> +Ond cariad f’ Arglwydd glân.”</p> +</blockquote> +<p>COLOFN MAES GARMON—S. MAURICE JONES.</p> +<p>CARTREF MEBYD ALUN—S. MAURICE JONES.</p> +<p>CASTELL CONWY <a name="citation1a"></a><a href="#footnote1a">{1a}</a></p> +<blockquote><p>“Ar furiau tref ai rhaid trin<br /> +Anhoff astalch a ffestin?”</p> +</blockquote> +<p>MARATHON</p> +<blockquote><p>“Gwnawn weunydd a llwynydd llon,<br /> +Mawr hwythau, fel Marathon”</p> +</blockquote> +<p>CAERWYS <a name="citation1b"></a><a href="#footnote1b">{1b}</a></p> +<blockquote><p>“Lluman arfoll Minerfa<br /> +Sydd uwch Caerwys ddilys dda.”</p> +</blockquote> +<p>RHYWUN <a name="citation1c"></a><a href="#footnote1c">{1c}</a></p> +<blockquote><p>“Gwyn ac oer yw eira Berwyn.”</p> +</blockquote> +<p>UN O HEOLYDD CAERWYS</p> +<blockquote><p>“Hawddamor bob gradd yma, orwych feirdd.”</p> +</blockquote> +<p>YR AMSER GYNT <a name="citation1d"></a><a href="#footnote1d">{1d}</a></p> +<blockquote><p>“Bu’n hoffi mi, wrth deithio ’mhell<br /> +Gael croesaw ar fy hynt.”</p> +</blockquote> +<p>GWRAIG Y PYSGOTWR</p> +<blockquote><p>“Dwndwr daear sydd yn darfod,<br /> +Cysga dithau ar dy dywod.”</p> +</blockquote> +<h2>Rhai Geiriau.</h2> +<p>[Lle rhoddir yr esboniad yn Saesneg, dealler mai esboniad Alun ei +hun yw hwnnw.]</p> +<p>Abred, ystad dadblygiad trwy gyfnod drwg anelwig i ddynoliaeth hapus; +“treiglo abred,” mynd trwy holl dro trawsfudiad.</p> +<p>Arfeddyd, bwriad, amcan.</p> +<p>Balawg, uchel.</p> +<p>Brathawg, <i>apt</i> <i>to</i> <i>stab</i>, <i>assassinating</i>.</p> +<p>Breila, breilw, rhosyn.</p> +<p>Breyr, uchelwr, gwrda, barwn.</p> +<p>Callawr, crochan.</p> +<p>Deddyw, daeth.</p> +<p>Diachreth, di-gryn, cadarn.</p> +<p>Diarynaig, <i>hero</i></p> +<p>Digrawn, llifol, heb gronni</p> +<p>Digyrrith, hael, caredig.</p> +<p>Dyheuent, <i>gasping</i> <i>for</i> <i>breath</i>.</p> +<p>Dyspaidiad, <i>in</i> <i>the</i> <i>intermission</i>.</p> +<p>Eiriach, cynhilo</p> +<p>Elwch, llawenydd, gorfoledd.</p> +<p>Enrhaith, <i>fellows</i>.</p> +<p>Ffladr, caruaidd, taer wenieithus, anwyl.</p> +<p>Fflwch, llawn; buan.</p> +<p>Gâlon, gelynion.</p> +<p>Germain, <i>shout</i>.</p> +<p>Gofynaig, cais.</p> +<p>Gorthaw, distawrwydd, amynedd.</p> +<p>Gwawrwalch, <i>a</i> <i>valiant</i> <i>man</i>, <i>a</i> <i>hero</i>.</p> +<p>Graid, <i>fire</i>, <i>urgency</i>.</p> +<p>Gryw, Greek.</p> +<p>Gwaladr, tywysog, rheolwr.</p> +<p>Gyrr, <i>attack</i>, <i>onset</i>.</p> +<p>Hadledd, dirywiad, dinistr.</p> +<p>Heng, gwth, taith orfod.</p> +<p>Hirell, <i>gleams</i> <i>of</i> <i>light</i>.</p> +<p>Huddug, tywyll, trist.</p> +<p>Hwi’n golofn, <i>form</i> <i>into</i> <i>a</i> <i>column</i>.</p> +<p>Loes gwefrawl, <i>electrical</i> <i>shock</i>.</p> +<p>Lleuai, <i>read</i>.</p> +<p>Main, meini.</p> +<p>Mwd, tan y to, nenfwd.</p> +<p>Nwyfre, awyr, nef.</p> +<p>Rhialyd, natur, greddf.</p> +<p>Rhom, rhyngom.</p> +<p>Sarllach, bost, bloddest.</p> +<p>Sawdan, Soldan, Sultan.</p> +<p>Sitwyr, <i>rangers</i>, <i>freebooters</i>.</p> +<h2>ALUN.</h2> +<p style="text-align: center"> +<a href="images/alun8b.jpg"> +<img alt="Ym Mhonterwyl, Ger Y Wyddgrug" src="images/alun8s.jpg" /> +</a></p> +<h3>“IDDO EF.”</h3> +<p><i>Dat</i>. <i>i</i>. <i>5</i>.</p> +<p>’Does testun gwiw i’m cân<br /> +Ond cariad f’ Arglwydd glân<br /> + A’i farwol glwy;<br /> +Griddfanau Calfari,<br /> +Ac angau Iesu cu,<br /> +Yw nghân a mywyd i,<br /> + Hosanna mwy.</p> +<p>Paham bu i ddeddf y net<br /> +Ymaflyd ynddo EF,<br /> + A rhoi iddo glwy?<br /> +Fe roddwyd yn y drefn,<br /> +Fy meiau ar ei gefn;<br /> +Pwy na roi floedd drachefn—<br /> + Hosanna mwy.</p> +<p>Ergydiwyd ato EF,<br /> +Gan uffern, byd, a nef,<br /> + Eu saethau hwy:<br /> +Arhodd ei fwa’n gry’,<br /> +Nes maeddu uffern ddu,<br /> +A phrynu mywyd i,<br /> + Hosanna mwy.</p> +<p>Caniadau’r nefol gôr,<br /> +Sydd oll i’m Harglwydd Iôr<br /> + A’i ddwyfol glwy;<br /> +Y frwydr wedi troi,<br /> +Ellyllon wedi ffoi,—<br /> +Sy’n gwneyd i’r dyrfa roi<br /> + Hosanna mwy.</p> +<p>O faint ei gariad EF!<br /> +Nis gall holl ddoniau’r nef,<br /> + Ei dreiddio drwy:<br /> +Mae hyn i mi’n beth syn,<br /> +I ruddfan pen y bryn<br /> +Droi’n gân i mi fel hyn,<br /> + Hosanna mwy.</p> +<p>Pan ddelo’r plant ynghŷd,<br /> +O bedair rhan y byd,<br /> + I’w mangre hwy;<br /> +Tan obaith yn ddilyth,<br /> +Cael telyn yn eu plith,<br /> +I ganu heb gwyno byth,<br /> + Hosanna mwy.</p> +<p>Tra bwyf ar riwiau serth,<br /> +Preswylydd mawr y berth,<br /> + Rho’th gwmni trwy;<br /> +Mae cofio am y loes<br /> +Dan arw gur y groes,<br /> +Yn rhyw feluso f’oes,<br /> + Hosanna mwy.</p> +<p>Na ddigied neb o’r plant,<br /> +Am imi ganu ar dant<br /> + O’u telyn hwy:<br /> +Myfyrio’r tywydd du<br /> +Fu ar ein Iesu cu,<br /> +A droes fy nghân mor hy’,<br /> + Hosanna mwy.</p> +<h3>ANGAU.</h3> +<p><i>Englynion</i> <i>a</i> <i>ysgrifenwyd</i> <i>yn</i> <i>ddifyfyr</i> +<i>ym</i> <i>mynwent</i> <i>y</i> <i>Wyddgrug</i>.</p> +<p>“Ni foddir (mae’n rhyfeddol)—chwai angau,<br /> + A chyngor dymunol;<br /> + Er wban, griddfan greddfol,<br /> + (Uthr in’ yw!) ni thry yn ol.</p> +<p>Er gwaedd mam,—er gweddi myrdd,<br /> + Er gwên byd,—er gwyneb hardd,<br /> + Er swn cŵyn,—er seinio cerdd,<br /> + Er ing ffull, mynn angau’i ffordd.</p> +<p>Ni eiriach rai bach rhag bedd,—i’r cedyrn<br /> + Rhoir codwn i’r dyfn-fedd;<br /> + A mirain feibion mawredd<br /> + Ostyngir, siglir o’u sedd.</p> +<p>I’r llaid yr aeth fy nhaidiau,—i huno,<br /> + Fu’n heinyf er’s dyddiau:<br /> + I’r ystafell dywell dau,<br /> + Ryw funud, yr af innau.</p> +<p>Ond cael nod hynod, a hedd—yr Iesu,<br /> + A drws i dangnefedd;<br /> + Yn dawel yn y diwedd,<br /> + Af i gaban bychan bedd.</p> +<h3>CYMDEITHAS GYMREIGYDDOL CAERLLEON.</h3> +<p>Boed llwydd, mewn pob dull addas,—a chynnydd<br /> + I’ch enwog Gymdeithas;<br /> + Heb stwr, na chynnwr, na châs—<br /> + Geni beirdd heirdd fo’i hurddas.</p> +<p>Bu gannoedd drwy bob gweniaith,—addefent,<br /> + Am ddifa’r Omeriaith;<br /> + Aent hwy i lawr i fynwent laith—<br /> + I fyny safai’r fwyn-iaith.</p> +<p>Heddyw gwelaf na faidd gelyn—er gwŷn,<br /> + Roi gair yn ei herbyn;<br /> + A dolef gref sy’n dilyn,<br /> + “A lwyddo Duw, ni ludd dyn.”</p> +<p>Cur llawer fu Caerlleon,—y gw’radwydd<br /> + Sy’n gwrido hanesion;<br /> + Am groesi’r Clawdd hir i hon,<br /> + Brethid calonnau Brython.</p> +<p>’Nawr Cymry gant wisgant wên,<br /> + Chwarddu gânt a cherddi gwin,<br /> + Ceir bri, a chwmni, a chân,<br /> + O fewn Caer heb ofn y cwn.</p> +<p>Byw undeb, gyda bendith,—a daenir<br /> + O’ch doniawl athrylith:<br /> + Gelyn breg, rhwyg rheg rhagrith<br /> + I chwerwi’ch plaid, na chaer i’ch plith.</p> +<h3>DAU ENGLYN</h3> +<p>Ar Briodas Mr. P. Williams â Miss Whitley, Broncoed.</p> +<p>Gan Naf eiddunaf i’r ddau—bob undeb,<br /> + A bendith, a grasau,<br /> + I fyw’n hir, ac i fwynhau<br /> + Dedwyddwch hyd eu dyddiau.</p> +<p>Eirchion y gwaelion heb gelu,—pur rad<br /> + Parhaus fo’n defnynnu:<br /> + Pob urddawl ollawl allu<br /> + Iddyn’ ddel—medd Ioan Ddu.</p> +<p>Tach., 1812</p> +<h3>GENEDIGAETH IORWERTH II.</h3> +<p><i>Llais</i> <i>llid</i> <i>Iorwerth</i>.</p> +<p>Clywch! clywch! ar hyd lannau Clwyd<br /> +Ryw swn oersyn o arswyd!<br /> +Gorthaw’r donn, cerdda’n llonydd,<br /> +Ust! y ffrwd,—pa sibrwd sydd?<br /> +O Ruddlan daw’r ireiddlef<br /> +Ar ael groch yr awel gref;<br /> +Geiriau yr euog Iorwerth,<br /> +O ’stafell y Castell certh;<br /> +Bryd a chorff yn ddiorffwys,—<br /> +Hunan-ymddiddan yn ddwys:<br /> +Clywch, o’r llys mewn dyrys dôn,<br /> +Draw’n sisial deyrn y Saeson,—<br /> +“Pa uffernol gamp ffyrnig?<br /> +A pha ryw aidd dewraidd dig?<br /> +Pa wrolwymp rialyd<br /> +Sy’n greddfu trwy Gymru ’gyd?<br /> +Bloeddiant, a llefant rhag llid,<br /> +Gawrwaeddant am deg ryddid,—<br /> +‘Doed chwerwder, blinder, i blaid<br /> +Ystryw anwar estroniaid;<br /> +Ein gwlad, a’n ffel wehelyth,—<br /> +Hyd Nef,’ yw eu bonllef byth;<br /> +Ac adsain main y mynydd,—<br /> +Och o’u swn!—yn gasach sydd;<br /> +‘Ein gwlad lân amhrisiadwy,’<br /> +Er neb, yw eu hateb hwy.</p> +<p>“Pa les yw fod im’ glod glân<br /> +Am arswydo’r mawr Sawdan,—<br /> +Pylu asteilch Palestin,<br /> +Baeddu Tyrciaid, bleiddiaid blin;<br /> +Troi Chalon wron i weryd,<br /> +Ie, curo beilch wyr y byd,—<br /> +Os Gwalia wen,—heb bennaeth,<br /> +A’i mawrion gwiwlon yn gaeth,—<br /> +Heb fur prawf,—heb farrau pres,<br /> +Na lleng o wyr, na llynges,—<br /> +A ymheria fy mawr-rwysg,<br /> +Heb fy nghyfri’n Rhi mewn rhwysg?<br /> +Er cweryl gyda’r cawri,<br /> +A lladd myrdd, nid llwydd i mi;<br /> +Ni fyddaf, na’m harfeddyd,<br /> +Ond gwatwor tra byddo’r byd.</p> +<p>“Ha! ymrwyfaf am ryfel,<br /> +O’m plaid llu o ddiafliaid ddêl:<br /> +Trowch ati’r trueni trwch,<br /> +Ellyllon! gwnewch oll allwch.</p> +<p>“I ti, O Angeu, heddyw y tyngaf,<br /> +Mai am ddialedd mwy y meddyliaf;<br /> +Eu holl filwyr, luyddwyr, a laddaf,<br /> +Un awr eu bywydau ni arbedaf;<br /> +Oes, gwerth, i hyn aberthaf,—gwânu hon<br /> +Drwy ei chalon fydd fy ymdrech olaf.</p> +<p><i>Dichell</i> <i>Iorwerth</i>.</p> +<p>“Ha! ha! Frenin blin, i ble<br /> +Neidiodd dy siomgar nwyde?<br /> +Oferedd, am hadledd hon,<br /> +Imi fwrw myfyrion;<br /> +Haws fydd troi moelydd, i mi,<br /> +Arw aelgerth, draw i’r weilgi,<br /> +Nac i ostwng eu cestyll,<br /> +Crog hagr, sef y creigiau hyll.</p> +<p>“Oni ddichon i ddichell,<br /> +Na chledd na nych, lwyddo’n well?<br /> +Rhyw ddu fesur ddyfeisiaf,—<br /> +Pa ystryw ddwys, gyfrwys gaf?<br /> +Pa gais? pa ddyfais ddifêth<br /> +Gaiff y budd,—ac â pha beth?</p> +<p>“’Nawr cefais a wna r cyfan,—<br /> +Mae’r meddwl diddwl ar dân;<br /> +Fy nghalon drwy ’nwyfron naid,<br /> +A llawenydd ei llonaid;<br /> +Gwnaf Gymru uchel elwch,<br /> +I blygu, a llyfu’r llwch:—<br /> +I wyr fy llys, pa’nd hyspyswn<br /> +Wiw eiriau teg y bwriad hwn?”</p> +<p>A chanu’r gloch a wnai’r Glyw,<br /> +Ei ddiddig was a ddeddyw,—<br /> +“Fy ngwas, nac aros, dos di,<br /> +A rhed,” eb ei Fawrhydi,—<br /> +“Galw ar fyrr fy Mreyron,<br /> +Clifford hoew, Caerloew lon;<br /> +Mortimer yn funer fo,<br /> +A Warren, un diwyro.”</p> +<p>Deuent, ymostyngent hwy<br /> +I’w trethawr, at y trothwy:<br /> +O flaen gorsedd felenwawr<br /> +Safai, anerchai hwy’n awr,—</p> +<p>“Cyfeillion bron eich Brenin,<br /> +A’i ategau’r blwyddau blin,—<br /> +Galwyd chwi at eich gilydd<br /> +Am fater ar fyrder fydd;<br /> +Gwyddoch, wrth eu hagweddau,<br /> +Fod llu holl Gymru’n nacau<br /> +Ymostwng, er dim ystyr,<br /> +I’m hiau o gylch gyddfau’u gwyr;<br /> +Ni wna gair teg na garw,—<br /> +Gwên, na bâr,—llachar, na llw,<br /> +Ennill eu serch i’m perchi,<br /> +Na’u clod i’m hawdurdod i:<br /> +Ni fynnant Bôr, cynnor cain,<br /> +Ond o honynt eu hunain;<br /> +Ganedig bendefig da,<br /> +O’u lluoedd hwy a’u llywia:—<br /> +Ond cefais, dyfeisiais fodd,<br /> +O dan drais, i’w dwyn drosodd;<br /> +Ac i mi gwnant roddi rhaith,<br /> +Ac afraid pellach cyfraith;<br /> +Rhoi llyffeithair â gair gaf,—<br /> +Gair Gwalia gywir goeliaf:—<br /> +Yn rhywfodd, ni ddysgodd hon<br /> +Er lliaws, dorri llwon:<br /> +Elinôr, lawen araf,<br /> +Mewn amhorth yn gymorth gaf;<br /> +Mererid i’m Mreyron<br /> +I’w cais pur trwy’r antur hon.”</p> +<p>Traethai’r Brenin, gerwin, gau,<br /> +Ar redeg ei fwriadau;<br /> +A’r Cyngor wnai glodfori,<br /> +Mor ddoethwedd rhyfedd eu rhi,<br /> +A’i ddihafal rialyd,<br /> +Mewn truthiaith, gweniaith i gyd.</p> +<p>Yna’r arglwyddi unol<br /> +A gilient, nesent yn ol,<br /> +Gan grymu pen i’w Brenin,<br /> +Laig ei glod, a phlygu glin.</p> +<p><i>Ufudd</i>-<i>dod</i> <i>y</i> <i>Frenhines</i>.</p> +<p>E geisiai frys negesydd<br /> +Yn barod, cyn darfod dydd,—<br /> +A gyrrai, ar farch gorwych,<br /> +I’r brif-ddinas y gwas gwych,<br /> +A gofynaig i’w Fanon,<br /> +A gair teg am gariad hon:<br /> +Y lonwech bur Elinawr<br /> +Serchog, oedd yn feichiog fawr;<br /> +Gofynnai a hwyliai hon,<br /> +Gryn yrfa, i Gaernarfon,<br /> +Ar fyrder, fod mater mawr<br /> +I’w ddisgwyl y dydd esgawr.</p> +<p>O fodd ufuddhaodd hon,<br /> +Iach enaid, heb achwynion;<br /> +Dechreuai’r faith daith, ’run dydd,<br /> +Mewn awch, a hi’n min echwydd;<br /> +Gwawl lloer, mewn duoer dywydd,<br /> +A’i t’wysai pan darfai dydd;<br /> +Oer y cai lawer cawod,<br /> +Cenllysg yn gymysg ag ôd;<br /> +Anturiai, rhodiai er hyn,<br /> +Trwy Gwalia, tir y gelyn;<br /> +Er ymgasgl bâr o’i hamgylch,<br /> +A’i chell yn fflamiau o’i chylch,—<br /> +Ni wnai hon ddigalonni,<br /> +Mor der oedd ei hyder hi;<br /> +(Ow! ow! ’n wir beri’r bwriad<br /> +Tra glew, er dinistrio gwlad:)—<br /> +Daeth, wrth deithio o fro i fryn,<br /> +Y faith yrfa i’w therfyn.</p> +<p>A’r deyrnes gynnes, heb gêl<br /> +Yn ddiegwan ddiogel;<br /> +Rhoes Iorwerth eres warant,—<br /> +Ae rhingyll i gestyll, gant,<br /> +Am alw cydymweliad<br /> +Brenin ac arglwyddi’n gwlad:<br /> +Rhuddlan oedd y fan i fod<br /> +Hygof erfai gyfarfod;<br /> +I dorri rhwystrau dyrys<br /> +Y gelwid, llunid y llys:—<br /> +D’ai’r eurfig bendefigion<br /> +O amryw le ’Nghymru lon;<br /> +Yno y daeth yn y dydd,<br /> +Gwalia o gwrr bwygilydd.</p> +<p>Ond oedai Edward wedyn<br /> +Eu galw i’r llys, hysbys hyn;<br /> +Disgwyliai â dwys galon,—<br /> +Heb gau ei amrantau ’mron,<br /> +I’w fanon wirion, arab,<br /> +Ar awr ferth, esgor ar fab.</p> +<p>Harddai y lle—rhoi fwrdd llawn,<br /> +A gosod rhyw esgusiawn;<br /> +Ond er yr holl arfolli<br /> +Holl blaid ein penaethiaid ni<br /> +Ni charent y gwych aeron—<br /> +Y dawnsiau a’r llefau llon:<br /> +Y morfa llwm a hirfaith,<br /> +Lle berw tonn, oedd llwybr eu taith,<br /> +A myfyrient am fawrion<br /> +Aeth mewn cyrch dan dyrch y donn,—<br /> +Y glewion, enwogion wyr<br /> +Laddwyd, a’r prif luyddwyr:<br /> +Rhodient pan godai’r hedydd<br /> +Fel hyn, hyd i derfyn dydd;<br /> +A’u dyddiau oll fel diddim,<br /> +Synnent, ond ni ddwedent ddim:<br /> +Wedi egwyl ddisgwyliad,<br /> +O fewn eu bron daeth ofn brad,—<br /> +Swn, fal rhwng sisial a son,<br /> +“Llawrudd a chyllill hirion;”<br /> +’Roedd gwaelod y trallod trwch,<br /> +I wyr Gwalia’n ddirgelwch.</p> +<p><i>Geni</i> <i>Tywysog</i>.</p> +<p>Wele! o’r diwedd, ar ol hir dewi,<br /> +Deuai i Iorwerth genadwri<br /> +O Gaersalwg,—gwnai ei groesholi,—<br /> +Yna ei holl anian oedd yn llonni<br /> +Hyd grechwen, pan glywodd eni—bachgen<br /> +Ag aur wialen a gai reoli.</p> +<p> Ac yna a’i udganwr<br /> +A’i gorn teg i gern y tŵr:<br /> +Galwyd arglwyddi Gwalia, ar unwaith,<br /> +Ar heng hirfaith i ddod i’r gynghorfa.</p> +<p>Pob rhyw gadr waladr oedd<br /> +Yn esgud yn ei wisgoedd;<br /> +Distain wnai iddynt eiste<br /> +Bob yn lwyth—bawb yn ei le:<br /> +Deuai’r Ynad dirinwedd,<br /> +Mewn parchus, arswydus wedd;<br /> +Mewn rhwysg a muner-wisgoedd,<br /> +Coron ar y coryn oedd;<br /> +A gwyneb yn llawn gweniaith,<br /> +O drefn y dechreuai draith.</p> +<p>“Fy neges, brif enwogion,<br /> +A glywiau teg y wlad hon,—<br /> +Nid ydyw i wneyd adwyth,<br /> +Dwyn loesion llymion yn llwyth,—<br /> +I fygwth clwyf a gwaith cledd,<br /> +Nac i lunio celanedd;<br /> +Ond o fwriad adferu<br /> +Eich hyfawl barch fel y bu;<br /> +Cymru ben baladr ffladr fflwch<br /> +Heddyw sydd eisiau heddwch;<br /> +Rhoddi Llywiawdwr addwyn,<br /> +Nwyfre maith, wnaf er ei mwyn;<br /> +Un na’s trina es’roniaith,<br /> +Na swn gwag Seisonig iaith;<br /> +Fe’i ganwyd ar dir Gwynedd,<br /> +Dull Sais, na’i falais, ni fedd;<br /> +Addefir ef yn ddifai,—<br /> +Ni ŵyr un fod arno fai:<br /> +Yn fwynaidd gwybod fynnwn,<br /> +Beth wnewch? Ufuddhewch i hwn?”</p> +<p>* * * * *</p> +<p> Cydunent, atebent hwy,—<br /> +“Ymweledydd mawladwy,<br /> +I’n cenedl rhyw chwedl go chwith<br /> +Ydyw geiriau digyrrith;<br /> +Cymru wech,—nis cymrai hon<br /> +Lyw o astrus law estron;<br /> +Ond tynged a brwnt angen,<br /> +A gwae ei phobl, blyga’i phen:<br /> +Llîn ein llon D’wysogion sydd<br /> +’Leni mewn daear lonydd:<br /> +Rho di’r llyw cadarn arnom<br /> +A dedwydd beunydd y b’om:—<br /> +Enwa ’nawr, er union waith,<br /> +Y gwr del wisga’r dalaith,<br /> +’Nol cyfraith, fel b’o rhaith rhom,<br /> +Na thyrr ing fyth awr rhyngom:<br /> +Ie, tyngwn, at angau,<br /> +Yn bur i hwn gwnawn barhau.”</p> +<p>Fulion! ni wyddent falais,<br /> +Dichellion, na swynion Sais.<br /> + Dwedai’r blin Frenin ar frys—<br /> +“Felly ces fy ewyllys,<br /> +Doe y daeth, megis saeth, son<br /> +Yn erfai o Gaernarfon,<br /> +Fod mab rydd wynfyd i mi,<br /> +Nawdd anwyl, newydd eni;<br /> +A hwn fydd eich llywydd llon,<br /> +A’ch T’wysog enwog union:<br /> +Dal a wnaf, nes delo’n wr,<br /> +Drethi eich llywodraethwr;<br /> +Bellach, y bydd sarllach Sais,<br /> +Mawr ddilwrf Gymry ddeliais.”</p> +<p>Gwelwent, a safent yn syn,<br /> +Ymhleth ddiachreth ddychryn;<br /> +A phob boch oedd yn brochi,—<br /> +Tro’i brad aml lygad i li.</p> +<p><i>Araeth</i> <i>Madog</i>.</p> +<p>Ebai Madog, enwog wr,—<br /> +“Ha! rymusaf ormeswr!<br /> +Tybiais falch wawrwalch lle’r êl,<br /> +Wir awch, yn wr rhy uchel,<br /> +I lochi brad dan lech bron,<br /> +A challawr i ddichellion:<br /> +Ond ni wnei gu Gymru’n gaeth,<br /> +Bro dirion, â bradwriaeth;<br /> +Ni phryni serch prid, didwyll,<br /> +Ac odiaeth hon, gyda thwyll:<br /> +Os gall dy frad ddwyn gwlad glau<br /> +I gur a chwerw garcharau,—<br /> +Nis gall dy ewin-gall wau<br /> +Rhwym a ddalio’r meddyliau:<br /> +A oedd cochi perthi’n pau,<br /> +A llawruddio’n holl raddau,—<br /> +Ein llyfrau, a’n gotau gwaith,—<br /> +A’n haneddau ni’n oddaith,<br /> +Y teryll aer,—torri llw,<br /> +A’r brad ger Aberedw,—</p> +<p>Ow! ow! yn ddiwegi ddim yn ddigon,<br /> +I ddangaws, i araws i oes wyrion,<br /> +Fel rhyw anhawddgar ac afar gofion<br /> +Mai marwor meryw yw ystryw estron?<br /> +Ond am y wlad, deg-wlad hon,—gwybydd di,<br /> +Rhaid iti ei cholli, er dichellion.</p> +<p>“Os yw breg gwgus, a braw,<br /> +Fal wedi dal ein dwylaw,<br /> +Daw ail gynnwrf, dilwrf da,<br /> +I drigolion dewr Gwalia;<br /> +Codwn, arfogwn fagad,<br /> +O wrol wych wyr y wlad;<br /> +Mewn bâr y bonllefa’r llu<br /> +‘Camrwysg ni oddef Cymru,—<br /> +Rhi o’n huchel wehelyth,<br /> +Cymro boed i’r Cymry byth!’<br /> +Ni chaiff Sais, trwy ei drais, drin<br /> +Iau ar warr un o’r werin!<br /> +Daw’r telynau, mwythau myg,<br /> +Ddewr eu hwyl, oddiar helyg;<br /> +Rhed awen, er id wahardd,<br /> +Cerdd rhyfedd rhwng bysedd bardd;<br /> +Gwnant glymau a rhwymau rhom,<br /> +Enynnant y tân ynnom;<br /> +Dibrin pawb oll dadebrant,—<br /> +Heb ochel, i ryfel ’r ant;<br /> +A’n mynwes yn lloches llid,<br /> +Ein harwyddair fydd ‘Rhyddid!’</p> +<p>“Ag arfau ni wna’n gorfod<br /> +Tra’n creigiau a’n bylchau’n bod;<br /> +Cariwn mewn cof trwy’r cweryl,<br /> +Y’mhob bwlch, am Thermopyl;<br /> +Gwnawn weunydd a llwynydd llon,<br /> +Mawr hwythau, fel Marathon;<br /> +Yn benaf llefwn beunydd,—<br /> +‘Marw neu roi Cymru’n rhydd?’</p> +<p>“Os colli’n gwlad, anfad wyd,<br /> +O’r diwedd dan ruddfan raid,—<br /> +Yn lle trefn, cei pob lle troed,<br /> +Wedi ei gochi â’n gwaed;<br /> +Trenga’n meibion dewrion dig,<br /> +A llawryf am y llurig.</p> +<p>“Yn enw Crist eneiniog—ymroddaf<br /> + Am ryddid ardderchog;<br /> +A’r un Crist fu ar bren crôg,<br /> +Ni ymedy a Madog.”</p> +<p> E daw ar hyn,—d’ai ar ol<br /> +Ryw ddistawrwydd ystyriol.<br /> +Ac Iorwerth, ar y geiriau,<br /> +Fel llew dig ffyrnig mewn ffau;<br /> +Malais y Sais, echrys wg,<br /> +A welid yn ei olwg.</p> +<p><i>Tyb</i> <i>Euraid</i> <i>Ap</i> <i>Ifor</i>.</p> +<p> O ryw fuddiol arfeddyd,—rhoi’n rhagor<br /> +Euraid Ap Ifor ei dyb hefyd,—</p> +<p>“Hyf agwrdd bendefigion,<br /> +Rhy brysur yw’r antur hon;<br /> +Ar furiau tref, ai rhaid trin<br /> +Anhoff astalch a ffestin?<br /> +Mae llid yn fy mron hynaws,<br /> +At Saeson, a’u troion traws;<br /> +Ond serch, a glywserch i’m gwlad,<br /> +O’m calon a rwyddlon red;<br /> +Na ato fyth, etwa fod<br /> +Neint hon yn gochion i gyd,—<br /> +Arafwn,—o’r tro rhyfedd<br /> +Hwyrach cawn, y mwynhawn, hedd;<br /> +E ddaw ergyd ddiwyrgam,<br /> +Lawn cur, i ddial ein cam;<br /> +Ac hefyd dylid cofio,—<br /> +Er prudded, trymed y tro,—<br /> +Er angeu’r gair fu rhyngom,<br /> +’R amodau, rhwymau fu rho’m:<br /> +Pan roddo Gymro y gair,<br /> +Hwnnw erys yn wir-air;<br /> +Ei air fydd, beunydd heb ball,<br /> +Yn wir, fel llw un arall:<br /> +Ein hynys hon i estron aeth,<br /> +A chyfan o’n gwiw uchafiaeth;<br /> +Ond ni throes awch loes, na chledd,<br /> +Erioed mo ein hanrhydedd;<br /> +A’n hurddas a wnawn arddel,<br /> +Y dydd hwn, a doed a ddêl:<br /> +Ein hiawn bwys yn hyn, O bid,<br /> +Ar Dduw a’i wir addewid.<br /> +Duw a’n cyfyd ni, cofiwn,<br /> +Y diwedd, o’r hadledd hwn;<br /> +Heddyw, oedwn ddywedyd<br /> +Ein barn, yn gadarn i gyd;<br /> +Profwn beth dd’wed ein prif-fardd,—<br /> +Gwir iawn bwyll yw geiriau’n bardd;—<br /> +Pa lwyddiant, yn nhŷb Bleddyn,<br /> +A ddigwydd o herwydd hyn?”</p> +<p>Amneidient mewn munudyn<br /> +Ar yr ethol ddoniol ddyn,—<br /> +Yna, a phwys ar ben ei ffon,<br /> +Y gwelid y gwr gwiwlon:</p> +<p>Ei farf fel glân arian oedd,—mewn urddas,<br /> +Cyrhaeddai hon wasg ei wyrddion wisgoedd;<br /> +Yn null beirdd, enillai barch,—ar bob peth<br /> +E ddygai rywbeth hawddgar a hybarch.</p> +<p><i>Proffwydoliaeth</i> <i>Bleddyn</i>.</p> +<p>D’wedai, agorai’r gwir-air,—<br /> +“Clyw frenin gerwin, y gair!<br /> +’R hyn ddaw, trwy fy llaw i’r llŷs,<br /> +Duw y dynged a’i dengys;<br /> +Am ennyn aer mwy na neb,<br /> +Troi a chynnal trychineb,<br /> +Gwneyd ochain yn seilfain sedd,—<br /> +Rhoi dy wersyll ar d’orsedd!<br /> +Am ddifrodi, llosgi, lladd,<br /> +Brad amlwg, a brwd ymladd;<br /> +A rhoi bro, mewn taro tynn,<br /> +I wylo am Lywelyn:—<br /> +(Iachawdwr a braich ydoedd,<br /> +Ac anadl ein cenedl oedd;)<br /> +Fel y rhoist gûr, mesur maith,<br /> +Y telir i ti eilwaith.<br /> +O! trochaist lawryf mewn trwch-waed,<br /> +Dy arlwy wrth Gonwy oedd gwaed.<br /> +Hwn geraist yn lle gwirawd,—<br /> +Bleiddiaid sy’n ffoi rhag cnoi cnawd.</p> +<p>Y mae maith och mam a thad,<br /> +Gwaedd a chur gweddw a chariad,—<br /> +A main lle mae ymenydd<br /> +Llawer dewr, a gollai’r dydd,—<br /> +Temlau, ac aneddau’n wag,<br /> +Yn rhoi manwl air mynag,—<br /> +I un gwrdd ddwyn gwan yn gaeth,—<br /> +Iddo gael buddugoliaeth:<br /> +Ond llion mawrion am hyn<br /> +O ddialedd a ddilyn.</p> +<p>“Awr na feddyli, daw’r nef ddialydd,<br /> +Dy waed oera ar dywod y Werydd;<br /> +Cydwybod Iwfr wna dwrf cyn y derfydd,<br /> +Hon a’th boena—gyrr ddrain i’th obenydd;<br /> +Caiff Brython gwirion dan gerydd—fyw’n llon,<br /> +Eu muriau’n llawnion, a marw’n llonydd.</p> +<p>“A gwaeth nac oll a wnaethost,<br /> +Mewn du fâr mynni dy fost,—<br /> +Gwenaist pan gwelaist galon<br /> +Wiw a phur ar waew-ffon!<br /> +Ti ddigred, ni roist ddeigryn<br /> +Yn y lle yr wylwyd llyn!<br /> +Llanwaist gron goron â gwaed,<br /> +Ac arall ŷf y gorwaed!<br /> +Clyw’n sŵn!—mwd Bercley’n seinio, <a name="citation26"></a><a href="#footnote26">{26}</a><br /> +Dychryn i’w ganlyn ac O!<br /> +Marwol loesion bron Brenin,<br /> +Tan grafangau bleiddiau blin.<br /> +Hyfryd dduwiesau Hafren,<br /> +Pan glywant a wisgant wên.</p> +<p>Daw blwyddau llid a bloeddiad,<br /> +Du hin, ar warthaf dy had!<br /> +Clyw! ddolefau, briwiau bron,<br /> +O’r Tŵr Gwyn <a name="citation27"></a><a href="#footnote27">{27}</a> +mae’r taer gwynion;<br /> +Dy hilion, mewn du alaeth,<br /> +O dan gudd, leiddiaid, yn gaeth!<br /> +A mynych gwna cromeni<br /> +Y Tŵr cras watwor eu cri:<br /> +Ni adewir o’r diwedd<br /> +Wr o dy sil ar dy sedd.</p> +<p>“Ha! ha! ’r dwyrain egyr ei dorau,—<br /> +Ai cwrel sydd yn lliwio cyrrau<br /> +Creigydd, moelydd, a du gymylau?<br /> +Nage, gwawrddydd glân, eirian oriau,<br /> +Wiwber anwyl sydd ar y bryniau;<br /> +Gwelwch Gymru ar fynydd golau,<br /> +A’n iach wyrion o’i chylch yn chwarau,<br /> +(Rhos sy’ o danynt ar sidanau,)<br /> +Hust! ust! ust!—mae’n dyfod i’m clustiau,<br /> +Gathl enwog oddiar ei thelynau,—<br /> +Cerddorion a Beirdd, heirdd eu hurddau,<br /> +Yn dorf bloeddiant,—‘Wi! darfu blwyddau<br /> +Yr ochain anwar a chynhennau;’—<br /> +Par y dôn i’m hyspryd innau—roi llam,<br /> +Mwy e grychneidia’m gorwych nwydau.</p> +<p>“Daw dyddiau mâd a diddan,<br /> +A mawr lwydd i Gymru lân;<br /> +Dyddiau bwrcaswyd iddi,<br /> +Ar dy ddichell dywell di;<br /> +O Dduw Ner daw’r hoewder hwn,<br /> +I’n Duw eilchwyl diolchwn:<br /> +Derfydd amser blyngder blin,<br /> +Curaw tymhestlog gerwin.<br /> +Daw hinon a daioni<br /> +O dy drais, na’s tybiaist ti;<br /> +Bydd cof mewn gwledd am heddyw,<br /> +A chlod am it’ fod yn fyw:<br /> +Iach amrant Lloegr a Chymru,<br /> +Daw’r ddwy-wlad mewn cariad cu;<br /> +Yna’n y ddwy mwy ni ddêl,<br /> +I’w trefi helynt rhyfel;<br /> +Un llys fydd drwy’n hynys hon,<br /> +Una’i gwyr dan un goron;<br /> +Unant nerth, rhag rhyferthwy,<br /> +Un reddf ac un ddeddf i’r ddwy;<br /> +Un Duw arnynt, un deyrnas,<br /> +Un lluoedd, un floedd, un flas:<br /> +Gwelaf Frython, <a name="citation28"></a><a href="#footnote28">{28}</a>—’rwy’n +llonni,<br /> +Yn eistedd ar d’orsedd di!<br /> +Ac o ystlys a gwestle,<br /> +Y gyllell hir gyll ei lle:<br /> +A o gof ymladdau gant,<br /> +Eu hing hefyd anghofiant;<br /> +Cant gyd-fwynhau breintiau braf,<br /> +Law-law i’r genedl olaf:<br /> +Lle gwelwyd twyll a galar,<br /> +Echrys boen, a chroes a bâr,—<br /> +Rhinwedd welir a hinon,<br /> +Gwenau, a bonllefau llon;<br /> +Rhyfela dry’n orfoledd,<br /> +Screchiadau yn hymnau hedd.<br /> +Ar eirian fro Eryri,<br /> +Ei chreigiau a’i hochrau hi,—<br /> +Lle mae trigfa’r bâr yn bod,<br /> +A dwyn arfau dan orfod;—<br /> +Lle gwelir llu y gelyn,<br /> +A’u bloedd hell, y blwyddau hyn,—<br /> +Anhirion elynion lu,<br /> +A’u tariannau’n terwynu;—<br /> +Anianawl serch yn ennyn,<br /> +A ffoi at y gwaew-ffyn;—<br /> +Tyf breilos, a rhos di-ri’,<br /> +Ar hon, a’r loew lili;<br /> +Eos fydd bob dydd yn dod<br /> +I fryn, yn lle cigfranod:</p> +<p>“Ar y llethri a’r tyli telaid,<br /> +Tybiaf y gwelaf y bugeiliaid,<br /> +Lwythau dofion, yn mhlith eu defaid,<br /> +Tarfant a chanant ffwrdd ochenaid,<br /> +Llamsach ŵyn bach yn ddibaid,—mor ddifyr,<br /> +Chwim a mygyr gylch y mamogiaid.</p> +<p>“Lle codwyd bwyeill cedyrn,<br /> +Bydd twmpathau chwarau chwyrn;<br /> +Dawnsio pan y darffo y dydd,<br /> +A thelyn ar frith ddolydd:<br /> +I’n hynys, pan ei hunir,<br /> +Daw tawelwch, heddwch hir;<br /> +A chywir heddwch a rhyddid<br /> +Wneir y dydd hwnnw yn aur did;<br /> +Ar wddwf Cymru rhoddir<br /> +Y gadwen hon i gadw’n hir;<br /> +Y drefn gaeth wriogaethol,<br /> +Mwya’i nerth, a i ddim yn ol;<br /> +Bydd un gyfraith, ’run rhaith rhawg,<br /> +I lwyth isel, a Th’wysawg:<br /> +Iraidd wiwlon rydd-ddeiliaid,<br /> +Ri’r gwlith, yn eu plith o’u plaid;<br /> +Colofnau y breintiau bras,<br /> +A chadarn-weilch y deyrnas;<br /> +Ar bob mater a cherydd,<br /> +Rheithwyr yn farnwyr a fydd:<br /> +’R un fro wnaeth gwyar yn frith,<br /> +O dda gynnyrch ddwg wenith;<br /> +Cod yr amaeth, cydia’i rwymau,<br /> +Cain reolau, cyn yr haulwen;<br /> +Deil waith odiaeth, dôl a thidau,<br /> +Iau a bachau lle bo ychen;<br /> +Teifl yr hadau,—llusga’r ogau,<br /> +Egyr ddorau gwâr ddaearen,<br /> +Er cael cnydiau, yn eu prydiau,<br /> +Rhag i eisiau rwygo asen.</p> +<p>“Esmwytho nos amaethydd,<br /> +Heddwch, diofalwch fydd,—<br /> +Y daw gelyn digwilydd<br /> +I’r berllan, na’r ydlan rydd;<br /> +Ac ni raid braw daw un dydd,<br /> +Ryw ormeswr i’r maesydd,<br /> +Neu Fodur cryf i fedi<br /> +’Nol anferth drafferth i drin:<br /> +Tybia’i wlad yn Baradwys,—<br /> +Dyry gainc wrth dorri’i gwys<br /> +A swch fuasai awchus<br /> +Gleddyf un dewr hyf di-rus;<br /> +Ymaith ar unwaith yr a,<br /> +Uwch ei boen y chwibiana.</p> +<p>“Ac anterth cymer gyntun,<br /> +Heb i ofal atal hun;<br /> +O hyd yn ddiwyd ddiarf<br /> +Heb fod dan orfod dwyn arf<br /> +Heb elynion o Gonwy<br /> +O fewn maes i’w hofni mwy.</p> +<p style="text-align: center"> +<a href="images/alun25b.jpg"> +<img alt="Castell Conwy. “Heb elynion o GonwyO fewn maes i’w hofni mwy.”" src="images/alun25s.jpg" /> +</a></p> +<p> “A thew ffrwyth âr<br /> + Gwnna’n gynnar;<br /> +Daw mawnog, gallt, a mynydd,<br /> +A bronydd, yn dir braenar.<br /> +“Y ddwy wlad cyd addolant,<br /> +Cyd foli’r Iôn union wnant;<br /> +Rhont glodydd i’w Dofydd da,<br /> +Law-law mewn Haleluia:</p> +<p>“Yna y tyf yn y tir<br /> +Bob helaeth wybodaeth bur,<br /> +O ddirgelion meithion môr,<br /> +Daear, a’i sail, hyd i’r sêr.</p> +<p>“Helicon pob ffynnon ffel,<br /> +Parnassus pob bryn isel:<br /> +Eu rhyfedd faner hefyd<br /> +Achuba, orchfyga fyd;<br /> +O Gressi’r maes hagr asw,<br /> +I antur lân Waterlw:<br /> +Ac y diwrnod cadarnwych<br /> +Bydd y deyrnas addas wych<br /> +Heb ei bath, heibio i bob<br /> +Un arall o fewn Ewrob;<br /> +Rheola mewn rhialyd<br /> +O begwn i begwn byd.”</p> +<p> Gyda bloedd, gweda Bleddyn,<br /> +“Y nefol Iôr wna fel hyn,<br /> +Foreu tawel o frad tywyll,<br /> +A llewyrcha o’r ddichell erchyll:<br /> +Molwn Dduw y Nef, gan sefyll,<br /> +Yna pawb a awn i’n pebyll.”</p> +<h3>CERDD CALAN GWYLIEDYDD Y WYDDGRUG.</h3> +<p>Ymysgydwch o’ch cysgadrwydd—<br /> + Yn filoedd dowch i foli Duw;<br /> +Torrodd gwawr ar flwyddyn newydd,<br /> + Gobeithiaf mai un ddedwydd yw:<br /> +Mae pob Calan fel yn gwaeddi,<br /> + A’r tymhorau bob yr un,—<br /> +Yn eu dull yn dwys bregethu—<br /> + “Derfydd dyddiau byrion dyn.”</p> +<p>Heddyw’m gorchwyl innau dderfydd,<br /> + Alwai’n chwaneg mo’no chwi;<br /> +Drwy fy nghylch yn bur wyliedydd<br /> + A lladmerydd y bum i;<br /> +Mi fynegwn ddull y tywydd,<br /> + P’un ai teg ai garw’r gwaith,<br /> +Fel y gwypech ar obenydd<br /> + Ai addas oedd y dydd i daith.</p> +<p>Do, mi wyliais gylch eich drysau<br /> + Ar ryw oerion oriau hir,<br /> +Rhag i ddynion drwg eu nwydau<br /> + Dorri eich aneddau’n wir;<br /> +Tywydd garw, mwy nag oerni,<br /> + Ni wnai nhroi oddiar fy nhaith,<br /> +A chan ofal i’ch gwas’naethu<br /> + Methais gysgu lawer gwaith.</p> +<p>Daeth fy ystod at ei therfyn,<br /> + Darfu’m tro oddeutu’ch tre’,<br /> +Un galenig wyf yn ofyn<br /> + Am fy llafur yn y lle;<br /> +Chwi sy’n meddu da a moddion—<br /> + Digon sy’n eich llety llawn,—<br /> +Gwnai ychydig o’ch gweddillion<br /> + DIC a’i deulu’n llawen iawn.</p> +<h3>LLWYDD GROEG.</h3> +<p>Awdl ar fuddugoliaethau diweddar y Groegiaid ar y Tyrciaid.</p> +<p>Llwydd, llwydd, fwyn arwydd, i fanerau—Groeg,<br /> + Hir rwyged ei llongau<br /> +Bob rhes o lu gormes gau,<br /> +Drwy’r moroedd draw a’r muriau.</p> +<p>“A llwydd gyfarwydd a fo<br /> +I’w Rhyddid, yn eu rhwyddo:<br /> +Na lanwed yn oleuni,<br /> +Cafn y Lloer <a name="citation33"></a><a href="#footnote33">{33}</a> +uwch cefn y lli’;<br /> +Ond isel, isel eisoes<br /> +Drwy gred ymgrymed i’r Groes.</p> +<p> A thra tonn, Marathon, a muriau,<br /> +A rhin milwyr yr hen ymylau,<br /> +A gaent ffyniant gynt a hoff enwau,<br /> +O’u iawn barodrwydd, yn eu brwydrau,<br /> +Gwasgarer, gyrrer dan gaerau,—yn haid,<br /> +Weis Soldaniaid, isel eu doniau.”</p> +<p style="text-align: center"> +<a href="images/alun33b.jpg"> +<img alt="Marathon. “A thra tonn, Marathon, a muriau,A rhin milwyr yr hen ymylau.”" src="images/alun33s.jpg" /> +</a></p> +<p>Fal hyn o bob dyffryn deg,<br /> +Ac ynys a gylch gwaneg;<br /> +O’r tyrau muriau mawrion,<br /> +Mannau dysg a min y donn,—<br /> +Y glau Awen a glywodd<br /> +Y llais, a’r adlais a rodd<br /> +Groeg hen, yn gwiriaw cynnydd<br /> +Ei golau ddawn ac ail ddydd.</p> +<p>Ar ystlysau ei mynyddau,<br /> +A’i ffynhonnau hoff yn unawl,<br /> +Gwelwyd chwithau, a’ch telynau,<br /> +Hen dduwiesau hoen ddewisawl;<br /> +Yn galw o’i nych i’w goleu’n ol—eich gwlad,<br /> +Ac iawn fwriad, a gwe anfarwawl.</p> +<p>Ac wrth wych adlais, a gwyrth eich odlau,<br /> +Cysgodolion y diwydion dadau,<br /> +Yr aml areithwyr, y milwyr hwythau,<br /> +Gwyr fu o ddinam ragoraf ddoniau,<br /> +A neidiant, beiddiant o’u beddau,—a’u plant<br /> +A iawn gynhyrfant hwy i gain arfau.</p> +<p>Mae Pindar, oedd gâr gorwyllt,<br /> +A dawn ei gân o dân gwyllt;<br /> +Tyrtæus yn troi tuedd,<br /> +I roi clod i wyr y cledd:<br /> +“O! (meddant,) p’le mwy addien,<br /> +Yn gwrr c’oedd, nag yw’n Groeg hen?<br /> +Ein gwlad fwyn, o glod a fu,<br /> +Unwaith, yn mawr dywynnu,<br /> +Eto’i gyd ytyw a’i gwedd,<br /> +A’i rhannau yn llawn rhinwedd:<br /> +Ym mro bon y mae hir haf,<br /> +Bêr awel a byrr aeaf.<br /> +Yr haul y sy’n rheoli,<br /> +Heb roi haint, ar ei bro hi;<br /> +Mae nos, yn ei mynwesydd,<br /> +Megis chwaer ddisglaer i ddydd;<br /> +Aml y lle, ym mol ei llawr,<br /> +A mannau’r harddaf mynawr;<br /> +Hemætus felus y fydd,<br /> +A diliau mêl ei dolydd;<br /> +A’i ffrwythydd gwinwydd, fal gynt,<br /> +Di-odid mai da ydynt.<br /> +Holl natur bur heb wyro,<br /> +Sy’r un fraint i’r seirian fro,<br /> +A phan oedd, yn hoff ei nerth,<br /> +Briod-fan pob dawn brydferth.</p> +<p>“Yma gwir Ryddid, a’i mŷg aur roddion,<br /> +Sef celfyddydau a doniau dynion:<br /> +Rhin a roi eil-oes i’r hen wrolion,<br /> +A gair odiaethawl i’w gorau doethion,<br /> +A wnaent gynt i helynt hon—anrhydedd,<br /> +Ynt, (ddi-hoff agwedd) o tan ddiffygion.”</p> +<p>Wrth eu haraith, effaith ddig,<br /> +Dawn y wlad, yn weledig,<br /> +Fal yspryd tanllyd o’u tu,<br /> +A wnae’n anadl enynnu,—<br /> +Gan ddangos, yn achos Ner,<br /> +A’i fendith, a’i gyfiawnder,<br /> +Y mawr fri o dorri’r dîd,<br /> +I ymroddi am Ryddid.</p> +<p>Pwy ar alwad, a piau wroliaeth,<br /> +Ni ddaw i’w dilyn, a nawdd o’i dalaeth,<br /> +A rhin fal arwyr yr hen filwriaeth,<br /> +Draw a hwylient i Droia ehelaeth,<br /> +Os y goll o Ryddid sy’ gwaeth—na’r hen<br /> +Golled o Helen, gai hyll hudoliaeth?</p> +<p>Hen anghrist, un athrist oedd,<br /> +O’r tu arall i’r tiroedd,<br /> +A gododd,—gwaethodd drwy’r gad,<br /> +Ar fìloedd i’w rhyfeliad:<br /> +Un oedd o’r rhai aneddant<br /> +Uffern boeth yn ei ffwrn bant,—<br /> +Hoffai lid a gofid gau,<br /> +A’i llwydd ydoedd lladdiadau;<br /> +Seirph tanllyd, gwaedlyd eu gwedd,<br /> +Gwenwynig, (gwae anhunedd)<br /> +Ei gwallt oedd,—a gwyllt eiddig,<br /> +Rhag hedd oedd dannedd ei dig;<br /> +Ei llygaid yn danbaid des<br /> +Oedd uffernawl ddwy ffwrnes;<br /> +A’u sylwedd, o’r iseloedd,<br /> +A’u mawr lid, tra marwawl oedd.</p> +<p>O! pa ryfel, a’i uchel ochain,<br /> +Dial a’i ofid, a dolefain,<br /> +O’i chodiad irad yn y Dwyrain,</p> +<p>’Fu’r un baich i fawrion a bychain;<br /> +Baban a mam (un ddamwain) lle cafodd,<br /> +Dieneidiodd o dan ei hadain.</p> +<p>Ond Duw’r hedd o’i ryfedd rad,<br /> +Yn ’diwedd, roi wrandawiad<br /> +I’w blant,—pan godent eu bloedd,<br /> +Dan ofid hyd y nefoedd:<br /> +O Scio wylo, alaeth,<br /> +I’w glustiau’n ddiau a ddaeth;<br /> +A rhoes, Iôr y Groes, ar gri,<br /> +Dyst eirian o’i dosturi;<br /> +D’ai’n gymorth, da borth di-baid,<br /> +Nes i ryw’r Nazareaid,<br /> +Rai marwawl, er eu muriau,<br /> +Ac erfyn eu gelyn gau.</p> +<p>Angylion, genadon gwynion gannoedd,<br /> +Gyrrai i’w llywiaw, y gorau lluoedd,<br /> +Rhwygent y muriau, rhoi gwynt y moroedd<br /> +I’r ddi-ofn daran, hwyl ar ddyfnderoedd,<br /> +Llu’r Proffwyd dan arswyd oedd—pan welent,<br /> +Hwy draw a gilient i eu dirgeloedd.</p> +<p>Yn awr (a Duw’n ei wiriaw)<br /> +Golygwn ddwthwn a ddaw,—<br /> +Pan deflir, lluchir i’r llawr<br /> +Ddu arfawg anghrist ddirfawr;<br /> +A phan gair, yn hoff ei gwedd,<br /> +Gaer enwawg i’r gwirionedd:<br /> +Drwy reol gwydrau’r awen,<br /> +Draw’r llwydd a welaf drwy’r llen;—<br /> +Llwydd oesoedd lluoedd Iesu,<br /> +Pan gânt y feddiant a fu<br /> +O ddiwall wlad addewid,<br /> +Heb gaethder, llymder, na llid.</p> +<p>Gyrr y Dwyrain, ac oer ia diroedd<br /> +Y dwfn eira, eu di-ofn yrroedd;<br /> +Gyrr y Deau hithau ei hieithoedd,<br /> +A Gorllewin ei gorau lluoedd;<br /> +Un fwriad a niferoedd—y fawr-blaid<br /> +O Groesadiaid, ac eres ydoedd.</p> +<p>Bydd ar dyrau Salem furiau,<br /> +Y banerau yn ben arwydd,<br /> +I’r tylwythau, ar eu teithiau<br /> +I le’u tadau, olud dedwydd;<br /> +Ar Fosciaid y blaid heb lwydd,—dyrchefir<br /> +Ac eres welir y Groes hylwydd.</p> +<p>A thi, Roeg, a’th ddaear wych,<br /> +A’th awyr brydferth hoew-wych,<br /> +A welir eto eilwaith,<br /> +Fal gynt, er rhyfelawg waith,<br /> +Yn llwyddo’n fronlle addysg,<br /> +A lle llawn pob dawn a dysg;<br /> +Byddi, heb nam, yn fam faeth<br /> +I rinwedd—i wroniaeth—<br /> +I ddidwyll gelfyddydau,<br /> +Pob llwydd, a wna pawb wellhau;<br /> +I bob mâd gariad gwladawl,<br /> +A fu gynt dy fwya’ gwawl.</p> +<p>Ac iawn adferir, gwnn, dy furiau,<br /> +Dy awen, llwynydd, dy winllanau,<br /> +Dy brif-ysgolion, dirion dyrau,<br /> +Lleoedd doethion ddynion o ddoniau;<br /> +Sparta hen, Athen hithau—a gant lwydd,<br /> +A fydd ddedwydd o gelfyddydau.</p> +<p>Darlunir hyd ar lenni,<br /> +A mynnir, gwn, o’th meini<br /> +Gelfyddyd byd heb oedi;<br /> +Y dynion a adweini,<br /> +Yn rhediad eu mawrhydi,<br /> +Yn eil-oes, gwnn, a weli;<br /> +Eu cerf-ddelwau, lluniau llawn,<br /> +Fodd uniawn, a feddieni.</p> +<p>Llwydd, llwydd, a dawn rwydd, dan ryddid—eto<br /> + Iti a chalondid:<br /> + Yn y byd hwn, na boed tid<br /> + Dan nefoedd yn dynn ofid.</p> +<p>Ond aed (ac O! nad oeded)—lywodraeth<br /> + Ddi-ledryw gwlad Alffred,<br /> + A’i moliant i ymweled<br /> + A thir y Gryw, a thrwy Gred.</p> +<p>Y Rhyddid sydd gyd-raddawl,—oll hydrefn<br /> + A llywodraeth wladawl,<br /> + Sydd dda;—a chyd-gerdda gwawl<br /> + Gair yr Iesu, gwir rasawl.</p> +<p>A llwydd Dduw iddi, a lleoedd heddwch,<br /> +Gyrred allan o’i gaerau dywyllwch:<br /> +I ni y mae digon yma o degwch<br /> +Gael in’, a’i hurddas, Gwalia’n ei harddwch;<br /> +Nes troi’n glynnau’n fflamau fflwch,—a’n creigiau,<br /> +Llonned ei dyddiau’n llên â dedwyddwch.</p> +<h3>HAWDDAMOR.</h3> +<p>Englynion ar agoriad Eisteddfod Caerwys, 1823.</p> +<p>Nawddamor bob gradd yma,—orwych feirdd,<br /> + Rhowch fyrddau ’ni wledda;<br /> + Lluman arfoll Minerfa<br /> + Sydd uwch Caerwys ddilys dda.</p> +<p>Bu Caerwys, er pob corwynt—a ’sgydwai<br /> + Weis cedyrn eu tremynt,—<br /> + Er braw, anhylaw helynt,<br /> + Nyth y gain farddoniaeth gynt.</p> +<p>Troi o hyd mae byd heb oedi—â’n isel,<br /> + Mewn oesoedd, brif drefi;<br /> + Rhoes Groeg hen, a’i Hathen hi,<br /> + Awr i Gaerwys ragori.</p> +<p style="text-align: center"> +<a href="images/alun40b.jpg"> +<img alt="Caerwys. “Er braw, anhylaw helynt,Nyth y gain farddoniaeth gynt.”" src="images/alun40s.jpg" /> +</a></p> +<p style="text-align: center"> +<a href="images/alun56b.jpg"> +<img alt="Un O Heolydd Caerwys. “Rhoes Groeg hen, a’i Hathen hi, Awr i Gaerwys ragori.”" src="images/alun56s.jpg" /> +</a></p> +<h3>DAFYDD IONAWR.</h3> +<p>Englyn o fawl i’r Bardd clodwiw am ei ymdrechiadau haeddbarch +i ddiddyfnu yr Awen oddiwrth ffiloreg a sothach, a’i chysegru +i wasanaeth rhinwedd a duwioldeb.</p> +<p>Yr Awen burwen gadd barch,—unionwyd<br /> + Gan IONAWR o’i hamharch;<br /> +Hefelydd i glaf alarch<br /> +A’i mawl yw yn ymyl arch.</p> +<h3>GWYL DDEWI.</h3> +<p>Penhillion a ddatganwyd yn Nghymdeithas Gymroaidd Rhuthyn, Gwyl Ddewi, +1823.</p> +<p>Tôn,—“<i>Ar</i> <i>hyd</i> <i>y</i> <i>Nos</i>.”</p> +<p>Trystio arfau tros y terfyn,<br /> +Corn yn deffro cawri y dyffryn,—<br /> +Tanio celloedd—gwaed yn colli,<br /> +Yn mro Rhuthyn gynt fu’n peri<br /> +I’r ael dduo ar Wyl Ddewi,<br /> + Ar hyd y nos.</p> +<p>Heddyw darfu ystryw estron,<br /> +Ellyll hwyr, a chyllill hirion;<br /> +Saeson fu’n elynion inni,<br /> +Heno gwisgant genin gwisgi—<br /> +Law-law’n dawel Wyl ein Dewi,<br /> + Ar hyd y nos.</p> +<p>Clywch trwy Gymru’r beraidd gyngan<br /> +Rhwygo awyr â goroian—<br /> +Swn telynau—adsain llethri—<br /> +O Blumlumon i Eryri—<br /> +Gwalia ddywed—‘Daeth Gwyl Ddewi,’<br /> + Ar hyd y wlad.</p> +<p>Felly ninnau rhoddwn fonllef<br /> +Peraidd lais ac adlais cydlef;<br /> +Rhaid i’r galon wirion oeri<br /> +Cyn’r anghofiwn wlad ein geni,<br /> +Na gwledd Awen bob Gwyl Ddewi,<br /> + Ar hyd y wlad.</p> +<h3>EISTEDDFOD Y WYDDGRUG.</h3> +<p>AT MR. E. PARRY, CAERLLEON.</p> +<p><i>Wyddgrug</i>, <i>Awst</i> <i>16eg</i>, <i>1823</i>.</p> +<p>Goroian! goroian! Mr. Parry anwyl. Bydd Callestr yn enwocaf +o’r enwogion eto. Yr ydwyf newydd ddychwelyd o ystafell +y dirprwywyr yn y Leeswood Arms, lle y cydsyniodd y gwladgarol Syr Edward +Llwyd i gymeryd y gadair yn ein Heisteddfod; a rhoddodd £5 at +ddwyn y draul. Gosododd y mater o flaen yr uchel-reithwyr (<i>grand</i> +<i>jury</i>) am y Sir, a thanysgrifìodd pob un o honynt bunt, +gydag addaw ei noddi. Taflodd yr Uchel-sirydd ei deir-punt at +y draul, gan addunedu, er mai Sais oedd, y byddai iddo noddi athrylith +gwlad ei henafiaid hyd angeu. Dyma ddechreu yn iawn onide! Bellach, +fy nghyfaill, ni raid i chwi wrido wrth son am eich sir gynhennid. +Mae tân yn y gallestr, ac wedi ei tharaw o dde, hi a wna holl +Gymru “yn brydferth goelcerth i gyd.” Gosododd Callestr +yr engraifft i holl siroedd eraill Cymru, trwy gymeryd y peth yn orchwyl +y sir, yn y cyfarfod uchaf sydd ganddi.</p> +<p>Nid oeddym ar y cyntaf yn meddwl ond am un bunt yn wobrau am y cyfansoddiadau +goreu; maent yn awr wedi eu codi i bump, a disgwylir pan y cyferfydd +y dirprwywyr nesaf y gellir eu hychwanegu eto. Dyna’r pryd +y llwyr benderfynir ar y testynau, yr amser, y barnwyr, a’r gwobrau; +a byddaf yn sicr o anfon rhai o’r hysbysiadau argraffedig yn gyntaf +oll i fy nghyfaill caredig a gwresog o Gaer, heb ddymuno mwy na’i +weled yn ymgeisiwr llwyddianus.</p> +<p>Mi a glywais fod Mrs. Parry a’i mab yn iach galonnog.—Dyma +i chwi ychydig rigwm a gysoddais wythnos neu ddwy yn ol, ar destun a +mesur cân ragorach y doniol Erfyl. Chwi a welwch wrthi mai +amcan at annerch y “gwr ieuanc dieithr” ydyw, fel pe buaswn +wyddfodol.</p> +<p>Henffych, amhrisiadwy drysor,<br /> + Blaenffrwyth y serchiadau mâd;<br /> +Ni fedd natur bleser rhagor<br /> + Na theimladau mam a thad.</p> +<p>Wrth olygu’th wyneb siriol,<br /> + Gaiff dieithr godi ei lef,<br /> +’Mhell uwchlaw syniadau bydol—<br /> + Erfyn it’ fendithion Nef?</p> +<p>Nid am gyfoeth, clod, na glendid<br /> + Caiff fy nymuniadau fod;<br /> +Dylai deiliaid tragwyddolfyd<br /> + Gyrchu at amgenach nod.</p> +<p>Boed i’th rudd sy’n awr a’i gogwydd<br /> + At y bur dyneraidd fron,<br /> +Ddangos oedran diniweidrwydd,—<br /> + Gwisged bob lledneisrwydd llon.</p> +<p>Dy wefus sydd wrth ei chusanu<br /> + ’N ail i rosyn teg ei liw,—<br /> +Boed i hon yn ieuanc ddysgu<br /> + Deisyf am fendithion Duw.</p> +<p>Na wna achos wylo defnyn<br /> + O’r llygaid ’nawr mewn cwsg sy’n cloi,<br /> +Ond i dlodi dyro ddeigryn<br /> + Os na feddi fwy i’w roi.</p> +<p>Dy ddwy law, sy’n awr mor dyner,<br /> + Na bo iddynt gynnyg cam;<br /> +Ond rho ’mhleth i ddweyd dy bader<br /> + Ac i ofyn bendith mam.</p> +<p>Na boed gwên dy wyneb tirion<br /> + Byth yn gymysg gyda thrals,<br /> +Ac na chaffo brad ddichellion<br /> + Le i lechu dan dy ais.</p> +<p>Na boed byth i’th draed ysgogi<br /> + Oddiar ffordd ddaionus Duw:<br /> +Er ei chau â drain a drysni—<br /> + Llwybr i’r Baradwys yw.</p> +<p>Boed i’th riaint fyw i’th arwain<br /> + Gam a cham ar lwybrau gwir;<br /> +Na foed arnat ras yn angen<br /> + Tra yma yn yr anial dir.</p> +<p>Yr ydwyf yn gyrru eich llyfrau yn ol, gyda’r diolchgaiwch gwresocaf +am eu benthyg. Yn y sypyn, hefyd, cewch hen ysgrif-lyfr, haws +ei ddeall na’r llall: mynnwn gyfeirio eich sylw at y “Cywydd +i law merch,” ac ni chewch eich siomi. Mae beirniaid da +wedi meddwl mai llaw ysgrifen SION TUDUR ei hun ydyw y llyfr hwn, ond +prin y gallaf goelio hynny. Yn Rhuthyn y prynais i ef, am 1s. +6c. ‘Digon o newid arno,’ meddwch chwithau. +Pe meddyliwn na byddai yn bechod anfaddeuol, gormeswn ar eich tiriondeb +ymhellach, a gofynwn am fenthyg <i>Transactions</i> <i>of</i> <i>the</i> +<i>Cymmrodorion</i>, yn ol gyda’r dygiedydd. Yr ydwyf, ar +ddymuniad gwr Eglwysig, yn bwriadu cyfieithu “Hanes y Cymry, o +farwolaeth Llewelyn hyd eu hundeb â Lloegr.”</p> +<p>Maddeuwch fusgrellni fy llythyr,—yn wir mae gorfoledd am lwyddiant +ein Heisteddfod wedi fy nghymysgu yn llwyr, fel na wn pa beth a ysgrifenais.</p> +<h3>“RHYWUN.”</h3> +<p>Clywais lawer son a siarad<br /> +Fod rhyw boen yn dilyn cariad;<br /> +Ar y son gwnawn innau chwerthin<br /> +Nes y gwelais wyneb Rhywun.</p> +<p>Ni wna cyngor, ni wna cysur,<br /> +Ni wna canmil mwy o ddolur,<br /> +Ac ni wna ceryddon undyn<br /> +Beri im’ beidio caru Rhywun.</p> +<p>Gwyn ac oer yw marmor mynydd,<br /> +Gwyn ac oer yw ewyn nentydd;<br /> +Gwyn ac oer yw eira Berwyn,<br /> +Gwynnach, oerach, dwyfron Rhywun.</p> +<p>Er cael llygaid fel y perlau.<br /> +Er cael cwrel yn wefusau,<br /> +Er cael gruddiau fel y rhosyn,<br /> +Carreg ydyw calon Rhywun.</p> +<p>Tra bo clogwyn yn Eryri,<br /> +Tra bo coed ar ben y Beili,<br /> +Tra bo dwfr yn afon Alun,<br /> +Cadwaf galon bur i Rywun.</p> +<p>Pa le bynnag bo’m tynghedfen,<br /> +P’un ai Berhiw ai Rhydychen,<br /> +Am fy nghariad os bydd gofyn,<br /> +Fy unig ateb i fydd—Rhywun.</p> +<p>Caiff yr haul fachludo’r borau,<br /> +Ac a moelydd yn gymylau,—<br /> +Gwisgir fi mewn amdo purwyn<br /> +Cyn y peidiaf garu Rhywun.</p> +<p style="text-align: center"> +<a href="images/alun48b.jpg"> +<img alt="Cartref Gwyn: “Gwynnach, oerach, dwyfron Rhywun.”" src="images/alun48s.jpg" /> +</a></p> +<h3>MAES GARMON.</h3> +<p><i>Rhagymadrodd</i>.</p> +<p>Boed Hector flaenor a’i floedd,<br /> +Eirf Illium a’i rhyfeloedd,<br /> +Groeg anwar mewn garw gynnen,<br /> +Bynciau y per Homer hen;<br /> +Hidled Virgil, wiwged was,<br /> +Wîn awen uwch Æneas;<br /> +Gwnaed eraill ganiad eurwedd<br /> +Am arfau claer,—am rwyf cledd,<br /> +Byllt trwy dân gwyllt yn gwau,<br /> +Mŵg a niwl o’r magnelau;<br /> +Brad rhyw haid, a brwydrau hen,<br /> +Oes, a phleidiau Maes Flodden; <a name="citation45a"></a><a href="#footnote45a">{45a}</a><br /> +Gwarchau, a dagrau digrawn,<br /> +Cotinth a Valencia lawn, <a name="citation45b"></a><a href="#footnote45b">{45b}</a><br /> +Eiliant bleth, a molant blaid<br /> +Gywreinwych ei gwroniaid.</p> +<p> Mae gennyf yma i ganu<br /> +Fwy gwron, sef Garmon gu;<br /> +Ag eirf dig eu gorfod oedd,<br /> +Gorfodaeth braich gref ydoedd;<br /> +Hwn gadd glod a gorfodaeth<br /> +Heb ergyd na syflyd saeth;<br /> +I lu duwiol a diarf<br /> +Yn wyrth oedd,—ac heb nerth arf;<br /> +Duw yn blaid, a wnae eu bloedd<br /> +Heibio i ddawn y byddinoedd.</p> +<p><i>Hwyrddydd</i> <i>ar</i> <i>y</i> <i>Môr</i>.</p> +<p> Y dwthwn ’raeth cymdeithas<br /> +Gwyr Rhufain, o Frydain fras,<br /> +Ar hwyrddydd o ryw harddaf,<br /> +Mwyna ’rioed yn min yr haf;<br /> +E giliai’r haul, glauar hin,<br /> +Ag aur lliwiai’r Gorllewin;<br /> +Goreurai gyrrau oerion,<br /> +Ferwawg a del frig y donn;<br /> +Holl natur llawen ytoedd,<br /> +Ystŵr, na dwndwr, nid oedd;<br /> +Ond sibrwd deng ffrwd ffreudeg<br /> +Llorf dannau y tonnau teg;<br /> +A’r tawel ddof awelon,<br /> +Awyr deg ar warr y donn;<br /> +Tôn ar dôn yn ymdaenu,<br /> +Holl anian mewn cyngan cu,<br /> +Gwawr oedd hyn, a gyrr i ddod,<br /> +Ac armel o flaen gwermod;<br /> +Cwmwl dwl yn adeiliaw,<br /> +Oedd i’w weled fel lled llaw.</p> +<p><i>Tymhestl</i>.</p> +<p>Ael wybren, oedd oleubryd,—a guddid<br /> + Gan gaddug dychrynllyd,—<br /> +Enynnai yr un ennyd,<br /> +Fel anferth goelcerth i gyd.<br /> +Môr a thir a’u mawrwaith oedd,<br /> +Yn awr, fal mawr ryfeloedd;<br /> +Mawr eigion yn ymrwygo,<br /> +Ar fol ei gryf wely gro;<br /> +Archai—gan guro’i erchwyn,<br /> +A’i dwrw ffrom—dorri ei ffrwyn;<br /> +Ymwân Udd <a name="citation47"></a><a href="#footnote47">{47}</a> +uwch mynyddoedd,<br /> +At y Nef yn estyn oedd;<br /> +Dynoethid yna weithion,<br /> +Draw i’r dydd, odreu’r donn;<br /> +Dodwodd y cwmwl dudew<br /> +Ei genllysg i’r terfysg tew;<br /> +A’r gwyntoedd rwygent entyrch,<br /> +Neifion deifl i’r Nef yn dyrch;<br /> +Deuai nos i doi y nen,<br /> +Duai’n ebrwydd dan wybren;<br /> +Ac o’r erchyll dywyll do<br /> +Tân a mellt yn ymwylltio;<br /> +Taranent nes torwynnu<br /> +Y llynclyn diderfyn du.</p> +<p> Yn mysg y terfysg twrf-faith<br /> +Gwelid llong, uwch gwaelod llaith,<br /> +Yn morio yn erbyn mawr-wynt,—<br /> +Môr yn dygyfor, a’r gwynt<br /> +Wnai’r hwyliau’n ddarnau’n ei ddig,<br /> +A’r llyw ydoedd ddrylliedig;<br /> +Mynedyddion mwyn doddynt,<br /> +Eu gwaedd a glywid drwy’r gwynt;<br /> +Llef irad a llygad lli,<br /> +Y galon ddewra’n gwelwi;<br /> +Anobaith do’i wynebau,<br /> +Ac ofn dôr y gwyllt-fôr gau,<br /> +Gwynnodd pob gwep gan gynni,—<br /> +Llewygent,—crynent rhag cri<br /> +Gwylan ar ben’r hwylbren rhydd,<br /> +“Ysturmant yr ystormydd!”<br /> +A mawrwych galon morwr,<br /> +Llawn o dân, droai’n llyn dŵr;<br /> +Llw fu’n hawdd, droe’n llefain O!<br /> +A chân elwch yn wylo.</p> +<p><i>Garmon</i> <i>a</i> <i>Bleiddan</i>.</p> +<p> Yn mawr swn ymrysonau<br /> +’R tro, ’roedd yno ryw ddau<br /> +Llon hedd ar eu gwedd hwy gaid,<br /> +A chanent heb ochenaid:<br /> +Un Garmon, gelyn gormail,<br /> +A Bleiddan ddiddan oedd ail;<br /> +Gwelent drigfannau gwiwlon,<br /> +Ac iach le teg, uwchlaw tonn,—<br /> +Lle nad oes loes, fel isod,<br /> +Nac un westl dymestl yn dod;<br /> +Eiddunent hwy Dduw anian,—<br /> +Traethaf a gofiaf o’r gân.</p> +<p>“Hyd atad, ein Duw, eto,<br /> +Dyneswn, edrychwn dro;<br /> +Rhown i ti, rhwng cernau tonn,<br /> +Hael Geli, fawl o galon;<br /> +Rhued nawf, nis rhaid i ni,<br /> +Uwch ei safn, achos ofni:<br /> +Y lli dwfr sy’n y llaw dâu,—<br /> +Dy law, ’n Ion, a’n deil ninnau.</p> +<p>“Ti yw arweinydd y taranau,<br /> +Tefli y sythion fellt fel saethau,—<br /> +Gan roi, a dwyn, dy ffrwyn yn ffroenau<br /> +Anwar dymestl,—mae’n wir diamau:<br /> +Yng nghynnen yr elfennau—rhoddi’r gwynt,<br /> +Gelwi gorwynt,—neu gloi ei gaerau.</p> +<p>“Y môr uthr udawl, a’i dra mawr ruthriadau,<br /> +Y sydd fel moelydd uwch y cymylau;<br /> +Yr wyt ti, Ynad, ar warr y tonnau,<br /> +Yn trefnu hynt y chwerw-wynt i chwarau;<br /> +Cesgli’r gwynt chwyrn i’th ddyrnau,—yn sydyn,<br /> +Arafa wedyn bob cynhyrfiadau.</p> +<p>“Pa ragor in’ for yn fedd<br /> +Na gwaun dir i gnawd orwedd?<br /> +Cawn i’th gôl o farwol fyd,<br /> +Yn nydd angeu’n hawdd ddiengyd,—<br /> +Mae’n calon yn boddloni<br /> +I uniawn drefn Un yn Dri.”</p> +<p>Pan ar ben gorffen y gân<br /> +Y terfynai twrf anian;<br /> +Clywai’r Un sy’n cloriannu<br /> +Rhawd, o’r ser i’r dyfnder du:<br /> +Arafodd, llaesodd y lli,<br /> +Trychineb, a’r trochioni;<br /> +Môr a nen ymyrrai’n ol,<br /> +I ddistawrwydd ystyriol;<br /> +Deuai hwyl a da helynt<br /> +Y donn yn gyson â’r gwynt;<br /> +Mewn un llais rhoent hymnau’n llon,<br /> +I’r hwn a roes yr hinon;<br /> +Yna y chwai dorrai dydd,—<br /> +Dyna lan Prydain lonydd.<br /> +Doe’r llong, ar ddiddan waneg,<br /> +I ben y daith—Albion deg.</p> +<p><i>Prydain</i> <i>yn</i> <i>429</i>.</p> +<p> Hîl Gomer yr amser hyn,<br /> +Oedd o nodwedd anhydyn;<br /> +Amryw nwyd wnae Gymru’n waeth,<br /> +Mawr gynnen, a Morganiaeth;<br /> +Gwyr digariad i’w goror,<br /> +Lanwai â cham, lan a chôr:<br /> +Rhai ffol yn cymysgu’r ffydd<br /> +A choelion am uchelwydd;<br /> +Gwadu Crist, neu gydio’u cred<br /> +Ar glebr am “dreiglo abred”;<br /> +Pictiaid, Ysgotiaid, weis cas,<br /> +Ruthrent, lunient alanas;<br /> +A Phrydain heb undeb oedd,<br /> +Na llyw wrth ben ei lluoedd;<br /> +Y llysoedd, yn lle iesin<br /> +Farnu gwael, oe’nt defyrn gwin;<br /> +Brad amlwg, a brwd ymladd,<br /> +Gorthrech, cri, llosgi, a lladd,<br /> +Wnae Albion,—â’u troion trwch<br /> +Yn ail i ryw anialwch.</p> +<p><i>Taith</i> <i>y</i> <i>ddau</i>.</p> +<p>Y teulu apostolaidd<br /> +Eu bron, cyn gorffwyso braidd,<br /> +Drwy’r wlad, ar waith clodadwy<br /> +Eu Tad, ymegnient hwy.</p> +<p>Gan foreu godi,—rhoddi’n rhwyddion<br /> +Fyrr o Gilead wrth friwiau gwaelion;<br /> +Digyrith bleidio gwirion—rhag gwrthdrin,<br /> +Rhoi llaeth a gwin i’r llwythau gweinion.</p> +<p><i>Cynhadledd</i> <i>a’r</i> <i>Morganiaid</i>.</p> +<p>Iselaidd furiau Salem<br /> +Godent, ac urddent â gem;<br /> +A gem y ddau ddegymydd,<br /> +Fu aur a ffurf y wir ffydd;<br /> +Gemau’r gair, disglair, dwys,<br /> +Yw parwydydd Paradwys;<br /> +Er gogan, a phob anair,<br /> +Dysgent, pregethent y gair,<br /> +Nes cwnnu’r llesg gwan o’r llaid,—<br /> +Taro’r annuw trwy’r enaid:<br /> +Lle blin a hyll o’u blaen oedd,<br /> +Ail Eden o’u hol ydoedd;<br /> +O flaen rhain, diflannu’r oedd<br /> +Heresiau mwya’r oesoedd;<br /> +Tost iawn chwedl i genedl gam<br /> +Fu’r holiad yn Verulam:<br /> +Ugeiniau o’r Morganiaid,<br /> +Ddynion blwng, oedd yno’n blaid:<br /> +Llwyddai Ion y dynion da,<br /> +Er c’wilydd Agricola;<br /> +Ar air Ion, i lawr yr aeth<br /> +Muriau gweinion Morganiaeth.</p> +<p>Dynion oedd dan adenydd—ystlumaidd<br /> + Gwestl amhur goelgrefydd;<br /> + Ymagorai’r magwrydd,<br /> + Gwelen’ deg oleuni dydd.</p> +<p>Morganiaid er mawr gynnwrf,<br /> +Hwynt yn eu llid droent yn llwfr;<br /> +Yna’r dorf anwar a dig,<br /> +At y gwyr godent gerrig,—<br /> +A mynnent bwyo ’mennydd<br /> +Y rhai ffol fu’n gwyro’r ffydd!<br /> +Ond y graslon Garmon gu<br /> +A ataliodd y teulu:<br /> +Bleiddan, ar hynny, bloeddiai,—<br /> +“Clywch! eon, ry eon rai!<br /> +Pwyllwch, arafwch rywfaint!<br /> +Godde’ sy’n gweddu i saint;<br /> +I’n Duw y perthyn dial,—<br /> +I’r annuw ein Duw a dâl;<br /> +Par ei farn am bob rhyw fai,<br /> +Llaw dialedd lle dylai.<br /> +Ond cafodd fodd i faddau,—<br /> +Drwy gur un—gall drugarhau;<br /> +Y garw boen, hyd gaerau bedd,<br /> +Agorai gell trugaredd;<br /> +A’n harch gwir, i lenwi’r wlad<br /> +Yn farn am gyfeiliornad,<br /> +Yw troi, o ras ter yr Ion,<br /> +Galonnau ein gelynion<br /> +I droedio wrth ddeddf dradoeth;<br /> +Dyn yn ddwl,—Duw Ion yn ddoeth.<br /> +Felly yn awr, dan wawr well,<br /> +Pob un ant tua’u pabell;<br /> +Nef uchod rhoed Naf i chwi,—<br /> +Mewn heddwch dychwelwch chwi.”</p> +<p>Tra llefarodd, troell fawrwych<br /> +Anian droes yn iawn ei drych;<br /> +Y dymer ydoedd dwymyn<br /> +Dda’i yn ei lle,—toddai’n llyn.<br /> +Gwelent ei drwg—amlwg oedd,<br /> +A’u llid—mor fyrbwyll ydoedd;<br /> +Ust! tawelynt drwyddynt draw,<br /> +O dawelwch, doi wylaw.<br /> +’Nawr o’u dwrn yn ara’ deg<br /> +Parai gwir gwymp i’r garreg;<br /> +Trwst y main, a’r ubain rhwydd<br /> +Dwys, a dorrai’r distawrwydd.<br /> +Yna’r gynulleidfa’n llon<br /> +Ddychwelent—(gwedd a chalon<br /> +Eto’n awr yn gytun oedd,)<br /> +Law yn llaw, lonna lluoedd.</p> +<p><i>Cyrraedd</i> <i>Ystrad</i> <i>Alun</i>.</p> +<p>Dau gennad gwyn! Wedi gwyl<br /> +Hwy gyrchent at eu gorchwyl.<br /> +Llafurient â’u holl fwriad,<br /> +Dan Iôr i oleuo’r wlad;<br /> +A’i dwyn hi dan ordinhad<br /> +Da reol, o’i dirywiad;<br /> +Dan y gwaith heb lid na gwg,<br /> +Trwy erlid, ymlid amlwg,<br /> +Doent wrth deithio bro a bryn,<br /> +I olwg Ystrad Alun;<br /> +Elai’r gwyr, gan eilio’r gân,<br /> +Drwy Faelor, oror eirian.<br /> +Hwyr hithau ddwyrai weithion,<br /> +Llwydai fry ddillad y fron;<br /> +Ucheron, <a name="citation53"></a><a href="#footnote53">{53}</a> uwch +ei chaerydd,<br /> +A’i t’wysai, pan darfai dydd;<br /> +Y lloer, a’i mantell arian,<br /> +Ddeuai un modd, yn y man;<br /> +Daeth o le i le fel hyn<br /> +Y faith yrfa i’w therfyn;<br /> +Nawdd Ior, ac arweinydd ddug<br /> +Y rhwyddgraff ddau i’r Wyddgrug:<br /> +Lletyent mewn lle tawel,<br /> +Trigle dêr a mangre mêl;<br /> +Lle addas y lluyddwr<br /> +Rhufon, oedd yn union wr;<br /> +Un crefyddol, dduwiol ddawn,<br /> +Doeth, a’i gyfoeth yn gyfiawn;<br /> +Iachawdwr, a braich ydoedd,<br /> +Ac anadl ei genedl oedd;<br /> +I’w ardal deg, ateg oedd,<br /> +Llywiawdwr ei llu ydoedd;<br /> +Dau noddwr duwinyddiaeth,<br /> +Arfolli, noddi a wnaeth;<br /> +Eu siarad, am rad yr oedd,<br /> +A mesurau’r amseroedd;<br /> +Gwael greifion y goelgrefydd,<br /> +Rhannau a ffurf yr iawn ffydd;<br /> +A bro a’i hedd i barhau,<br /> +Uwch annedwydd och’neidiau;<br /> +Y duwiol hyfrydol fron<br /> +Ddiddenid â’u ’mddiddanion;<br /> +Rhufon er hynny’n rhyfedd,<br /> +Oedd o ddirgel isel wedd;<br /> +Son am loes sy’n aml isod,<br /> +A chael rhan uwchlaw y rhod,<br /> +Wnae’i fron der, yn nyfnder nod,<br /> +Chwyddo o ebwch ddiwybod;<br /> +Ei deg rudd, lle gwelwyd gwrid,<br /> +A ddeifiodd rhyw ddu ofid;<br /> +A dygai’r llef y deigr llaith<br /> +I’r golwg, ’nawr ac eilwaith.<br /> +’Roedd gwaelod y trallod trwch<br /> +I wyr Gallia’n ddirgelwch;<br /> +Hwy sylwent mai isel-wan<br /> +A dwl, oedd ei briod lân;<br /> +Beth fu’r anferth ryferthwy<br /> +Ni wyddent—ni holent hwy.</p> +<p> Yna, a’u bron heb un braw,<br /> +Hwy wahanent i hunaw;<br /> +Pwys y daith, mor faith a fu,<br /> +A’i gwasgodd hwynt i gysgu:<br /> +Edyn Ion, rhag troion trwch,<br /> +A’u mantellynt, mewn t’wllwch.</p> +<p> Yn bur a gwyneb araul,<br /> +Cwnnu yr oedd cyn yr haul<br /> +Y ddau deg, ddifreg o fryd,<br /> +A Rhufon hawddgar hefyd;<br /> +Rhodient i wrando’r hedydd<br /> +Gydag awel dawel dydd,<br /> +Hyd ddeiliog lennydd Alun,<br /> +I weld urddas glas y glyn;<br /> +Clywent sibrwd y ffrwd ffraeth<br /> +Yn dilyn hyd y dalaeth;<br /> +Y gro mân ac rhai meini,<br /> +Yn hual ei hoewal hi.</p> +<p>Agorir dorau goror y dwyrain,<br /> +Yna Aurora sydd yn arwyrain;<br /> +Nifwl ni ’merys o flaen ei mirain<br /> +Gerbyd llachrawg, a’i meirch bywiawg buain,<br /> +Ewybr o gylch y wybr gain—teifl gwrel,<br /> +A lliwia argel â’i mantell eurgain.</p> +<p>Yna deffrodd awelon y dyffryn,<br /> +Ae’ si trwy y dolau’n Ystrad Alun;<br /> +Haul drwy y goedwig belydrai gwed’yn,<br /> +Bu i Argoed hirell, a brigau terwyn,<br /> +D’ai lliw y rhod oll ar hyn—fel porffor,<br /> +A goror Maelor fel gwawr aur melyn.</p> +<p>Ar ei hadain, y seingar ehedydd<br /> +Fwria’i cherddi i gyfarch y wawr-ddydd;<br /> +Deffroai gantorion llon y llwynydd<br /> +I bereiddio awelon boreu-ddydd,—<br /> +A pher wawd i’w Creawdydd,—trwy’r wiw-nen,<br /> +O ferion awen,—am foreu newydd.</p> +<p>Bwrid ar hyn heb eiriach,<br /> +Ganiadau o bigau bach;<br /> +Eu glwys-gerdd lanwai’r glasgoed,—<br /> +Caniadau rhwng cangau’r coed;<br /> +Gwna bronfraith dasg ar las-gainc,<br /> +Trwsio’i phlu a chanu’i chainc.</p> +<p>Yna llon ganai llinos—i gynnal<br /> + Cerdd geinwech yr eos,<br /> +Ymorau heb ymaros,<br /> +I Geli am noddi’r nos.</p> +<p>A seiniai, pynciau pob pig<br /> +I’w Creawdwr caredig;<br /> +Nes yr aeth yn mhen ennyd<br /> +Yr wybr fan yn gân i gyd.</p> +<p> Esgynnent, troent eu tri<br /> +I balawg Fryn y Beili,<br /> +I weld y wlad,—ferthwlad fau,—<br /> +Rhedai Alun trwy’i dolau<br /> +Dyffrynol, breiniol a bras,<br /> +Oll yn hardd a llawn urddas;<br /> +Duw Celi oedd gwedi gwau<br /> +’N gywrain eu dillad gorau;<br /> +Deor myrr, neithdar, a mêl,<br /> +Yn rhywiog a wnae’r awel;<br /> +Aroglai’r manwydd briglas,<br /> +Y bau a’i chwrlidau’n las;<br /> +A diffrwyth lysiau’r dyffryn<br /> +Gwlithog, fyrdd, mewn gwyrdd a gwyn.<br /> +Ebrwydd, y corn boreubryd<br /> +Alwai ’ngwrth y teulu nghyd;<br /> +Teulu y castell telaid,<br /> +’Nol porthi, mewn gweddi gaid.</p> +<p>Rhufon a yrrai hefyd<br /> +Efo’r gweis, trwy’r fro i gyd,<br /> +Am neges em enwogion<br /> +I weled tir y wlad hon,—<br /> +Yr eilient yn ochr Alun<br /> +Araeth am gadwraeth dyn;<br /> +A’u bod am weini bedydd<br /> +Yn ael y dwfr, ganol dydd;<br /> +Ag awydd ferth, gweddai fod<br /> +Bawb ynaw â’u babanod;<br /> +Mai bechan y Llan oll oedd<br /> +I gynnwys amryw gannoedd.</p> +<p><i>Gofid</i> <i>Rhufon</i>.</p> +<p> Felly aent o’r arfoll hon<br /> +Eu tri, i’r gerddi gwyrddion;<br /> +Mawl i Dduw roent mewn teml ddail,<br /> +Gwedi ’i gwau gyda gwiail;<br /> +Ei lloriau, â gleiniau glwys,<br /> +B’rwydid fel ail Baradwys;<br /> +Sonient, with aros yno,<br /> +Am och a brad,—am uwch bro,—<br /> +Lle na ddel gwyll neu ddolef,—<br /> +Am urdd yn Nuw,—am ardd Nef,—<br /> +Gardd o oesol radol rîn,<br /> +A’i haberoedd yn bur-win.</p> +<p>Rhufon, dan ofid rhyfawr,<br /> +Ni ddywedai—ofynnai fawr;<br /> +Danghosai’ liw, nid gwiw gwad,<br /> +Loes erwin uwchlaw siarad;<br /> +O’r diwedd, ’nol hir dewi,<br /> +Ochenaid, a llygaid lli,<br /> +A’i ddagrau, fel rhaffau’n rhydd,<br /> +O’i lygaid yn wlawogydd,—<br /> +Tan grynnu’i fant yn graen, fo<br /> +Gwynai alaeth gan wylo,</p> +<p>“Enwogiawn, mi wn agos<br /> +Rhaid i ’null ar hyd y nos<br /> +Ddangos fod saeth gaeth, a gwg,<br /> +Drwy’r galon draw o’r golwg;<br /> +Y ngrudd gref, lle gwingodd graid,<br /> +Llychwinodd aml ochenaid;<br /> +Grym y groes, a dagrau’m gwraig,<br /> +Dyrr wên y diarynaig.<br /> +Mynegaf i’m henwogion<br /> +Hanes fy mriw—naws fy mron,<br /> +A’r achos o’m hir ochi,—<br /> +Yr oedd mab iraidd i mi;<br /> +Delw i’r holl ardaloedd,—<br /> +Eu tegwch a’u harddwch oedd;<br /> +’R oedd ei rwydd daclusrwydd clau,<br /> +A’i lun nerthol yn wyrthiau;<br /> +A gwên hoff lawen a fflwch,<br /> +Ireiddiwch ar ei ruddiau.</p> +<p>“Dau lygad ei dad ydoedd,<br /> +Un enaid â’i enaid oedd;<br /> +Rhyw adyn ei rwydo wnaeth<br /> +A’i swynion, i gamsyniaeth,—<br /> +Un tonnawg anghytunol<br /> +Droes allan, a phagan ffol;<br /> +Ac oerodd ei holl gariad<br /> +At wir Duw,—at eiriau’i dad;<br /> +Hynny fagodd genfigen,<br /> +Yr un dydd yn ei fron denn,—<br /> +Lle cadd hen genfigen faeth,<br /> +Ddylanwodd o elyniaeth,—<br /> +Ae’n greulon, anfoddlon fab,<br /> +Fu’n wâr anwyl ireiddfab;<br /> +Y diwedd oedd—gadodd ef<br /> +Mewn gwg,—huddwg ei haddef,<br /> +Gan addaw dod, diwrnod du,<br /> +A dialedd i’w deulu;<br /> +Gwauai y dwrn,—rhegai’ dad,<br /> +O’m Duw! fath ymadawiad!<br /> +Er gwae im’, rhwygai ymaith—<br /> +Na ŵyr ond Ion ran o’i daith;<br /> +Nis gallaf, dan drymaf dro,<br /> +Ond trist ruddfanu trosto.</p> +<p>“O’r diwrnod bu’r du ornwaith,<br /> +Ni chenais, ni cherddais chwaith,—<br /> +Picellau drwg ofnau gant,<br /> +Y fron wirion fraenarant:<br /> +Na welir hwn, wylo’r wyf,—<br /> +Ac wylo rhag ofn gwelwyf<br /> +Etifedd gwae! tyfodd gwŷn<br /> +Diymarbed i’m herbyn;<br /> +Funud ni phrisiaf einioes,—<br /> +Aeth yn faich holl ddwthwn f’oes!<br /> +O Angeu! torra f’ingedd,<br /> +’Rwy’n barod, barod, i’m bedd.”</p> +<p>Eto y toddai natur<br /> +Yn ddagrau fel perlau pur;<br /> +Delwai, mudanai’r dynion,<br /> +Gyda’u brawd gwaedai eu bron;<br /> +Pwyntient fys at lys hael Iôn—<br /> +Lle o allu ellyllon.</p> +<p>Synnent, ac edrychent dro,<br /> +Eilwaith cymysgent wylo:<br /> +Addysgid y ddau esgob<br /> +Felly’n null cyfeillion Iob;<br /> +I ganfod fod llym gwynfawr<br /> +Bwysau ei ofidiau’n fawr.</p> +<p><i>Y</i> <i>Gynulleidfa</i>.</p> +<p> Ar hyn d’ai gwas addas wedd,<br /> +Mynegai mewn mwyn agwedd,<br /> +Fod nifer, yr amser hyn,<br /> +Ar ddolau iraidd Alun;<br /> +A’u disgwyliad dwys gwiwlon<br /> +Am glywed clau eiriau’r Iôn.</p> +<p> Sychu oedd raid y llygaid llaith,<br /> +O fwriad at lafurwaith:<br /> +O’r deildy tua’r doldir<br /> +Yr elent hwy trwy lawnt hir;<br /> +A gwelent wâr, liwgar lu,<br /> +Yn gannoedd yno’n gwenu.<br /> +O ddisgwyl y ddau esgawb,<br /> +A gwyneb pur gwenai pawb,<br /> +O oedran diniweidrwydd,<br /> +Y’mlaen, hyd i saith-deg mlwydd;<br /> +Rhai ieuainc, mewn chwidr awydd<br /> +Yn chwarau ar geinciau gwydd;<br /> +Arafaidd d’ai’r gwyryfon,<br /> +Yn weddaidd, llariaidd a llon;<br /> +Oeswyr, a phwys ar eu ffyn,<br /> +Hulient dorlennydd Alun;<br /> +Doethaidd eu dull i’r dwthwn,<br /> +Eistedd wnai’r gwragedd yn grwn;<br /> +Pob mam lân a’i baban bach,<br /> +Ryw hoenus,—a rhai henach,<br /> +A geisient gael eu gosod<br /> +Dan sancteiddiol nefol nôd;<br /> +’Nawr mewn trefn, tu cefn i’r cylch,<br /> +Gan ymgau’n gain o amgylch,<br /> +Y deuai holl wrandawyr<br /> +Y graslon enwogion wyr.</p> +<p>Ar ddeulin yr addolynt<br /> +Yr Oen hoeliwyd, gablwyd gynt;<br /> +A Bleiddan, drwy fwynlan fodd,<br /> +Ar Dduw a hir weddiodd;<br /> +Eiddunodd newydd anian,<br /> +A mawr les, i Gymru lân;<br /> +I beri hedd, nes byrhau<br /> +Ochain hon a’i chynhennau,—<br /> +A throi i’r wir athrawiaeth<br /> +Rai’n ol, ar gyfeiliorn aeth;</p> +<p>Ac yna, na cha’i Morganiaeth,—na gwenwyn<br /> + O geuneint Derwyddiaeth,<br /> +Fwrw’u dilyf ar dalaeth,<br /> +Yn hwy’n lle manna a llaeth.</p> +<p> Bedyddio wnaent—(byd dd’ai’n +wyn)<br /> +Wyr mewn oed,—rhai mân wedyn;<br /> +Yna’r sant ’nol gweini’r swydd<br /> +Ystyriol—mewn distawrwydd,<br /> +Yn ei wisgoedd wnai esgyn<br /> +I ochr llethrawg, frithawg fryn;<br /> +Ac eurmyg lleuai Garmon,<br /> +A’i dafod aur, eiriau’r Ion;<br /> +Gwrthbrofi, dynodi wnaeth<br /> +Amryw gynneiddf Morganiaeth;<br /> +Mor ffraeth ei araeth euraidd,—<br /> +Enaid a grym hyd y gwraidd;<br /> +Y llu ddaeth i gablu gwyr,<br /> +Hwy ddeuent yn weddiwyr:<br /> +Trwy’r gair llym y troir gerllaw<br /> +Annuwiolion i wylaw;<br /> +Pan felltenai Sinai serth<br /> +I gydwybod,—gwaed aberth<br /> +Wna’i fellten a fa’i wylltaf<br /> +Ddiffodd, yn hedd ffydd yn Naf;<br /> +Agorai wefus gwrel,<br /> +A’i fant a ddyferai fêl;<br /> +Drwy lawn gainc, darluniai gur<br /> +Tad a Cheidwad pechadur,—<br /> +Yr iawn a ro’es, drwy loes lem,<br /> +Croeshoeliad Oen Caersalem;<br /> +Ban dug, trwy boenau dygyn,<br /> +Fodd i Dduw faddeu i ddyn;—<br /> +Ei araeth gref am wyrth gras<br /> +Wnai un oer bron yn eirias.</p> +<p><i>Dychryn</i> <i>y</i> <i>ffoaduriaid</i>.</p> +<p> Ynghanol y dduwiol ddysg,<br /> +Clywid cynnwrf, twrf terfysg;<br /> +Llefau galar gyda’r gwynt,<br /> +Sitwyr yn neshau atynt!<br /> +Ar hyn, dyna ofngar haid<br /> +O derydd ffoaduriaid,—<br /> +Lu gwael o liw—ac ael wleb,<br /> +A gwannaidd oedd pob gwyneb:<br /> +“Daeth,” dyhenent d’wedent hwy,<br /> +“Awr hyf warth a rhyferthwy;<br /> +Mae Saison, anunion wyr,<br /> +A brathawg lu y Brithwyr,<br /> +A’u miloedd dros dir Maelawr,—<br /> +Gwelsom fin y fyddin fawr!<br /> +Temlau a thai llosgai’r llu—<br /> +Nen a magwyr sy’n mygu;<br /> +Ha! erlidiant ar ledol<br /> +Y rhai ddaeth yn awr i’r ddôl;<br /> +Clywch dôn anhirion eu nâd,<br /> +Ffown, ffown! am amddiffyniad.”</p> +<p>Y gair, fel loes gwefrawl, a<br /> +Darfodd pob rhan o’r dyrfa;<br /> +A chwerw nod dychryniadau<br /> +Oedd yn eu gwedd hwy yn gwau;<br /> +Mewn ofnawl, ddidawl ddadwrdd,<br /> +Mynnent ymroi, ffoi i ffwrdd;<br /> +Ond Rhufon, drwy fwynlon fodd,<br /> +Un teilwng, a’u hataliodd—<br /> +Nad oedd y fyddin, erwin hynt,<br /> +Eto yn agos atynt:<br /> +Enynnodd aidd hen anian<br /> +Y milwr dewr, mal ar dân.</p> +<p><i>Milwr</i> <i>a</i> <i>Sant</i>.</p> +<p>“Rhyfel!” dolefai Rhufon,<br /> +Ag araul fryd gwrol fron,<br /> +“Heddyw fy hen gleddyf hir,<br /> +I ddwyn aeth a ddyncethir;<br /> +Gwnaf wyrthiau trwy gnif erthwch—<br /> +Gwnaf weld eu llu’n llyfu’r llwch;<br /> +Codwn, arfogwn fagad<br /> +O wrol wych wyr y wlad;<br /> +A’m milwyr a’u hymwelant,<br /> +Pob gwr fydd gonc’rwr ar gant;<br /> +Wyf Rufon, er f’oer ofid,<br /> +A ddeil arf drwy dduwiol lid;<br /> +Terwyniant ein tariannau<br /> +Ni ddeil bron y gâlon gau;<br /> +Heno o’u balch lu, ni bydd<br /> +Un i leidio’n haelwydydd;<br /> +Trwy ryfel dihefelydd,<br /> +Ac enw Duw,—cawn y dydd!<br /> +Y’mlaen! pur yw’n hantur hon!”<br /> +“Arafa, danbaid Rufon!”<br /> +Eb Garmon,—“Er pob gormes<br /> +Yn fur prawf, yn farrau pres,<br /> +Mae telid gadernid Iôn<br /> +Is awyr o gylch Seion;<br /> +Ei phen a’i hamddiffynydd<br /> +Yw’r Duw sy’n Greawdwr dydd;<br /> +Ein hiawn bwys yn hyn, O bid<br /> +Ar Dduw a’i wir addewid;<br /> +A Duw a’n cyfyd ni, cofiwn,<br /> +Y diwedd o’r hadledd hwn;<br /> +“Y Duw a barai fod aberoedd<br /> +O sawr diliau, mewn cras ardaloedd,<br /> +I gynnal ei blant gannoedd,—â dwfr fal<br /> +Gwawr y grisial o graig yr oesoedd,<br /> +Ac a lywiai Iago a’i luoedd<br /> +Mawr a difraw, rhwng muriau dyfroedd,—<br /> +A Pharaoh a’i anhoff yrroedd—wnai gau<br /> +O fewn dorau y gorddyfnderoedd;<br /> +Y Duw hwnnw gyfyd hinon<br /> +Awyr dawel, o oriau duon,<br /> +Dilai gwared ei deulu gwirion<br /> +Rhag galanas a rhwyg gelynion;<br /> +Y Duw fu’n blaid Gedeon, rwystra i yrr<br /> +Yr un o’r Brithwyr wanu’r Brython.”</p> +<p>Trwy galon Rhufon yr aeth<br /> +Cywir donau crediniaeth;<br /> +Distawodd, lleddfodd y llu,<br /> +Eu gwelw wawr a’u galaru;<br /> +Heb ddal ynni, boddlonynt<br /> +I weision Ior hwylio’r hynt.</p> +<p>Hwy roddent gyfarwyddyd<br /> +Am hwyl y gorchwyl i gyd.</p> +<p>Ag ysgafn droed i goed gwydd,<br /> +Encilient dan y celydd;<br /> +Rhufon hoff, er mwyn cloff, claf,<br /> +Anwylaidd, safai’n olaf;<br /> +A thawel gynorthwyai<br /> +Y gweinion efryddion rai.</p> +<p>Yn ol dod dan gysgod gwig<br /> +I gyd, ar lawr y goedwig,<br /> +Plygent lin, ac â min mel<br /> +Yn ddwys mewn gweddi isel:<br /> +Yn ysbaid hyn, os bai twrf,<br /> +Ochenaid lesg, a chynnwrf,—<br /> +Codai Garmon lon ei law,<br /> +Agwedd Ust! ac oedd ddistaw.</p> +<p>Er gwersi, er gweddi’r gwyr,<br /> +Er teg osteg, ac ystyr,—<br /> +Gwael agwedd y golygon<br /> +Ddwedai fraw y ddiwad fron.</p> +<p>Ar hyn, dyna’n syn neshau<br /> +Athrist dwrf, a thrwst arfau;<br /> +Lwyrnych estronawl oernad,<br /> +Croch gri, a gwaeddi,—“I’r gâd”;—<br /> +Yr waedd oedd yn arwyddaw<br /> +Fod gâlon llymion gerllaw:</p> +<p>Yna y treigl swn eu traed,<br /> +Yn frau o fewn cyrrau’r coed,—<br /> +Lleng a’u gwich am ollwng gwaed<br /> +Gwyr o ryw hawddgara ’rioed.</p> +<p>Adeg alarus ydoedd,<br /> +Ac awr heb ei thebyg oedd;<br /> +Awr gerth, na ddileir o go’,<br /> +Ac awr calonnau’n curo;<br /> +Y goch ffriw aeth a’i lliw’n llwyd,<br /> +Dewr wedd ae’n orsedd arswyd.</p> +<p>Trwy’r ddôl y gelynol lu,<br /> +Groch anwar, wnai grechwenu,<br /> +Er dannod gwarth Prydeinwyr,—<br /> +(Rhy fuan gogan y gwyr.)</p> +<p>Gan ymnerth, ac un amnaid,<br /> +Yn llu yn awr, oll ’e naid<br /> +Y Brython,—yn llon eu llef,<br /> +Unllais, ac adlais cydlef,<br /> +Germain oedd, rho’i Garmon air,<br /> +Addasol ei ddewisair,—</p> +<p><i>Haleluia</i>! <i>Haleluia</i>! lawen,<br /> +Ar y gair, ebrwydd y rhwygai’r wybren,<br /> +Creigiau,—a chwedi pob crug a choeden<br /> +Yn y dyspeidiad oedd yn d’aspeden;<br /> +A’r engyl yn yr angen—yn uno,—<br /> +A gawriai yno holl gôr y wiw-nen.</p> +<p>Chwai hyrddiwyd gâlon chwerw-ddull,<br /> +Dychrynnent, ffoent mewn ffull.</p> +<p>“Frithwyr ffel! beth yw’r helynt?<br /> +Dewch i gâd,—ymffrostiech gynt!<br /> +Hai! ffwrdd! codwch waewffyn,<br /> +Hwi’n golofn,—dacw’n gelyn!<br /> +Ymrestrwch,—troediwch mewn trefn,<br /> +Och! enrhaith! beth yw’ch anrhefn?”</p> +<p>Unwaith ni wrendy’r annuw,<br /> +I’w dilyn mae dychryn Duw;<br /> +Eu heirf serth, yn y twrf sydd,<br /> +Wana galon eu gilydd;—<br /> +Astalch i astalch estyn,<br /> +A chledd sydd yng ngledd y’nglŷn.</p> +<p> Clywai Alun destun da,<br /> +Alawon Haleluia;<br /> +A chiliodd dros ei cheulan,—<br /> +Hi droes lif ar draws y lan;<br /> +A mynnent hwy, er maint hon,<br /> +Yn eu braw, rwyfaw’r afon:<br /> +I dawch Alun dychwelynt,—<br /> +Aeth hon fel y Gison gynt:<br /> +A mawr dwrdd—ym merw’r donn,<br /> +Cell agerdd cylla eigion:<br /> +Gwenodd Alun, gwyn ddiluw,<br /> +Gael yno dorf gâlon Duw;<br /> +Llafuriodd y llifeiriaint,<br /> +Gyda si, i gadw y saint;<br /> +Sugnai’r llyn y gelyn gau,<br /> +Gwingodd dan grafanc Angau.</p> +<p>O foreu dwl, ar fyrr daeth<br /> +Gwawr deg o waredigaeth;<br /> +’Nawr gwelai’r Cymry’r gâlon,<br /> +Yn soddi is dyli’r donn;<br /> +Gan wau yn dyrrau dirif,<br /> +A swn eu llais yn y llif;<br /> +Llifeiriant a i holl farrau,<br /> +Tonnau certh, arnynt yn cau:—<br /> +Nodent nad oedd mewn adwy,<br /> +Glan, na maes, un gelyn mwy;<br /> +Prin coelient—safent yn syn—<br /> +Ddolef eu ciaidd elyn.</p> +<p>Dyferai eu clodforedd,<br /> +Drwy’r glynnau yn hymnau hedd;<br /> +Ac yn eu plith canai plant,<br /> +Swn melus atsain moliant.</p> +<p> Yna’r saint mewn eres hwyl<br /> +A anerchent,—iawn orchwyl—<br /> +Araf lef i’r dyrfa lân,<br /> +Dorrent ollyngdawd eirian.</p> +<p>“Ein Ner, mewn blinder, fu’n blaid<br /> +I’w wâr union wirioniaid;<br /> +Duw’n y blwng wrandawai’n bloedd,—<br /> +Boddai yna’r byddinoedd.</p> +<p>“Eurawg olwynion hen Ragluniaeth,<br /> +Barai’r dolydd, y wybr a’r dalaeth,<br /> +I wyrthiol adsain germain gaeth,—Alun<br /> +Foddai y gelyn,—caem fuddugoliaeth.</p> +<p>“Duw Ner roes yr hoewder hwn,<br /> +I’n Duw eilchwaith diolchwn;<br /> +Llawforwyn fu’r llifeiriant,<br /> +Gyda bloedd i gadw ei blant.</p> +<p>“Iolwn na byddo’i wiwlwys—ogoned,<br /> + Ac enaint Paradwys,<br /> +Gilio oddiar Gwalia ddwys,<br /> +Na’u aroglau o’r Eglwys.</p> +<p>“Duw’r hedd fo’n eich harwedd chwi,<br /> +Drwy genedl lawn drygioni;<br /> +A chwedi oes heb loes lem,<br /> +Noswyliaw boch yn Salem.”</p> +<p> Hwy wahanent ar hynny,<br /> +Heb wybod ofn,—bawb i’w dŷ;<br /> +A’r lleddf ddau genadwr llon<br /> +Draw hefyd i dŷ Rhufon.</p> +<p> Ac ar hwyl deg, yr ail dydd,<br /> +Dwyrëent mewn dir awydd,<br /> +I rodio i lawr at ffrwd lâs,<br /> +Glennydd lle bu galanas:<br /> +’Nawr aber, fel arferol,<br /> +Ydoedd hi ar hyd y ddol;<br /> +Ciliai’r dylif, clwy’r dylaith,<br /> +A’i dwrf oll, pan darfu’i waith;<br /> +Dai’r ardal yn dir irdeg,<br /> +Lle berwai tonn, ddai’n llwybr teg:<br /> +Gwelent hwy, wrth geulan tonn,<br /> +Gelanedd eu gelynion;<br /> +Yn dyrrau, ’n rhesau di ri,<br /> +O’r Belan hyd i’r Beili.</p> +<p> Gwelai Rhufon dirionwawr,<br /> +Ar hyn, ryw lencyn ar lawr.<br /> +Ei ddull, ei wedd, a’i ddillad,<br /> +A’i lun, oedd fel un o’r wlad.<br /> +Craffai arnaw—draw fe drodd,<br /> +A lliw egwan llewygodd;<br /> +Oherwydd y tramgwydd trwm<br /> +A ddyrysodd ei reswm;<br /> +Drwy’i galon a’i dirgeloedd,<br /> +Safai bâr,—can’s ei fab oedd;<br /> +Ei deulu o’i ddeutu ddaeth,<br /> +Gan weled ei ddygn alaeth;<br /> +Rhoent uwch ei fab, drygfab,—dro<br /> +Eu ced olaf,—cyd-wylo;<br /> +Uchel oernych alarnad<br /> +Wrth ei ddwyn fry i dŷ i dad:<br /> +(Gwyddent mai dilyn geu-dduw,<br /> +A dal dig, a gadael Duw,—<br /> +Trwy lithiol rai ffol, di-ffydd,<br /> +Wnai ei ddwyn i’w ddienydd!)</p> +<p>Hwy ddeallent, modd hollol,<br /> +A ddwedai, ’nawr, am ddod’n ol,<br /> +Ryw ddiwrnod, a dyrnod du<br /> +Dialedd ar ei deulu.</p> +<p>Iddo fe gwnaed angladd fawr,<br /> +Hir wylwyd ar ei elawr:<br /> +(Mae natur bur ei bwriad<br /> +A maith ddeddf mewn mam a thad;)<br /> +Er brad, er braenaru bron<br /> +Ei rieni, rai union,—<br /> +Eto wylodd y teulu,<br /> +Am y mab, fel cynfab cu;<br /> +Ni pheidient am anffodion<br /> +A thranc gwas ieuanc, a son;<br /> +Ac a pharch gwnaent er cofthau,<br /> +Hel peraidd, lwysaidd lysiau;<br /> +Hel mwysion freila maesydd,<br /> +Hel blodau ar gangau’r gwŷdd;<br /> +Hel mawr ar lili mirain,<br /> +Hel y rhos ar ol y rhain;<br /> +Hel llawryf digoll irwedd,<br /> +Hela’r bawm i hulio’r bedd:<br /> +A dagrau rhwydd, sicrwydd serch,<br /> +Mwydent, llenwent y llannerch.</p> +<p> Garmon, er cof mwynlon mad,<br /> +Gweddus, o’r holl ddigwyddiad,<br /> +O fewn y tir roes faen teg,<br /> +A geiriau ar y garreg;—</p> +<p>“Daw hinon, er llid annuw,<br /> +I’r dyn doeth a gredo’n Duw;<br /> +A dylaeth, barn, a dolef,<br /> +I’r adyn fo’n erbyn Nef.”</p> +<h3>ABERIW.</h3> +<p>AT MR. E. PARRY.</p> +<p><i>Berriew</i>, <i>Chwef</i>. 10, 1824.</p> +<p>ANWYL GYFAILL,</p> +<p>Mae ymdeithydd yn myned heibio i Lerpwl, a rhesymol i mi achub y +cyfleustra i ysgrifenu at un a brofodd ei gyfeiligarwch drwy amryfal +dirionderau. Chwi a welwch wrth ddyddiad y llythyr fy mod yn mhell +o fangre fy mam. Daethum yma y 30ain o’r mis diweddaf, a +chefais Mr. Richards a’r holl deulu yn foneddigaidd, tirion, a +charedig. Mae yma dri o wyr ieuainc yn cael eu parotoi i’r +Brif Ysgol,—ni welais dri erioed mor wahanol eu hansawdd a’u +tymherau i’w gilydd; ond trefnodd y Rhagluniaeth y cefais fy mwrw +arni o’r bru, a’r hon a drefnodd fy ngherddediad hyd yma, +iddynt fy nerbyn gyfeillgarwch agos yr wythnos gyntaf o’m hainfodiad +yn eu plith. Fel hyn, y mae’r coelbren wedi syrthio i mi +mewn lle hyfryd o ran teulu i gyfaneddu yn eu plith, ac am gyfeillgarwch +sydd fel olew i olwynion fy natur, gallaf ddywedyd “dyma etifeddiaeth +deg.” Pe byddai lle yn y byd a barai i mi anghofio yr aelwyd +y dysgais ymgropian hyd-ddi gyntaf—y llanerchau a fuont olygfeydd +fy chwareuyddiaethau plentynaidd,—neu i laesu fy hiraeth am gyfeillion +lliosog a hawddgar,—ac yn bennaf oll am fy nhirionaf dad a mam, +dyma’r fan debycaf oll. Ond nid hawdd datod rhwymau a gydiwyd +gan serch, ac a gysegrwyd gan ffyddlondeb. Felly rhaid addef yr +hyn y byddai yn ffolineb ei wadu—fod fy meddwl yn ehedfan yn fynych +ar adenydd dychymyg o lannau Hafren i ochrau Alun, Clwyd, Dyfrdwy, a +Mersey, lle y profais gyfeillgarwch oedd yn fêl i’m genau +ac yn iechyd i’m hesgyrn. Os gwelwch chwi neb o’r +hen fechgyn a ymffrostiant fod eu henwau y’nghoflyfr Gwalia,—dywedwch +fy mod yn cofio atynt ac yn dymuno yn dda iddynt.</p> +<p>Am danaf fi, er yn rhy isel mewn sefyllfa i allu gorchymyn, ac yn +rhy wael mewn dawn i allu teilyngu sylw, eto fy ymdrech pennaf hyd angeu +(ni’m cyhuddir o ymffrost wrth wnenthur y broffes) fy ymdrech, +yn nesaf i foddloni fy Nghreawdwr, a meithrin cydwybod dawel, a fydd +trefnu fy ngherddediad fel na wnelo fy ngwlad wrido o’m harddel.</p> +<h3>IFOR CERI.</h3> +<p>TO THE REV. C. B. CLOUGH, MOLD.</p> +<p><i>Berriew</i>, <i>March</i> <i>1st</i>, <i>1824</i>.</p> +<p>REV. AND DEAR SIR,</p> +<p>In Mr. Richards, my expectations have been more than realised; and +I cannot sufficiently express my thanks to the Committee for selecting +such a person to be my tutor. His kind solicitude for my domestic +comforts, is as unremitting as his attention to my advancement in literary +pursuits. His religion is so far removed from wild enthusiasm +as it is from cold and affected formality. The chaste and pious +manner in which he offers up the family devotions, with his Christian +precepts and example, have made so deep an impression upon my mind, +as will prove, I trust, to my spiritual advantage.</p> +<h3>EMYN PASG.</h3> +<p>Wele’r Ceidwad gaed yn Meth’lem<br /> + Acw’n marw dan ei loes,<br /> +A gwyryfon tyner Salem<br /> + ’N gwlychu â dagrau droed ei groes:<br /> +Caua’r haul ei lygaid llachar<br /> + Rhag gweld clwyfo’r Sanct ei hun;<br /> +Ei ruddfanau sigla’r ddaear,<br /> + Cryna pob peth ond y dyn.<br /> +Deuwch saint, gollyngwch ddagrau<br /> + Uwch trychineb Calfari,<br /> +Dros yr hwn a roes ochneidiau<br /> + Dan y baich haeddasoch chwi;<br /> +Drosoch hidlodd ddafnau heilltion<br /> + Is arteithiau gŵg y nen,<br /> +Nid o ddwfr, ond gwaed ei galon,<br /> + Yna trengodd ar y pren.</p> +<p>Dyma dristwch heb ei debyg,<br /> + Gras a chariad pur y’nglŷn,<br /> +Duw’r gogoniant dan y dirmyg,<br /> + Ac yn marw i brynu dyn:<br /> +Ond wele achos llawenychu!<br /> + Testun cân dragwyddel fydd,—<br /> +Iesu’r Ceidwad sy’n dadebru<br /> + ’N gynnar ar y trydydd dydd.</p> +<p>Gwelwch fel mae’n concro angau!<br /> + Syllwch ar ei ddwyfol wedd!<br /> +Grym ei fraich, a gair ei enau,<br /> + Sydd yn dryllio bolltau’r bedd:<br /> +Llengau’r nef, anrhaethol nifer,<br /> + A’i gwarchodant tua’i wlad—<br /> +Rhwygai cerddi yr ehangder,<br /> + Cerddi croeso i lys ei Dad.</p> +<p>Bellach, saint, eich dagrau sychwch,<br /> + T’rewch y gu dragwyddol gân,<br /> +C’weiriwch eich telynau, cenwch<br /> + Wyrthiau eich Gwaredwr glân:<br /> +Dwedwch iddo fathru’r gelyn,<br /> + ’Speilio lluoedd certh di ri’,<br /> +T’wyso angau du mewn cadwyn,<br /> + A chysegru’r bedd i chwi.</p> +<p>Bloeddiwch, ‘Ryfedd Frenin Sion,<br /> + Doed y ddaear dan dy iau!<br /> +Ganwyd ti’n Waredydd dynion,<br /> + Wyt yn gadarn i iachau.’<br /> +Gofynnwch wedyn i’r anghenfil,<br /> + ‘Ple mae’th golyn oer yn awr?<br /> +Fedd ymffrostgar, ddu dy grombil,<br /> + P’le mae’th fuddugoliaeth fawr?’</p> +<h3>ENGLYN I ANNERCH MISS COTTON, OFYDDES.</h3> +<p><i>Eisteddfod</i> <i>y</i> <i>Trallwm</i>, <i>1824</i>.</p> +<p>Gwalia lwyd lonwyd eleni,—Awen<br /> + Flodeua fel lili;<br /> +Bron bun yw ei gardd hardd hi,—<br /> +Hil anwyl hael Lyweni.</p> +<h3>“A PHA LE Y MAE.” Job xiv. 10.</h3> +<p>“Ya le y mae! ow gwae! ai gwir?<br /> + Nad yn ei dir, o dan y dail<br /> +A eiliai gynt drwy helyg îr?—<br /> + Nid uwch ei fîr—gan d’wchu ei fail;—<br /> +Ni wela wych olygfa’r waen,<br /> + Ni swnia’i droed yn nawnsiau’r dref,<br /> +Gwych yw’r olygfa fel o’r blaen,<br /> + A dawnsia myrdd, <i>ond</i> <i>ple</i> <i>mae</i> <i>ef</i>?</p> +<p>Ei ddiddan Elia ddyddiau’n ol<br /> + Dywysai i’r ddol ar hwyrol hynt;<br /> +Wrth ochrau’r llyn o’r dyffryn dardd<br /> + A gwaelod gardd fe’i gwelwyd gynt;<br /> +Is gwê o fill ni wasga’r fun,<br /> + (Ei ardd a wnaeth fel gerddi nef<br /> +Ag urdd o ros). Mae’r gerddi’r un,<br /> + Ac Elia’r un—<i>P</i> <i>le</i> <i>gwelir</i> +<i>ef</i>?</p> +<p>Fel nablau’r côr rhoe’i gerddor gân,<br /> + O’i deithi glân, nid aeth yn gloff;<br /> +Rhaiadrau, llynnau, gwyrthiau gant,<br /> + Oddeutu ei nant sydd eto’n hoff<br /> +O’i dŷ—mur hwn nid yw mor hardd;<br /> + Adwyau geir ar hyd ei gae,<br /> +A gwywa’n rhês eginau’r ardd,<br /> + Ymhola mill—<i>Y</i> <i>mh’le</i> <i>mae</i> +<i>ef</i>?</p> +<p>Mae beddfan newydd yn y Llan,<br /> + Yr aelwyd ddengys gadair wag;<br /> +Ac wrth y bedd, a’r wedd yn wan<br /> + Doluriau serch rhyw ferch a fâg;<br /> +A’r ddol, lle bu yn gadu’r gwynt,<br /> + Ni wela’i lun, ni chlywa’i lef,<br /> +Bonllefau rhai a garai gynt,<br /> + Pa le maent hwy? <i>Pa</i> <i>le</i> <i>mae</i> <i>ef</i>?</p> +<h3>GWAHODDEDIGION EISTEDDFOD TRALLWM, 1824.</h3> +<p><i>Englynion</i> <i>difyfyr</i> <i>i’r</i> <i>Arglwyddes</i> +<i>Clive</i> <i>a’i</i> <i>phlant</i>.</p> +<p>Enynnwn i uniawn annerch—talaeth,<br /> + Am roi telaid eurferch<br /> + Montrose, mewn rhwymyn traserch<br /> + I Bowys hen—man gwîb serch.</p> +<p>Yr ysgeill yn ol hir wasgar—can-oes<br /> + I’r cenin sy’n gymar;<br /> + Tan wên cyd-dyfant yn wâr<br /> + Eu deuodd yn fri daear.</p> +<p>Mwy yn yr hîl, y mae’n rhaid—y rhennir<br /> + Holl rinwedd y ddwy-blaid;<br /> + Trwy eu bron, yn hylon, naid<br /> + Hen nwyfau eu hynafiaid.</p> +<p>Os daw rhyw haid, i rwystro hedd—ein tir,—<br /> + Nes troi ein tai’n garnedd,<br /> + Yn y ddiras gynddaredd,<br /> + Hil Clive fydd yn dal y cledd.</p> +<p>Ond i hedd a dyhuddiant,—i godi<br /> + Dysgeidiaeth, tueddant,<br /> + Awenyddion a noddant,<br /> + Eu hiaith hen, a cherdd, a thant.</p> +<p>Trwy’u diwrnod tyrred arnynt—bob undeb<br /> + A bendith—llwydd iddynt;<br /> + Anwylaidd gynnal wnelynt<br /> + Dud a gwaed hen dadau gynt.</p> +<h3>CAROLINE.</h3> +<p><i>Llinellau</i> <i>ar</i> <i>farwolaeth</i> <i>Miss</i> <i>Hughes</i>, +<i>merch</i> <i>y</i><br /> +<i>Parch</i>. <i>M</i>. <i>Hughes</i>, <i>Periglor</i> <i>Llanwyddelan</i>,<br /> +<i>Trefaldwyn</i>.</p> +<p>Ceisiais dybio’r son yn anwir,<br /> + Syrthio Caroline i lawr,<br /> +Ac nad allai seren eglur,<br /> + Fachlud wedi t’wnnu ond awr:<br /> +Ond y glul ar gefn yr awel,<br /> + Swn y fron yn hollti’n ddwy,<br /> +Adsain och sy’n gwaeddi’n uchel,<br /> + Ofer anghrediniaeth mwy.</p> +<p>Hir y cofir y diwrnod<br /> + A esgorodd ar y gwae,<br /> +Pan y rhedai i gyfarfod<br /> + Cyfeillesau i odrau’r cae;<br /> +Blaenai’r dyrfa tu a’r annedd,<br /> + Crechwen ar ei hwyneb pryd;<br /> +Ychydig dybiai mai i’w hangladd,<br /> + ’Roedd yn gwadd y cwmni ynghyd.</p> +<p>Gyd âg eistedd, deuai angau<br /> + ’N nesu ati gam a cham,<br /> +Ac ni throi oddiar ei siwrnai,<br /> + Er gwaedd mil, er gweddi mam;<br /> +Delwai’r tylwyth gan yr alaeth,<br /> + Gwnaent ei gwely fel yn lli’,<br /> +Hithau’n dawel dan yr artaith,<br /> + Pawb och’neidient ond y hi.</p> +<p>Pan oedd oed yn rhoddi coron<br /> + Aeddfed ar ei dull a’i dawn;<br /> +Myrrh ac olew yr Ysgolion,<br /> + Wedi’i pherarogli’n iawn;<br /> +Pob disgwyliad gwych yn agor,<br /> + Hithau’n ddedwydd yn ei rhan,<br /> +Cadd ei galw ar ei helor,—<br /> + Y swyn a dorrwyd yn y fan.</p> +<p>Treigliad ei golygon llachar,<br /> + Ei throediad ysgafn ar y ddol,<br /> +Corff ac enaid oll yn hawddgar,<br /> + Dynnai’r galar ar ei hol;<br /> +Ond mae tryliw rhos a lili,<br /> + Wedi gwelwi ar ei gwedd,<br /> +’N awr ni ddena serch cwmpeini<br /> + Mwy na phryfed mân y bedd.</p> +<p>Ffarwel iddi! boed i’r ywen<br /> + Gadw llysiau’i bedd yn llon,<br /> +A gorwedded y dywarchen<br /> + Werdd, yn ysgafn ar ei bron<br /> +Sycher dagrau ei rhieni,—<br /> + Ior y Nef i’w harwain hwy,<br /> +Nes y cwrddant ryw foreuddydd,<br /> + Na raid iddynt ’mado mwy.</p> +<h3>CYFIEITHIAD O FEDD-ARGRAFF SEISNIG.</h3> +<p>Ty llong gadd lan, lle’r oedd fy nghais,—<br /> + O’r tonnau treiddiais trwy;<br /> +Er dryllio’m hwyl gan lawer gwynt,<br /> + Na chlywir monynt mwy.</p> +<p>O gernau’r ’storm ces ddod yn rhydd,<br /> + Daeth angau’n llywydd llon,<br /> +A pharodd im’ mewn gobaith glân,<br /> + Angori’n ’r hafan hon.</p> +<h3>BUGEILGERDD.</h3> +<p>Ar dôn “<i>Kate</i> <i>Kearney</i>.”</p> +<p>DEWI.</p> +<p>A welaist, a ’dwaenaist ti Doli,<br /> +Sy’ a’i defaid ar ochr Eryri?<br /> + Ei llygad byw llon<br /> + Wnaeth friw ar fy mron,<br /> +Melusach na’r diliau yw Doli.</p> +<p>HYWEL.</p> +<p>O do, mi adwaenwn i Doli,—<br /> +Mae’i bwthyn wrth droed yr Eryri;<br /> + ’D oes tafod na dawn<br /> + All adrodd yn iawn<br /> +Mor hawddgar a dengar yw Doli.</p> +<p>Un dyner, un dawel yw Doli,—<br /> +Mae’n harddach—mae’n lanach na’r lili;<br /> + ’Does enw îs nen<br /> + A swnia’n ddisen<br /> +Mor ber gyda’r delyn a Doli.</p> +<p>DEWI</p> +<p>Ow! ow! nid yw’n dyner wrth Dewi,—<br /> +’Does meinir yn delio fel Doli,<br /> + Er ymbil â hi<br /> + A’m llygad yn lli,<br /> +Parhau yu gildynus mae Doli.</p> +<p>Ymdrechais wneyd popeth i’w boddio,<br /> +Mi gesglais ei geifr idd eu godro,<br /> + Dan obaith yn llwyr<br /> + Y cawn yn yr hwyr<br /> +Gusanu yn dalu gan Doli.</p> +<p>Mae’i mhynwes mor wynned a’r eira,—<br /> +Mae’i chalon mor oered mi wiria’;<br /> + Ar f’ elor ar fyrr<br /> + Fy nghariad a’n ngyrr—<br /> +O oered a deled yw Doli!</p> +<p>Tri pheth a dim mwy wy’n ddymuno,—<br /> +Pob bendith i Doli lle delo,—<br /> + Cael gweled ei gwedd<br /> + Nes myned i’m medd,—<br /> +A marw yn nwylo fy Noli.</p> +<h3>YR HEN AMSER GYNT.</h3> +<p>Bu’n hoff i mi wrth deithio ’mhell<br /> + Gael croesaw ar fy hynt;<br /> +Mil hoffach yw cael “henffych well”<br /> + Gan un fu’n gyfaill gynt.</p> +<p>Er mwyn yr amser gynt, fy ffrynd,<br /> + Yr hen amser gynt;<br /> +Cawn wydriad bach cyn canu’n iach,<br /> + Er mwyn yr amser gynt.</p> +<p>Yn chwareu buom lawer tro,<br /> + A’n pennau yn y gwynt;<br /> +A phleser mawr yw cadw co<br /> + O’r hyfryd amser gynt.</p> +<p>Er digwyddiadau fwy na rhi’,—<br /> + Er gwario llawer punt;<br /> +Er llawer coll, ni chollais i<br /> + Mo’r cof o’r amser gynt.<br /> +Tra cura calon yn fy mron,<br /> + Drwy groes neu hylon hynt,<br /> +Rhed ffrydiau serch drwy’r fynwes hon<br /> + Wrth gofio’r amser gynt.</p> +<p style="text-align: center"> +<a href="images/alun88b.jpg"> +<img alt="Yr Amser Gynt: “Rhed ffrydiau serch drwy’r fynwes hon Wrth gofio’r amser gynt.”" src="images/alun88s.jpg" /> +</a></p> +<h3>I —</h3> +<p>Ty anwyl ferch, delw’m serch, clyw annerch clwy enaid,<br /> +Tro’ist yn ddu’r cariad cu, a chanu’n ochenaid;<br /> +A oedd un llaw drwy’r dref draw i nharaw’n anhirion?<br /> +A oedd yn mhleth, at y peth, ddwrn yr eneth union?<br /> +Yn wir dy ŵg dagrau ddwg i’r golwg o’r galon,<br /> +Oni chaf hedd af i’m bedd i orwedd yn wirion.</p> +<p>P’le mae’r gred, gofus ged, adduned oedd anwyl?<br /> +Ai si a siom yr amod drom unasom ryw noswyl?<br /> +P’le mae’r drem, fel gwawr gem, a luniem dan lwynydd?<br /> +Torrai’n syn swyn y llyn, y delyn, a’r dolydd:<br /> +Yn iach i’th wedd, mi wela ’medd, wan agwedd yn agor;<br /> +Dywed di, fy mun, i mi, a wyli ar fy elor?</p> +<p>Pan weli sail y bedd, a’r dail ar adail mor hoewdeg,<br /> +Ac uwch y tir, ysgrif hir, o’r gwir ar y garreg,—<br /> +Mai d’achos di, greulon gri, fu’n gwelwi’r fau galon;<br /> +Ai dyma’r pryd, daw gynta’i gyd, iaith hyfryd o’th +ddwyfron?<br /> +Gorchwyl gwan rhoi llef drwy’r llan, troi’r fan yn afonydd,<br /> +Rhy hwyr serch felly, ferch, i’m llannerch bydd llonydd.</p> +<h3>GADAEL RHIW.</h3> +<p>Gofid dwys a wasga ’nghalon,<br /> +Adael Rhiw a’i glannau gleision,<br /> +Dolau hardd lle chwardda’r meillion,<br /> + A chysuron fyrdd:<br /> +Gadael mangre englyn,<br /> +Diliau mel, a’r delyn;<br /> +Gadael cân gynhenid lân,<br /> +Eu cael a’u gadael gwedyn;<br /> +Gadael man na sangodd achwyn;<br /> +Ond er gadael ceinciau’i gorllwyn,—<br /> +<i>Yng</i> <i>ngauaf</i> <i>oes</i> <i>fe</i> <i>saif</i> <i>Trefaldwyn</i>,<br /> + <i>Ar</i> <i>fy</i> +<i>nghof</i> <i>yn</i> <i>wyrdd</i>.</p> +<p>Trwm, rhy drwn, rhoi ymadawiad<br /> +A bro na welir cuwch ar lygad,<br /> +Na diffyg ar ei haul na’i lleuad,<br /> + I ddylu blodau fyrdd;<br /> +Troi i sych Rhydychen,<br /> +O Bowys, hen bau Awen,<br /> +Lletty hedd, a bwrdd y wledd,<br /> +Lle’r adsain bryn â chrechwen:<br /> +Gadael llon athrawon gwiwfwyn<br /> +Och! ni wn pa fodd i gychwyn. &c.</p> +<p>Try yr ymadawiad ysol,<br /> +Nwyf i loesau anfelusol,<br /> +Ond pa’m beiaf rhagluninethol<br /> + Anorffennol ffyrdd<br /> +Dyma law ’madawiad,<br /> +A’r llall mi sychaf lygad;<br /> +Mae’r fen gerllaw, i’m cludo draw,—<br /> +Ofer—ofer siarad;<br /> +Yn iach bob dengar gwm a chlogwyn,—<br /> +Yn iach, yn iach, gyfeillion addfwyn. &c.</p> +<h3>RHYDYCHEN.</h3> +<p>AT GYFAILL.</p> +<p><i>Athrofa’r</i> <i>Iesu</i>, <i>Rhydychen</i>,<br /> +<i>Rhagfyr</i> <i>19</i>, <i>1824</i>.</p> +<p>Gobeithio eich bod yn myned y’mlaen gyda Lladin. Ni wyddoch +pa beth a all esgor. Gallaf addaw y cewch fwy o bleser na thrafferth +yn dysgu; a gwn na byddai yn boen i’ch meddwl llym chwi dreiddio +iddi ar amnaid. Mi a ddatguddiaf i chwi fy amcan wrth eich cynghori +fel hyn. Os gallwch, trwy eich llafur eich hun, ymhyfforddi yn +yr ieithoedd dysgedig,—os addunedwch beidio croesi trothwy tafarn +yn y Wyddgrug,—os peidiwch a chyfeillachu a neb ond dynion parchus, +a phrin â rhai’ny,—os byddwch ddyfal yn eich sefyllfa,—os +gyrrwch ambell i ddernyn i’r Eisteddfodau, er mwyn tynnu sylw,—os +ymddygwch bob amser yn syml, cyson, a gostyngedig,—ac os, gyda +hyn oll, y llwyddwch i dynnu cyfeillgarwch y goreu o ddynion, Mr. Clough—meddyliwn +na byddai yn anhawdd nac yn dreulfawr i chwi gael trwydded yma. +Y mae eich synwyr yn ormod i adeiladu dim ar hyn, nac i yngan gair yn +ei gylch i gyfaill eich mynwes. Pa beth a all cardotyn fel fi ei addaw?</p> +<p>Byddai yn dda gennyf pe rhoddech ddiofryd cadarn na sangech ar lawr +unrhyw dafarndy yn y Wyddgrug byth. Y mae fy mynwes i yn gwaedu +heddyw gan y clwyfau a dderbyniais ynddynt. Ni welais gyfaill +da o fewn eu muriau erioed, ac ni welais un niweidiol iawn y tu allan. +Ni wna ymddygiad isel a buchedd rinweddus a duwiol eich amddifadu o +unrhyw bleser teilwng o’r enw: yn hytrach gwna i’ch cwpan +redeg trosodd—addurna chwi ger bron eich gwlad—a thywysa +chwi at ffynnon a arllwys ei dwfr pan y bydd Alyn, a Helicon hefyd, +wedi sychu. Hyderaf na ddigiwch am yr hyfder a gymerais. +Gwiriaf i chwi iddynt ddylifo oddiar deimlad mor bur ag a gurodd erioed +ym mynwes tad. Gwn eich bod yn agored i lawer o demtasiynau, y +rhai a gynyddant po fwyaf y deloch i sylw y byd. Gwn, hefyd, fod +eich cysur amserol a thragwyddol yn ymddibynnu ar eu gorchfygu. +Gwyddoch chwithau fod rhan fawr o fy nghysur innau ynglyn wrthych fel +cyfaill fy ieuenctyd. Bellach, ai gormod im’ am unwaith +ddringo Ebal? Do, fy nghyfaill, cefais i wybod trwy brofiad trist +fod deniadau cyfeddach yn llymach na saethau cawr, ac yn chwerwach na +marwor meryw. Mi syrthiais i ymhlith y lladdedigion. Tybiodd +fy nghyfeillion ddarfod am danaf byth, a gadawsent fi i’m tynged. +Ond, trwy y moddion rhyfeddaf, dywedodd y Gwr y rhyfelais yn ei erbyn, +“yn dy waed bydd fyw.” Cefais yn barod lawer prawf +o’i diriondeb; ac nid ydwyf yn cwbl anobeithio cael, o radd i +radd, fy nerbyn i’w fyddin ac i gludo ei faner. Hyd yn hyn, +y mae fy mriwiau yn rhwystro imi gydio mewn arf; ac yr ydwyf yn treulio +fy oes gan y mwyaf wrth odreu Sion; ac weithiau, wrth godi’m llaw +at ddail y pren sydd yn iachau’r cenhedloedd, dymunwn amneidio +â’r llall at fy nghyfeillion, i beri iddynt ochel y llannerch +lle y derbyniais i y saeth a lynodd yn fy nghalon.</p> +<h3>COLLEGE LIFE</h3> +<p>TO THE REV. C. B. CLOUGH, MOLD.</p> +<p><i>Jesus</i> <i>College</i>, <i>Oxford</i>,<br /> +<i>December</i> <i>16th</i>, <i>1824</i>.</p> +<p>Upon the whole, I find College life far less irksome than I had anticipated. +The change, from the bosom of a family to a cloister, was certainly +not very pleasant. Yet upon that account I have less to regret +than many: my disposition or taste never quarrels with solitude. +In one instance I was rather unfortunate.—Of the three undergraduates +I knew upon my coming to College, one only was a ‘reading man.’ +By means of the other two, as my acquaintances increased, my room became +in a little time the daily resort of those most miserable and unprofitable +of beings, technically called ‘<i>loungers</i>.’ This, +of course, retarded my studies; and I was often compelled to sit up, +after the drones had gone away, till four o’clock in the morning, +to prepare my Lectures for the following day. Hints were thrown +away, upon my visitors, in vain. At last I saw that either politeness +or my character must be hazarded: the first was sacrificed to preserve +the last. I made a candid avowal of the low state of my acquirements, +and, that having so much to do, it would be madness in me to trifle +my days; but if they allowed me to fix a particular hour each day, for +receiving their calls, I should be most happy in seeing them. +They good-humouredly assented; and from seven o’clock in the morning +till eight was mentioned. I have my room to myself ever since; +and this has not made them less friendly. I have seen that an +extensive acquaintance is the bane of College life.</p> +<p>Of intimate friends, I have here only one; and he is a bosom friend, +one whose intelligence, urbanity, abilities, and piety are alike conspicuous. +He is a son of La Trobe, the celebrated African traveller. Unfortunately +for me, he intends taking his final examination next Easter term, and +will consequently leave Oxford. When he is gone, I will endeavour +to replace him with another of the same stamp; and if I fail, I will +turn an anchorite.</p> +<p>I have mixed with but very few parties; though, thanks to my fellow-collegians, +I have been occasionally invited. I have adopted this course, +partly from a wish of not incurring a debt, which it would be a crime +in one of my station to discharge; but chiefly from a distaste of all +nocturnal revels. The truth is, I never yet saw a drinking party, +two hours old, that I could lay down even one of Elis y Cowper’s +songs, for the purpose of enjoying it.</p> +<p>The devotional exercises, morning and evening, are profitable and +interesting; and I have an opportunity every Sunday of hearing some +of the most eloquent and impressive sermons I have ever heard. +Excellent opportunities are also afforded for reading. I ‘sport +my oak’ and sit down, nothing disturbs or annoys me; and had it +not been for the rumbling of carts along Ship-lane, and cries of ‘muffins,’ +I should consider myself in a hermitage. As for temptation, it +is all a bugbear. I have seen none here that would not vanish +before a virtuous resolution.</p> +<h3>AT LENOR.</h3> +<p>(MR. E. PARRY, CAERLLEON.)</p> +<p><i>Athrofa’r</i> <i>Iesu</i>, <i>Rhydychen</i>,<br /> +<i>Chwefror</i> <i>25ain</i>, <i>1825</i>.</p> +<p>Y mae yn ddywenydd mawr genyf ddeall fod eich Cymdeithas yn gwellhau +yn ei hamcanion fel y mae ei gallu yn cynyddu. Hwyrach na lwyddwch +i gael cyd-ymdrechiad y Boneddion a enwasoch;—rhai o herwydd eu +hoerfel at yr achos Cymreig,—a llawer am fod rhannau eraill o’r +wlad yn galw am eu gwasanaeth yn fwy na Chaer, un ai o herwydd cymydogaeth, +neu feddiannau. Er hynny, pe na enillech ddim ond ymegniad gwresog +ac unfryd trigolion eich tref eich hunain, byddai yn werth eich trafferth, +a gallwch wneuthur gwyrthiau.</p> +<p>Y mae yr Iaith Gymraeg yn deilwng o’i choleddu, ac eneidiau +Cymru yn werth eu cadw. Chwi a gewch fy nymuniadau goreu i, os +ydynt werth rhywbeth, a phe byddai gennyf well, chwi a’i caech.</p> +<p>Buoch yn ddedwydd iawn gael Mr. Richards yn Gapelwr,—y mae’r +gŵr hwnnw yn addurn i bob Cymdeithas lle byddo. Yr ydwyf +agos yn eddigeddu y pleser a gewch ar eich Cylchwyl, ac er hynny yn +ewyllysio i chwi fil mwy. Rhaid i mi gadw gwyliau Homer ddall +yn lle Dewi Sant, ac aros fel mynach yn fy nghell yn lle troedio’r +heolydd i ddangos fy “nghenin,” a gadael i’m henaid +lesmeirio wrth gyngan y delyn. Ond rhaid boddloni, ac yr ydwyf +yn foddlon ac yn ddiolchgar.</p> +<p>Yr oeddych yn ymholi pa fodd yr ydwyf yn byw yma.—Credwch fi,—mor +syml a diniwed â Meudwy, a mor ddedwydd â Thywysog. +Cof am gartref a hen gyfeillion sydd weithiau yn cynhyrfu hiraeth ynof +am wlad fy ngenedigaeth, a dyna’r unig ddefnyn chwerw sydd yn +fy nghwpan. Y mae penaethiaid yr Athrofa yn dirion i’r eithaf, +a chyd-astudwyr mor gyfeillgar ag y gallwn ddymuno.</p> +<p>Yr oeddwn wedi bwriadu englynion i chwi a math o awdl i’ch +Cymdeithas; ond hawdd i chwi feddwl nad oes gan un a ymunodd â’r +Brifysgol y’mhen pum’ mis wedi cydio gyntaf mewn Ieithiadur +nemawr amser i gysoddi dim. Pa fodd bynnag, dyma ryw bethau yn +llun englynion “Ar y ffolineb o wadu Iaith gynhenid,” a +ddymunwn gyflwyno i’ch Cymdeithas a chwithau, i aros gwell.</p> +<p>A wirionwyd ar unwaith—yr adyn<br /> + Pan redai i estroniaith,<br /> + I wadu’i wlad, gyda lediaith,<br /> + Gwawdio hon, a gwadu ei hiaith?</p> +<p>A yw’n gywilydd gan ei galon—iaith serch<br /> + Iaith su ei fam radlon?<br /> + Ddyddiau hir, mor dda oedd hon<br /> + I ynganu angenion?</p> +<p>Ai gwr yw a gâr awen—heb arddel<br /> + Iaith beirddion disgywen?<br /> + Ai un am les hanes hen<br /> + Wrthoda chwaer iaith Eden?</p> +<p>Iaith oedd araeth i ddewrion,—wroniaid<br /> + Drwy enwog ymdrechion,<br /> + Tan eu heirf bloeddient yn hon<br /> + “Trowch i’r gad! tr’ewch ergydion!”</p> +<p>Ac onis dewis y dyn—y gyngan<br /> + Sydd rhwng cangau’r dyffryn?<br /> + A gwin i’w fant? ac ni fyn<br /> + Iaith hudoliaeth y delyn?</p> +<p>Onid yw iaith fyw mor fad—yn deilwng<br /> + O’n dilyth arddeliad?<br /> + Neb ond un gwrthun a’i gwad<br /> + Neu a ludd ei choleddiad.</p> +<p>Y mae doethaf gymdeithion—Cymroaidd,<br /> + Ac amryw o’r Saeson—<br /> + Y’Ngwalia mae angylion<br /> + Gyda’u heirf am gadw hon.</p> +<p>A cheir yn pleidio ei choron—euraidd<br /> + Iorwerth a’i gyfeillion,<br /> + A gwr mawr o gyrrau Môn<br /> + Yn Llywydd yn Nghaerlleon.</p> +<p>Mwy addas i was isel—a’i osgedd<br /> + Am esgyn yn uchel,<br /> + Garu ei iaith, a’r gwr wêl<br /> + Werth ei hurdd wrth ei harddel.</p> +<p>O’i gwrthod, gwawd ac erthwch,—a’i dilyn<br /> + Hyd elor drwy dristwch;<br /> + Ni cha lîn goruwch ei lwch,<br /> + O glod goreu gwladgarwch.</p> +<p>Boed gan Gymro ym mhob broydd—o’i brif-iaith<br /> + Bur fôst yn lle c’wilydd,<br /> + Fel na ddel, tra y del dydd,<br /> + Lediaith ar ein haelwydydd.</p> +<h3>TELYN CYMRU.</h3> +<p><i>Allan</i> <i>o</i> <i>Saesoneg</i> <i>Mrs</i>. <i>Hemans</i>, +<i>i</i> <i>Gymdeithas</i> <i>Gymreigyddol</i> <i>Rhuthyn</i>, <i>1824</i>.</p> +<p>O delyn oesol! dyro eto gainc,<br /> + Fel pan ewynai’r hirlas yn y wledd;<br /> +Pan gurai bronnau gan wladgarol ainc,<br /> + Pan wlychid byrddau Owain gan y medd:<br /> +O Delyn! deffro ’ngrym yr oesoedd hen,<br /> +Adleisia’r bryn dy geinciau gyda gwên.</p> +<p>Dy dant ni’s tyr—Rhufeinydd erchyll dôn<br /> + Ddaeth dros las ddyfroedd, gyda llawer rhwyf,<br /> +Enynai fflam trwy dderi sanctaidd Môn,<br /> + A gwnai gromlechau’n garnedd yn ei nwyf,<br /> +Rhoi lwch y creiriau gyd â’r gwynt a’r lli’,<br /> +Delyn, rho gainc, nis gallai d’atal di.</p> +<p>Dy dant ni’s torrir. Chwyfiodd baner Sais<br /> + Yn ddig ar awel flith Eryri gerth,<br /> +Uwch bloedd ei udgyrn, clywid swn dy lais,<br /> + Pan guchiai’i gestyll ar y clogwyn serth,<br /> +Cynhyrfai’th dôn y dewrion i fwy bri,<br /> +Eu llethri oedd ganddynt, bronnau rhydd, a thi</p> +<p>Oes ddu oedd hon; pan gwympai’r glew dirus,<br /> + Pan dyfai chwyn gylch bwrdd lle gwleddodd cant,<br /> +Pan lechai’r llwynog yn y drylliawg lys,<br /> + Oedd nerth i ti’r pryd hyn—dawn ym mhob tant,<br /> +Yn nyddiau hedd dy geinciau grymus gyr,<br /> +O Delyn bêr! o’th dannau un ni’s tyr.</p> +<h3>AT EI RIENI.</h3> +<p><i>Athrofa’r</i> <i>Iesu</i>, <i>Rhydychen</i>,<br /> +<i>Chwefror</i>, <i>11fed</i>, <i>1826</i>.</p> +<p>ANWYL RIENI,</p> +<p>Yn lle esgus dros fod yn ddistaw cyhyd, rhoddaf i chwi hanes byr +o’r modd yr ydwyf yn byw. Wrth ymdrechu dyfod i fyny gyda +y rhai a gawsant bob mantais ysgolheigaidd ym moreu eu hoes, yr wyf +yn gorfod bod yn ddiwyd iawn wrth fy llyfrau. Nid ydyw treiddio +i mewn i ieithoedd ond gorchwyl sych a diffrwyth, ac i un yn fy sefyllfa +i, o ran gwall cyfleusterau boreuol, y mae yn waith digon caled. +Am y tro cyntaf yn fy mywyd, yr wyf yn cael fod “darllen llawer +yn flinder i’r cnawd.” Nid ydyw caethiwo fy hun i +fyfyrdod wedi cael un effaith ddrwg ar fy iechyd eto. Aeth cyfaill +i mi, a ddarllenasai lawer llai na mi, adref ddoe wedi ei nychu gan +ormod o waith. Y mae fy nghorff yn gadarn wrth natur, ond yr wyf +yn gorfod cerdded allan rywfaint bob dydd, er mwyn ei gadw mewn trefn.</p> +<p>Bu holiad cyffredin yn ddiweddar ar holl aelodau ein Coleg ni. +Aethum drwyddo yn well nag yr oeddwn i na’m hathrawon yn disgwyl. +O hyn i wyl Mihangel nesaf, rhaid imi fyned drwy ffwrn boethach nag +a brofais eto,—cael fy holi ar gyhoedd o flaen yr holl Brif-ysgol, +am fy ngwybodaeth o’r Lladin a’r Roeg, a Rhesymeg. +Rhaid i mi hefyd ddysgu ysgrifeni Lladin mor rhwydd â Chymraeg. +Yr wyf yn fynych yn crynu wrth feddwl am y frawdle, yn enwedig wrth +weled cynnifer a gawsant eu dwyn i fyny yn yr ysgolion goreu o’u +mebyd, yn colli’r dydd. Y mae fy mhwys yn bennaf ar y Rhagluniaeth +oruchel a fu mor dyner tuay ataf hyd yn hyn. Y’mhellach, +yr wyf yn yslyried mai fy nyledswydd ataf fy hun—at fy nghynalwyr—ac +at y plwyfolion a gaf ryw dro, hwyrach, o dan fy ngofal—ydyw lloffa +cymaint ag a allaf o wybodaeth am bob dysg a chelfyddyd. Gwelodd +y caredig Mr. Clough a Mr. Phillips fy awyddfryd am bob hyfforddiad, +a chymerasant fi gyda hwynt i wrando y darlithoedd a draddodir gan ein +prif ddysgedigion ar y celfyddydau breiniol. Y diweddaf a glywais +oedd yr enwog Ddoctor Buckland, areithydd ar natur y ddaear, ei chreigydd +a’i meteloedd. Pan ddeuaf adref gallaf roddi i chwi rai +newyddion am weithiau glo a phlwm. Hawdd i chwi weled fod y gofalon +a’r gorchwylion hyn yn difa fy holl amser, ac nid hyn yw y cwbl. +Wrth aneddu yn Nhrefaldwyn a Rhydychen, ffurfais gydnabyddiaeth â +llawer o foneddigion,—rhai o honynt, o ran dysg a dawn, ym mhlith +y gwyr enwocaf yn y deyrnas. Nid oes boreu braidd yn myned heibio +nad wyf yn derbyn llythyr o ryw gwr neu gilydd i’r wlad. +Nid oes gennyf, gyda chwareu teg, amser i ateb un o honynt; ac os bydd +un gohebwr y gallaf hyderu ar ei gyfeillgarwch i beidio digio wrthyf, +yr wyf yn gadael iddo aros nes elo fy helbul yn yr athrofa heibio. +Fy mwriad yn myned dros yr holl bethau hyn ydyw, i ddangos i chwi a’m +hanwyl gyfeillion, Mr. Thomas Jones ac Isaac, yr unig achos na ysgrifenais +atoch oll lawer cyn hyn. Os gwelwch ddim yn yr hyn a ddywedais, +yn mynegi yr anrhydedd anisgwyliadwy a ddaeth i’m rhan, gwybyddwch +mai nid er mwyn cynhyrfu ymffrosl ynoch yr adroddais ef; ond yn hytrach +er eich annog i uno gyda mi mewn diolchgarwch i’r Duw a fu mor +dirion wrthyf. Bydd yn dda genych glywed fy mod i ac oddeutu hanner +dwsin o’m cyd-ysgolheigion wedi llwyddo i gael Cymdeithas Genadawl +fechan yn ein hathrofa. Yr ydym hefyd yn ymgyfarfod yn ystafelloedd +ein gilydd, yn olynol, ar nosau Sul, i ddarllen y Bibl a gweddio. +Nos Sul diweddaf yr oeddynt oll yn fy ystafell i: a phan byddo dadwrdd +cyfeddach yn taro ar ein clustiau o ystafelloedd eraill, gallwn ddweyd, +“Rhoddaist fwy llawenydd yn ein calon nag yr amser yr amlhaodd +eu bŷd a’u gwin hwynt.”</p> +<p>Hyfryd iawn oedd genyf glywed am ymwared fy anwyl chwaer. Cofiwch +fi ati yn garedig, at fy mrawd, yr holl blant, ac yn enwedig at y ferch +ddieithr. Buasai dda genyf allu anfon anrheg iddi hi a’i +mam, ond mae hynny yn bresenol o fy nghyrraedd. Gadewch iddo—mae’r +galon yn llawn, os yw’r pwrs yn wag. Byddwch gystal a rhoddi +y penhillion canlynol iddi yn lle <i>Valentine</i>:</p> +<p>Henffych, ferch, i fyd o ofid,<br /> + Byd y dagrau, byd y groes:<br /> +Agoraist lygad ar yr adfyd,<br /> + Ti gei flinder os cei oes.<br /> +Mae gwlad well tu draw i’r afon,—<br /> + Nes cael glan ar oror iach,<br /> +Rhag pob drwg, y Duw sy’n Sïon,<br /> + Fo’n dy noddi, Marged bach.</p> +<p>Mae’m dychymyg fel yn gwrando<br /> + P’un a glywaf mo dy sain,—<br /> +Gan holi’r awel sy’n mynd beibio,<br /> + A yw’th wyneb fel dy nain?<br /> +A oes eurwallt ar dy goryn?<br /> + A oes rhosyn ar dy rudd?<br /> +A pha dybiau sydd yn dirwyn<br /> + Drwy’th freuddwydion nos a dydd?</p> +<p>Pe bawn yna, anwyl faban,<br /> + Mi’th gofleidiwn gyda serch;<br /> +Ceit fy mendith am dy gusan,<br /> + Mi’th gyfrifwn fel fy merch:<br /> +Ac os try Rhaglumaeth olwyn<br /> + Fyth i’m dwyn i dir fy ngwlad,<br /> +Ti gei weled y gall rhywun<br /> + Garu ei nithoedd megis tad.</p> +<p>Yr wyf yn gyrru --- i Ruth: mae yn rhy fychan, ond y gwir yw hyn,—hyd +wyl Mihangel nesaf byddaf yn llwm iawn o arian; wedi hynny, caf dderbyn +swm ychwanegol yn y flwyddyn. Yna mi ofalaf am dalu eich rhent, +eich tir pytatws, a phesgi’r mochyn. Rhoddwch ddillad da +am Ruth . . . Unwaith eto, yr wyf yn eich tynghedu, na oddefwch eisiau +dim. Gyda bendith, nid oes perygl na allaf ei dalu yn ol ar ei +ganfed. Pa beth ydyw gwaith fy nhad? A ydyw’n esmwyth? +Cofiwch fi yn garedig at deulu Broncoed, a rhoddwch fy serch at fy hen +gyfeillion oll . . . Mae amser a phapur wedi pallu, y gloch yn taro +pedwar yn y borau—a’r ganwyll yn llosgi i’r ganwyllbren—ni +chaf ond dywedyd fy mod yn aros,</p> +<p>Eich dyledog fab,<br /> +J. BLACKWELL.</p> +<h3>CYWYDD Y GWAHAWDD:</h3> +<p>A anfonwyd mewn llythyr o wnhoddiad Medi 6ed, 1826, oddiwrth Ifor +Ceri, at Wilym Aled a’i Gywely.</p> +<p>Eto, Aled, atolwg<br /> +Gad si’r dre’, a mangre mŵg;<br /> +Gad Saeson, gwawd, a sisial<br /> +Arian, a thincian, a thâl;<br /> +Gad wbwb a gwau diball<br /> +Mammon i feibion y fall:<br /> +Rho i’th law,—pryd noswyliaw sydd,<br /> +Eleni un awr lonydd;<br /> +Gwamal i ti ogymaint<br /> +Hela myrdd, a holi maint<br /> +Ydyw gwerth yr indigo,<br /> +A ffwgws, heb ddiffygio,<br /> +Gan na cheir gennych hwyrach<br /> +Weled byth un Aled bach,<br /> +Na geneth, a drin geiniog<br /> +O dyrrau llawn dy aur llog.<br /> +O fewn llong tyrd tros gefn llwyd<br /> +Y <i>Mersey</i>, heb ddim arswyd,—<br /> +A’th gymar sydd werth gemau<br /> +Prysurwch, deuwch eich dau<br /> +I Geri, fan hawddgaraf,<br /> +Man gwâr, lle mae hwya’r hâf:<br /> +Mor loewlon y mae’r lili<br /> +A’r rhos yn eich aros chwi,<br /> +A phleth rydd yr adar fflwch,<br /> +Hyd awyr, pan y deuwch;<br /> +Cewch eich dau wenau uniawn<br /> +Ifor a Nest, fore a nawn:<br /> +(Yma diolch raid imi<br /> +“Amen dywed gyda mi,”<br /> +Ddwyn Ifor, gan Dduw nefol,<br /> +A’i wiw Nest, i Geri’n ol:)<br /> +At un Nest dda west, ddiwall,<br /> +Tyred a dy Nest arall;<br /> +Braint cyn bedd, cael medd a maeth<br /> +Maesaleg un mis helaeth;<br /> +Y mae sylwedd Maesaleg,<br /> +A’i dôr, yn y Geri deg.</p> +<p> Y mae un gwr mwy nag oll,<br /> +Awch digoll uwch ei degan:<br /> +Ifor bach sydd a’i ferw byth,<br /> +Drwy gofio yn dragyfyth;<br /> +“Mae’r gwr yn mhryd mebyd mau,<br /> +Enynnodd hen awenau<br /> +Y glyn, nes oedd bryn a bro,<br /> +A gwig las, yn gogleisio;<br /> +Ai pell—ai trapell y trig—y gwiwddyn<br /> +Fynnai delyn a cherdd fy Nadolig?”</p> +<p> Tyrd Aled, ira d’olwyn,<br /> +A thyrd i ddoldir a thwyn;<br /> +Ac awyr lem Ceri lân,<br /> +Perarogl copa’r Aran;<br /> +Gwrandaw sibrwd y ffrwd ffraw—rhwng deilfur,<br /> +Y dwr eglur yn trydar wrth dreiglaw;<br /> +Rhodio i wrando’r ehedydd,<br /> +Dringo’r bryn ar derfyn dydd;<br /> +Hufen Nest a chân Ifor,<br /> +A dŵr mad, drwy rad yr Ior,—<br /> +Wnant it’ neidio a gwisgo gwên,<br /> +Deui’n foch-goch,—doi’n fachgen.</p> +<p>Gan Alun, gwan wehelyth,<br /> +O fwrdd i fwrdd, wael fardd fyth,—<br /> +Gwely nid oes, nac aelwyd,<br /> +Na bir i’w gynnyg, na bwyd,—<br /> +Cei law a chalon lawen,<br /> +A mwy ni cheisi, Amen.</p> +<h3>DISADVANTAGES AND AIMS.</h3> +<p>TO R. GARNONS,</p> +<p><i>Jesus</i> <i>College</i>, <i>Oxford</i>,<br /> +<i>October</i> <i>2nd</i>, <i>1826</i>.</p> +<p>I can hardly hope, in four short years, to surmount the disadvantages +of my youth, and gain academical distinction. To him, who in his +20th year, learnt his Greek alphabet, a first class at College must +be a hopless aim; while an University prize must be beyond the reach +of one who merely began to speak English about his twentieth year. +Aware of these circumstances, the friends whom I consult have advised +me to collect (should necessary studies allow me leisure) as much as +I can of such information as will be useful to me in the sacred office +I shall be called upon to fill. What I shall lose in attainments, +I will endeavour to make up in Christian conduct. That God, who +is the sole Dispenser of all the blessings that has been showered upon +my path, claims my first duty. My next ambition will be to fulfil +my ministry with that zeal and decorum which characterize the spirit +of our venerable Establishment; while gratitude will prompt me to dedicate +my leisure hours to the literature of my native Principality.</p> +<p>That I may thus live, is my fervent prayer; and all I ask in addition, +is a situation where I may watch over the wants of my poor, but worthy +parents; and make as far as depends on human aid, their evening set +in smiles.</p> +<p>I am, Sir, your most obedient servant,<br /> +J. BLACKWELL.</p> +<h3>CALVINISM.</h3> +<p><i>To</i> <i>the</i> <i>Committee</i> <i>of</i> <i>the</i> <i>Welsh</i> +<i>Church</i> <i>in</i> <i>Liverpool</i>.<br /> +<i>Neptune</i> <i>Hotel</i>, <i>Liverpool</i>,<br /> +<i>July</i> <i>20th</i>, <i>1827</i>.</p> +<p>GENTLEMEN,</p> +<p>I was nurtured among Calvinists. To their Sunday School I am +indebted for almost all the education my youthful years were blessed +with. Towards some of them I was taught in infancy to look up +with reverence and esteem; and the recollection of their Christian virtues +proves to me that whatever tendency Calvinism may have to relax the +ties of moral obligation, the argument cannot be drawn from the lives +of many of its professors. With many Clergymen who take Calvinism +for their creed, I have still the happiness to live in bonds of Christian +friendship; but my respect for the men does not blind me to their opinions. +I am no Calvinist, and ever since I have been capable of forming a judgment +upon theological subjects, I have not been a Calvinist. The sincerity +of my attachment to our national Church cannot, I trust, be doubted. +I was made a member of her by Baptism, and ever since I have attained +to years of discretion, my public devotions have been offered up within +her pale. For many a dark year—long before the idea of my +being elevated to the clerical function had received a shadow of existence, +I had resolved to live and die an humble worshipper at her altar.</p> +<p>J. BLACKWELL.</p> +<h3>AT EI FAM, PAN OEDD WEDDW.</h3> +<p><i>Athrofa’r</i> <i>Iesu</i>, <i>Rhydychen</i>,<br /> +<i>Hyd</i>. <i>19eg</i> <i>1827</i>.</p> +<p>FY ANWYL FAM,</p> +<p>Fy nyledswydd ydyw hysbysu i chwi, gyda phob brys, fy mod wedi cyrraedd +pen fy nhaith yn gysurus, a chael pob peth wrth fy modd. Y mae +y cyflwr unig y gadewais chwi ynddo, yn peri i mi hiraethu mwy am danoch +y tro hwn nag un tro o’r blaen. Buasai yn dda gan fy nghalon +gael aros yn agos atoch nes i angeu ein gwahanu. Ond nid felly +y mae Rhagluniaeth yn trefnu: rhaid i ninnau ymostwng. O ddiwrnod +i ddiwrnod daw y flwyddyn i fyny, pan y caf eich gweled, gobeithio, +mewn gwell iechyd ac ysbrydoedd nag y gadewais chwi. Yn y cyfamser +erfyniaf arnoch, er dim, i gadw eich meddwl mor dawel ag y galloch: +ar hyn y mae eich cysur chwi a minnau yn ymddibynu. Ni wna tristhau +ac ymofidio ddim ond gwaethygu eich llygaid dolurus, a chlwyfo meddwl +y rhai a’ch carant. Digon gwir cawsom golled fawr,—collasom +y cyfaill ffyddlonaf a thirionaf a welsom erioed; eto “na thristawn +fel rhai heb obaith.” Oni adawodd dystiolaeth ar ei ol ei +fod wedi myned i ddedwyddwch—i wlad well na daear, “lle +y gorffwys y rhai lluddedig, ac ni chlywant lais y gorthrymydd.” +Ac os dilynwn ei lwybrau, ni a gawn ei gyfarfod eto mewn ardal nad oes +na phechod, na phoen, nag ymadawiad o’i mewn. “Gwir +ddymuniad fy nghalon, a’m gweddi ar Dduw sydd erddoch.”</p> +<h3>CWYN AR OL CYFAILL.</h3> +<p><i>Pan</i> <i>hirarosai</i> <i>yn</i> <i>Rhydychen</i>, <i>Mehefin</i>, +<i>1827</i>.</p> +<p>(Efelychiad o “Bugail Cwmdyli,” gan I. G. G.)</p> +<p>Trwy ba bleserau byd<br /> +Yr wyt yn crwydro c’yd?<br /> +Mae pleser fel y lli’,<br /> +A’r moethau goreu i mi<br /> +Yn wermod hebot ti,<br /> + Sior anwylaf.</p> +<p>Trwm wibio llygad llaith<br /> +Am danat yw fy ngwaith;<br /> +A rhodio godre’r bryn,<br /> +A gwyrddion lannau’r llyn,<br /> +Lle rhodit ti cyn hyn,<br /> + Sior anwylaf.</p> +<p>Mae peraidd flodau d’ardd<br /> +Yn gwywo fel dy fardd;<br /> +A’th ddefaid hyd y ddôl,<br /> +A’u gwirion ŵyn o’u hol<br /> +Yn gofyn ddo’i di’n ol,<br /> + Sior anwylaf.</p> +<p>Mae’n Nghymru laeth a mêl,<br /> +Mae’n Nghymru fron ddi-gêl,<br /> +Mae’n Nghymru un yn brudd<br /> +O’th eisiau, nôs a dydd,—<br /> +A’i gair wrth farw fydd,<br /> + Sior anwylaf.</p> +<h3>MARWOLAETH YR ESGOB HEBER.</h3> +<p>Lle treigla’r Caveri <a name="citation101"></a><a href="#footnote101">{101}</a> +yn donnau tryloewon,<br /> + Rhwng glennydd lle chwardd y pomgranad a’r pîn<br /> +Lle tyfa perlysiau yn llwyni teleidion,<br /> + Lle distyll eu cangau y neithdar a’r gwîn;<br /> +Eisteddai Hindoo ar lawr i alaru,<br /> +Ei ddagrau yn llif dros ei riddiau melynddu,<br /> +A’i fron braidd rhy lawn i’w dafod lefaru,<br /> + Ymdorrai ei alaeth fel hyn dros ei fin:—</p> +<p>“Fy ngwlad! O fy ngwlad, lle gorwedd fy nhadau!<br /> + Ai mangre y nos fyddi byth fel yn awr?<br /> +Y Seren a dybiais oedd Seren y borau,<br /> + Ar nawn ei disgleirdeb a syrthiodd i lawr;<br /> +Y dwyrain a wenai, y tymor tywynnodd,<br /> +A godrau y cwmwl cadduglyd oreurodd,<br /> +Disgwyliais am haul—ond y Seren fachludodd<br /> + Cyn i mi weled ond cysgod y wawr.</p> +<p>“Fy ngwlad! O fy ngwlad! yn ofer yr hidlwyd<br /> + I’th fynwes fendithion rhagorach nag un,<br /> +Yn ofer âg urdd bryd a phryd y’th anrhegwyd,<br /> + Cywreindeb i fab, a phrydferthwch i fun;<br /> +Yn ofer tywynni mewn gwedd ddigyfartal,<br /> +A blodau amryliw yn hulio dy anial,<br /> +A nentydd yn siarad ar wely o risial,<br /> + A pbob peth yn ddwyfol ond ysbryd y dyn.</p> +<p>“Yn ofer y tardd trwy dy dir heb eu gofyn<br /> + Ddillynion per anian yn fil ac yn fyrdd;<br /> +Yn ofer y gwisgwyd pob dôl a phob dyffryn<br /> + A dillad Paradwys yn wyn ac yn wyrdd;<br /> +Yn ofer rhoi awen o Nef i dy adar,<br /> +A gwythi o berl i fritho dy ddaear;<br /> +Yn ofer pob dawn tra mae bonllef a thrydar<br /> + Yr angrhed a’i anrhaith yn llenwi dy ffyrdd.</p> +<p>“Dy goelgrefydd greulon wna d’ardd yn anialdir,<br /> + Ei sylfaen yw gwaed, a gorthrymder a cham:<br /> +Pa oergri fwrlymaidd o’r Ganges <a name="citation102a"></a><a href="#footnote102a">{102a}</a> +a glywir?<br /> + Maban a foddwyd gan grefydd y fam:<br /> +Ond gwaddod y gwae iddi hithau ddaw heibio;<br /> +O! dacw’r nen gan y goelcerth yn rhuddo,<br /> +Ac uchel glogwyni y Malwah <a name="citation102b"></a><a href="#footnote102b">{102b}</a> +’n adseinio<br /> + Gan ddolef y weddw o ganol y fflam.</p> +<p>“Gobeithiais cyn hyn buasai enw Duw Israel,<br /> + A’r aberth anfeidrol ar ael Calfari,<br /> +Yn destun pob cerddi o draeth Coromandel,<br /> + A chonglau Bengal hyd i eithaf Tickree; <a name="citation102c"></a><a href="#footnote102c">{102c}</a><br /> +Ac onid oedd Bramah yn crynu ar ei cherbyd,<br /> +Er y pryd y bu Swartz yn cyhoeddi fod bywyd<br /> +Yn angau y groes i Baganiaid dwyreinfyd?—<br /> + Pan gredodd fy nhad yr hyn ddysgodd i mi. <a name="citation102d"></a><a href="#footnote102d">{102d}</a></p> +<p>“A’th ddoniau yn nwch, ac yn uwch dy sefyllfa,<br /> + A’th enaid yn dân o enyniad y Nef,<br /> +Cyhoeddaist ti, Heber, yr unrhyw ddiangfa,<br /> + Gyda’r un serch ac addfwynder ag ef;<br /> +Dyferai fel gwlith ar y rhos dy hyawdledd,<br /> +Enillai’r digred at y groes a’r gwirionedd,<br /> +Llonyddai’r gydwybod mewn nefol drugaredd;—<br /> + Mor chwith na chaf mwyach byth glywed dy lef.</p> +<p>“Doe i felynion a gwynion yn dryfrith,<br /> + Cyfrenit elfennau danteithion y nen;<br /> +Y plant a feithrinit neshaent am dy fendith,<br /> + A gwenent wrth deimlo dy law ar eu pen;<br /> +Doe y datgenit fod Nef i’r trallodus—<br /> +Heddyw ffraethineb sy’ fud ar dy wefus—<br /> +Ehedaist o’r ddaear heb wasgfa ofidus,<br /> + I weled dy Brynwr heb gwmwl na llen. <a name="citation103a"></a><a href="#footnote103a">{103a}</a></p> +<p>’Fy ngwlad! O fy ngwlad! bu ddrwg i ti’r diwrnod<br /> + ’Raeth Heber o rwymau marwoldeb yn rhydd;<br /> +Y grechwen sy’n codi o demlau’r eulunod,<br /> + Ac uffern yn ateb y grechwen y sydd;<br /> +Juggernaut <a name="citation103b"></a><a href="#footnote103b">{103b}</a> +erch barotoa’i olwynion—<br /> +Olwynion a liwir gan gochwaed dy feibion—<br /> +Duodd y nos—ac i deulu Duw Sïon<br /> + Diflannodd pob gobaith am weled y dydd.”</p> +<p>Yn araf, fy mrawd, paid, paid anobeithio,<br /> + Gwnai gam âg addewid gyfoethog yr IÔR:<br /> +A ddiffydd yr haul am i seren fachludo?<br /> + Os pallodd yr aber, a sychodd y môr?<br /> +Na, na, fe ddaw bore bydd un Haleluia,<br /> +Yn ennyn o’r Gauts hyd gopâu Himalaya, <a name="citation104a"></a><a href="#footnote104a">{104a}</a><br /> +Bydd baner yr Oen ar bob clogwyn yn India,<br /> + O aelgerth Cashgur hyd i garth Travancore.</p> +<p>A hwyrach mai d’wyrion a gasglant dy ddelwau<br /> + A fwrir i’r wâdd ar bob twmpath a bryn,<br /> +Ar feddrod ein Heber i’w rhoi yn lle blodau,—<br /> + Ei gyfran o ysbail ddymunodd cyn hyn:<br /> +Heber! ei enw ddeffrodd alarnadau,<br /> +Gydymaith mewn galar, rho fenthyg dy dannau,<br /> +Cymysgwn ein cerddi, cymysgwn ein dagrau,<br /> + Os dinôdd y gerdd bydd y llygad yn llyn.</p> +<p>Yn anterth dy lwydd, Heber, syrthiaist i’r beddrod,<br /> + Cyn i dy goryn ddwyn un blewyn brith;<br /> +Yn nghanol dy lesni y gwywaist i’r gwaelod,<br /> + A’th ddeilen yn îr gan y wawrddydd a’r +gwlith:<br /> +Mewn munyd newidiaist y meitr am goron,<br /> +A’r fantell esgobawl am wisg wen yn Sïon,<br /> +Ac acen galarnad am hymn anfarwolion,<br /> + A thithau gymysgaist dy hymn yn eu plith.</p> +<p>Llwyni Academus, <a name="citation104b"></a><a href="#footnote104b">{104b}</a> +cynorsaf dy lwyddiant,<br /> + Lle gwridaist wrth glod y dysgedig a’r gwâr;<br /> +Y cangau a eiliaist a droed yn adgofiant<br /> + O alar ac alaeth i’r lluoedd a’th gâr:<br /> +Llygaid ein ieuenctid, a ddysgwyd i’th hoffi,<br /> +Wrth weled dy ardeb yn britho ffenestri<br /> +A lanwant, gan gofio fod ffrydiau Caveri<br /> + Yn golchi dy fynwent wrth draeth Tanquebar.</p> +<p>Llaith oedd dy fin gan wlithoedd Castalia,<br /> + O Helicon yfaist ym more dy oes;<br /> +Ond hoffaist wlith Hermon a ffrydiau Siloa,<br /> + A swyn pob testynau daearol a ffoes:<br /> +Athrylith, Athroniaeth, a dysg yr Awenau,<br /> +A blethent eu llawryf o gylch dy arleisiau;<br /> +Tithau’n ddi-fôst a dderbyniaist eu cedau,<br /> + I’w hongian yn offrwm ar drostan y Groes.</p> +<p>Pan oedd byd yn agor ei byrth i dy dderbyn,<br /> + Gan addaw pob mwyniant os unit âg ef,—<br /> +Cofleidiaist y Groes, a chyfrifaist yn elyn<br /> + Bob meddwl a geisiai fynd rhyngot a’r nef:<br /> +Yn Hodnet <a name="citation105"></a><a href="#footnote105">{105}</a> +yn hir saif dy enw ar galonnau<br /> +Y diriaid ddychwelwyd yn saint trwy’th bregethau—<br /> +Amddifad gadd borth yn dy briod a thithau—<br /> + Y weddw a noddaist—y wan wneist yn gref.</p> +<p>Gadewaist a’th garant—yn ysbryd Cenadwr<br /> + Y nofiaist tros donnau trochionog y môr,<br /> +I ddatgan fod Iesu yn berffaith Waredwr<br /> + I Vahmond Delhi, ac i Frahmin Mysore;<br /> +Daeth bywyd ac adnerth i Eglwys y Dwyrain—<br /> +Offrymwyd ar allor Duw Israel a Phrydain—<br /> +Yn nagrau a galar Hindoo gallwn ddarllain<br /> + Na sengaist ti India heb gwmni dy IÔR.</p> +<p>O Gôr Trichinopoly, cadw di’n ddiogel<br /> + Weddillion y Sant i fwynhau melus hun,<br /> +Pan ferwo y weilgi ar lan Coromandel,<br /> + Gofynnir adfeilion ei babell bob un;—<br /> +Ond tawed ein pruddgerdd am bennill melusach,<br /> +A ganodd ein Heber ar dannau siriolach,<br /> +Yn arwyl y Bardd â pha odlau cymhwysach<br /> + Dilynir ei elor na’i odlau ei hun?</p> +<p>“Diangaist i’r bedd—ni alarwn am danad,<br /> + Er mai trigfa galar a niwl ydyw’r bedd;<br /> +Agorwyd ei ddorau o’r blaen gan dy Geidwad,<br /> + A’i gariad gwna’r ddunos yn ddiwrnod o hedd.<br /> +Diangaist i’r bedd—ac ni welwn di mwyach<br /> +Yn dringo rhiw bywyd trwy ludded a phoen:<br /> +Ond breichiau rhad râs a’th gofleidiant ti bellach,<br /> + Daeth gobaith i’r euog pan drengodd yr Oen.</p> +<p>“Diangaist i’r bedd—ac wrth adael marwoldeb<br /> + Rhwng hyder ac ofn, os unwaith petrusaist,<br /> +Dy lygaid agorwyd yn nydd tragwyddoldeb,<br /> + Ac angel a ganodd yr Anthem a glywaist.<br /> +Diangaist i’r bedd—byddai’n bechod galaru,<br /> +At Dduw y diangaist—y Duw a dy roes:<br /> +Efe a’th gymerodd—Efe wna’th adferu<br /> + Digolyn yw angau trwy angau y groes.”</p> +<p>* * * * *</p> +<p>Cyfieithiad yw’r ddau bennill olaf o emyn Heber ei hun,—</p> +<p>“Thou art gone to the grave, but we will not deplore thee,<br /> +Though sadness and sorrow encompass the tomb.”</p> +<h3>SEREN BETHLEHEM.</h3> +<p>(Cyfieithiad o Saesoneg H. K. White.)</p> +<p>Pan bo sêr anhraethol nifer<br /> + Yn britho tywyll lenni’r nen,<br /> +At <i>un</i> yn unig drwy’r eangder<br /> + Y tâl i’r euog godi ei ben;<br /> +Clywch! Hosanna’n felus ddwndwr<br /> + Red i Dduw o em i em,<br /> +Ond <i>un</i> sy’n datgan y Gwaredwr,<br /> + Honno yw Seren Bethlehem.</p> +<p>Unwaith hwyliais ar y cefnfor<br /> + A’r ’storm yn gerth, a’r nos yn ddu,<br /> +Minnau heb na llyw, nac angor,<br /> + Na gwawr, na gobaith o un tu,<br /> +Nerth a dyfais wedi gorffen,<br /> + Dim ond soddi yn fy nhrem,<br /> +Ar fy ing y cododd seren,<br /> + Seren nefol Bethlehem.</p> +<p>Bu’n llusern a thywysydd imi,<br /> + Lladdodd ofn y dyfrllyd fedd,<br /> +Ac o erchyll safn y weilgi<br /> + Dug fi i borthladd dwyfol hedd;—<br /> +Mae’n awr yn deg, a minnau’n canu,<br /> + F’achub o’r ystorom lem,<br /> +A chanaf pan bo’r byd yn ffaglu<br /> + Seren! Seren! Bethlehem!</p> +<h3>AT MANOR DEIFI.</h3> +<p>TO E. WHITLEY, ESQ., BRONCOED.</p> +<p><i>Cardigan</i>, <i>March</i> <i>30th</i>, <i>1835</i>.</p> +<p>MY EVER DEAR SIR,</p> +<p>Old recollections—and recollections dearer for being old—make +Broncoed and the name of Whitley much dearer to my memory and heart +than other names and places. My own former humble home is now +another’s,—I know it no more; and there is scarcely a house +now in the parish into which I would venture to turn besides yours, +your cousin’s, Mr. Clough’s and two or three more. +Yet, I feel a tie between me and Mold and its inhabitants, which nothing +but death can unloose. There lies the grave of my dear, though +poor parents, and there burst the dawn of my brightest days. The +same Providence which smiled upon the beginning of my happier years, +continues kind still. I have indeed abundant reason to thank heaven +for the many, many blessings which have been showered upon my path; +nor do I forget the kind hands which were employed in showering them, +and your own amongst the number.</p> +<p>When I first came to Manordeifi, there was but one service on the +Sunday, and that almost entirely in Welsh. Seeing that five of +the principal families in Pembrokeshire were under my pastoral care, +and that neither themselves nor their dependants understood any Welsh, +I established two services, one entirely English, the other exclusively +in our beloved Welsh.</p> +<h3>CATHL I’R EOS.</h3> +<p>Pan guddio nos ein daear gu<br /> + O dan ei du adenydd,<br /> +Y clywir dy delori mwyn,<br /> + A chôr y llwyn yn llonydd;<br /> +Ac os bydd pigyn dan dy fron<br /> + Yn peri i’th galon guro,<br /> +Ni wnai, nes torro’r wawrddydd hael,<br /> + Ond canu a gadael iddo.</p> +<p>A thebyg it’ yw’r feinir wâr<br /> + Sydd gymar gwell na gemau,<br /> +Er cilio haul, a hulio bro<br /> + A miloedd o gymylau;<br /> +Pan dawo holl gysurwyr dydd,<br /> + Hi lyna yn ffyddlonaf;<br /> +Yn nyfnder nos o boen a thrais<br /> + Y dyry lais felusaf.</p> +<p>Er dichon fod ei chalon wan<br /> + Yn delwi dan y dulid,<br /> +Ni chwyna, i flino’i hanwyl rai,—<br /> + Ei gwên a guddia’i gofid:<br /> +Ni pheidia’i chân trwy ddunos faith,<br /> + Nes gweled gobaith goleu<br /> +Yn t’wynu, megys llygad aur,<br /> + Trwy bur amrantau’r boreu.</p> +<h3>ABAD-DY TINTERN.</h3> +<p>Pa sawl bron a oerodd yma?<br /> + Pa sawl llygad ga’dd ei gloi?<br /> +Pa sawl un sydd yn y gladdfa,<br /> + A’r cof o honynt wedi ffoi?<br /> +Pa sawl gwaith, ar wawr a gosber<br /> + Swniai’r gloch ar hyd y glyn?<br /> +Pa sawl <i>Ave</i>, cred a phader,<br /> + Dd’wedwyd rhwng y muriau hyn?</p> +<p>Ar y gareg sydd gyferbyn,<br /> + A faluriwyd gan yr hin,<br /> +Tybiaf weld, o flaen ei eilun,<br /> + Ryw bererin ar ei lin;<br /> +Tybiaf fod y mwg o’r thuser<br /> + Eto’n codi’n golofn wen,<br /> +A bod swn yr organ seinber<br /> + Eto yn dadseinio’r nen.</p> +<p>Ond Distawrwydd wnaeth ei phabell<br /> + Lle cartrefai’r anthem gynt;<br /> +Nid oes yma, o gor i gangell,<br /> + Un erddygan, ond y gwynt.—<br /> +Felly darffo pob coel-grefydd,<br /> + Crymed byd ger bron y Gwir;<br /> +Hedd a chariad, ar eu cynnydd,<br /> + Fo’n teyrnasu tros y tir.</p> +<h3>CAN GWRAIG Y PYSGOTWR.</h3> +<p>Gorffwys donn, dylifa’n llonydd,<br /> +Paid a digio wrth y creigydd;<br /> +Y mae anian yn noswylio,<br /> +Pa’m y byddi di yn effro?<br /> +Dwndwr daear sydd yn darfod,—<br /> +Cysga dithau ar dy dywod.</p> +<p>Gorffwys for! mae ar dy lasdon<br /> +Un yn dwyn serchiadau ’nghalon;<br /> +Nid ei ran yw bywyd segur,<br /> +Ar dy lifiant mae ei lafur;<br /> +Bydd dda wrtho, for diddarfod,<br /> +Cysga’n dawel ar dy dywod.</p> +<p>Paid a grwgnach, bydd yn ddiddig,<br /> +Dyro ffrwyn ym mhen dy gesig;<br /> +A pha esgus iti ffromi?<br /> +Nid oes gwynt ym mrig y llwyni:<br /> +Tyrd a bad fy ngwr i’r diddos<br /> +Cyn cysgodion dwfn y ceunos.</p> +<p>Iawn i wraig yw teimlo pryder<br /> +Pan bo’i gwr ar gefn y dyfnder;<br /> +Ond os cyffry dig dy donnau,<br /> +Pwy a ddirnad ei theimladau?<br /> +O bydd dirion wrth fy mhriod,—<br /> +Cysga’n dawel ar dy dywod.</p> +<p>Byddar ydwyt i fy ymbil,<br /> +For didostur, ddofn dy grombil;<br /> +Trof at Un a all dy farchog<br /> +Pan bo’th donnau yn gynddeiriog;<br /> +Cymer Ef fy ngwr i’w gysgod,<br /> +A gwna di’n dawel ar dy dywod.</p> +<p style="text-align: center"> +<a href="images/alun105b.jpg"> +<img alt="Gwraig y Pysgotwr. “Gorffwys fôr, mae ar dy lasdonUn yn dwyn serchiadau ’nghalon.”" src="images/alun105s.jpg" /> +</a></p> +<h3>Y DDEILEN GRIN</h3> +<p>Sech yw’r ddeilen ar y brigyn,<br /> +Buan iawn i’r llaid y disgyn;<br /> +Ond y meddwl call a ddarllen<br /> +Wers o addysg ar y ddeilen.</p> +<p>Unwaith chwarddodd mewn gwyrddlesni,<br /> +Gwawr y nef orftwysodd arni;<br /> +Gyda myrddiwn o gyfeillion,<br /> +Dawnsiodd yn yr hwyr awelon.</p> +<p>Darfu’r urdd oedd arni gynnau,<br /> +Prin y deil dan wlith y borau,<br /> +Cryna rhag y chwa ireiddlon<br /> +Sydd yn angeu i’w chyfoedion.</p> +<p>Ni all haul er ymbelydru,<br /> +Na llawn lloer er ei hariannu,<br /> +Ac ni all yr awel dyner<br /> +Alw yn ol ei hen ireidd-der.</p> +<p>Blaguro ychydig oedd ei chyfran,<br /> +Rhoi un wên ar wyneb anian;<br /> +Llef o’r nef yn Hydref waedda—<br /> +Darfu’th waith,”—a hithau drenga.</p> +<h2>Footnotes:</h2> +<p><a name="footnote1a"></a><a href="#citation1a">{1a}</a> O wawl-arluniau +gan y diweddar John Thomas.</p> +<p><a name="footnote1b"></a><a href="#citation1b">{1b}</a> O wawl-arluniau +gan y diweddar John Thomas.</p> +<p><a name="footnote1c"></a><a href="#citation1c">{1c}</a> O wawl-arluniau +gan y diweddar John Thomas.</p> +<p><a name="footnote1d"></a><a href="#citation1d">{1d}</a> O wawl-arluniau +gan y diweddar John Thomas.</p> +<p><a name="footnote26"></a><a href="#citation26">{26}</a> Cyfeiriad +at farwolaeth echrydus Iorwerth II. Cym. <i>The</i> <i>Bard</i>, +Gray.</p> +<p><a name="footnote27"></a><a href="#citation27">{27}</a> Man +y llofruddiwyd llawer o hil Edward.</p> +<p><a name="footnote28"></a><a href="#citation28">{28}</a> Harri +VII., buddugwr Bosworth.</p> +<p><a name="footnote33"></a><a href="#citation33">{33}</a> Yr +arwyddair dan Loer arian y Twrc yw,—“Nes llenwi hol ddaear.”</p> +<p><a name="footnote45a"></a><a href="#citation45a">{45a}</a> +Flodden Field, by Sir Walter Scott.</p> +<p><a name="footnote45b"></a><a href="#citation45b">{45b}</a> +Siege of Corinth, by Lord Byron; and Siege of Valencia, by Mrs. Hemans.</p> +<p><a name="footnote47"></a><a href="#citation47">{47}</a> The +English Channel.</p> +<p><a name="footnote53"></a><a href="#citation53">{53}</a> Hesperus, +the evening star.</p> +<p><a name="footnote101"></a><a href="#citation101">{101}</a> +Caveri.—Afon yn Ngorllewin Hindostan, a lifa heibio Trichinopoly, +claddfa yr Esgob Heber, ac a ymarllwysa i fôr Coromandel wrth +Tranquebar.</p> +<p><a name="footnote102a"></a><a href="#citation102a">{102a}</a> +Ganges—prif afon India—gwrthddrych addoliad y Brahminiaid. +Cyffredin ydyw i wragedd daflu eu mabanod i’w thonnau er mwyn +boddio y duw Himalaya, a elwir yn Dad y Ganges.</p> +<p><a name="footnote102b"></a><a href="#citation102b">{102b}</a> +Y Malwah.—Rhes o fynyddoedd uchel yng nghanol Hindostan. +Nid yw cyngor na cherydd Prydeiniaid yn gallu rhwystro yr arfer greulon +gynhwynol o losgi gweddwon byw gyda’u gwyr meirw.</p> +<p><a name="footnote102c"></a><a href="#citation102c">{102c}</a> +Nid anghyffelyb Hindostan i drionglyn, Coromandel, Tickree, a Bengal, +ydynt y conglau.</p> +<p><a name="footnote102d"></a><a href="#citation102d">{102d}</a> +Tybir bod tua 40,000 o Gristionogion, ond bod mwy na’u hanner +yn Babyddion, yn y Carnatic. Nid yw prin werth crybwyll mai un +o hil dyscyblion Swartz, cenadwr enwog tua chan’ mlynedd yn ol, +ydyw yr Hindoo a ddychymyga yr Alarnad.</p> +<p><a name="footnote103a"></a><a href="#citation103a">{103a}</a> +Angeu disyfyd a gymerodd Heber ymaith tra y mwynhai drochfa dwymn. +Y dydd o’r blaen—y Sabbath—cyflawnai ddyledswyddau +ei daith esgobawl.</p> +<p><a name="footnote103b"></a><a href="#citation103b">{103b}</a> +Juggernaut—un o eilunod pennaf Hindostan. Ar ei gylchwyl +llusgir ef ar gert enfawr i ymweled â’i hafoty. Ymdafla +miloedd o’i addolwyr dan ei olwynion trymion, ac yno y llethir +hwynt.</p> +<p><a name="footnote104a"></a><a href="#citation104a">{104a}</a> +Gauts—mynyddoedd uchel wrth Travancore, penrhyn deheuol.—Himalaya, +mynyddoedd uwch, wrth Cashgur, penrhyn gogleddol Hindostan.</p> +<p><a name="footnote104b"></a><a href="#citation104b">{104b}</a> +Llwyni Academus. Nid oes ond a wypo a ddichon ddychymygu y parch +a dalwyd yn Rhydychen i Heber, ar parch a delir eto i’w enw. +Yno y daeth gyntaf i wydd yr oes drwy ei Balestine, a gyfieithwyd i’r +Gymraeg mor ardaerchog gan yr unig wr cyfaddas i’r gorchwyl—yr +enwocaf Gymro, Dr. Pughe.</p> +<p><a name="footnote105"></a><a href="#citation105">{105}</a> +Hodnet—yn Amwythig—yno y cyflawnai Heber swydd Bugail Cristionogol +yn ddifefl hyd ei symudiad i India.</p> +<p>***END OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK GWAITH ALUN***</p> +<pre> + + +***** This file should be named 14865-h.htm or 14865-h.zip****** + + +This and all associated files of various formats will be found in: +https://www.gutenberg.org/dirs/1/4/8/6/14865 + + + +Updated editions will replace the previous one--the old editions +will be renamed. + +Creating the works from public domain print editions means that no +one owns a United States copyright in these works, so the Foundation +(and you!) can copy and distribute it in the United States without +permission and without paying copyright royalties. Special rules, +set forth in the General Terms of Use part of this license, apply to +copying and distributing Project Gutenberg-tm electronic works to +protect the PROJECT GUTENBERG-tm concept and trademark. Project +Gutenberg is a registered trademark, and may not be used if you +charge for the eBooks, unless you receive specific permission. If you +do not charge anything for copies of this eBook, complying with the +rules is very easy. You may use this eBook for nearly any purpose +such as creation of derivative works, reports, performances and +research. They may be modified and printed and given away--you may do +practically ANYTHING with public domain eBooks. Redistribution is +subject to the trademark license, especially commercial +redistribution. + + + +*** START: FULL LICENSE *** + +THE FULL PROJECT GUTENBERG LICENSE +PLEASE READ THIS BEFORE YOU DISTRIBUTE OR USE THIS WORK + +To protect the Project Gutenberg-tm mission of promoting the free +distribution of electronic works, by using or distributing this work +(or any other work associated in any way with the phrase "Project +Gutenberg"), you agree to comply with all the terms of the Full Project +Gutenberg-tm License (available with this file or online at +https://gutenberg.org/license). + + +Section 1. General Terms of Use and Redistributing Project Gutenberg-tm +electronic works + +1.A. By reading or using any part of this Project Gutenberg-tm +electronic work, you indicate that you have read, understand, agree to +and accept all the terms of this license and intellectual property +(trademark/copyright) agreement. If you do not agree to abide by all +the terms of this agreement, you must cease using and return or destroy +all copies of Project Gutenberg-tm electronic works in your possession. +If you paid a fee for obtaining a copy of or access to a Project +Gutenberg-tm electronic work and you do not agree to be bound by the +terms of this agreement, you may obtain a refund from the person or +entity to whom you paid the fee as set forth in paragraph 1.E.8. + +1.B. "Project Gutenberg" is a registered trademark. It may only be +used on or associated in any way with an electronic work by people who +agree to be bound by the terms of this agreement. There are a few +things that you can do with most Project Gutenberg-tm electronic works +even without complying with the full terms of this agreement. See +paragraph 1.C below. There are a lot of things you can do with Project +Gutenberg-tm electronic works if you follow the terms of this agreement +and help preserve free future access to Project Gutenberg-tm electronic +works. See paragraph 1.E below. + +1.C. The Project Gutenberg Literary Archive Foundation ("the Foundation" +or PGLAF), owns a compilation copyright in the collection of Project +Gutenberg-tm electronic works. Nearly all the individual works in the +collection are in the public domain in the United States. If an +individual work is in the public domain in the United States and you are +located in the United States, we do not claim a right to prevent you from +copying, distributing, performing, displaying or creating derivative +works based on the work as long as all references to Project Gutenberg +are removed. Of course, we hope that you will support the Project +Gutenberg-tm mission of promoting free access to electronic works by +freely sharing Project Gutenberg-tm works in compliance with the terms of +this agreement for keeping the Project Gutenberg-tm name associated with +the work. You can easily comply with the terms of this agreement by +keeping this work in the same format with its attached full Project +Gutenberg-tm License when you share it without charge with others. + +1.D. The copyright laws of the place where you are located also govern +what you can do with this work. Copyright laws in most countries are in +a constant state of change. If you are outside the United States, check +the laws of your country in addition to the terms of this agreement +before downloading, copying, displaying, performing, distributing or +creating derivative works based on this work or any other Project +Gutenberg-tm work. The Foundation makes no representations concerning +the copyright status of any work in any country outside the United +States. + +1.E. Unless you have removed all references to Project Gutenberg: + +1.E.1. The following sentence, with active links to, or other immediate +access to, the full Project Gutenberg-tm License must appear prominently +whenever any copy of a Project Gutenberg-tm work (any work on which the +phrase "Project Gutenberg" appears, or with which the phrase "Project +Gutenberg" is associated) is accessed, displayed, performed, viewed, +copied or distributed: + +This eBook is for the use of anyone anywhere at no cost and with +almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or +re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included +with this eBook or online at www.gutenberg.org + +1.E.2. If an individual Project Gutenberg-tm electronic work is derived +from the public domain (does not contain a notice indicating that it is +posted with permission of the copyright holder), the work can be copied +and distributed to anyone in the United States without paying any fees +or charges. If you are redistributing or providing access to a work +with the phrase "Project Gutenberg" associated with or appearing on the +work, you must comply either with the requirements of paragraphs 1.E.1 +through 1.E.7 or obtain permission for the use of the work and the +Project Gutenberg-tm trademark as set forth in paragraphs 1.E.8 or +1.E.9. + +1.E.3. If an individual Project Gutenberg-tm electronic work is posted +with the permission of the copyright holder, your use and distribution +must comply with both paragraphs 1.E.1 through 1.E.7 and any additional +terms imposed by the copyright holder. Additional terms will be linked +to the Project Gutenberg-tm License for all works posted with the +permission of the copyright holder found at the beginning of this work. + +1.E.4. Do not unlink or detach or remove the full Project Gutenberg-tm +License terms from this work, or any files containing a part of this +work or any other work associated with Project Gutenberg-tm. + +1.E.5. Do not copy, display, perform, distribute or redistribute this +electronic work, or any part of this electronic work, without +prominently displaying the sentence set forth in paragraph 1.E.1 with +active links or immediate access to the full terms of the Project +Gutenberg-tm License. + +1.E.6. You may convert to and distribute this work in any binary, +compressed, marked up, nonproprietary or proprietary form, including any +word processing or hypertext form. However, if you provide access to or +distribute copies of a Project Gutenberg-tm work in a format other than +"Plain Vanilla ASCII" or other format used in the official version +posted on the official Project Gutenberg-tm web site (www.gutenberg.org), +you must, at no additional cost, fee or expense to the user, provide a +copy, a means of exporting a copy, or a means of obtaining a copy upon +request, of the work in its original "Plain Vanilla ASCII" or other +form. Any alternate format must include the full Project Gutenberg-tm +License as specified in paragraph 1.E.1. + +1.E.7. Do not charge a fee for access to, viewing, displaying, +performing, copying or distributing any Project Gutenberg-tm works +unless you comply with paragraph 1.E.8 or 1.E.9. + +1.E.8. You may charge a reasonable fee for copies of or providing +access to or distributing Project Gutenberg-tm electronic works provided +that + +- You pay a royalty fee of 20% of the gross profits you derive from + the use of Project Gutenberg-tm works calculated using the method + you already use to calculate your applicable taxes. The fee is + owed to the owner of the Project Gutenberg-tm trademark, but he + has agreed to donate royalties under this paragraph to the + Project Gutenberg Literary Archive Foundation. Royalty payments + must be paid within 60 days following each date on which you + prepare (or are legally required to prepare) your periodic tax + returns. Royalty payments should be clearly marked as such and + sent to the Project Gutenberg Literary Archive Foundation at the + address specified in Section 4, "Information about donations to + the Project Gutenberg Literary Archive Foundation." + +- You provide a full refund of any money paid by a user who notifies + you in writing (or by e-mail) within 30 days of receipt that s/he + does not agree to the terms of the full Project Gutenberg-tm + License. You must require such a user to return or + destroy all copies of the works possessed in a physical medium + and discontinue all use of and all access to other copies of + Project Gutenberg-tm works. + +- You provide, in accordance with paragraph 1.F.3, a full refund of any + money paid for a work or a replacement copy, if a defect in the + electronic work is discovered and reported to you within 90 days + of receipt of the work. + +- You comply with all other terms of this agreement for free + distribution of Project Gutenberg-tm works. + +1.E.9. If you wish to charge a fee or distribute a Project Gutenberg-tm +electronic work or group of works on different terms than are set +forth in this agreement, you must obtain permission in writing from +both the Project Gutenberg Literary Archive Foundation and Michael +Hart, the owner of the Project Gutenberg-tm trademark. Contact the +Foundation as set forth in Section 3 below. + +1.F. + +1.F.1. Project Gutenberg volunteers and employees expend considerable +effort to identify, do copyright research on, transcribe and proofread +public domain works in creating the Project Gutenberg-tm +collection. Despite these efforts, Project Gutenberg-tm electronic +works, and the medium on which they may be stored, may contain +"Defects," such as, but not limited to, incomplete, inaccurate or +corrupt data, transcription errors, a copyright or other intellectual +property infringement, a defective or damaged disk or other medium, a +computer virus, or computer codes that damage or cannot be read by +your equipment. + +1.F.2. LIMITED WARRANTY, DISCLAIMER OF DAMAGES - Except for the "Right +of Replacement or Refund" described in paragraph 1.F.3, the Project +Gutenberg Literary Archive Foundation, the owner of the Project +Gutenberg-tm trademark, and any other party distributing a Project +Gutenberg-tm electronic work under this agreement, disclaim all +liability to you for damages, costs and expenses, including legal +fees. YOU AGREE THAT YOU HAVE NO REMEDIES FOR NEGLIGENCE, STRICT +LIABILITY, BREACH OF WARRANTY OR BREACH OF CONTRACT EXCEPT THOSE +PROVIDED IN PARAGRAPH F3. YOU AGREE THAT THE FOUNDATION, THE +TRADEMARK OWNER, AND ANY DISTRIBUTOR UNDER THIS AGREEMENT WILL NOT BE +LIABLE TO YOU FOR ACTUAL, DIRECT, INDIRECT, CONSEQUENTIAL, PUNITIVE OR +INCIDENTAL DAMAGES EVEN IF YOU GIVE NOTICE OF THE POSSIBILITY OF SUCH +DAMAGE. + +1.F.3. LIMITED RIGHT OF REPLACEMENT OR REFUND - If you discover a +defect in this electronic work within 90 days of receiving it, you can +receive a refund of the money (if any) you paid for it by sending a +written explanation to the person you received the work from. If you +received the work on a physical medium, you must return the medium with +your written explanation. The person or entity that provided you with +the defective work may elect to provide a replacement copy in lieu of a +refund. If you received the work electronically, the person or entity +providing it to you may choose to give you a second opportunity to +receive the work electronically in lieu of a refund. If the second copy +is also defective, you may demand a refund in writing without further +opportunities to fix the problem. + +1.F.4. Except for the limited right of replacement or refund set forth +in paragraph 1.F.3, this work is provided to you 'AS-IS', WITH NO OTHER +WARRANTIES OF ANY KIND, EXPRESS OR IMPLIED, INCLUDING BUT NOT LIMITED TO +WARRANTIES OF MERCHANTIBILITY OR FITNESS FOR ANY PURPOSE. + +1.F.5. Some states do not allow disclaimers of certain implied +warranties or the exclusion or limitation of certain types of damages. +If any disclaimer or limitation set forth in this agreement violates the +law of the state applicable to this agreement, the agreement shall be +interpreted to make the maximum disclaimer or limitation permitted by +the applicable state law. The invalidity or unenforceability of any +provision of this agreement shall not void the remaining provisions. + +1.F.6. INDEMNITY - You agree to indemnify and hold the Foundation, the +trademark owner, any agent or employee of the Foundation, anyone +providing copies of Project Gutenberg-tm electronic works in accordance +with this agreement, and any volunteers associated with the production, +promotion and distribution of Project Gutenberg-tm electronic works, +harmless from all liability, costs and expenses, including legal fees, +that arise directly or indirectly from any of the following which you do +or cause to occur: (a) distribution of this or any Project Gutenberg-tm +work, (b) alteration, modification, or additions or deletions to any +Project Gutenberg-tm work, and (c) any Defect you cause. + + +Section 2. Information about the Mission of Project Gutenberg-tm + +Project Gutenberg-tm is synonymous with the free distribution of +electronic works in formats readable by the widest variety of computers +including obsolete, old, middle-aged and new computers. It exists +because of the efforts of hundreds of volunteers and donations from +people in all walks of life. + +Volunteers and financial support to provide volunteers with the +assistance they need, is critical to reaching Project Gutenberg-tm's +goals and ensuring that the Project Gutenberg-tm collection will +remain freely available for generations to come. In 2001, the Project +Gutenberg Literary Archive Foundation was created to provide a secure +and permanent future for Project Gutenberg-tm and future generations. +To learn more about the Project Gutenberg Literary Archive Foundation +and how your efforts and donations can help, see Sections 3 and 4 +and the Foundation web page at https://www.gutenberg.org/fundraising/pglaf. + + +Section 3. Information about the Project Gutenberg Literary Archive +Foundation + +The Project Gutenberg Literary Archive Foundation is a non profit +501(c)(3) educational corporation organized under the laws of the +state of Mississippi and granted tax exempt status by the Internal +Revenue Service. The Foundation's EIN or federal tax identification +number is 64-6221541. Contributions to the Project Gutenberg +Literary Archive Foundation are tax deductible to the full extent +permitted by U.S. federal laws and your state's laws. + +The Foundation's principal office is located at 4557 Melan Dr. S. +Fairbanks, AK, 99712., but its volunteers and employees are scattered +throughout numerous locations. Its business office is located at +809 North 1500 West, Salt Lake City, UT 84116, (801) 596-1887, email +business@pglaf.org. Email contact links and up to date contact +information can be found at the Foundation's web site and official +page at https://www.gutenberg.org/about/contact + +For additional contact information: + Dr. Gregory B. Newby + Chief Executive and Director + gbnewby@pglaf.org + +Section 4. Information about Donations to the Project Gutenberg +Literary Archive Foundation + +Project Gutenberg-tm depends upon and cannot survive without wide +spread public support and donations to carry out its mission of +increasing the number of public domain and licensed works that can be +freely distributed in machine readable form accessible by the widest +array of equipment including outdated equipment. Many small donations +($1 to $5,000) are particularly important to maintaining tax exempt +status with the IRS. + +The Foundation is committed to complying with the laws regulating +charities and charitable donations in all 50 states of the United +States. Compliance requirements are not uniform and it takes a +considerable effort, much paperwork and many fees to meet and keep up +with these requirements. We do not solicit donations in locations +where we have not received written confirmation of compliance. To +SEND DONATIONS or determine the status of compliance for any +particular state visit https://www.gutenberg.org/fundraising/donate + +While we cannot and do not solicit contributions from states where we +have not met the solicitation requirements, we know of no prohibition +against accepting unsolicited donations from donors in such states who +approach us with offers to donate. + +International donations are gratefully accepted, but we cannot make +any statements concerning tax treatment of donations received from +outside the United States. U.S. laws alone swamp our small staff. + +Please check the Project Gutenberg Web pages for current donation +methods and addresses. Donations are accepted in a number of other +ways including including checks, online payments and credit card +donations. To donate, please visit: +https://www.gutenberg.org/fundraising/donate + + +Section 5. General Information About Project Gutenberg-tm electronic +works. + +Professor Michael S. Hart was the originator of the Project Gutenberg-tm +concept of a library of electronic works that could be freely shared +with anyone. For thirty years, he produced and distributed Project +Gutenberg-tm eBooks with only a loose network of volunteer support. + +Project Gutenberg-tm eBooks are often created from several printed +editions, all of which are confirmed as Public Domain in the U.S. +unless a copyright notice is included. Thus, we do not necessarily +keep eBooks in compliance with any particular paper edition. + +Most people start at our Web site which has the main PG search facility: + + https://www.gutenberg.org + +This Web site includes information about Project Gutenberg-tm, +including how to make donations to the Project Gutenberg Literary +Archive Foundation, how to help produce our new eBooks, and how to +subscribe to our email newsletter to hear about new eBooks. + +</pre></body> +</html> diff --git a/14865-h/images/alun0ab.jpg b/14865-h/images/alun0ab.jpg Binary files differnew file mode 100644 index 0000000..f855ac9 --- /dev/null +++ b/14865-h/images/alun0ab.jpg diff --git a/14865-h/images/alun0as.jpg b/14865-h/images/alun0as.jpg Binary files differnew file mode 100644 index 0000000..0290248 --- /dev/null +++ b/14865-h/images/alun0as.jpg diff --git a/14865-h/images/alun0bb.jpg b/14865-h/images/alun0bb.jpg Binary files differnew file mode 100644 index 0000000..91eaaea --- /dev/null +++ b/14865-h/images/alun0bb.jpg diff --git a/14865-h/images/alun0bs.jpg b/14865-h/images/alun0bs.jpg Binary files differnew file mode 100644 index 0000000..6581243 --- /dev/null +++ b/14865-h/images/alun0bs.jpg diff --git a/14865-h/images/alun105b.jpg b/14865-h/images/alun105b.jpg Binary files differnew file mode 100644 index 0000000..4d10882 --- /dev/null +++ b/14865-h/images/alun105b.jpg diff --git a/14865-h/images/alun105s.jpg b/14865-h/images/alun105s.jpg Binary files differnew file mode 100644 index 0000000..ae0d6f1 --- /dev/null +++ b/14865-h/images/alun105s.jpg diff --git a/14865-h/images/alun25b.jpg b/14865-h/images/alun25b.jpg Binary files differnew file mode 100644 index 0000000..2c3d713 --- /dev/null +++ b/14865-h/images/alun25b.jpg diff --git a/14865-h/images/alun25s.jpg b/14865-h/images/alun25s.jpg Binary files differnew file mode 100644 index 0000000..f0aee5f --- /dev/null +++ b/14865-h/images/alun25s.jpg diff --git a/14865-h/images/alun33b.jpg b/14865-h/images/alun33b.jpg Binary files differnew file mode 100644 index 0000000..118ee99 --- /dev/null +++ b/14865-h/images/alun33b.jpg diff --git a/14865-h/images/alun33s.jpg b/14865-h/images/alun33s.jpg Binary files differnew file mode 100644 index 0000000..0f5b30b --- /dev/null +++ b/14865-h/images/alun33s.jpg diff --git a/14865-h/images/alun40b.jpg b/14865-h/images/alun40b.jpg Binary files differnew file mode 100644 index 0000000..741a7e2 --- /dev/null +++ b/14865-h/images/alun40b.jpg diff --git a/14865-h/images/alun40s.jpg b/14865-h/images/alun40s.jpg Binary files differnew file mode 100644 index 0000000..fb3b4bd --- /dev/null +++ b/14865-h/images/alun40s.jpg diff --git a/14865-h/images/alun48b.jpg b/14865-h/images/alun48b.jpg Binary files differnew file mode 100644 index 0000000..992844d --- /dev/null +++ b/14865-h/images/alun48b.jpg diff --git a/14865-h/images/alun48s.jpg b/14865-h/images/alun48s.jpg Binary files differnew file mode 100644 index 0000000..090b868 --- /dev/null +++ b/14865-h/images/alun48s.jpg diff --git a/14865-h/images/alun56b.jpg b/14865-h/images/alun56b.jpg Binary files differnew file mode 100644 index 0000000..99bdf78 --- /dev/null +++ b/14865-h/images/alun56b.jpg diff --git a/14865-h/images/alun56s.jpg b/14865-h/images/alun56s.jpg Binary files differnew file mode 100644 index 0000000..ebaf013 --- /dev/null +++ b/14865-h/images/alun56s.jpg diff --git a/14865-h/images/alun88b.jpg b/14865-h/images/alun88b.jpg Binary files differnew file mode 100644 index 0000000..6b31bea --- /dev/null +++ b/14865-h/images/alun88b.jpg diff --git a/14865-h/images/alun88s.jpg b/14865-h/images/alun88s.jpg Binary files differnew file mode 100644 index 0000000..6142393 --- /dev/null +++ b/14865-h/images/alun88s.jpg diff --git a/14865-h/images/alun8b.jpg b/14865-h/images/alun8b.jpg Binary files differnew file mode 100644 index 0000000..7909866 --- /dev/null +++ b/14865-h/images/alun8b.jpg diff --git a/14865-h/images/alun8s.jpg b/14865-h/images/alun8s.jpg Binary files differnew file mode 100644 index 0000000..ea5f560 --- /dev/null +++ b/14865-h/images/alun8s.jpg diff --git a/14865.txt b/14865.txt new file mode 100644 index 0000000..b738c6d --- /dev/null +++ b/14865.txt @@ -0,0 +1,4387 @@ +The Project Gutenberg eBook, Gwaith Alun, by Alun, Edited by Owen M. +Edwards, Illustrated by John Thomas + + +This eBook is for the use of anyone anywhere at no cost and with +almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or +re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included +with this eBook or online at www.gutenberg.org + + + + + +Title: Gwaith Alun + +Author: Alun + +Release Date: February 1, 2005 [eBook #14865] + +Language: Welsh + +Character set encoding: ISO-646-US (US-ASCII) + + +***START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK GWAITH ALUN*** + + + + +Transcribed from the 1909 Ab Owen edition by David Price, email +ccx074@coventry.ac.uk + + + + + +GWAITH ALUN + + +[John Blackwell (Alun): alun0a.jpg] + +[Gwaith Alun: alun0b.jpg] + + + + +Rhagymadrodd. + + +Ganwyd John Blackwell (_Alun_) mewn bwthyn ger y Wyddgrug yn 1797. Un o +Langwm oedd ei fam--gwraig ddarbodus a meddylgar; a dilynai ei mab hi i'r +seiat a'r Ysgol Sul, gan hynodi ei hun fel dysgwr adnodau ac adroddwr +emynau. Mwnwr call, dwys, distaw, oedd ei dad, a pheth gwaed Seisnig +ynddo; cydymdeimlai yntau a'i fachgen. + +Yn unarddeg oed, heb addysg ysgol ond yn awyddus am wybodaeth, +prentisiwyd ef gyda chrydd oedd yn fardd. Pan yn ddwy ar bymtheg, wedi +bwrw ei brentisiaeth, medrai fforddio prynnu llyfrau; a cherddai'n aml i +Gaer i chwilio'r siopau. Derbyniai gylchgronau, prynnai lyfrau Cymraeg, +chwiliai am feirdd. Llenorion yr ardal oedd ei gyfeillion, y gynghanedd +ei hoffter. + +Yn 1823 disgleiriodd fel seren yn awyr Eisteddfod Cymru. Yn Eisteddfodau +Rhuthyn, Caerwys a'r Wyddgrug tynnodd sylw; gyda'i awdl Genedigaeth +Iorwerth II. yn y gyntaf, a chyda'i awdl Maes Garmon yn yr olaf. Yr oedd +ei fryd erbyn hyn ar gymeryd urddau eglwysig, a chafodd noddwyr caredig. + +Yn 1824 aeth i'r Beriw, pentref hyfryd ger y fan yr abera afon Rhiw i +afon Hafren. Yma dysgai Ladin a Groeg gyda'r ficer, y Parch. Thomas +Richards. Yn y lle tawel Seisnig hwn, cymerodd ei awen edyn ysgafnach, +cywreiniach. Clerigwyr pobtu'r Hafren oedd ei gyfeillion, ac yn eu mysg +yr oedd Gwallter Mechain ac Ifor Ceri. Yma, at Eisteddfod y Trallwm, y +cyfansoddodd ei draethawd gorchestol ar yr iaith Gymraeg. + +Yn Rhagfyr, 1825, ymaelododd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen; pasiodd ei +arholiad gradd olaf ym Mai, 1828. Ymdrechodd yn galed; a'i fryd ar +lwyddiant yn yr arholiadau, ar astudio llenyddiaeth Gymreig, ac ar +ymbaratoi at waith pwysig ei fywyd. Gloewodd ei awen, a dysgodd felodi +newydd, yng nghwmni Homer a Vergil. + +Daeth adre at Eisteddfod Dinbych yn 1828; cafodd ynddi wobr am ei Farwnad +Heber, a chynrychiolai ei gyd-efrydydd Ieuan Glan Geirionydd, trwy +eistedd drosto yn y gader enillasai awdl Gwledd Belsasar. + +Ionawr 15, 1829, ordeiniwyd Alun yn gurad Treffynnon. Bu yno, yn fawr ei +barch fel gweinidog a llenor, hyd 1833, pryd y rhoddodd Arglwydd Brougham +iddo fywoliaeth Maenor Deifi ym Mhenfro. Yn 1834 cychwynodd y +_Cylchgrawn_, cylchgrawn gwybodaeth fuddiol, mewn rhyddiaith clasurol a +phur. Yr oedd y _Gwladgarwr_ eisoes ar y maes; a digiodd Alun ei +gyfeillion, yn enwedig Ieuan Glan Geirionydd ac Erfyl, am wrth-ymgais. +Ond ychydig elynion fu iddo. Yr oedd mor anhunangar a hael ei ysbryd, +mor ddifyr a mwyn ei gwmni, mor bur ei fuchedd. + +Bu farw Mai 19, 1840; a chladdwyd ef ym Maenor Deifi. Cyhoeddwyd ei +waith yn 1851. + +Eos Cymru oedd Alun,--yn felus a dwys yr erys ei nodau yng nghlust ei +genedl. + +OWEN M. EDWARDS. +_Ebrill 9, 1909_. + + + + +Cynhwysiad. + + +[Ceisiwyd trefnu'r darnau mor agos ag y gellid i'w trefn amseryddol.] + +I. Y WYDDGRUG. 1797-1824. + +Iddo Ef +Angau +Cymdeithas Caer +Dau Englyn Priodas +Genedigaeth Iorwerth II. +Cerdd Gwyliedydd y Wyddgrugr +Llwydd Groeg +Eisteddfod Caerwys +Dafydd Ionawr +Gwyl Ddewi +Eisteddfod y Wydderug +Rhywun +Maes Garmon + +II. ABERIW. 1824. + +Bywyd yn Aberiw +Ifor Ceri +Emyn Pasg +Englyn i Ofyddes +A Pha Le Mae? (Cyf.) +Eisteddfod y Trallwm +Caroline +Beddargraff +Bugeilgerdd +Yr Hen Amser Gynt +I -- +Gadael Rhiw + +III. RHYDYCHEN. 1825-1828. + +At Gyfaill +College Life +At Lenor +Telyn Cymru +At ei Rieni +Cywydd y Gwahawdd +Disadvantages and Aims +Calvinism +At ei Fam, pan oedd Weddw +Cwyn ar ol Cyfaill +Marwolaeth Heber +Seren Bethlehem + +IV. BLYNYDDOEDD ERAILL. 1828-1840. + +At Manor Deifi +Cathl yr Eos +Abad-dy Tintern +Can Gwraig y Pysgotwr +Y Ddeilen Grin + + + + +Y Darluniau. + + +ALUN + + "Does destyn gwiw i'm can, + Ond cariad f' Arglwydd glan." + +COLOFN MAES GARMON--S. MAURICE JONES. + +CARTREF MEBYD ALUN--S. MAURICE JONES. + +CASTELL CONWY {1a} + + "Ar furiau tref ai rhaid trin + Anhoff astalch a ffestin?" + +MARATHON + + "Gwnawn weunydd a llwynydd llon, + Mawr hwythau, fel Marathon" + +CAERWYS {1b} + + "Lluman arfoll Minerfa + Sydd uwch Caerwys ddilys dda." + +RHYWUN {1c} + + "Gwyn ac oer yw eira Berwyn." + +UN O HEOLYDD CAERWYS + + "Hawddamor bob gradd yma, orwych feirdd." + +YR AMSER GYNT {1d} + + "Bu'n hoffi mi, wrth deithio 'mhell + Gael croesaw ar fy hynt." + +GWRAIG Y PYSGOTWR + + "Dwndwr daear sydd yn darfod, + Cysga dithau ar dy dywod." + + + + +Rhai Geiriau. + + +[Lle rhoddir yr esboniad yn Saesneg, dealler mai esboniad Alun ei hun yw +hwnnw.] + +Abred, ystad dadblygiad trwy gyfnod drwg anelwig i ddynoliaeth hapus; +"treiglo abred," mynd trwy holl dro trawsfudiad. + +Arfeddyd, bwriad, amcan. + +Balawg, uchel. + +Brathawg, _apt to stab, assassinating_. + +Breila, breilw, rhosyn. + +Breyr, uchelwr, gwrda, barwn. + +Callawr, crochan. + +Deddyw, daeth. + +Diachreth, di-gryn, cadarn. + +Diarynaig, _hero_ + +Digrawn, llifol, heb gronni + +Digyrrith, hael, caredig. + +Dyheuent, _gasping for breath_. + +Dyspaidiad, _in the intermission_. + +Eiriach, cynhilo + +Elwch, llawenydd, gorfoledd. + +Enrhaith, _fellows_. + +Ffladr, caruaidd, taer wenieithus, anwyl. + +Fflwch, llawn; buan. + +Galon, gelynion. + +Germain, _shout_. + +Gofynaig, cais. + +Gorthaw, distawrwydd, amynedd. + +Gwawrwalch, _a valiant man, a hero_. + +Graid, _fire, urgency_. + +Gryw, Greek. + +Gwaladr, tywysog, rheolwr. + +Gyrr, _attack, onset_. + +Hadledd, dirywiad, dinistr. + +Heng, gwth, taith orfod. + +Hirell, _gleams of light_. + +Huddug, tywyll, trist. + +Hwi'n golofn, _form into a column_. + +Loes gwefrawl, _electrical shock_. + +Lleuai, _read_. + +Main, meini. + +Mwd, tan y to, nenfwd. + +Nwyfre, awyr, nef. + +Rhialyd, natur, greddf. + +Rhom, rhyngom. + +Sarllach, bost, bloddest. + +Sawdan, Soldan, Sultan. + +Sitwyr, _rangers, freebooters_. + + + + +ALUN. + + +[Ym Mhonterwyl, Ger Y Wyddgrug: alun8.jpg] + + + +"IDDO EF." + + +_Dat. i. 5_. + +'Does testun gwiw i'm can +Ond cariad f' Arglwydd glan + A'i farwol glwy; +Griddfanau Calfari, +Ac angau Iesu cu, +Yw nghan a mywyd i, + Hosanna mwy. + +Paham bu i ddeddf y net +Ymaflyd ynddo EF, + A rhoi iddo glwy? +Fe roddwyd yn y drefn, +Fy meiau ar ei gefn; +Pwy na roi floedd drachefn-- + Hosanna mwy. + +Ergydiwyd ato EF, +Gan uffern, byd, a nef, + Eu saethau hwy: +Arhodd ei fwa'n gry', +Nes maeddu uffern ddu, +A phrynu mywyd i, + Hosanna mwy. + +Caniadau'r nefol gor, +Sydd oll i'm Harglwydd Ior + A'i ddwyfol glwy; +Y frwydr wedi troi, +Ellyllon wedi ffoi,-- +Sy'n gwneyd i'r dyrfa roi + Hosanna mwy. + +O faint ei gariad EF! +Nis gall holl ddoniau'r nef, + Ei dreiddio drwy: +Mae hyn i mi'n beth syn, +I ruddfan pen y bryn +Droi'n gan i mi fel hyn, + Hosanna mwy. + +Pan ddelo'r plant ynghyd, +O bedair rhan y byd, + I'w mangre hwy; +Tan obaith yn ddilyth, +Cael telyn yn eu plith, +I ganu heb gwyno byth, + Hosanna mwy. + +Tra bwyf ar riwiau serth, +Preswylydd mawr y berth, + Rho'th gwmni trwy; +Mae cofio am y loes +Dan arw gur y groes, +Yn rhyw feluso f'oes, + Hosanna mwy. + +Na ddigied neb o'r plant, +Am imi ganu ar dant + O'u telyn hwy: +Myfyrio'r tywydd du +Fu ar ein Iesu cu, +A droes fy nghan mor hy', + Hosanna mwy. + + + +ANGAU. + + +_Englynion a ysgrifenwyd yn ddifyfyr ym mynwent y +Wyddgrug_. + +"Ni foddir (mae'n rhyfeddol)--chwai angau, + A chyngor dymunol; + Er wban, griddfan greddfol, + (Uthr in' yw!) ni thry yn ol. + +Er gwaedd mam,--er gweddi myrdd, + Er gwen byd,--er gwyneb hardd, + Er swn cwyn,--er seinio cerdd, + Er ing ffull, mynn angau'i ffordd. + +Ni eiriach rai bach rhag bedd,--i'r cedyrn + Rhoir codwn i'r dyfn-fedd; + A mirain feibion mawredd + Ostyngir, siglir o'u sedd. + +I'r llaid yr aeth fy nhaidiau,--i huno, + Fu'n heinyf er's dyddiau: + I'r ystafell dywell dau, + Ryw funud, yr af innau. + +Ond cael nod hynod, a hedd--yr Iesu, + A drws i dangnefedd; + Yn dawel yn y diwedd, + Af i gaban bychan bedd. + + + +CYMDEITHAS GYMREIGYDDOL CAERLLEON. + + +Boed llwydd, mewn pob dull addas,--a chynnydd + I'ch enwog Gymdeithas; + Heb stwr, na chynnwr, na chas-- + Geni beirdd heirdd fo'i hurddas. + +Bu gannoedd drwy bob gweniaith,--addefent, + Am ddifa'r Omeriaith; + Aent hwy i lawr i fynwent laith-- + I fyny safai'r fwyn-iaith. + +Heddyw gwelaf na faidd gelyn--er gwyn, + Roi gair yn ei herbyn; + A dolef gref sy'n dilyn, + "A lwyddo Duw, ni ludd dyn." + +Cur llawer fu Caerlleon,--y gw'radwydd + Sy'n gwrido hanesion; + Am groesi'r Clawdd hir i hon, + Brethid calonnau Brython. + +'Nawr Cymry gant wisgant wen, + Chwarddu gant a cherddi gwin, + Ceir bri, a chwmni, a chan, + O fewn Caer heb ofn y cwn. + +Byw undeb, gyda bendith,--a daenir + O'ch doniawl athrylith: + Gelyn breg, rhwyg rheg rhagrith + I chwerwi'ch plaid, na chaer i'ch plith. + + + +DAU ENGLYN + + +Ar Briodas Mr. P. Williams a Miss Whitley, Broncoed. + +Gan Naf eiddunaf i'r ddau--bob undeb, + A bendith, a grasau, + I fyw'n hir, ac i fwynhau + Dedwyddwch hyd eu dyddiau. + +Eirchion y gwaelion heb gelu,--pur rad + Parhaus fo'n defnynnu: + Pob urddawl ollawl allu + Iddyn' ddel--medd Ioan Ddu. + +Tach., 1812 + + + +GENEDIGAETH IORWERTH II. + + +_Llais llid Iorwerth_. + +Clywch! clywch! ar hyd lannau Clwyd +Ryw swn oersyn o arswyd! +Gorthaw'r donn, cerdda'n llonydd, +Ust! y ffrwd,--pa sibrwd sydd? +O Ruddlan daw'r ireiddlef +Ar ael groch yr awel gref; +Geiriau yr euog Iorwerth, +O 'stafell y Castell certh; +Bryd a chorff yn ddiorffwys,-- +Hunan-ymddiddan yn ddwys: +Clywch, o'r llys mewn dyrys don, +Draw'n sisial deyrn y Saeson,-- +"Pa uffernol gamp ffyrnig? +A pha ryw aidd dewraidd dig? +Pa wrolwymp rialyd +Sy'n greddfu trwy Gymru 'gyd? +Bloeddiant, a llefant rhag llid, +Gawrwaeddant am deg ryddid,-- +'Doed chwerwder, blinder, i blaid +Ystryw anwar estroniaid; +Ein gwlad, a'n ffel wehelyth,-- +Hyd Nef,' yw eu bonllef byth; +Ac adsain main y mynydd,-- +Och o'u swn!--yn gasach sydd; +'Ein gwlad lan amhrisiadwy,' +Er neb, yw eu hateb hwy. + +"Pa les yw fod im' glod glan +Am arswydo'r mawr Sawdan,-- +Pylu asteilch Palestin, +Baeddu Tyrciaid, bleiddiaid blin; +Troi Chalon wron i weryd, +Ie, curo beilch wyr y byd,-- +Os Gwalia wen,--heb bennaeth, +A'i mawrion gwiwlon yn gaeth,-- +Heb fur prawf,--heb farrau pres, +Na lleng o wyr, na llynges,-- +A ymheria fy mawr-rwysg, +Heb fy nghyfri'n Rhi mewn rhwysg? +Er cweryl gyda'r cawri, +A lladd myrdd, nid llwydd i mi; +Ni fyddaf, na'm harfeddyd, +Ond gwatwor tra byddo'r byd. + +"Ha! ymrwyfaf am ryfel, +O'm plaid llu o ddiafliaid ddel: +Trowch ati'r trueni trwch, +Ellyllon! gwnewch oll allwch. + +"I ti, O Angeu, heddyw y tyngaf, +Mai am ddialedd mwy y meddyliaf; +Eu holl filwyr, luyddwyr, a laddaf, +Un awr eu bywydau ni arbedaf; +Oes, gwerth, i hyn aberthaf,--gwanu hon +Drwy ei chalon fydd fy ymdrech olaf. + +_Dichell Iorwerth_. + +"Ha! ha! Frenin blin, i ble +Neidiodd dy siomgar nwyde? +Oferedd, am hadledd hon, +Imi fwrw myfyrion; +Haws fydd troi moelydd, i mi, +Arw aelgerth, draw i'r weilgi, +Nac i ostwng eu cestyll, +Crog hagr, sef y creigiau hyll. + +"Oni ddichon i ddichell, +Na chledd na nych, lwyddo'n well? +Rhyw ddu fesur ddyfeisiaf,-- +Pa ystryw ddwys, gyfrwys gaf? +Pa gais? pa ddyfais ddifeth +Gaiff y budd,--ac a pha beth? + +"'Nawr cefais a wna r cyfan,-- +Mae'r meddwl diddwl ar dan; +Fy nghalon drwy 'nwyfron naid, +A llawenydd ei llonaid; +Gwnaf Gymru uchel elwch, +I blygu, a llyfu'r llwch:-- +I wyr fy llys, pa'nd hyspyswn +Wiw eiriau teg y bwriad hwn?" + +A chanu'r gloch a wnai'r Glyw, +Ei ddiddig was a ddeddyw,-- +"Fy ngwas, nac aros, dos di, +A rhed," eb ei Fawrhydi,-- +"Galw ar fyrr fy Mreyron, +Clifford hoew, Caerloew lon; +Mortimer yn funer fo, +A Warren, un diwyro." + +Deuent, ymostyngent hwy +I'w trethawr, at y trothwy: +O flaen gorsedd felenwawr +Safai, anerchai hwy'n awr,-- + +"Cyfeillion bron eich Brenin, +A'i ategau'r blwyddau blin,-- +Galwyd chwi at eich gilydd +Am fater ar fyrder fydd; +Gwyddoch, wrth eu hagweddau, +Fod llu holl Gymru'n nacau +Ymostwng, er dim ystyr, +I'm hiau o gylch gyddfau'u gwyr; +Ni wna gair teg na garw,-- +Gwen, na bar,--llachar, na llw, +Ennill eu serch i'm perchi, +Na'u clod i'm hawdurdod i: +Ni fynnant Bor, cynnor cain, +Ond o honynt eu hunain; +Ganedig bendefig da, +O'u lluoedd hwy a'u llywia:-- +Ond cefais, dyfeisiais fodd, +O dan drais, i'w dwyn drosodd; +Ac i mi gwnant roddi rhaith, +Ac afraid pellach cyfraith; +Rhoi llyffeithair a gair gaf,-- +Gair Gwalia gywir goeliaf:-- +Yn rhywfodd, ni ddysgodd hon +Er lliaws, dorri llwon: +Elinor, lawen araf, +Mewn amhorth yn gymorth gaf; +Mererid i'm Mreyron +I'w cais pur trwy'r antur hon." + +Traethai'r Brenin, gerwin, gau, +Ar redeg ei fwriadau; +A'r Cyngor wnai glodfori, +Mor ddoethwedd rhyfedd eu rhi, +A'i ddihafal rialyd, +Mewn truthiaith, gweniaith i gyd. + +Yna'r arglwyddi unol +A gilient, nesent yn ol, +Gan grymu pen i'w Brenin, +Laig ei glod, a phlygu glin. + +_Ufudd-dod y Frenhines_. + +E geisiai frys negesydd +Yn barod, cyn darfod dydd,-- +A gyrrai, ar farch gorwych, +I'r brif-ddinas y gwas gwych, +A gofynaig i'w Fanon, +A gair teg am gariad hon: +Y lonwech bur Elinawr +Serchog, oedd yn feichiog fawr; +Gofynnai a hwyliai hon, +Gryn yrfa, i Gaernarfon, +Ar fyrder, fod mater mawr +I'w ddisgwyl y dydd esgawr. + +O fodd ufuddhaodd hon, +Iach enaid, heb achwynion; +Dechreuai'r faith daith, 'run dydd, +Mewn awch, a hi'n min echwydd; +Gwawl lloer, mewn duoer dywydd, +A'i t'wysai pan darfai dydd; +Oer y cai lawer cawod, +Cenllysg yn gymysg ag od; +Anturiai, rhodiai er hyn, +Trwy Gwalia, tir y gelyn; +Er ymgasgl bar o'i hamgylch, +A'i chell yn fflamiau o'i chylch,-- +Ni wnai hon ddigalonni, +Mor der oedd ei hyder hi; +(Ow! ow! 'n wir beri'r bwriad +Tra glew, er dinistrio gwlad:)-- +Daeth, wrth deithio o fro i fryn, +Y faith yrfa i'w therfyn. + +A'r deyrnes gynnes, heb gel +Yn ddiegwan ddiogel; +Rhoes Iorwerth eres warant,-- +Ae rhingyll i gestyll, gant, +Am alw cydymweliad +Brenin ac arglwyddi'n gwlad: +Rhuddlan oedd y fan i fod +Hygof erfai gyfarfod; +I dorri rhwystrau dyrys +Y gelwid, llunid y llys:-- +D'ai'r eurfig bendefigion +O amryw le 'Nghymru lon; +Yno y daeth yn y dydd, +Gwalia o gwrr bwygilydd. + +Ond oedai Edward wedyn +Eu galw i'r llys, hysbys hyn; +Disgwyliai a dwys galon,-- +Heb gau ei amrantau 'mron, +I'w fanon wirion, arab, +Ar awr ferth, esgor ar fab. + +Harddai y lle--rhoi fwrdd llawn, +A gosod rhyw esgusiawn; +Ond er yr holl arfolli +Holl blaid ein penaethiaid ni +Ni charent y gwych aeron-- +Y dawnsiau a'r llefau llon: +Y morfa llwm a hirfaith, +Lle berw tonn, oedd llwybr eu taith, +A myfyrient am fawrion +Aeth mewn cyrch dan dyrch y donn,-- +Y glewion, enwogion wyr +Laddwyd, a'r prif luyddwyr: +Rhodient pan godai'r hedydd +Fel hyn, hyd i derfyn dydd; +A'u dyddiau oll fel diddim, +Synnent, ond ni ddwedent ddim: +Wedi egwyl ddisgwyliad, +O fewn eu bron daeth ofn brad,-- +Swn, fal rhwng sisial a son, +"Llawrudd a chyllill hirion;" +'Roedd gwaelod y trallod trwch, +I wyr Gwalia'n ddirgelwch. + +_Geni Tywysog_. + +Wele! o'r diwedd, ar ol hir dewi, +Deuai i Iorwerth genadwri +O Gaersalwg,--gwnai ei groesholi,-- +Yna ei holl anian oedd yn llonni +Hyd grechwen, pan glywodd eni--bachgen +Ag aur wialen a gai reoli. + + Ac yna a'i udganwr +A'i gorn teg i gern y twr: +Galwyd arglwyddi Gwalia, ar unwaith, +Ar heng hirfaith i ddod i'r gynghorfa. + +Pob rhyw gadr waladr oedd +Yn esgud yn ei wisgoedd; +Distain wnai iddynt eiste +Bob yn lwyth--bawb yn ei le: +Deuai'r Ynad dirinwedd, +Mewn parchus, arswydus wedd; +Mewn rhwysg a muner-wisgoedd, +Coron ar y coryn oedd; +A gwyneb yn llawn gweniaith, +O drefn y dechreuai draith. + +"Fy neges, brif enwogion, +A glywiau teg y wlad hon,-- +Nid ydyw i wneyd adwyth, +Dwyn loesion llymion yn llwyth,-- +I fygwth clwyf a gwaith cledd, +Nac i lunio celanedd; +Ond o fwriad adferu +Eich hyfawl barch fel y bu; +Cymru ben baladr ffladr fflwch +Heddyw sydd eisiau heddwch; +Rhoddi Llywiawdwr addwyn, +Nwyfre maith, wnaf er ei mwyn; +Un na's trina es'roniaith, +Na swn gwag Seisonig iaith; +Fe'i ganwyd ar dir Gwynedd, +Dull Sais, na'i falais, ni fedd; +Addefir ef yn ddifai,-- +Ni wyr un fod arno fai: +Yn fwynaidd gwybod fynnwn, +Beth wnewch? Ufuddhewch i hwn?" + +* * * * * + + Cydunent, atebent hwy,-- +"Ymweledydd mawladwy, +I'n cenedl rhyw chwedl go chwith +Ydyw geiriau digyrrith; +Cymru wech,--nis cymrai hon +Lyw o astrus law estron; +Ond tynged a brwnt angen, +A gwae ei phobl, blyga'i phen: +Llin ein llon D'wysogion sydd +'Leni mewn daear lonydd: +Rho di'r llyw cadarn arnom +A dedwydd beunydd y b'om:-- +Enwa 'nawr, er union waith, +Y gwr del wisga'r dalaith, +'Nol cyfraith, fel b'o rhaith rhom, +Na thyrr ing fyth awr rhyngom: +Ie, tyngwn, at angau, +Yn bur i hwn gwnawn barhau." + +Fulion! ni wyddent falais, +Dichellion, na swynion Sais. + Dwedai'r blin Frenin ar frys-- +"Felly ces fy ewyllys, +Doe y daeth, megis saeth, son +Yn erfai o Gaernarfon, +Fod mab rydd wynfyd i mi, +Nawdd anwyl, newydd eni; +A hwn fydd eich llywydd llon, +A'ch T'wysog enwog union: +Dal a wnaf, nes delo'n wr, +Drethi eich llywodraethwr; +Bellach, y bydd sarllach Sais, +Mawr ddilwrf Gymry ddeliais." + +Gwelwent, a safent yn syn, +Ymhleth ddiachreth ddychryn; +A phob boch oedd yn brochi,-- +Tro'i brad aml lygad i li. + +_Araeth Madog_. + +Ebai Madog, enwog wr,-- +"Ha! rymusaf ormeswr! +Tybiais falch wawrwalch lle'r el, +Wir awch, yn wr rhy uchel, +I lochi brad dan lech bron, +A challawr i ddichellion: +Ond ni wnei gu Gymru'n gaeth, +Bro dirion, a bradwriaeth; +Ni phryni serch prid, didwyll, +Ac odiaeth hon, gyda thwyll: +Os gall dy frad ddwyn gwlad glau +I gur a chwerw garcharau,-- +Nis gall dy ewin-gall wau +Rhwym a ddalio'r meddyliau: +A oedd cochi perthi'n pau, +A llawruddio'n holl raddau,-- +Ein llyfrau, a'n gotau gwaith,-- +A'n haneddau ni'n oddaith, +Y teryll aer,--torri llw, +A'r brad ger Aberedw,-- + +Ow! ow! yn ddiwegi ddim yn ddigon, +I ddangaws, i araws i oes wyrion, +Fel rhyw anhawddgar ac afar gofion +Mai marwor meryw yw ystryw estron? +Ond am y wlad, deg-wlad hon,--gwybydd di, +Rhaid iti ei cholli, er dichellion. + +"Os yw breg gwgus, a braw, +Fal wedi dal ein dwylaw, +Daw ail gynnwrf, dilwrf da, +I drigolion dewr Gwalia; +Codwn, arfogwn fagad, +O wrol wych wyr y wlad; +Mewn bar y bonllefa'r llu +'Camrwysg ni oddef Cymru,-- +Rhi o'n huchel wehelyth, +Cymro boed i'r Cymry byth!' +Ni chaiff Sais, trwy ei drais, drin +Iau ar warr un o'r werin! +Daw'r telynau, mwythau myg, +Ddewr eu hwyl, oddiar helyg; +Rhed awen, er id wahardd, +Cerdd rhyfedd rhwng bysedd bardd; +Gwnant glymau a rhwymau rhom, +Enynnant y tan ynnom; +Dibrin pawb oll dadebrant,-- +Heb ochel, i ryfel 'r ant; +A'n mynwes yn lloches llid, +Ein harwyddair fydd 'Rhyddid!' + +"Ag arfau ni wna'n gorfod +Tra'n creigiau a'n bylchau'n bod; +Cariwn mewn cof trwy'r cweryl, +Y'mhob bwlch, am Thermopyl; +Gwnawn weunydd a llwynydd llon, +Mawr hwythau, fel Marathon; +Yn benaf llefwn beunydd,-- +'Marw neu roi Cymru'n rhydd?' + +"Os colli'n gwlad, anfad wyd, +O'r diwedd dan ruddfan raid,-- +Yn lle trefn, cei pob lle troed, +Wedi ei gochi a'n gwaed; +Trenga'n meibion dewrion dig, +A llawryf am y llurig. + +"Yn enw Crist eneiniog--ymroddaf + Am ryddid ardderchog; +A'r un Crist fu ar bren crog, +Ni ymedy a Madog." + + E daw ar hyn,--d'ai ar ol +Ryw ddistawrwydd ystyriol. +Ac Iorwerth, ar y geiriau, +Fel llew dig ffyrnig mewn ffau; +Malais y Sais, echrys wg, +A welid yn ei olwg. + +_Tyb Euraid Ap Ifor_. + + O ryw fuddiol arfeddyd,--rhoi'n rhagor +Euraid Ap Ifor ei dyb hefyd,-- + +"Hyf agwrdd bendefigion, +Rhy brysur yw'r antur hon; +Ar furiau tref, ai rhaid trin +Anhoff astalch a ffestin? +Mae llid yn fy mron hynaws, +At Saeson, a'u troion traws; +Ond serch, a glywserch i'm gwlad, +O'm calon a rwyddlon red; +Na ato fyth, etwa fod +Neint hon yn gochion i gyd,-- +Arafwn,--o'r tro rhyfedd +Hwyrach cawn, y mwynhawn, hedd; +E ddaw ergyd ddiwyrgam, +Lawn cur, i ddial ein cam; +Ac hefyd dylid cofio,-- +Er prudded, trymed y tro,-- +Er angeu'r gair fu rhyngom, +'R amodau, rhwymau fu rho'm: +Pan roddo Gymro y gair, +Hwnnw erys yn wir-air; +Ei air fydd, beunydd heb ball, +Yn wir, fel llw un arall: +Ein hynys hon i estron aeth, +A chyfan o'n gwiw uchafiaeth; +Ond ni throes awch loes, na chledd, +Erioed mo ein hanrhydedd; +A'n hurddas a wnawn arddel, +Y dydd hwn, a doed a ddel: +Ein hiawn bwys yn hyn, O bid, +Ar Dduw a'i wir addewid. +Duw a'n cyfyd ni, cofiwn, +Y diwedd, o'r hadledd hwn; +Heddyw, oedwn ddywedyd +Ein barn, yn gadarn i gyd; +Profwn beth dd'wed ein prif-fardd,-- +Gwir iawn bwyll yw geiriau'n bardd;-- +Pa lwyddiant, yn nhyb Bleddyn, +A ddigwydd o herwydd hyn?" + +Amneidient mewn munudyn +Ar yr ethol ddoniol ddyn,-- +Yna, a phwys ar ben ei ffon, +Y gwelid y gwr gwiwlon: + +Ei farf fel glan arian oedd,--mewn urddas, +Cyrhaeddai hon wasg ei wyrddion wisgoedd; +Yn null beirdd, enillai barch,--ar bob peth +E ddygai rywbeth hawddgar a hybarch. + +_Proffwydoliaeth Bleddyn_. + +D'wedai, agorai'r gwir-air,-- +"Clyw frenin gerwin, y gair! +'R hyn ddaw, trwy fy llaw i'r llys, +Duw y dynged a'i dengys; +Am ennyn aer mwy na neb, +Troi a chynnal trychineb, +Gwneyd ochain yn seilfain sedd,-- +Rhoi dy wersyll ar d'orsedd! +Am ddifrodi, llosgi, lladd, +Brad amlwg, a brwd ymladd; +A rhoi bro, mewn taro tynn, +I wylo am Lywelyn:-- +(Iachawdwr a braich ydoedd, +Ac anadl ein cenedl oedd;) +Fel y rhoist gur, mesur maith, +Y telir i ti eilwaith. +O! trochaist lawryf mewn trwch-waed, +Dy arlwy wrth Gonwy oedd gwaed. +Hwn geraist yn lle gwirawd,-- +Bleiddiaid sy'n ffoi rhag cnoi cnawd. + +Y mae maith och mam a thad, +Gwaedd a chur gweddw a chariad,-- +A main lle mae ymenydd +Llawer dewr, a gollai'r dydd,-- +Temlau, ac aneddau'n wag, +Yn rhoi manwl air mynag,-- +I un gwrdd ddwyn gwan yn gaeth,-- +Iddo gael buddugoliaeth: +Ond llion mawrion am hyn +O ddialedd a ddilyn. + +"Awr na feddyli, daw'r nef ddialydd, +Dy waed oera ar dywod y Werydd; +Cydwybod Iwfr wna dwrf cyn y derfydd, +Hon a'th boena--gyrr ddrain i'th obenydd; +Caiff Brython gwirion dan gerydd--fyw'n llon, +Eu muriau'n llawnion, a marw'n llonydd. + +"A gwaeth nac oll a wnaethost, +Mewn du far mynni dy fost,-- +Gwenaist pan gwelaist galon +Wiw a phur ar waew-ffon! +Ti ddigred, ni roist ddeigryn +Yn y lle yr wylwyd llyn! +Llanwaist gron goron a gwaed, +Ac arall yf y gorwaed! +Clyw'n swn!--mwd Bercley'n seinio, {26} +Dychryn i'w ganlyn ac O! +Marwol loesion bron Brenin, +Tan grafangau bleiddiau blin. +Hyfryd dduwiesau Hafren, +Pan glywant a wisgant wen. + +Daw blwyddau llid a bloeddiad, +Du hin, ar warthaf dy had! +Clyw! ddolefau, briwiau bron, +O'r Twr Gwyn {27} mae'r taer gwynion; +Dy hilion, mewn du alaeth, +O dan gudd, leiddiaid, yn gaeth! +A mynych gwna cromeni +Y Twr cras watwor eu cri: +Ni adewir o'r diwedd +Wr o dy sil ar dy sedd. + +"Ha! ha! 'r dwyrain egyr ei dorau,-- +Ai cwrel sydd yn lliwio cyrrau +Creigydd, moelydd, a du gymylau? +Nage, gwawrddydd glan, eirian oriau, +Wiwber anwyl sydd ar y bryniau; +Gwelwch Gymru ar fynydd golau, +A'n iach wyrion o'i chylch yn chwarau, +(Rhos sy' o danynt ar sidanau,) +Hust! ust! ust!--mae'n dyfod i'm clustiau, +Gathl enwog oddiar ei thelynau,-- +Cerddorion a Beirdd, heirdd eu hurddau, +Yn dorf bloeddiant,--'Wi! darfu blwyddau +Yr ochain anwar a chynhennau;'-- +Par y don i'm hyspryd innau--roi llam, +Mwy e grychneidia'm gorwych nwydau. + +"Daw dyddiau mad a diddan, +A mawr lwydd i Gymru lan; +Dyddiau bwrcaswyd iddi, +Ar dy ddichell dywell di; +O Dduw Ner daw'r hoewder hwn, +I'n Duw eilchwyl diolchwn: +Derfydd amser blyngder blin, +Curaw tymhestlog gerwin. +Daw hinon a daioni +O dy drais, na's tybiaist ti; +Bydd cof mewn gwledd am heddyw, +A chlod am it' fod yn fyw: +Iach amrant Lloegr a Chymru, +Daw'r ddwy-wlad mewn cariad cu; +Yna'n y ddwy mwy ni ddel, +I'w trefi helynt rhyfel; +Un llys fydd drwy'n hynys hon, +Una'i gwyr dan un goron; +Unant nerth, rhag rhyferthwy, +Un reddf ac un ddeddf i'r ddwy; +Un Duw arnynt, un deyrnas, +Un lluoedd, un floedd, un flas: +Gwelaf Frython, {28}--'rwy'n llonni, +Yn eistedd ar d'orsedd di! +Ac o ystlys a gwestle, +Y gyllell hir gyll ei lle: +A o gof ymladdau gant, +Eu hing hefyd anghofiant; +Cant gyd-fwynhau breintiau braf, +Law-law i'r genedl olaf: +Lle gwelwyd twyll a galar, +Echrys boen, a chroes a bar,-- +Rhinwedd welir a hinon, +Gwenau, a bonllefau llon; +Rhyfela dry'n orfoledd, +Screchiadau yn hymnau hedd. +Ar eirian fro Eryri, +Ei chreigiau a'i hochrau hi,-- +Lle mae trigfa'r bar yn bod, +A dwyn arfau dan orfod;-- +Lle gwelir llu y gelyn, +A'u bloedd hell, y blwyddau hyn,-- +Anhirion elynion lu, +A'u tariannau'n terwynu;-- +Anianawl serch yn ennyn, +A ffoi at y gwaew-ffyn;-- +Tyf breilos, a rhos di-ri', +Ar hon, a'r loew lili; +Eos fydd bob dydd yn dod +I fryn, yn lle cigfranod: + +"Ar y llethri a'r tyli telaid, +Tybiaf y gwelaf y bugeiliaid, +Lwythau dofion, yn mhlith eu defaid, +Tarfant a chanant ffwrdd ochenaid, +Llamsach wyn bach yn ddibaid,--mor ddifyr, +Chwim a mygyr gylch y mamogiaid. + +"Lle codwyd bwyeill cedyrn, +Bydd twmpathau chwarau chwyrn; +Dawnsio pan y darffo y dydd, +A thelyn ar frith ddolydd: +I'n hynys, pan ei hunir, +Daw tawelwch, heddwch hir; +A chywir heddwch a rhyddid +Wneir y dydd hwnnw yn aur did; +Ar wddwf Cymru rhoddir +Y gadwen hon i gadw'n hir; +Y drefn gaeth wriogaethol, +Mwya'i nerth, a i ddim yn ol; +Bydd un gyfraith, 'run rhaith rhawg, +I lwyth isel, a Th'wysawg: +Iraidd wiwlon rydd-ddeiliaid, +Ri'r gwlith, yn eu plith o'u plaid; +Colofnau y breintiau bras, +A chadarn-weilch y deyrnas; +Ar bob mater a cherydd, +Rheithwyr yn farnwyr a fydd: +'R un fro wnaeth gwyar yn frith, +O dda gynnyrch ddwg wenith; +Cod yr amaeth, cydia'i rwymau, +Cain reolau, cyn yr haulwen; +Deil waith odiaeth, dol a thidau, +Iau a bachau lle bo ychen; +Teifl yr hadau,--llusga'r ogau, +Egyr ddorau gwar ddaearen, +Er cael cnydiau, yn eu prydiau, +Rhag i eisiau rwygo asen. + +"Esmwytho nos amaethydd, +Heddwch, diofalwch fydd,-- +Y daw gelyn digwilydd +I'r berllan, na'r ydlan rydd; +Ac ni raid braw daw un dydd, +Ryw ormeswr i'r maesydd, +Neu Fodur cryf i fedi +'Nol anferth drafferth i drin: +Tybia'i wlad yn Baradwys,-- +Dyry gainc wrth dorri'i gwys +A swch fuasai awchus +Gleddyf un dewr hyf di-rus; +Ymaith ar unwaith yr a, +Uwch ei boen y chwibiana. + +"Ac anterth cymer gyntun, +Heb i ofal atal hun; +O hyd yn ddiwyd ddiarf +Heb fod dan orfod dwyn arf +Heb elynion o Gonwy +O fewn maes i'w hofni mwy. + +[Castell Conwy. "Heb elynion o Gonwy +O fewn maes i'w hofni mwy.": alun25.jpg] + + "A thew ffrwyth ar + Gwnna'n gynnar; +Daw mawnog, gallt, a mynydd, +A bronydd, yn dir braenar. +"Y ddwy wlad cyd addolant, +Cyd foli'r Ion union wnant; +Rhont glodydd i'w Dofydd da, +Law-law mewn Haleluia: + +"Yna y tyf yn y tir +Bob helaeth wybodaeth bur, +O ddirgelion meithion mor, +Daear, a'i sail, hyd i'r ser. + +"Helicon pob ffynnon ffel, +Parnassus pob bryn isel: +Eu rhyfedd faner hefyd +Achuba, orchfyga fyd; +O Gressi'r maes hagr asw, +I antur lan Waterlw: +Ac y diwrnod cadarnwych +Bydd y deyrnas addas wych +Heb ei bath, heibio i bob +Un arall o fewn Ewrob; +Rheola mewn rhialyd +O begwn i begwn byd." + + Gyda bloedd, gweda Bleddyn, +"Y nefol Ior wna fel hyn, +Foreu tawel o frad tywyll, +A llewyrcha o'r ddichell erchyll: +Molwn Dduw y Nef, gan sefyll, +Yna pawb a awn i'n pebyll." + + + +CERDD CALAN GWYLIEDYDD Y WYDDGRUG. + + +Ymysgydwch o'ch cysgadrwydd-- + Yn filoedd dowch i foli Duw; +Torrodd gwawr ar flwyddyn newydd, + Gobeithiaf mai un ddedwydd yw: +Mae pob Calan fel yn gwaeddi, + A'r tymhorau bob yr un,-- +Yn eu dull yn dwys bregethu-- + "Derfydd dyddiau byrion dyn." + +Heddyw'm gorchwyl innau dderfydd, + Alwai'n chwaneg mo'no chwi; +Drwy fy nghylch yn bur wyliedydd + A lladmerydd y bum i; +Mi fynegwn ddull y tywydd, + P'un ai teg ai garw'r gwaith, +Fel y gwypech ar obenydd + Ai addas oedd y dydd i daith. + +Do, mi wyliais gylch eich drysau + Ar ryw oerion oriau hir, +Rhag i ddynion drwg eu nwydau + Dorri eich aneddau'n wir; +Tywydd garw, mwy nag oerni, + Ni wnai nhroi oddiar fy nhaith, +A chan ofal i'ch gwas'naethu + Methais gysgu lawer gwaith. + +Daeth fy ystod at ei therfyn, + Darfu'm tro oddeutu'ch tre', +Un galenig wyf yn ofyn + Am fy llafur yn y lle; +Chwi sy'n meddu da a moddion-- + Digon sy'n eich llety llawn,-- +Gwnai ychydig o'ch gweddillion + DIC a'i deulu'n llawen iawn. + + + +LLWYDD GROEG. + + +Awdl ar fuddugoliaethau diweddar y Groegiaid ar y Tyrciaid. + +Llwydd, llwydd, fwyn arwydd, i fanerau--Groeg, + Hir rwyged ei llongau +Bob rhes o lu gormes gau, +Drwy'r moroedd draw a'r muriau. + +"A llwydd gyfarwydd a fo +I'w Rhyddid, yn eu rhwyddo: +Na lanwed yn oleuni, +Cafn y Lloer {33} uwch cefn y lli'; +Ond isel, isel eisoes +Drwy gred ymgrymed i'r Groes. + + A thra tonn, Marathon, a muriau, +A rhin milwyr yr hen ymylau, +A gaent ffyniant gynt a hoff enwau, +O'u iawn barodrwydd, yn eu brwydrau, +Gwasgarer, gyrrer dan gaerau,--yn haid, +Weis Soldaniaid, isel eu doniau." + +[Marathon. "A thra tonn, Marathon, a muriau, +A rhin milwyr yr hen ymylau.": alun33.jpg] + +Fal hyn o bob dyffryn deg, +Ac ynys a gylch gwaneg; +O'r tyrau muriau mawrion, +Mannau dysg a min y donn,-- +Y glau Awen a glywodd +Y llais, a'r adlais a rodd +Groeg hen, yn gwiriaw cynnydd +Ei golau ddawn ac ail ddydd. + +Ar ystlysau ei mynyddau, +A'i ffynhonnau hoff yn unawl, +Gwelwyd chwithau, a'ch telynau, +Hen dduwiesau hoen ddewisawl; +Yn galw o'i nych i'w goleu'n ol--eich gwlad, +Ac iawn fwriad, a gwe anfarwawl. + +Ac wrth wych adlais, a gwyrth eich odlau, +Cysgodolion y diwydion dadau, +Yr aml areithwyr, y milwyr hwythau, +Gwyr fu o ddinam ragoraf ddoniau, +A neidiant, beiddiant o'u beddau,--a'u plant +A iawn gynhyrfant hwy i gain arfau. + +Mae Pindar, oedd gar gorwyllt, +A dawn ei gan o dan gwyllt; +Tyrtaeus yn troi tuedd, +I roi clod i wyr y cledd: +"O! (meddant,) p'le mwy addien, +Yn gwrr c'oedd, nag yw'n Groeg hen? +Ein gwlad fwyn, o glod a fu, +Unwaith, yn mawr dywynnu, +Eto'i gyd ytyw a'i gwedd, +A'i rhannau yn llawn rhinwedd: +Ym mro bon y mae hir haf, +Ber awel a byrr aeaf. +Yr haul y sy'n rheoli, +Heb roi haint, ar ei bro hi; +Mae nos, yn ei mynwesydd, +Megis chwaer ddisglaer i ddydd; +Aml y lle, ym mol ei llawr, +A mannau'r harddaf mynawr; +Hemaetus felus y fydd, +A diliau mel ei dolydd; +A'i ffrwythydd gwinwydd, fal gynt, +Di-odid mai da ydynt. +Holl natur bur heb wyro, +Sy'r un fraint i'r seirian fro, +A phan oedd, yn hoff ei nerth, +Briod-fan pob dawn brydferth. + +"Yma gwir Ryddid, a'i myg aur roddion, +Sef celfyddydau a doniau dynion: +Rhin a roi eil-oes i'r hen wrolion, +A gair odiaethawl i'w gorau doethion, +A wnaent gynt i helynt hon--anrhydedd, +Ynt, (ddi-hoff agwedd) o tan ddiffygion." + +Wrth eu haraith, effaith ddig, +Dawn y wlad, yn weledig, +Fal yspryd tanllyd o'u tu, +A wnae'n anadl enynnu,-- +Gan ddangos, yn achos Ner, +A'i fendith, a'i gyfiawnder, +Y mawr fri o dorri'r did, +I ymroddi am Ryddid. + +Pwy ar alwad, a piau wroliaeth, +Ni ddaw i'w dilyn, a nawdd o'i dalaeth, +A rhin fal arwyr yr hen filwriaeth, +Draw a hwylient i Droia ehelaeth, +Os y goll o Ryddid sy' gwaeth--na'r hen +Golled o Helen, gai hyll hudoliaeth? + +Hen anghrist, un athrist oedd, +O'r tu arall i'r tiroedd, +A gododd,--gwaethodd drwy'r gad, +Ar filoedd i'w rhyfeliad: +Un oedd o'r rhai aneddant +Uffern boeth yn ei ffwrn bant,-- +Hoffai lid a gofid gau, +A'i llwydd ydoedd lladdiadau; +Seirph tanllyd, gwaedlyd eu gwedd, +Gwenwynig, (gwae anhunedd) +Ei gwallt oedd,--a gwyllt eiddig, +Rhag hedd oedd dannedd ei dig; +Ei llygaid yn danbaid des +Oedd uffernawl ddwy ffwrnes; +A'u sylwedd, o'r iseloedd, +A'u mawr lid, tra marwawl oedd. + +O! pa ryfel, a'i uchel ochain, +Dial a'i ofid, a dolefain, +O'i chodiad irad yn y Dwyrain, + +'Fu'r un baich i fawrion a bychain; +Baban a mam (un ddamwain) lle cafodd, +Dieneidiodd o dan ei hadain. + +Ond Duw'r hedd o'i ryfedd rad, +Yn 'diwedd, roi wrandawiad +I'w blant,--pan godent eu bloedd, +Dan ofid hyd y nefoedd: +O Scio wylo, alaeth, +I'w glustiau'n ddiau a ddaeth; +A rhoes, Ior y Groes, ar gri, +Dyst eirian o'i dosturi; +D'ai'n gymorth, da borth di-baid, +Nes i ryw'r Nazareaid, +Rai marwawl, er eu muriau, +Ac erfyn eu gelyn gau. + +Angylion, genadon gwynion gannoedd, +Gyrrai i'w llywiaw, y gorau lluoedd, +Rhwygent y muriau, rhoi gwynt y moroedd +I'r ddi-ofn daran, hwyl ar ddyfnderoedd, +Llu'r Proffwyd dan arswyd oedd--pan welent, +Hwy draw a gilient i eu dirgeloedd. + +Yn awr (a Duw'n ei wiriaw) +Golygwn ddwthwn a ddaw,-- +Pan deflir, lluchir i'r llawr +Ddu arfawg anghrist ddirfawr; +A phan gair, yn hoff ei gwedd, +Gaer enwawg i'r gwirionedd: +Drwy reol gwydrau'r awen, +Draw'r llwydd a welaf drwy'r llen;-- +Llwydd oesoedd lluoedd Iesu, +Pan gant y feddiant a fu +O ddiwall wlad addewid, +Heb gaethder, llymder, na llid. + +Gyrr y Dwyrain, ac oer ia diroedd +Y dwfn eira, eu di-ofn yrroedd; +Gyrr y Deau hithau ei hieithoedd, +A Gorllewin ei gorau lluoedd; +Un fwriad a niferoedd--y fawr-blaid +O Groesadiaid, ac eres ydoedd. + +Bydd ar dyrau Salem furiau, +Y banerau yn ben arwydd, +I'r tylwythau, ar eu teithiau +I le'u tadau, olud dedwydd; +Ar Fosciaid y blaid heb lwydd,--dyrchefir +Ac eres welir y Groes hylwydd. + +A thi, Roeg, a'th ddaear wych, +A'th awyr brydferth hoew-wych, +A welir eto eilwaith, +Fal gynt, er rhyfelawg waith, +Yn llwyddo'n fronlle addysg, +A lle llawn pob dawn a dysg; +Byddi, heb nam, yn fam faeth +I rinwedd--i wroniaeth-- +I ddidwyll gelfyddydau, +Pob llwydd, a wna pawb wellhau; +I bob mad gariad gwladawl, +A fu gynt dy fwya' gwawl. + +Ac iawn adferir, gwnn, dy furiau, +Dy awen, llwynydd, dy winllanau, +Dy brif-ysgolion, dirion dyrau, +Lleoedd doethion ddynion o ddoniau; +Sparta hen, Athen hithau--a gant lwydd, +A fydd ddedwydd o gelfyddydau. + +Darlunir hyd ar lenni, +A mynnir, gwn, o'th meini +Gelfyddyd byd heb oedi; +Y dynion a adweini, +Yn rhediad eu mawrhydi, +Yn eil-oes, gwnn, a weli; +Eu cerf-ddelwau, lluniau llawn, +Fodd uniawn, a feddieni. + +Llwydd, llwydd, a dawn rwydd, dan ryddid--eto + Iti a chalondid: + Yn y byd hwn, na boed tid + Dan nefoedd yn dynn ofid. + +Ond aed (ac O! nad oeded)--lywodraeth + Ddi-ledryw gwlad Alffred, + A'i moliant i ymweled + A thir y Gryw, a thrwy Gred. + +Y Rhyddid sydd gyd-raddawl,--oll hydrefn + A llywodraeth wladawl, + Sydd dda;--a chyd-gerdda gwawl + Gair yr Iesu, gwir rasawl. + +A llwydd Dduw iddi, a lleoedd heddwch, +Gyrred allan o'i gaerau dywyllwch: +I ni y mae digon yma o degwch +Gael in', a'i hurddas, Gwalia'n ei harddwch; +Nes troi'n glynnau'n fflamau fflwch,--a'n creigiau, +Llonned ei dyddiau'n llen a dedwyddwch. + + + +HAWDDAMOR. + + +Englynion ar agoriad Eisteddfod Caerwys, 1823. + +Nawddamor bob gradd yma,--orwych feirdd, + Rhowch fyrddau 'ni wledda; + Lluman arfoll Minerfa + Sydd uwch Caerwys ddilys dda. + +Bu Caerwys, er pob corwynt--a 'sgydwai + Weis cedyrn eu tremynt,-- + Er braw, anhylaw helynt, + Nyth y gain farddoniaeth gynt. + +Troi o hyd mae byd heb oedi--a'n isel, + Mewn oesoedd, brif drefi; + Rhoes Groeg hen, a'i Hathen hi, + Awr i Gaerwys ragori. + +[Caerwys. "Er braw, anhylaw helynt, +Nyth y gain farddoniaeth gynt.": alun40.jpg] + +[Un O Heolydd Caerwys. "Rhoes Groeg hen, a'i Hathen hi, + Awr i Gaerwys ragori.": alun56.jpg] + + + +DAFYDD IONAWR. + + +Englyn o fawl i'r Bardd clodwiw am ei ymdrechiadau haeddbarch i ddiddyfnu +yr Awen oddiwrth ffiloreg a sothach, a'i chysegru i wasanaeth rhinwedd a +duwioldeb. + +Yr Awen burwen gadd barch,--unionwyd + Gan IONAWR o'i hamharch; +Hefelydd i glaf alarch +A'i mawl yw yn ymyl arch. + + + +GWYL DDEWI. + + +Penhillion a ddatganwyd yn Nghymdeithas Gymroaidd Rhuthyn, Gwyl Ddewi, +1823. + +Ton,--"_Ar hyd y Nos_." + +Trystio arfau tros y terfyn, +Corn yn deffro cawri y dyffryn,-- +Tanio celloedd--gwaed yn colli, +Yn mro Rhuthyn gynt fu'n peri +I'r ael dduo ar Wyl Ddewi, + Ar hyd y nos. + +Heddyw darfu ystryw estron, +Ellyll hwyr, a chyllill hirion; +Saeson fu'n elynion inni, +Heno gwisgant genin gwisgi-- +Law-law'n dawel Wyl ein Dewi, + Ar hyd y nos. + +Clywch trwy Gymru'r beraidd gyngan +Rhwygo awyr a goroian-- +Swn telynau--adsain llethri-- +O Blumlumon i Eryri-- +Gwalia ddywed--'Daeth Gwyl Ddewi,' + Ar hyd y wlad. + +Felly ninnau rhoddwn fonllef +Peraidd lais ac adlais cydlef; +Rhaid i'r galon wirion oeri +Cyn'r anghofiwn wlad ein geni, +Na gwledd Awen bob Gwyl Ddewi, + Ar hyd y wlad. + + + +EISTEDDFOD Y WYDDGRUG. + + +AT MR. E. PARRY, CAERLLEON. + +_Wyddgrug, Awst 16eg, 1823_. + +Goroian! goroian! Mr. Parry anwyl. Bydd Callestr yn enwocaf o'r +enwogion eto. Yr ydwyf newydd ddychwelyd o ystafell y dirprwywyr yn y +Leeswood Arms, lle y cydsyniodd y gwladgarol Syr Edward Llwyd i gymeryd y +gadair yn ein Heisteddfod; a rhoddodd 5l. at ddwyn y draul. Gosododd +y mater o flaen yr uchel-reithwyr (_grand jury_) am y Sir, a +thanysgrifiodd pob un o honynt bunt, gydag addaw ei noddi. Taflodd yr +Uchel-sirydd ei deir-punt at y draul, gan addunedu, er mai Sais oedd, y +byddai iddo noddi athrylith gwlad ei henafiaid hyd angeu. Dyma ddechreu +yn iawn onide! Bellach, fy nghyfaill, ni raid i chwi wrido wrth son am +eich sir gynhennid. Mae tan yn y gallestr, ac wedi ei tharaw o dde, hi a +wna holl Gymru "yn brydferth goelcerth i gyd." Gosododd Callestr yr +engraifft i holl siroedd eraill Cymru, trwy gymeryd y peth yn orchwyl y +sir, yn y cyfarfod uchaf sydd ganddi. + +Nid oeddym ar y cyntaf yn meddwl ond am un bunt yn wobrau am y +cyfansoddiadau goreu; maent yn awr wedi eu codi i bump, a disgwylir pan y +cyferfydd y dirprwywyr nesaf y gellir eu hychwanegu eto. Dyna'r pryd y +llwyr benderfynir ar y testynau, yr amser, y barnwyr, a'r gwobrau; a +byddaf yn sicr o anfon rhai o'r hysbysiadau argraffedig yn gyntaf oll i +fy nghyfaill caredig a gwresog o Gaer, heb ddymuno mwy na'i weled yn +ymgeisiwr llwyddianus. + +Mi a glywais fod Mrs. Parry a'i mab yn iach galonnog.--Dyma i chwi +ychydig rigwm a gysoddais wythnos neu ddwy yn ol, ar destun a mesur can +ragorach y doniol Erfyl. Chwi a welwch wrthi mai amcan at annerch y "gwr +ieuanc dieithr" ydyw, fel pe buaswn wyddfodol. + +Henffych, amhrisiadwy drysor, + Blaenffrwyth y serchiadau mad; +Ni fedd natur bleser rhagor + Na theimladau mam a thad. + +Wrth olygu'th wyneb siriol, + Gaiff dieithr godi ei lef, +'Mhell uwchlaw syniadau bydol-- + Erfyn it' fendithion Nef? + +Nid am gyfoeth, clod, na glendid + Caiff fy nymuniadau fod; +Dylai deiliaid tragwyddolfyd + Gyrchu at amgenach nod. + +Boed i'th rudd sy'n awr a'i gogwydd + At y bur dyneraidd fron, +Ddangos oedran diniweidrwydd,-- + Gwisged bob lledneisrwydd llon. + +Dy wefus sydd wrth ei chusanu + 'N ail i rosyn teg ei liw,-- +Boed i hon yn ieuanc ddysgu + Deisyf am fendithion Duw. + +Na wna achos wylo defnyn + O'r llygaid 'nawr mewn cwsg sy'n cloi, +Ond i dlodi dyro ddeigryn + Os na feddi fwy i'w roi. + +Dy ddwy law, sy'n awr mor dyner, + Na bo iddynt gynnyg cam; +Ond rho 'mhleth i ddweyd dy bader + Ac i ofyn bendith mam. + +Na boed gwen dy wyneb tirion + Byth yn gymysg gyda thrals, +Ac na chaffo brad ddichellion + Le i lechu dan dy ais. + +Na boed byth i'th draed ysgogi + Oddiar ffordd ddaionus Duw: +Er ei chau a drain a drysni-- + Llwybr i'r Baradwys yw. + +Boed i'th riaint fyw i'th arwain + Gam a cham ar lwybrau gwir; +Na foed arnat ras yn angen + Tra yma yn yr anial dir. + +Yr ydwyf yn gyrru eich llyfrau yn ol, gyda'r diolchgaiwch gwresocaf am eu +benthyg. Yn y sypyn, hefyd, cewch hen ysgrif-lyfr, haws ei ddeall na'r +llall: mynnwn gyfeirio eich sylw at y "Cywydd i law merch," ac ni chewch +eich siomi. Mae beirniaid da wedi meddwl mai llaw ysgrifen SION TUDUR ei +hun ydyw y llyfr hwn, ond prin y gallaf goelio hynny. Yn Rhuthyn y +prynais i ef, am 1s. 6c. 'Digon o newid arno,' meddwch chwithau. Pe +meddyliwn na byddai yn bechod anfaddeuol, gormeswn ar eich tiriondeb +ymhellach, a gofynwn am fenthyg _Transactions of the Cymmrodorion_, +yn ol gyda'r dygiedydd. Yr ydwyf, ar ddymuniad gwr Eglwysig, yn bwriadu +cyfieithu "Hanes y Cymry, o farwolaeth Llewelyn hyd eu hundeb a Lloegr." + +Maddeuwch fusgrellni fy llythyr,--yn wir mae gorfoledd am lwyddiant ein +Heisteddfod wedi fy nghymysgu yn llwyr, fel na wn pa beth a ysgrifenais. + + + +"RHYWUN." + + +Clywais lawer son a siarad +Fod rhyw boen yn dilyn cariad; +Ar y son gwnawn innau chwerthin +Nes y gwelais wyneb Rhywun. + +Ni wna cyngor, ni wna cysur, +Ni wna canmil mwy o ddolur, +Ac ni wna ceryddon undyn +Beri im' beidio caru Rhywun. + +Gwyn ac oer yw marmor mynydd, +Gwyn ac oer yw ewyn nentydd; +Gwyn ac oer yw eira Berwyn, +Gwynnach, oerach, dwyfron Rhywun. + +Er cael llygaid fel y perlau. +Er cael cwrel yn wefusau, +Er cael gruddiau fel y rhosyn, +Carreg ydyw calon Rhywun. + +Tra bo clogwyn yn Eryri, +Tra bo coed ar ben y Beili, +Tra bo dwfr yn afon Alun, +Cadwaf galon bur i Rywun. + +Pa le bynnag bo'm tynghedfen, +P'un ai Berhiw ai Rhydychen, +Am fy nghariad os bydd gofyn, +Fy unig ateb i fydd--Rhywun. + +Caiff yr haul fachludo'r borau, +Ac a moelydd yn gymylau,-- +Gwisgir fi mewn amdo purwyn +Cyn y peidiaf garu Rhywun. + +[Cartref Gwyn: "Gwynnach, oerach, dwyfron Rhywun.": alun48.jpg] + + + +MAES GARMON. + + +_Rhagymadrodd_. + +Boed Hector flaenor a'i floedd, +Eirf Illium a'i rhyfeloedd, +Groeg anwar mewn garw gynnen, +Bynciau y per Homer hen; +Hidled Virgil, wiwged was, +Win awen uwch AEneas; +Gwnaed eraill ganiad eurwedd +Am arfau claer,--am rwyf cledd, +Byllt trwy dan gwyllt yn gwau, +Mwg a niwl o'r magnelau; +Brad rhyw haid, a brwydrau hen, +Oes, a phleidiau Maes Flodden; {45a} +Gwarchau, a dagrau digrawn, +Cotinth a Valencia lawn, {45b} +Eiliant bleth, a molant blaid +Gywreinwych ei gwroniaid. + + Mae gennyf yma i ganu +Fwy gwron, sef Garmon gu; +Ag eirf dig eu gorfod oedd, +Gorfodaeth braich gref ydoedd; +Hwn gadd glod a gorfodaeth +Heb ergyd na syflyd saeth; +I lu duwiol a diarf +Yn wyrth oedd,--ac heb nerth arf; +Duw yn blaid, a wnae eu bloedd +Heibio i ddawn y byddinoedd. + +_Hwyrddydd ar y Mor_. + + Y dwthwn 'raeth cymdeithas +Gwyr Rhufain, o Frydain fras, +Ar hwyrddydd o ryw harddaf, +Mwyna 'rioed yn min yr haf; +E giliai'r haul, glauar hin, +Ag aur lliwiai'r Gorllewin; +Goreurai gyrrau oerion, +Ferwawg a del frig y donn; +Holl natur llawen ytoedd, +Ystwr, na dwndwr, nid oedd; +Ond sibrwd deng ffrwd ffreudeg +Llorf dannau y tonnau teg; +A'r tawel ddof awelon, +Awyr deg ar warr y donn; +Ton ar don yn ymdaenu, +Holl anian mewn cyngan cu, +Gwawr oedd hyn, a gyrr i ddod, +Ac armel o flaen gwermod; +Cwmwl dwl yn adeiliaw, +Oedd i'w weled fel lled llaw. + +_Tymhestl_. + +Ael wybren, oedd oleubryd,--a guddid + Gan gaddug dychrynllyd,-- +Enynnai yr un ennyd, +Fel anferth goelcerth i gyd. +Mor a thir a'u mawrwaith oedd, +Yn awr, fal mawr ryfeloedd; +Mawr eigion yn ymrwygo, +Ar fol ei gryf wely gro; +Archai--gan guro'i erchwyn, +A'i dwrw ffrom--dorri ei ffrwyn; +Ymwan Udd {47} uwch mynyddoedd, +At y Nef yn estyn oedd; +Dynoethid yna weithion, +Draw i'r dydd, odreu'r donn; +Dodwodd y cwmwl dudew +Ei genllysg i'r terfysg tew; +A'r gwyntoedd rwygent entyrch, +Neifion deifl i'r Nef yn dyrch; +Deuai nos i doi y nen, +Duai'n ebrwydd dan wybren; +Ac o'r erchyll dywyll do +Tan a mellt yn ymwylltio; +Taranent nes torwynnu +Y llynclyn diderfyn du. + + Yn mysg y terfysg twrf-faith +Gwelid llong, uwch gwaelod llaith, +Yn morio yn erbyn mawr-wynt,-- +Mor yn dygyfor, a'r gwynt +Wnai'r hwyliau'n ddarnau'n ei ddig, +A'r llyw ydoedd ddrylliedig; +Mynedyddion mwyn doddynt, +Eu gwaedd a glywid drwy'r gwynt; +Llef irad a llygad lli, +Y galon ddewra'n gwelwi; +Anobaith do'i wynebau, +Ac ofn dor y gwyllt-for gau, +Gwynnodd pob gwep gan gynni,-- +Llewygent,--crynent rhag cri +Gwylan ar ben'r hwylbren rhydd, +"Ysturmant yr ystormydd!" +A mawrwych galon morwr, +Llawn o dan, droai'n llyn dwr; +Llw fu'n hawdd, droe'n llefain O! +A chan elwch yn wylo. + +_Garmon a Bleiddan_. + + Yn mawr swn ymrysonau +'R tro, 'roedd yno ryw ddau +Llon hedd ar eu gwedd hwy gaid, +A chanent heb ochenaid: +Un Garmon, gelyn gormail, +A Bleiddan ddiddan oedd ail; +Gwelent drigfannau gwiwlon, +Ac iach le teg, uwchlaw tonn,-- +Lle nad oes loes, fel isod, +Nac un westl dymestl yn dod; +Eiddunent hwy Dduw anian,-- +Traethaf a gofiaf o'r gan. + +"Hyd atad, ein Duw, eto, +Dyneswn, edrychwn dro; +Rhown i ti, rhwng cernau tonn, +Hael Geli, fawl o galon; +Rhued nawf, nis rhaid i ni, +Uwch ei safn, achos ofni: +Y lli dwfr sy'n y llaw dau,-- +Dy law, 'n Ion, a'n deil ninnau. + +"Ti yw arweinydd y taranau, +Tefli y sythion fellt fel saethau,-- +Gan roi, a dwyn, dy ffrwyn yn ffroenau +Anwar dymestl,--mae'n wir diamau: +Yng nghynnen yr elfennau--rhoddi'r gwynt, +Gelwi gorwynt,--neu gloi ei gaerau. + +"Y mor uthr udawl, a'i dra mawr ruthriadau, +Y sydd fel moelydd uwch y cymylau; +Yr wyt ti, Ynad, ar warr y tonnau, +Yn trefnu hynt y chwerw-wynt i chwarau; +Cesgli'r gwynt chwyrn i'th ddyrnau,--yn sydyn, +Arafa wedyn bob cynhyrfiadau. + +"Pa ragor in' for yn fedd +Na gwaun dir i gnawd orwedd? +Cawn i'th gol o farwol fyd, +Yn nydd angeu'n hawdd ddiengyd,-- +Mae'n calon yn boddloni +I uniawn drefn Un yn Dri." + +Pan ar ben gorffen y gan +Y terfynai twrf anian; +Clywai'r Un sy'n cloriannu +Rhawd, o'r ser i'r dyfnder du: +Arafodd, llaesodd y lli, +Trychineb, a'r trochioni; +Mor a nen ymyrrai'n ol, +I ddistawrwydd ystyriol; +Deuai hwyl a da helynt +Y donn yn gyson a'r gwynt; +Mewn un llais rhoent hymnau'n llon, +I'r hwn a roes yr hinon; +Yna y chwai dorrai dydd,-- +Dyna lan Prydain lonydd. +Doe'r llong, ar ddiddan waneg, +I ben y daith--Albion deg. + +_Prydain yn 429_. + + Hil Gomer yr amser hyn, +Oedd o nodwedd anhydyn; +Amryw nwyd wnae Gymru'n waeth, +Mawr gynnen, a Morganiaeth; +Gwyr digariad i'w goror, +Lanwai a cham, lan a chor: +Rhai ffol yn cymysgu'r ffydd +A choelion am uchelwydd; +Gwadu Crist, neu gydio'u cred +Ar glebr am "dreiglo abred"; +Pictiaid, Ysgotiaid, weis cas, +Ruthrent, lunient alanas; +A Phrydain heb undeb oedd, +Na llyw wrth ben ei lluoedd; +Y llysoedd, yn lle iesin +Farnu gwael, oe'nt defyrn gwin; +Brad amlwg, a brwd ymladd, +Gorthrech, cri, llosgi, a lladd, +Wnae Albion,--a'u troion trwch +Yn ail i ryw anialwch. + +_Taith y ddau_. + +Y teulu apostolaidd +Eu bron, cyn gorffwyso braidd, +Drwy'r wlad, ar waith clodadwy +Eu Tad, ymegnient hwy. + +Gan foreu godi,--rhoddi'n rhwyddion +Fyrr o Gilead wrth friwiau gwaelion; +Digyrith bleidio gwirion--rhag gwrthdrin, +Rhoi llaeth a gwin i'r llwythau gweinion. + +_Cynhadledd a'r Morganiaid_. + +Iselaidd furiau Salem +Godent, ac urddent a gem; +A gem y ddau ddegymydd, +Fu aur a ffurf y wir ffydd; +Gemau'r gair, disglair, dwys, +Yw parwydydd Paradwys; +Er gogan, a phob anair, +Dysgent, pregethent y gair, +Nes cwnnu'r llesg gwan o'r llaid,-- +Taro'r annuw trwy'r enaid: +Lle blin a hyll o'u blaen oedd, +Ail Eden o'u hol ydoedd; +O flaen rhain, diflannu'r oedd +Heresiau mwya'r oesoedd; +Tost iawn chwedl i genedl gam +Fu'r holiad yn Verulam: +Ugeiniau o'r Morganiaid, +Ddynion blwng, oedd yno'n blaid: +Llwyddai Ion y dynion da, +Er c'wilydd Agricola; +Ar air Ion, i lawr yr aeth +Muriau gweinion Morganiaeth. + +Dynion oedd dan adenydd--ystlumaidd + Gwestl amhur goelgrefydd; + Ymagorai'r magwrydd, + Gwelen' deg oleuni dydd. + +Morganiaid er mawr gynnwrf, +Hwynt yn eu llid droent yn llwfr; +Yna'r dorf anwar a dig, +At y gwyr godent gerrig,-- +A mynnent bwyo 'mennydd +Y rhai ffol fu'n gwyro'r ffydd! +Ond y graslon Garmon gu +A ataliodd y teulu: +Bleiddan, ar hynny, bloeddiai,-- +"Clywch! eon, ry eon rai! +Pwyllwch, arafwch rywfaint! +Godde' sy'n gweddu i saint; +I'n Duw y perthyn dial,-- +I'r annuw ein Duw a dal; +Par ei farn am bob rhyw fai, +Llaw dialedd lle dylai. +Ond cafodd fodd i faddau,-- +Drwy gur un--gall drugarhau; +Y garw boen, hyd gaerau bedd, +Agorai gell trugaredd; +A'n harch gwir, i lenwi'r wlad +Yn farn am gyfeiliornad, +Yw troi, o ras ter yr Ion, +Galonnau ein gelynion +I droedio wrth ddeddf dradoeth; +Dyn yn ddwl,--Duw Ion yn ddoeth. +Felly yn awr, dan wawr well, +Pob un ant tua'u pabell; +Nef uchod rhoed Naf i chwi,-- +Mewn heddwch dychwelwch chwi." + +Tra llefarodd, troell fawrwych +Anian droes yn iawn ei drych; +Y dymer ydoedd dwymyn +Dda'i yn ei lle,--toddai'n llyn. +Gwelent ei drwg--amlwg oedd, +A'u llid--mor fyrbwyll ydoedd; +Ust! tawelynt drwyddynt draw, +O dawelwch, doi wylaw. +'Nawr o'u dwrn yn ara' deg +Parai gwir gwymp i'r garreg; +Trwst y main, a'r ubain rhwydd +Dwys, a dorrai'r distawrwydd. +Yna'r gynulleidfa'n llon +Ddychwelent--(gwedd a chalon +Eto'n awr yn gytun oedd,) +Law yn llaw, lonna lluoedd. + +_Cyrraedd Ystrad Alun_. + +Dau gennad gwyn! Wedi gwyl +Hwy gyrchent at eu gorchwyl. +Llafurient a'u holl fwriad, +Dan Ior i oleuo'r wlad; +A'i dwyn hi dan ordinhad +Da reol, o'i dirywiad; +Dan y gwaith heb lid na gwg, +Trwy erlid, ymlid amlwg, +Doent wrth deithio bro a bryn, +I olwg Ystrad Alun; +Elai'r gwyr, gan eilio'r gan, +Drwy Faelor, oror eirian. +Hwyr hithau ddwyrai weithion, +Llwydai fry ddillad y fron; +Ucheron, {53} uwch ei chaerydd, +A'i t'wysai, pan darfai dydd; +Y lloer, a'i mantell arian, +Ddeuai un modd, yn y man; +Daeth o le i le fel hyn +Y faith yrfa i'w therfyn; +Nawdd Ior, ac arweinydd ddug +Y rhwyddgraff ddau i'r Wyddgrug: +Lletyent mewn lle tawel, +Trigle der a mangre mel; +Lle addas y lluyddwr +Rhufon, oedd yn union wr; +Un crefyddol, dduwiol ddawn, +Doeth, a'i gyfoeth yn gyfiawn; +Iachawdwr, a braich ydoedd, +Ac anadl ei genedl oedd; +I'w ardal deg, ateg oedd, +Llywiawdwr ei llu ydoedd; +Dau noddwr duwinyddiaeth, +Arfolli, noddi a wnaeth; +Eu siarad, am rad yr oedd, +A mesurau'r amseroedd; +Gwael greifion y goelgrefydd, +Rhannau a ffurf yr iawn ffydd; +A bro a'i hedd i barhau, +Uwch annedwydd och'neidiau; +Y duwiol hyfrydol fron +Ddiddenid a'u 'mddiddanion; +Rhufon er hynny'n rhyfedd, +Oedd o ddirgel isel wedd; +Son am loes sy'n aml isod, +A chael rhan uwchlaw y rhod, +Wnae'i fron der, yn nyfnder nod, +Chwyddo o ebwch ddiwybod; +Ei deg rudd, lle gwelwyd gwrid, +A ddeifiodd rhyw ddu ofid; +A dygai'r llef y deigr llaith +I'r golwg, 'nawr ac eilwaith. +'Roedd gwaelod y trallod trwch +I wyr Gallia'n ddirgelwch; +Hwy sylwent mai isel-wan +A dwl, oedd ei briod lan; +Beth fu'r anferth ryferthwy +Ni wyddent--ni holent hwy. + + Yna, a'u bron heb un braw, +Hwy wahanent i hunaw; +Pwys y daith, mor faith a fu, +A'i gwasgodd hwynt i gysgu: +Edyn Ion, rhag troion trwch, +A'u mantellynt, mewn t'wllwch. + + Yn bur a gwyneb araul, +Cwnnu yr oedd cyn yr haul +Y ddau deg, ddifreg o fryd, +A Rhufon hawddgar hefyd; +Rhodient i wrando'r hedydd +Gydag awel dawel dydd, +Hyd ddeiliog lennydd Alun, +I weld urddas glas y glyn; +Clywent sibrwd y ffrwd ffraeth +Yn dilyn hyd y dalaeth; +Y gro man ac rhai meini, +Yn hual ei hoewal hi. + +Agorir dorau goror y dwyrain, +Yna Aurora sydd yn arwyrain; +Nifwl ni 'merys o flaen ei mirain +Gerbyd llachrawg, a'i meirch bywiawg buain, +Ewybr o gylch y wybr gain--teifl gwrel, +A lliwia argel a'i mantell eurgain. + +Yna deffrodd awelon y dyffryn, +Ae' si trwy y dolau'n Ystrad Alun; +Haul drwy y goedwig belydrai gwed'yn, +Bu i Argoed hirell, a brigau terwyn, +D'ai lliw y rhod oll ar hyn--fel porffor, +A goror Maelor fel gwawr aur melyn. + +Ar ei hadain, y seingar ehedydd +Fwria'i cherddi i gyfarch y wawr-ddydd; +Deffroai gantorion llon y llwynydd +I bereiddio awelon boreu-ddydd,-- +A pher wawd i'w Creawdydd,--trwy'r wiw-nen, +O ferion awen,--am foreu newydd. + +Bwrid ar hyn heb eiriach, +Ganiadau o bigau bach; +Eu glwys-gerdd lanwai'r glasgoed,-- +Caniadau rhwng cangau'r coed; +Gwna bronfraith dasg ar las-gainc, +Trwsio'i phlu a chanu'i chainc. + +Yna llon ganai llinos--i gynnal + Cerdd geinwech yr eos, +Ymorau heb ymaros, +I Geli am noddi'r nos. + +A seiniai, pynciau pob pig +I'w Creawdwr caredig; +Nes yr aeth yn mhen ennyd +Yr wybr fan yn gan i gyd. + + Esgynnent, troent eu tri +I balawg Fryn y Beili, +I weld y wlad,--ferthwlad fau,-- +Rhedai Alun trwy'i dolau +Dyffrynol, breiniol a bras, +Oll yn hardd a llawn urddas; +Duw Celi oedd gwedi gwau +'N gywrain eu dillad gorau; +Deor myrr, neithdar, a mel, +Yn rhywiog a wnae'r awel; +Aroglai'r manwydd briglas, +Y bau a'i chwrlidau'n las; +A diffrwyth lysiau'r dyffryn +Gwlithog, fyrdd, mewn gwyrdd a gwyn. +Ebrwydd, y corn boreubryd +Alwai 'ngwrth y teulu nghyd; +Teulu y castell telaid, +'Nol porthi, mewn gweddi gaid. + +Rhufon a yrrai hefyd +Efo'r gweis, trwy'r fro i gyd, +Am neges em enwogion +I weled tir y wlad hon,-- +Yr eilient yn ochr Alun +Araeth am gadwraeth dyn; +A'u bod am weini bedydd +Yn ael y dwfr, ganol dydd; +Ag awydd ferth, gweddai fod +Bawb ynaw a'u babanod; +Mai bechan y Llan oll oedd +I gynnwys amryw gannoedd. + +_Gofid Rhufon_. + + Felly aent o'r arfoll hon +Eu tri, i'r gerddi gwyrddion; +Mawl i Dduw roent mewn teml ddail, +Gwedi 'i gwau gyda gwiail; +Ei lloriau, a gleiniau glwys, +B'rwydid fel ail Baradwys; +Sonient, with aros yno, +Am och a brad,--am uwch bro,-- +Lle na ddel gwyll neu ddolef,-- +Am urdd yn Nuw,--am ardd Nef,-- +Gardd o oesol radol rin, +A'i haberoedd yn bur-win. + +Rhufon, dan ofid rhyfawr, +Ni ddywedai--ofynnai fawr; +Danghosai' liw, nid gwiw gwad, +Loes erwin uwchlaw siarad; +O'r diwedd, 'nol hir dewi, +Ochenaid, a llygaid lli, +A'i ddagrau, fel rhaffau'n rhydd, +O'i lygaid yn wlawogydd,-- +Tan grynnu'i fant yn graen, fo +Gwynai alaeth gan wylo, + +"Enwogiawn, mi wn agos +Rhaid i 'null ar hyd y nos +Ddangos fod saeth gaeth, a gwg, +Drwy'r galon draw o'r golwg; +Y ngrudd gref, lle gwingodd graid, +Llychwinodd aml ochenaid; +Grym y groes, a dagrau'm gwraig, +Dyrr wen y diarynaig. +Mynegaf i'm henwogion +Hanes fy mriw--naws fy mron, +A'r achos o'm hir ochi,-- +Yr oedd mab iraidd i mi; +Delw i'r holl ardaloedd,-- +Eu tegwch a'u harddwch oedd; +'R oedd ei rwydd daclusrwydd clau, +A'i lun nerthol yn wyrthiau; +A gwen hoff lawen a fflwch, +Ireiddiwch ar ei ruddiau. + +"Dau lygad ei dad ydoedd, +Un enaid a'i enaid oedd; +Rhyw adyn ei rwydo wnaeth +A'i swynion, i gamsyniaeth,-- +Un tonnawg anghytunol +Droes allan, a phagan ffol; +Ac oerodd ei holl gariad +At wir Duw,--at eiriau'i dad; +Hynny fagodd genfigen, +Yr un dydd yn ei fron denn,-- +Lle cadd hen genfigen faeth, +Ddylanwodd o elyniaeth,-- +Ae'n greulon, anfoddlon fab, +Fu'n war anwyl ireiddfab; +Y diwedd oedd--gadodd ef +Mewn gwg,--huddwg ei haddef, +Gan addaw dod, diwrnod du, +A dialedd i'w deulu; +Gwauai y dwrn,--rhegai' dad, +O'm Duw! fath ymadawiad! +Er gwae im', rhwygai ymaith-- +Na wyr ond Ion ran o'i daith; +Nis gallaf, dan drymaf dro, +Ond trist ruddfanu trosto. + +"O'r diwrnod bu'r du ornwaith, +Ni chenais, ni cherddais chwaith,-- +Picellau drwg ofnau gant, +Y fron wirion fraenarant: +Na welir hwn, wylo'r wyf,-- +Ac wylo rhag ofn gwelwyf +Etifedd gwae! tyfodd gwyn +Diymarbed i'm herbyn; +Funud ni phrisiaf einioes,-- +Aeth yn faich holl ddwthwn f'oes! +O Angeu! torra f'ingedd, +'Rwy'n barod, barod, i'm bedd." + +Eto y toddai natur +Yn ddagrau fel perlau pur; +Delwai, mudanai'r dynion, +Gyda'u brawd gwaedai eu bron; +Pwyntient fys at lys hael Ion-- +Lle o allu ellyllon. + +Synnent, ac edrychent dro, +Eilwaith cymysgent wylo: +Addysgid y ddau esgob +Felly'n null cyfeillion Iob; +I ganfod fod llym gwynfawr +Bwysau ei ofidiau'n fawr. + +_Y Gynulleidfa_. + + Ar hyn d'ai gwas addas wedd, +Mynegai mewn mwyn agwedd, +Fod nifer, yr amser hyn, +Ar ddolau iraidd Alun; +A'u disgwyliad dwys gwiwlon +Am glywed clau eiriau'r Ion. + + Sychu oedd raid y llygaid llaith, +O fwriad at lafurwaith: +O'r deildy tua'r doldir +Yr elent hwy trwy lawnt hir; +A gwelent war, liwgar lu, +Yn gannoedd yno'n gwenu. +O ddisgwyl y ddau esgawb, +A gwyneb pur gwenai pawb, +O oedran diniweidrwydd, +Y'mlaen, hyd i saith-deg mlwydd; +Rhai ieuainc, mewn chwidr awydd +Yn chwarau ar geinciau gwydd; +Arafaidd d'ai'r gwyryfon, +Yn weddaidd, llariaidd a llon; +Oeswyr, a phwys ar eu ffyn, +Hulient dorlennydd Alun; +Doethaidd eu dull i'r dwthwn, +Eistedd wnai'r gwragedd yn grwn; +Pob mam lan a'i baban bach, +Ryw hoenus,--a rhai henach, +A geisient gael eu gosod +Dan sancteiddiol nefol nod; +'Nawr mewn trefn, tu cefn i'r cylch, +Gan ymgau'n gain o amgylch, +Y deuai holl wrandawyr +Y graslon enwogion wyr. + +Ar ddeulin yr addolynt +Yr Oen hoeliwyd, gablwyd gynt; +A Bleiddan, drwy fwynlan fodd, +Ar Dduw a hir weddiodd; +Eiddunodd newydd anian, +A mawr les, i Gymru lan; +I beri hedd, nes byrhau +Ochain hon a'i chynhennau,-- +A throi i'r wir athrawiaeth +Rai'n ol, ar gyfeiliorn aeth; + +Ac yna, na cha'i Morganiaeth,--na gwenwyn + O geuneint Derwyddiaeth, +Fwrw'u dilyf ar dalaeth, +Yn hwy'n lle manna a llaeth. + + Bedyddio wnaent--(byd dd'ai'n wyn) +Wyr mewn oed,--rhai man wedyn; +Yna'r sant 'nol gweini'r swydd +Ystyriol--mewn distawrwydd, +Yn ei wisgoedd wnai esgyn +I ochr llethrawg, frithawg fryn; +Ac eurmyg lleuai Garmon, +A'i dafod aur, eiriau'r Ion; +Gwrthbrofi, dynodi wnaeth +Amryw gynneiddf Morganiaeth; +Mor ffraeth ei araeth euraidd,-- +Enaid a grym hyd y gwraidd; +Y llu ddaeth i gablu gwyr, +Hwy ddeuent yn weddiwyr: +Trwy'r gair llym y troir gerllaw +Annuwiolion i wylaw; +Pan felltenai Sinai serth +I gydwybod,--gwaed aberth +Wna'i fellten a fa'i wylltaf +Ddiffodd, yn hedd ffydd yn Naf; +Agorai wefus gwrel, +A'i fant a ddyferai fel; +Drwy lawn gainc, darluniai gur +Tad a Cheidwad pechadur,-- +Yr iawn a ro'es, drwy loes lem, +Croeshoeliad Oen Caersalem; +Ban dug, trwy boenau dygyn, +Fodd i Dduw faddeu i ddyn;-- +Ei araeth gref am wyrth gras +Wnai un oer bron yn eirias. + +_Dychryn y ffoaduriaid_. + + Ynghanol y dduwiol ddysg, +Clywid cynnwrf, twrf terfysg; +Llefau galar gyda'r gwynt, +Sitwyr yn neshau atynt! +Ar hyn, dyna ofngar haid +O derydd ffoaduriaid,-- +Lu gwael o liw--ac ael wleb, +A gwannaidd oedd pob gwyneb: +"Daeth," dyhenent d'wedent hwy, +"Awr hyf warth a rhyferthwy; +Mae Saison, anunion wyr, +A brathawg lu y Brithwyr, +A'u miloedd dros dir Maelawr,-- +Gwelsom fin y fyddin fawr! +Temlau a thai llosgai'r llu-- +Nen a magwyr sy'n mygu; +Ha! erlidiant ar ledol +Y rhai ddaeth yn awr i'r ddol; +Clywch don anhirion eu nad, +Ffown, ffown! am amddiffyniad." + +Y gair, fel loes gwefrawl, a +Darfodd pob rhan o'r dyrfa; +A chwerw nod dychryniadau +Oedd yn eu gwedd hwy yn gwau; +Mewn ofnawl, ddidawl ddadwrdd, +Mynnent ymroi, ffoi i ffwrdd; +Ond Rhufon, drwy fwynlon fodd, +Un teilwng, a'u hataliodd-- +Nad oedd y fyddin, erwin hynt, +Eto yn agos atynt: +Enynnodd aidd hen anian +Y milwr dewr, mal ar dan. + +_Milwr a Sant_. + +"Rhyfel!" dolefai Rhufon, +Ag araul fryd gwrol fron, +"Heddyw fy hen gleddyf hir, +I ddwyn aeth a ddyncethir; +Gwnaf wyrthiau trwy gnif erthwch-- +Gwnaf weld eu llu'n llyfu'r llwch; +Codwn, arfogwn fagad +O wrol wych wyr y wlad; +A'm milwyr a'u hymwelant, +Pob gwr fydd gonc'rwr ar gant; +Wyf Rufon, er f'oer ofid, +A ddeil arf drwy dduwiol lid; +Terwyniant ein tariannau +Ni ddeil bron y galon gau; +Heno o'u balch lu, ni bydd +Un i leidio'n haelwydydd; +Trwy ryfel dihefelydd, +Ac enw Duw,--cawn y dydd! +Y'mlaen! pur yw'n hantur hon!" +"Arafa, danbaid Rufon!" +Eb Garmon,--"Er pob gormes +Yn fur prawf, yn farrau pres, +Mae telid gadernid Ion +Is awyr o gylch Seion; +Ei phen a'i hamddiffynydd +Yw'r Duw sy'n Greawdwr dydd; +Ein hiawn bwys yn hyn, O bid +Ar Dduw a'i wir addewid; +A Duw a'n cyfyd ni, cofiwn, +Y diwedd o'r hadledd hwn; +"Y Duw a barai fod aberoedd +O sawr diliau, mewn cras ardaloedd, +I gynnal ei blant gannoedd,--a dwfr fal +Gwawr y grisial o graig yr oesoedd, +Ac a lywiai Iago a'i luoedd +Mawr a difraw, rhwng muriau dyfroedd,-- +A Pharaoh a'i anhoff yrroedd--wnai gau +O fewn dorau y gorddyfnderoedd; +Y Duw hwnnw gyfyd hinon +Awyr dawel, o oriau duon, +Dilai gwared ei deulu gwirion +Rhag galanas a rhwyg gelynion; +Y Duw fu'n blaid Gedeon, rwystra i yrr +Yr un o'r Brithwyr wanu'r Brython." + +Trwy galon Rhufon yr aeth +Cywir donau crediniaeth; +Distawodd, lleddfodd y llu, +Eu gwelw wawr a'u galaru; +Heb ddal ynni, boddlonynt +I weision Ior hwylio'r hynt. + +Hwy roddent gyfarwyddyd +Am hwyl y gorchwyl i gyd. + +Ag ysgafn droed i goed gwydd, +Encilient dan y celydd; +Rhufon hoff, er mwyn cloff, claf, +Anwylaidd, safai'n olaf; +A thawel gynorthwyai +Y gweinion efryddion rai. + +Yn ol dod dan gysgod gwig +I gyd, ar lawr y goedwig, +Plygent lin, ac a min mel +Yn ddwys mewn gweddi isel: +Yn ysbaid hyn, os bai twrf, +Ochenaid lesg, a chynnwrf,-- +Codai Garmon lon ei law, +Agwedd Ust! ac oedd ddistaw. + +Er gwersi, er gweddi'r gwyr, +Er teg osteg, ac ystyr,-- +Gwael agwedd y golygon +Ddwedai fraw y ddiwad fron. + +Ar hyn, dyna'n syn neshau +Athrist dwrf, a thrwst arfau; +Lwyrnych estronawl oernad, +Croch gri, a gwaeddi,--"I'r gad";-- +Yr waedd oedd yn arwyddaw +Fod galon llymion gerllaw: + +Yna y treigl swn eu traed, +Yn frau o fewn cyrrau'r coed,-- +Lleng a'u gwich am ollwng gwaed +Gwyr o ryw hawddgara 'rioed. + +Adeg alarus ydoedd, +Ac awr heb ei thebyg oedd; +Awr gerth, na ddileir o go', +Ac awr calonnau'n curo; +Y goch ffriw aeth a'i lliw'n llwyd, +Dewr wedd ae'n orsedd arswyd. + +Trwy'r ddol y gelynol lu, +Groch anwar, wnai grechwenu, +Er dannod gwarth Prydeinwyr,-- +(Rhy fuan gogan y gwyr.) + +Gan ymnerth, ac un amnaid, +Yn llu yn awr, oll 'e naid +Y Brython,--yn llon eu llef, +Unllais, ac adlais cydlef, +Germain oedd, rho'i Garmon air, +Addasol ei ddewisair,-- + +_Haleluia! Haleluia_! lawen, +Ar y gair, ebrwydd y rhwygai'r wybren, +Creigiau,--a chwedi pob crug a choeden +Yn y dyspeidiad oedd yn d'aspeden; +A'r engyl yn yr angen--yn uno,-- +A gawriai yno holl gor y wiw-nen. + +Chwai hyrddiwyd galon chwerw-ddull, +Dychrynnent, ffoent mewn ffull. + +"Frithwyr ffel! beth yw'r helynt? +Dewch i gad,--ymffrostiech gynt! +Hai! ffwrdd! codwch waewffyn, +Hwi'n golofn,--dacw'n gelyn! +Ymrestrwch,--troediwch mewn trefn, +Och! enrhaith! beth yw'ch anrhefn?" + +Unwaith ni wrendy'r annuw, +I'w dilyn mae dychryn Duw; +Eu heirf serth, yn y twrf sydd, +Wana galon eu gilydd;-- +Astalch i astalch estyn, +A chledd sydd yng ngledd y'nglyn. + + Clywai Alun destun da, +Alawon Haleluia; +A chiliodd dros ei cheulan,-- +Hi droes lif ar draws y lan; +A mynnent hwy, er maint hon, +Yn eu braw, rwyfaw'r afon: +I dawch Alun dychwelynt,-- +Aeth hon fel y Gison gynt: +A mawr dwrdd--ym merw'r donn, +Cell agerdd cylla eigion: +Gwenodd Alun, gwyn ddiluw, +Gael yno dorf galon Duw; +Llafuriodd y llifeiriaint, +Gyda si, i gadw y saint; +Sugnai'r llyn y gelyn gau, +Gwingodd dan grafanc Angau. + +O foreu dwl, ar fyrr daeth +Gwawr deg o waredigaeth; +'Nawr gwelai'r Cymry'r galon, +Yn soddi is dyli'r donn; +Gan wau yn dyrrau dirif, +A swn eu llais yn y llif; +Llifeiriant a i holl farrau, +Tonnau certh, arnynt yn cau:-- +Nodent nad oedd mewn adwy, +Glan, na maes, un gelyn mwy; +Prin coelient--safent yn syn-- +Ddolef eu ciaidd elyn. + +Dyferai eu clodforedd, +Drwy'r glynnau yn hymnau hedd; +Ac yn eu plith canai plant, +Swn melus atsain moliant. + + Yna'r saint mewn eres hwyl +A anerchent,--iawn orchwyl-- +Araf lef i'r dyrfa lan, +Dorrent ollyngdawd eirian. + +"Ein Ner, mewn blinder, fu'n blaid +I'w war union wirioniaid; +Duw'n y blwng wrandawai'n bloedd,-- +Boddai yna'r byddinoedd. + +"Eurawg olwynion hen Ragluniaeth, +Barai'r dolydd, y wybr a'r dalaeth, +I wyrthiol adsain germain gaeth,--Alun +Foddai y gelyn,--caem fuddugoliaeth. + +"Duw Ner roes yr hoewder hwn, +I'n Duw eilchwaith diolchwn; +Llawforwyn fu'r llifeiriant, +Gyda bloedd i gadw ei blant. + +"Iolwn na byddo'i wiwlwys--ogoned, + Ac enaint Paradwys, +Gilio oddiar Gwalia ddwys, +Na'u aroglau o'r Eglwys. + +"Duw'r hedd fo'n eich harwedd chwi, +Drwy genedl lawn drygioni; +A chwedi oes heb loes lem, +Noswyliaw boch yn Salem." + + Hwy wahanent ar hynny, +Heb wybod ofn,--bawb i'w dy; +A'r lleddf ddau genadwr llon +Draw hefyd i dy Rhufon. + + Ac ar hwyl deg, yr ail dydd, +Dwyreent mewn dir awydd, +I rodio i lawr at ffrwd las, +Glennydd lle bu galanas: +'Nawr aber, fel arferol, +Ydoedd hi ar hyd y ddol; +Ciliai'r dylif, clwy'r dylaith, +A'i dwrf oll, pan darfu'i waith; +Dai'r ardal yn dir irdeg, +Lle berwai tonn, ddai'n llwybr teg: +Gwelent hwy, wrth geulan tonn, +Gelanedd eu gelynion; +Yn dyrrau, 'n rhesau di ri, +O'r Belan hyd i'r Beili. + + Gwelai Rhufon dirionwawr, +Ar hyn, ryw lencyn ar lawr. +Ei ddull, ei wedd, a'i ddillad, +A'i lun, oedd fel un o'r wlad. +Craffai arnaw--draw fe drodd, +A lliw egwan llewygodd; +Oherwydd y tramgwydd trwm +A ddyrysodd ei reswm; +Drwy'i galon a'i dirgeloedd, +Safai bar,--can's ei fab oedd; +Ei deulu o'i ddeutu ddaeth, +Gan weled ei ddygn alaeth; +Rhoent uwch ei fab, drygfab,--dro +Eu ced olaf,--cyd-wylo; +Uchel oernych alarnad +Wrth ei ddwyn fry i dy i dad: +(Gwyddent mai dilyn geu-dduw, +A dal dig, a gadael Duw,-- +Trwy lithiol rai ffol, di-ffydd, +Wnai ei ddwyn i'w ddienydd!) + +Hwy ddeallent, modd hollol, +A ddwedai, 'nawr, am ddod'n ol, +Ryw ddiwrnod, a dyrnod du +Dialedd ar ei deulu. + +Iddo fe gwnaed angladd fawr, +Hir wylwyd ar ei elawr: +(Mae natur bur ei bwriad +A maith ddeddf mewn mam a thad;) +Er brad, er braenaru bron +Ei rieni, rai union,-- +Eto wylodd y teulu, +Am y mab, fel cynfab cu; +Ni pheidient am anffodion +A thranc gwas ieuanc, a son; +Ac a pharch gwnaent er cofthau, +Hel peraidd, lwysaidd lysiau; +Hel mwysion freila maesydd, +Hel blodau ar gangau'r gwydd; +Hel mawr ar lili mirain, +Hel y rhos ar ol y rhain; +Hel llawryf digoll irwedd, +Hela'r bawm i hulio'r bedd: +A dagrau rhwydd, sicrwydd serch, +Mwydent, llenwent y llannerch. + + Garmon, er cof mwynlon mad, +Gweddus, o'r holl ddigwyddiad, +O fewn y tir roes faen teg, +A geiriau ar y garreg;-- + +"Daw hinon, er llid annuw, +I'r dyn doeth a gredo'n Duw; +A dylaeth, barn, a dolef, +I'r adyn fo'n erbyn Nef." + + + +ABERIW. + + +AT MR. E. PARRY. + +_Berriew, Chwef_. 10, 1824. + +ANWYL GYFAILL, + +Mae ymdeithydd yn myned heibio i Lerpwl, a rhesymol i mi achub y +cyfleustra i ysgrifenu at un a brofodd ei gyfeiligarwch drwy amryfal +dirionderau. Chwi a welwch wrth ddyddiad y llythyr fy mod yn mhell o +fangre fy mam. Daethum yma y 30ain o'r mis diweddaf, a chefais Mr. +Richards a'r holl deulu yn foneddigaidd, tirion, a charedig. Mae yma dri +o wyr ieuainc yn cael eu parotoi i'r Brif Ysgol,--ni welais dri erioed +mor wahanol eu hansawdd a'u tymherau i'w gilydd; ond trefnodd y +Rhagluniaeth y cefais fy mwrw arni o'r bru, a'r hon a drefnodd fy +ngherddediad hyd yma, iddynt fy nerbyn gyfeillgarwch agos yr wythnos +gyntaf o'm hainfodiad yn eu plith. Fel hyn, y mae'r coelbren wedi +syrthio i mi mewn lle hyfryd o ran teulu i gyfaneddu yn eu plith, ac am +gyfeillgarwch sydd fel olew i olwynion fy natur, gallaf ddywedyd "dyma +etifeddiaeth deg." Pe byddai lle yn y byd a barai i mi anghofio yr +aelwyd y dysgais ymgropian hyd-ddi gyntaf--y llanerchau a fuont olygfeydd +fy chwareuyddiaethau plentynaidd,--neu i laesu fy hiraeth am gyfeillion +lliosog a hawddgar,--ac yn bennaf oll am fy nhirionaf dad a mam, dyma'r +fan debycaf oll. Ond nid hawdd datod rhwymau a gydiwyd gan serch, ac a +gysegrwyd gan ffyddlondeb. Felly rhaid addef yr hyn y byddai yn ffolineb +ei wadu--fod fy meddwl yn ehedfan yn fynych ar adenydd dychymyg o lannau +Hafren i ochrau Alun, Clwyd, Dyfrdwy, a Mersey, lle y profais +gyfeillgarwch oedd yn fel i'm genau ac yn iechyd i'm hesgyrn. Os gwelwch +chwi neb o'r hen fechgyn a ymffrostiant fod eu henwau y'nghoflyfr +Gwalia,--dywedwch fy mod yn cofio atynt ac yn dymuno yn dda iddynt. + +Am danaf fi, er yn rhy isel mewn sefyllfa i allu gorchymyn, ac yn rhy +wael mewn dawn i allu teilyngu sylw, eto fy ymdrech pennaf hyd angeu +(ni'm cyhuddir o ymffrost wrth wnenthur y broffes) fy ymdrech, yn nesaf i +foddloni fy Nghreawdwr, a meithrin cydwybod dawel, a fydd trefnu fy +ngherddediad fel na wnelo fy ngwlad wrido o'm harddel. + + + +IFOR CERI. + + +TO THE REV. C. B. CLOUGH, MOLD. + +_Berriew, March 1st, 1824_. + +REV. AND DEAR SIR, + +In Mr. Richards, my expectations have been more than realised; and I +cannot sufficiently express my thanks to the Committee for selecting such +a person to be my tutor. His kind solicitude for my domestic comforts, +is as unremitting as his attention to my advancement in literary +pursuits. His religion is so far removed from wild enthusiasm as it is +from cold and affected formality. The chaste and pious manner in which +he offers up the family devotions, with his Christian precepts and +example, have made so deep an impression upon my mind, as will prove, I +trust, to my spiritual advantage. + + + +EMYN PASG. + + +Wele'r Ceidwad gaed yn Meth'lem + Acw'n marw dan ei loes, +A gwyryfon tyner Salem + 'N gwlychu a dagrau droed ei groes: +Caua'r haul ei lygaid llachar + Rhag gweld clwyfo'r Sanct ei hun; +Ei ruddfanau sigla'r ddaear, + Cryna pob peth ond y dyn. +Deuwch saint, gollyngwch ddagrau + Uwch trychineb Calfari, +Dros yr hwn a roes ochneidiau + Dan y baich haeddasoch chwi; +Drosoch hidlodd ddafnau heilltion + Is arteithiau gwg y nen, +Nid o ddwfr, ond gwaed ei galon, + Yna trengodd ar y pren. + +Dyma dristwch heb ei debyg, + Gras a chariad pur y'nglyn, +Duw'r gogoniant dan y dirmyg, + Ac yn marw i brynu dyn: +Ond wele achos llawenychu! + Testun can dragwyddel fydd,-- +Iesu'r Ceidwad sy'n dadebru + 'N gynnar ar y trydydd dydd. + +Gwelwch fel mae'n concro angau! + Syllwch ar ei ddwyfol wedd! +Grym ei fraich, a gair ei enau, + Sydd yn dryllio bolltau'r bedd: +Llengau'r nef, anrhaethol nifer, + A'i gwarchodant tua'i wlad-- +Rhwygai cerddi yr ehangder, + Cerddi croeso i lys ei Dad. + +Bellach, saint, eich dagrau sychwch, + T'rewch y gu dragwyddol gan, +C'weiriwch eich telynau, cenwch + Wyrthiau eich Gwaredwr glan: +Dwedwch iddo fathru'r gelyn, + 'Speilio lluoedd certh di ri', +T'wyso angau du mewn cadwyn, + A chysegru'r bedd i chwi. + +Bloeddiwch, 'Ryfedd Frenin Sion, + Doed y ddaear dan dy iau! +Ganwyd ti'n Waredydd dynion, + Wyt yn gadarn i iachau.' +Gofynnwch wedyn i'r anghenfil, + 'Ple mae'th golyn oer yn awr? +Fedd ymffrostgar, ddu dy grombil, + P'le mae'th fuddugoliaeth fawr?' + + + +ENGLYN I ANNERCH MISS COTTON, OFYDDES. + + +_Eisteddfod y Trallwm, 1824_. + +Gwalia lwyd lonwyd eleni,--Awen + Flodeua fel lili; +Bron bun yw ei gardd hardd hi,-- +Hil anwyl hael Lyweni. + + + +"A PHA LE Y MAE." Job xiv. 10. + + +"Ya le y mae! ow gwae! ai gwir? + Nad yn ei dir, o dan y dail +A eiliai gynt drwy helyg ir?-- + Nid uwch ei fir--gan d'wchu ei fail;-- +Ni wela wych olygfa'r waen, + Ni swnia'i droed yn nawnsiau'r dref, +Gwych yw'r olygfa fel o'r blaen, + A dawnsia myrdd, _ond ple mae ef_? + +Ei ddiddan Elia ddyddiau'n ol + Dywysai i'r ddol ar hwyrol hynt; +Wrth ochrau'r llyn o'r dyffryn dardd + A gwaelod gardd fe'i gwelwyd gynt; +Is gwe o fill ni wasga'r fun, + (Ei ardd a wnaeth fel gerddi nef +Ag urdd o ros). Mae'r gerddi'r un, + Ac Elia'r un--_P le gwelir ef_? + +Fel nablau'r cor rhoe'i gerddor gan, + O'i deithi glan, nid aeth yn gloff; +Rhaiadrau, llynnau, gwyrthiau gant, + Oddeutu ei nant sydd eto'n hoff +O'i dy--mur hwn nid yw mor hardd; + Adwyau geir ar hyd ei gae, +A gwywa'n rhes eginau'r ardd, + Ymhola mill--_Y mh'le mae ef_? + +Mae beddfan newydd yn y Llan, + Yr aelwyd ddengys gadair wag; +Ac wrth y bedd, a'r wedd yn wan + Doluriau serch rhyw ferch a fag; +A'r ddol, lle bu yn gadu'r gwynt, + Ni wela'i lun, ni chlywa'i lef, +Bonllefau rhai a garai gynt, + Pa le maent hwy? _Pa le mae ef_? + + + +GWAHODDEDIGION EISTEDDFOD TRALLWM, 1824. + + +_Englynion difyfyr i'r Arglwyddes Clive a'i phlant_. + +Enynnwn i uniawn annerch--talaeth, + Am roi telaid eurferch + Montrose, mewn rhwymyn traserch + I Bowys hen--man gwib serch. + +Yr ysgeill yn ol hir wasgar--can-oes + I'r cenin sy'n gymar; + Tan wen cyd-dyfant yn war + Eu deuodd yn fri daear. + +Mwy yn yr hil, y mae'n rhaid--y rhennir + Holl rinwedd y ddwy-blaid; + Trwy eu bron, yn hylon, naid + Hen nwyfau eu hynafiaid. + +Os daw rhyw haid, i rwystro hedd--ein tir,-- + Nes troi ein tai'n garnedd, + Yn y ddiras gynddaredd, + Hil Clive fydd yn dal y cledd. + +Ond i hedd a dyhuddiant,--i godi + Dysgeidiaeth, tueddant, + Awenyddion a noddant, + Eu hiaith hen, a cherdd, a thant. + +Trwy'u diwrnod tyrred arnynt--bob undeb + A bendith--llwydd iddynt; + Anwylaidd gynnal wnelynt + Dud a gwaed hen dadau gynt. + + + +CAROLINE. + + +_Llinellau ar farwolaeth Miss Hughes, merch y +Parch. M. Hughes, Periglor Llanwyddelan, +Trefaldwyn_. + +Ceisiais dybio'r son yn anwir, + Syrthio Caroline i lawr, +Ac nad allai seren eglur, + Fachlud wedi t'wnnu ond awr: +Ond y glul ar gefn yr awel, + Swn y fron yn hollti'n ddwy, +Adsain och sy'n gwaeddi'n uchel, + Ofer anghrediniaeth mwy. + +Hir y cofir y diwrnod + A esgorodd ar y gwae, +Pan y rhedai i gyfarfod + Cyfeillesau i odrau'r cae; +Blaenai'r dyrfa tu a'r annedd, + Crechwen ar ei hwyneb pryd; +Ychydig dybiai mai i'w hangladd, + 'Roedd yn gwadd y cwmni ynghyd. + +Gyd ag eistedd, deuai angau + 'N nesu ati gam a cham, +Ac ni throi oddiar ei siwrnai, + Er gwaedd mil, er gweddi mam; +Delwai'r tylwyth gan yr alaeth, + Gwnaent ei gwely fel yn lli', +Hithau'n dawel dan yr artaith, + Pawb och'neidient ond y hi. + +Pan oedd oed yn rhoddi coron + Aeddfed ar ei dull a'i dawn; +Myrrh ac olew yr Ysgolion, + Wedi'i pherarogli'n iawn; +Pob disgwyliad gwych yn agor, + Hithau'n ddedwydd yn ei rhan, +Cadd ei galw ar ei helor,-- + Y swyn a dorrwyd yn y fan. + +Treigliad ei golygon llachar, + Ei throediad ysgafn ar y ddol, +Corff ac enaid oll yn hawddgar, + Dynnai'r galar ar ei hol; +Ond mae tryliw rhos a lili, + Wedi gwelwi ar ei gwedd, +'N awr ni ddena serch cwmpeini + Mwy na phryfed man y bedd. + +Ffarwel iddi! boed i'r ywen + Gadw llysiau'i bedd yn llon, +A gorwedded y dywarchen + Werdd, yn ysgafn ar ei bron +Sycher dagrau ei rhieni,-- + Ior y Nef i'w harwain hwy, +Nes y cwrddant ryw foreuddydd, + Na raid iddynt 'mado mwy. + + + +CYFIEITHIAD O FEDD-ARGRAFF SEISNIG. + + +Ty llong gadd lan, lle'r oedd fy nghais,-- + O'r tonnau treiddiais trwy; +Er dryllio'm hwyl gan lawer gwynt, + Na chlywir monynt mwy. + +O gernau'r 'storm ces ddod yn rhydd, + Daeth angau'n llywydd llon, +A pharodd im' mewn gobaith glan, + Angori'n 'r hafan hon. + + + +BUGEILGERDD. + + +Ar don "_Kate Kearney_." + +DEWI. + +A welaist, a 'dwaenaist ti Doli, +Sy' a'i defaid ar ochr Eryri? + Ei llygad byw llon + Wnaeth friw ar fy mron, +Melusach na'r diliau yw Doli. + +HYWEL. + +O do, mi adwaenwn i Doli,-- +Mae'i bwthyn wrth droed yr Eryri; + 'D oes tafod na dawn + All adrodd yn iawn +Mor hawddgar a dengar yw Doli. + +Un dyner, un dawel yw Doli,-- +Mae'n harddach--mae'n lanach na'r lili; + 'Does enw is nen + A swnia'n ddisen +Mor ber gyda'r delyn a Doli. + +DEWI + +Ow! ow! nid yw'n dyner wrth Dewi,-- +'Does meinir yn delio fel Doli, + Er ymbil a hi + A'm llygad yn lli, +Parhau yu gildynus mae Doli. + +Ymdrechais wneyd popeth i'w boddio, +Mi gesglais ei geifr idd eu godro, + Dan obaith yn llwyr + Y cawn yn yr hwyr +Gusanu yn dalu gan Doli. + +Mae'i mhynwes mor wynned a'r eira,-- +Mae'i chalon mor oered mi wiria'; + Ar f' elor ar fyrr + Fy nghariad a'n ngyrr-- +O oered a deled yw Doli! + +Tri pheth a dim mwy wy'n ddymuno,-- +Pob bendith i Doli lle delo,-- + Cael gweled ei gwedd + Nes myned i'm medd,-- +A marw yn nwylo fy Noli. + + + +YR HEN AMSER GYNT. + + +Bu'n hoff i mi wrth deithio 'mhell + Gael croesaw ar fy hynt; +Mil hoffach yw cael "henffych well" + Gan un fu'n gyfaill gynt. + +Er mwyn yr amser gynt, fy ffrynd, + Yr hen amser gynt; +Cawn wydriad bach cyn canu'n iach, + Er mwyn yr amser gynt. + +Yn chwareu buom lawer tro, + A'n pennau yn y gwynt; +A phleser mawr yw cadw co + O'r hyfryd amser gynt. + +Er digwyddiadau fwy na rhi',-- + Er gwario llawer punt; +Er llawer coll, ni chollais i + Mo'r cof o'r amser gynt. +Tra cura calon yn fy mron, + Drwy groes neu hylon hynt, +Rhed ffrydiau serch drwy'r fynwes hon + Wrth gofio'r amser gynt. + +[Yr Amser Gynt: "Rhed ffrydiau serch drwy'r fynwes hon + Wrth gofio'r amser gynt.": alun88.jpg] + + + +I -- + + +Ty anwyl ferch, delw'm serch, clyw annerch clwy enaid, +Tro'ist yn ddu'r cariad cu, a chanu'n ochenaid; +A oedd un llaw drwy'r dref draw i nharaw'n anhirion? +A oedd yn mhleth, at y peth, ddwrn yr eneth union? +Yn wir dy wg dagrau ddwg i'r golwg o'r galon, +Oni chaf hedd af i'm bedd i orwedd yn wirion. + +P'le mae'r gred, gofus ged, adduned oedd anwyl? +Ai si a siom yr amod drom unasom ryw noswyl? +P'le mae'r drem, fel gwawr gem, a luniem dan lwynydd? +Torrai'n syn swyn y llyn, y delyn, a'r dolydd: +Yn iach i'th wedd, mi wela 'medd, wan agwedd yn agor; +Dywed di, fy mun, i mi, a wyli ar fy elor? + +Pan weli sail y bedd, a'r dail ar adail mor hoewdeg, +Ac uwch y tir, ysgrif hir, o'r gwir ar y garreg,-- +Mai d'achos di, greulon gri, fu'n gwelwi'r fau galon; +Ai dyma'r pryd, daw gynta'i gyd, iaith hyfryd o'th ddwyfron? +Gorchwyl gwan rhoi llef drwy'r llan, troi'r fan yn afonydd, +Rhy hwyr serch felly, ferch, i'm llannerch bydd llonydd. + + + +GADAEL RHIW. + + +Gofid dwys a wasga 'nghalon, +Adael Rhiw a'i glannau gleision, +Dolau hardd lle chwardda'r meillion, + A chysuron fyrdd: +Gadael mangre englyn, +Diliau mel, a'r delyn; +Gadael can gynhenid lan, +Eu cael a'u gadael gwedyn; +Gadael man na sangodd achwyn; +Ond er gadael ceinciau'i gorllwyn,-- +_Yng ngauaf oes fe saif Trefaldwyn_, + _Ar fy nghof yn wyrdd_. + +Trwm, rhy drwn, rhoi ymadawiad +A bro na welir cuwch ar lygad, +Na diffyg ar ei haul na'i lleuad, + I ddylu blodau fyrdd; +Troi i sych Rhydychen, +O Bowys, hen bau Awen, +Lletty hedd, a bwrdd y wledd, +Lle'r adsain bryn a chrechwen: +Gadael llon athrawon gwiwfwyn +Och! ni wn pa fodd i gychwyn. &c. + +Try yr ymadawiad ysol, +Nwyf i loesau anfelusol, +Ond pa'm beiaf rhagluninethol + Anorffennol ffyrdd +Dyma law 'madawiad, +A'r llall mi sychaf lygad; +Mae'r fen gerllaw, i'm cludo draw,-- +Ofer--ofer siarad; +Yn iach bob dengar gwm a chlogwyn,-- +Yn iach, yn iach, gyfeillion addfwyn. &c. + + + +RHYDYCHEN. + + +AT GYFAILL. + +_Athrofa'r Iesu, Rhydychen, +Rhagfyr 19, 1824_. + +Gobeithio eich bod yn myned y'mlaen gyda Lladin. Ni wyddoch pa beth a +all esgor. Gallaf addaw y cewch fwy o bleser na thrafferth yn dysgu; a +gwn na byddai yn boen i'ch meddwl llym chwi dreiddio iddi ar amnaid. Mi +a ddatguddiaf i chwi fy amcan wrth eich cynghori fel hyn. Os gallwch, +trwy eich llafur eich hun, ymhyfforddi yn yr ieithoedd dysgedig,--os +addunedwch beidio croesi trothwy tafarn yn y Wyddgrug,--os peidiwch a +chyfeillachu a neb ond dynion parchus, a phrin a rhai'ny,--os byddwch +ddyfal yn eich sefyllfa,--os gyrrwch ambell i ddernyn i'r Eisteddfodau, +er mwyn tynnu sylw,--os ymddygwch bob amser yn syml, cyson, a +gostyngedig,--ac os, gyda hyn oll, y llwyddwch i dynnu cyfeillgarwch y +goreu o ddynion, Mr. Clough--meddyliwn na byddai yn anhawdd nac yn +dreulfawr i chwi gael trwydded yma. Y mae eich synwyr yn ormod i +adeiladu dim ar hyn, nac i yngan gair yn ei gylch i gyfaill eich mynwes. +Pa beth a all cardotyn fel fi ei addaw? + +Byddai yn dda gennyf pe rhoddech ddiofryd cadarn na sangech ar lawr +unrhyw dafarndy yn y Wyddgrug byth. Y mae fy mynwes i yn gwaedu heddyw +gan y clwyfau a dderbyniais ynddynt. Ni welais gyfaill da o fewn eu +muriau erioed, ac ni welais un niweidiol iawn y tu allan. Ni wna +ymddygiad isel a buchedd rinweddus a duwiol eich amddifadu o unrhyw +bleser teilwng o'r enw: yn hytrach gwna i'ch cwpan redeg trosodd--addurna +chwi ger bron eich gwlad--a thywysa chwi at ffynnon a arllwys ei dwfr pan +y bydd Alyn, a Helicon hefyd, wedi sychu. Hyderaf na ddigiwch am yr +hyfder a gymerais. Gwiriaf i chwi iddynt ddylifo oddiar deimlad mor bur +ag a gurodd erioed ym mynwes tad. Gwn eich bod yn agored i lawer o +demtasiynau, y rhai a gynyddant po fwyaf y deloch i sylw y byd. Gwn, +hefyd, fod eich cysur amserol a thragwyddol yn ymddibynnu ar eu +gorchfygu. Gwyddoch chwithau fod rhan fawr o fy nghysur innau ynglyn +wrthych fel cyfaill fy ieuenctyd. Bellach, ai gormod im' am unwaith +ddringo Ebal? Do, fy nghyfaill, cefais i wybod trwy brofiad trist fod +deniadau cyfeddach yn llymach na saethau cawr, ac yn chwerwach na marwor +meryw. Mi syrthiais i ymhlith y lladdedigion. Tybiodd fy nghyfeillion +ddarfod am danaf byth, a gadawsent fi i'm tynged. Ond, trwy y moddion +rhyfeddaf, dywedodd y Gwr y rhyfelais yn ei erbyn, "yn dy waed bydd fyw." +Cefais yn barod lawer prawf o'i diriondeb; ac nid ydwyf yn cwbl +anobeithio cael, o radd i radd, fy nerbyn i'w fyddin ac i gludo ei faner. +Hyd yn hyn, y mae fy mriwiau yn rhwystro imi gydio mewn arf; ac yr ydwyf +yn treulio fy oes gan y mwyaf wrth odreu Sion; ac weithiau, wrth godi'm +llaw at ddail y pren sydd yn iachau'r cenhedloedd, dymunwn amneidio a'r +llall at fy nghyfeillion, i beri iddynt ochel y llannerch lle y +derbyniais i y saeth a lynodd yn fy nghalon. + + + +COLLEGE LIFE + + +TO THE REV. C. B. CLOUGH, MOLD. + +_Jesus College, Oxford, +December 16th, 1824_. + +Upon the whole, I find College life far less irksome than I had +anticipated. The change, from the bosom of a family to a cloister, was +certainly not very pleasant. Yet upon that account I have less to regret +than many: my disposition or taste never quarrels with solitude. In one +instance I was rather unfortunate.--Of the three undergraduates I knew +upon my coming to College, one only was a 'reading man.' By means of the +other two, as my acquaintances increased, my room became in a little time +the daily resort of those most miserable and unprofitable of beings, +technically called '_loungers_.' This, of course, retarded my studies; +and I was often compelled to sit up, after the drones had gone away, till +four o'clock in the morning, to prepare my Lectures for the following +day. Hints were thrown away, upon my visitors, in vain. At last I saw +that either politeness or my character must be hazarded: the first was +sacrificed to preserve the last. I made a candid avowal of the low state +of my acquirements, and, that having so much to do, it would be madness +in me to trifle my days; but if they allowed me to fix a particular hour +each day, for receiving their calls, I should be most happy in seeing +them. They good-humouredly assented; and from seven o'clock in the +morning till eight was mentioned. I have my room to myself ever since; +and this has not made them less friendly. I have seen that an extensive +acquaintance is the bane of College life. + +Of intimate friends, I have here only one; and he is a bosom friend, one +whose intelligence, urbanity, abilities, and piety are alike conspicuous. +He is a son of La Trobe, the celebrated African traveller. Unfortunately +for me, he intends taking his final examination next Easter term, and +will consequently leave Oxford. When he is gone, I will endeavour to +replace him with another of the same stamp; and if I fail, I will turn an +anchorite. + +I have mixed with but very few parties; though, thanks to my +fellow-collegians, I have been occasionally invited. I have adopted this +course, partly from a wish of not incurring a debt, which it would be a +crime in one of my station to discharge; but chiefly from a distaste of +all nocturnal revels. The truth is, I never yet saw a drinking party, +two hours old, that I could lay down even one of Elis y Cowper's songs, +for the purpose of enjoying it. + +The devotional exercises, morning and evening, are profitable and +interesting; and I have an opportunity every Sunday of hearing some of +the most eloquent and impressive sermons I have ever heard. Excellent +opportunities are also afforded for reading. I 'sport my oak' and sit +down, nothing disturbs or annoys me; and had it not been for the rumbling +of carts along Ship-lane, and cries of 'muffins,' I should consider +myself in a hermitage. As for temptation, it is all a bugbear. I have +seen none here that would not vanish before a virtuous resolution. + + + +AT LENOR. + + +(MR. E. PARRY, CAERLLEON.) + +_Athrofa'r Iesu, Rhydychen, +Chwefror 25ain, 1825_. + +Y mae yn ddywenydd mawr genyf ddeall fod eich Cymdeithas yn gwellhau yn +ei hamcanion fel y mae ei gallu yn cynyddu. Hwyrach na lwyddwch i gael +cyd-ymdrechiad y Boneddion a enwasoch;--rhai o herwydd eu hoerfel at yr +achos Cymreig,--a llawer am fod rhannau eraill o'r wlad yn galw am eu +gwasanaeth yn fwy na Chaer, un ai o herwydd cymydogaeth, neu feddiannau. +Er hynny, pe na enillech ddim ond ymegniad gwresog ac unfryd trigolion +eich tref eich hunain, byddai yn werth eich trafferth, a gallwch wneuthur +gwyrthiau. + +Y mae yr Iaith Gymraeg yn deilwng o'i choleddu, ac eneidiau Cymru yn +werth eu cadw. Chwi a gewch fy nymuniadau goreu i, os ydynt werth +rhywbeth, a phe byddai gennyf well, chwi a'i caech. + +Buoch yn ddedwydd iawn gael Mr. Richards yn Gapelwr,--y mae'r gwr hwnnw +yn addurn i bob Cymdeithas lle byddo. Yr ydwyf agos yn eddigeddu y +pleser a gewch ar eich Cylchwyl, ac er hynny yn ewyllysio i chwi fil mwy. +Rhaid i mi gadw gwyliau Homer ddall yn lle Dewi Sant, ac aros fel mynach +yn fy nghell yn lle troedio'r heolydd i ddangos fy "nghenin," a gadael +i'm henaid lesmeirio wrth gyngan y delyn. Ond rhaid boddloni, ac yr +ydwyf yn foddlon ac yn ddiolchgar. + +Yr oeddych yn ymholi pa fodd yr ydwyf yn byw yma.--Credwch fi,--mor syml +a diniwed a Meudwy, a mor ddedwydd a Thywysog. Cof am gartref a hen +gyfeillion sydd weithiau yn cynhyrfu hiraeth ynof am wlad fy +ngenedigaeth, a dyna'r unig ddefnyn chwerw sydd yn fy nghwpan. Y mae +penaethiaid yr Athrofa yn dirion i'r eithaf, a chyd-astudwyr mor +gyfeillgar ag y gallwn ddymuno. + +Yr oeddwn wedi bwriadu englynion i chwi a math o awdl i'ch Cymdeithas; +ond hawdd i chwi feddwl nad oes gan un a ymunodd a'r Brifysgol y'mhen +pum' mis wedi cydio gyntaf mewn Ieithiadur nemawr amser i gysoddi dim. Pa +fodd bynnag, dyma ryw bethau yn llun englynion "Ar y ffolineb o wadu +Iaith gynhenid," a ddymunwn gyflwyno i'ch Cymdeithas a chwithau, i aros +gwell. + +A wirionwyd ar unwaith--yr adyn + Pan redai i estroniaith, + I wadu'i wlad, gyda lediaith, + Gwawdio hon, a gwadu ei hiaith? + +A yw'n gywilydd gan ei galon--iaith serch + Iaith su ei fam radlon? + Ddyddiau hir, mor dda oedd hon + I ynganu angenion? + +Ai gwr yw a gar awen--heb arddel + Iaith beirddion disgywen? + Ai un am les hanes hen + Wrthoda chwaer iaith Eden? + +Iaith oedd araeth i ddewrion,--wroniaid + Drwy enwog ymdrechion, + Tan eu heirf bloeddient yn hon + "Trowch i'r gad! tr'ewch ergydion!" + +Ac onis dewis y dyn--y gyngan + Sydd rhwng cangau'r dyffryn? + A gwin i'w fant? ac ni fyn + Iaith hudoliaeth y delyn? + +Onid yw iaith fyw mor fad--yn deilwng + O'n dilyth arddeliad? + Neb ond un gwrthun a'i gwad + Neu a ludd ei choleddiad. + +Y mae doethaf gymdeithion--Cymroaidd, + Ac amryw o'r Saeson-- + Y'Ngwalia mae angylion + Gyda'u heirf am gadw hon. + +A cheir yn pleidio ei choron--euraidd + Iorwerth a'i gyfeillion, + A gwr mawr o gyrrau Mon + Yn Llywydd yn Nghaerlleon. + +Mwy addas i was isel--a'i osgedd + Am esgyn yn uchel, + Garu ei iaith, a'r gwr wel + Werth ei hurdd wrth ei harddel. + +O'i gwrthod, gwawd ac erthwch,--a'i dilyn + Hyd elor drwy dristwch; + Ni cha lin goruwch ei lwch, + O glod goreu gwladgarwch. + +Boed gan Gymro ym mhob broydd--o'i brif-iaith + Bur fost yn lle c'wilydd, + Fel na ddel, tra y del dydd, + Lediaith ar ein haelwydydd. + + + +TELYN CYMRU. + + +_Allan o Saesoneg Mrs. Hemans, i Gymdeithas Gymreigyddol +Rhuthyn, 1824_. + +O delyn oesol! dyro eto gainc, + Fel pan ewynai'r hirlas yn y wledd; +Pan gurai bronnau gan wladgarol ainc, + Pan wlychid byrddau Owain gan y medd: +O Delyn! deffro 'ngrym yr oesoedd hen, +Adleisia'r bryn dy geinciau gyda gwen. + +Dy dant ni's tyr--Rhufeinydd erchyll don + Ddaeth dros las ddyfroedd, gyda llawer rhwyf, +Enynai fflam trwy dderi sanctaidd Mon, + A gwnai gromlechau'n garnedd yn ei nwyf, +Rhoi lwch y creiriau gyd a'r gwynt a'r lli', +Delyn, rho gainc, nis gallai d'atal di. + +Dy dant ni's torrir. Chwyfiodd baner Sais + Yn ddig ar awel flith Eryri gerth, +Uwch bloedd ei udgyrn, clywid swn dy lais, + Pan guchiai'i gestyll ar y clogwyn serth, +Cynhyrfai'th don y dewrion i fwy bri, +Eu llethri oedd ganddynt, bronnau rhydd, a thi + +Oes ddu oedd hon; pan gwympai'r glew dirus, + Pan dyfai chwyn gylch bwrdd lle gwleddodd cant, +Pan lechai'r llwynog yn y drylliawg lys, + Oedd nerth i ti'r pryd hyn--dawn ym mhob tant, +Yn nyddiau hedd dy geinciau grymus gyr, +O Delyn ber! o'th dannau un ni's tyr. + + + +AT EI RIENI. + + +_Athrofa'r Iesu, Rhydychen, +Chwefror, 11fed, 1826_. + +ANWYL RIENI, + +Yn lle esgus dros fod yn ddistaw cyhyd, rhoddaf i chwi hanes byr o'r modd +yr ydwyf yn byw. Wrth ymdrechu dyfod i fyny gyda y rhai a gawsant bob +mantais ysgolheigaidd ym moreu eu hoes, yr wyf yn gorfod bod yn ddiwyd +iawn wrth fy llyfrau. Nid ydyw treiddio i mewn i ieithoedd ond gorchwyl +sych a diffrwyth, ac i un yn fy sefyllfa i, o ran gwall cyfleusterau +boreuol, y mae yn waith digon caled. Am y tro cyntaf yn fy mywyd, yr wyf +yn cael fod "darllen llawer yn flinder i'r cnawd." Nid ydyw caethiwo fy +hun i fyfyrdod wedi cael un effaith ddrwg ar fy iechyd eto. Aeth cyfaill +i mi, a ddarllenasai lawer llai na mi, adref ddoe wedi ei nychu gan ormod +o waith. Y mae fy nghorff yn gadarn wrth natur, ond yr wyf yn gorfod +cerdded allan rywfaint bob dydd, er mwyn ei gadw mewn trefn. + +Bu holiad cyffredin yn ddiweddar ar holl aelodau ein Coleg ni. Aethum +drwyddo yn well nag yr oeddwn i na'm hathrawon yn disgwyl. O hyn i wyl +Mihangel nesaf, rhaid imi fyned drwy ffwrn boethach nag a brofais +eto,--cael fy holi ar gyhoedd o flaen yr holl Brif-ysgol, am fy +ngwybodaeth o'r Lladin a'r Roeg, a Rhesymeg. Rhaid i mi hefyd ddysgu +ysgrifeni Lladin mor rhwydd a Chymraeg. Yr wyf yn fynych yn crynu wrth +feddwl am y frawdle, yn enwedig wrth weled cynnifer a gawsant eu dwyn i +fyny yn yr ysgolion goreu o'u mebyd, yn colli'r dydd. Y mae fy mhwys yn +bennaf ar y Rhagluniaeth oruchel a fu mor dyner tuay ataf hyd yn hyn. +Y'mhellach, yr wyf yn yslyried mai fy nyledswydd ataf fy hun--at fy +nghynalwyr--ac at y plwyfolion a gaf ryw dro, hwyrach, o dan fy +ngofal--ydyw lloffa cymaint ag a allaf o wybodaeth am bob dysg a +chelfyddyd. Gwelodd y caredig Mr. Clough a Mr. Phillips fy awyddfryd am +bob hyfforddiad, a chymerasant fi gyda hwynt i wrando y darlithoedd a +draddodir gan ein prif ddysgedigion ar y celfyddydau breiniol. Y +diweddaf a glywais oedd yr enwog Ddoctor Buckland, areithydd ar natur y +ddaear, ei chreigydd a'i meteloedd. Pan ddeuaf adref gallaf roddi i chwi +rai newyddion am weithiau glo a phlwm. Hawdd i chwi weled fod y gofalon +a'r gorchwylion hyn yn difa fy holl amser, ac nid hyn yw y cwbl. Wrth +aneddu yn Nhrefaldwyn a Rhydychen, ffurfais gydnabyddiaeth a llawer o +foneddigion,--rhai o honynt, o ran dysg a dawn, ym mhlith y gwyr enwocaf +yn y deyrnas. Nid oes boreu braidd yn myned heibio nad wyf yn derbyn +llythyr o ryw gwr neu gilydd i'r wlad. Nid oes gennyf, gyda chwareu teg, +amser i ateb un o honynt; ac os bydd un gohebwr y gallaf hyderu ar ei +gyfeillgarwch i beidio digio wrthyf, yr wyf yn gadael iddo aros nes elo +fy helbul yn yr athrofa heibio. Fy mwriad yn myned dros yr holl bethau +hyn ydyw, i ddangos i chwi a'm hanwyl gyfeillion, Mr. Thomas Jones ac +Isaac, yr unig achos na ysgrifenais atoch oll lawer cyn hyn. Os gwelwch +ddim yn yr hyn a ddywedais, yn mynegi yr anrhydedd anisgwyliadwy a ddaeth +i'm rhan, gwybyddwch mai nid er mwyn cynhyrfu ymffrosl ynoch yr adroddais +ef; ond yn hytrach er eich annog i uno gyda mi mewn diolchgarwch i'r Duw +a fu mor dirion wrthyf. Bydd yn dda genych glywed fy mod i ac oddeutu +hanner dwsin o'm cyd-ysgolheigion wedi llwyddo i gael Cymdeithas Genadawl +fechan yn ein hathrofa. Yr ydym hefyd yn ymgyfarfod yn ystafelloedd ein +gilydd, yn olynol, ar nosau Sul, i ddarllen y Bibl a gweddio. Nos Sul +diweddaf yr oeddynt oll yn fy ystafell i: a phan byddo dadwrdd cyfeddach +yn taro ar ein clustiau o ystafelloedd eraill, gallwn ddweyd, "Rhoddaist +fwy llawenydd yn ein calon nag yr amser yr amlhaodd eu byd a'u gwin +hwynt." + +Hyfryd iawn oedd genyf glywed am ymwared fy anwyl chwaer. Cofiwch fi ati +yn garedig, at fy mrawd, yr holl blant, ac yn enwedig at y ferch +ddieithr. Buasai dda genyf allu anfon anrheg iddi hi a'i mam, ond mae +hynny yn bresenol o fy nghyrraedd. Gadewch iddo--mae'r galon yn llawn, +os yw'r pwrs yn wag. Byddwch gystal a rhoddi y penhillion canlynol iddi +yn lle _Valentine_: + +Henffych, ferch, i fyd o ofid, + Byd y dagrau, byd y groes: +Agoraist lygad ar yr adfyd, + Ti gei flinder os cei oes. +Mae gwlad well tu draw i'r afon,-- + Nes cael glan ar oror iach, +Rhag pob drwg, y Duw sy'n Sion, + Fo'n dy noddi, Marged bach. + +Mae'm dychymyg fel yn gwrando + P'un a glywaf mo dy sain,-- +Gan holi'r awel sy'n mynd beibio, + A yw'th wyneb fel dy nain? +A oes eurwallt ar dy goryn? + A oes rhosyn ar dy rudd? +A pha dybiau sydd yn dirwyn + Drwy'th freuddwydion nos a dydd? + +Pe bawn yna, anwyl faban, + Mi'th gofleidiwn gyda serch; +Ceit fy mendith am dy gusan, + Mi'th gyfrifwn fel fy merch: +Ac os try Rhaglumaeth olwyn + Fyth i'm dwyn i dir fy ngwlad, +Ti gei weled y gall rhywun + Garu ei nithoedd megis tad. + +Yr wyf yn gyrru --- i Ruth: mae yn rhy fychan, ond y gwir yw hyn,--hyd +wyl Mihangel nesaf byddaf yn llwm iawn o arian; wedi hynny, caf dderbyn +swm ychwanegol yn y flwyddyn. Yna mi ofalaf am dalu eich rhent, eich tir +pytatws, a phesgi'r mochyn. Rhoddwch ddillad da am Ruth . . . Unwaith +eto, yr wyf yn eich tynghedu, na oddefwch eisiau dim. Gyda bendith, nid +oes perygl na allaf ei dalu yn ol ar ei ganfed. Pa beth ydyw gwaith fy +nhad? A ydyw'n esmwyth? Cofiwch fi yn garedig at deulu Broncoed, a +rhoddwch fy serch at fy hen gyfeillion oll . . . Mae amser a phapur wedi +pallu, y gloch yn taro pedwar yn y borau--a'r ganwyll yn llosgi i'r +ganwyllbren--ni chaf ond dywedyd fy mod yn aros, + +Eich dyledog fab, +J. BLACKWELL. + + + +CYWYDD Y GWAHAWDD: + + +A anfonwyd mewn llythyr o wnhoddiad Medi 6ed, 1826, oddiwrth Ifor Ceri, +at Wilym Aled a'i Gywely. + +Eto, Aled, atolwg +Gad si'r dre', a mangre mwg; +Gad Saeson, gwawd, a sisial +Arian, a thincian, a thal; +Gad wbwb a gwau diball +Mammon i feibion y fall: +Rho i'th law,--pryd noswyliaw sydd, +Eleni un awr lonydd; +Gwamal i ti ogymaint +Hela myrdd, a holi maint +Ydyw gwerth yr indigo, +A ffwgws, heb ddiffygio, +Gan na cheir gennych hwyrach +Weled byth un Aled bach, +Na geneth, a drin geiniog +O dyrrau llawn dy aur llog. +O fewn llong tyrd tros gefn llwyd +Y _Mersey_, heb ddim arswyd,-- +A'th gymar sydd werth gemau +Prysurwch, deuwch eich dau +I Geri, fan hawddgaraf, +Man gwar, lle mae hwya'r haf: +Mor loewlon y mae'r lili +A'r rhos yn eich aros chwi, +A phleth rydd yr adar fflwch, +Hyd awyr, pan y deuwch; +Cewch eich dau wenau uniawn +Ifor a Nest, fore a nawn: +(Yma diolch raid imi +"Amen dywed gyda mi," +Ddwyn Ifor, gan Dduw nefol, +A'i wiw Nest, i Geri'n ol:) +At un Nest dda west, ddiwall, +Tyred a dy Nest arall; +Braint cyn bedd, cael medd a maeth +Maesaleg un mis helaeth; +Y mae sylwedd Maesaleg, +A'i dor, yn y Geri deg. + + Y mae un gwr mwy nag oll, +Awch digoll uwch ei degan: +Ifor bach sydd a'i ferw byth, +Drwy gofio yn dragyfyth; +"Mae'r gwr yn mhryd mebyd mau, +Enynnodd hen awenau +Y glyn, nes oedd bryn a bro, +A gwig las, yn gogleisio; +Ai pell--ai trapell y trig--y gwiwddyn +Fynnai delyn a cherdd fy Nadolig?" + + Tyrd Aled, ira d'olwyn, +A thyrd i ddoldir a thwyn; +Ac awyr lem Ceri lan, +Perarogl copa'r Aran; +Gwrandaw sibrwd y ffrwd ffraw--rhwng deilfur, +Y dwr eglur yn trydar wrth dreiglaw; +Rhodio i wrando'r ehedydd, +Dringo'r bryn ar derfyn dydd; +Hufen Nest a chan Ifor, +A dwr mad, drwy rad yr Ior,-- +Wnant it' neidio a gwisgo gwen, +Deui'n foch-goch,--doi'n fachgen. + +Gan Alun, gwan wehelyth, +O fwrdd i fwrdd, wael fardd fyth,-- +Gwely nid oes, nac aelwyd, +Na bir i'w gynnyg, na bwyd,-- +Cei law a chalon lawen, +A mwy ni cheisi, Amen. + + + +DISADVANTAGES AND AIMS. + + +TO R. GARNONS, + +_Jesus College, Oxford, +October 2nd, 1826_. + +I can hardly hope, in four short years, to surmount the disadvantages of +my youth, and gain academical distinction. To him, who in his 20th year, +learnt his Greek alphabet, a first class at College must be a hopless +aim; while an University prize must be beyond the reach of one who merely +began to speak English about his twentieth year. Aware of these +circumstances, the friends whom I consult have advised me to collect +(should necessary studies allow me leisure) as much as I can of such +information as will be useful to me in the sacred office I shall be +called upon to fill. What I shall lose in attainments, I will endeavour +to make up in Christian conduct. That God, who is the sole Dispenser of +all the blessings that has been showered upon my path, claims my first +duty. My next ambition will be to fulfil my ministry with that zeal and +decorum which characterize the spirit of our venerable Establishment; +while gratitude will prompt me to dedicate my leisure hours to the +literature of my native Principality. + +That I may thus live, is my fervent prayer; and all I ask in addition, is +a situation where I may watch over the wants of my poor, but worthy +parents; and make as far as depends on human aid, their evening set in +smiles. + +I am, Sir, your most obedient servant, +J. BLACKWELL. + + + +CALVINISM. + + +_To the Committee of the Welsh Church in Liverpool_. +_Neptune Hotel, Liverpool_, +_July 20th, 1827_. + +GENTLEMEN, + +I was nurtured among Calvinists. To their Sunday School I am indebted +for almost all the education my youthful years were blessed with. Towards +some of them I was taught in infancy to look up with reverence and +esteem; and the recollection of their Christian virtues proves to me that +whatever tendency Calvinism may have to relax the ties of moral +obligation, the argument cannot be drawn from the lives of many of its +professors. With many Clergymen who take Calvinism for their creed, I +have still the happiness to live in bonds of Christian friendship; but my +respect for the men does not blind me to their opinions. I am no +Calvinist, and ever since I have been capable of forming a judgment upon +theological subjects, I have not been a Calvinist. The sincerity of my +attachment to our national Church cannot, I trust, be doubted. I was +made a member of her by Baptism, and ever since I have attained to years +of discretion, my public devotions have been offered up within her pale. +For many a dark year--long before the idea of my being elevated to the +clerical function had received a shadow of existence, I had resolved to +live and die an humble worshipper at her altar. + +J. BLACKWELL. + + + +AT EI FAM, PAN OEDD WEDDW. + + +_Athrofa'r Iesu, Rhydychen_, +_Hyd. 19eg 1827_. + +FY ANWYL FAM, + +Fy nyledswydd ydyw hysbysu i chwi, gyda phob brys, fy mod wedi cyrraedd +pen fy nhaith yn gysurus, a chael pob peth wrth fy modd. Y mae y cyflwr +unig y gadewais chwi ynddo, yn peri i mi hiraethu mwy am danoch y tro hwn +nag un tro o'r blaen. Buasai yn dda gan fy nghalon gael aros yn agos +atoch nes i angeu ein gwahanu. Ond nid felly y mae Rhagluniaeth yn +trefnu: rhaid i ninnau ymostwng. O ddiwrnod i ddiwrnod daw y flwyddyn i +fyny, pan y caf eich gweled, gobeithio, mewn gwell iechyd ac ysbrydoedd +nag y gadewais chwi. Yn y cyfamser erfyniaf arnoch, er dim, i gadw eich +meddwl mor dawel ag y galloch: ar hyn y mae eich cysur chwi a minnau yn +ymddibynu. Ni wna tristhau ac ymofidio ddim ond gwaethygu eich llygaid +dolurus, a chlwyfo meddwl y rhai a'ch carant. Digon gwir cawsom golled +fawr,--collasom y cyfaill ffyddlonaf a thirionaf a welsom erioed; eto "na +thristawn fel rhai heb obaith." Oni adawodd dystiolaeth ar ei ol ei fod +wedi myned i ddedwyddwch--i wlad well na daear, "lle y gorffwys y rhai +lluddedig, ac ni chlywant lais y gorthrymydd." Ac os dilynwn ei lwybrau, +ni a gawn ei gyfarfod eto mewn ardal nad oes na phechod, na phoen, nag +ymadawiad o'i mewn. "Gwir ddymuniad fy nghalon, a'm gweddi ar Dduw sydd +erddoch." + + + +CWYN AR OL CYFAILL. + + +_Pan hirarosai yn Rhydychen, Mehefin, 1827_. + +(Efelychiad o "Bugail Cwmdyli," gan I. G. G.) + +Trwy ba bleserau byd +Yr wyt yn crwydro c'yd? +Mae pleser fel y lli', +A'r moethau goreu i mi +Yn wermod hebot ti, + Sior anwylaf. + +Trwm wibio llygad llaith +Am danat yw fy ngwaith; +A rhodio godre'r bryn, +A gwyrddion lannau'r llyn, +Lle rhodit ti cyn hyn, + Sior anwylaf. + +Mae peraidd flodau d'ardd +Yn gwywo fel dy fardd; +A'th ddefaid hyd y ddol, +A'u gwirion wyn o'u hol +Yn gofyn ddo'i di'n ol, + Sior anwylaf. + +Mae'n Nghymru laeth a mel, +Mae'n Nghymru fron ddi-gel, +Mae'n Nghymru un yn brudd +O'th eisiau, nos a dydd,-- +A'i gair wrth farw fydd, + Sior anwylaf. + + + +MARWOLAETH YR ESGOB HEBER. + + +Lle treigla'r Caveri {101} yn donnau tryloewon, + Rhwng glennydd lle chwardd y pomgranad a'r pin +Lle tyfa perlysiau yn llwyni teleidion, + Lle distyll eu cangau y neithdar a'r gwin; +Eisteddai Hindoo ar lawr i alaru, +Ei ddagrau yn llif dros ei riddiau melynddu, +A'i fron braidd rhy lawn i'w dafod lefaru, + Ymdorrai ei alaeth fel hyn dros ei fin:-- + +"Fy ngwlad! O fy ngwlad, lle gorwedd fy nhadau! + Ai mangre y nos fyddi byth fel yn awr? +Y Seren a dybiais oedd Seren y borau, + Ar nawn ei disgleirdeb a syrthiodd i lawr; +Y dwyrain a wenai, y tymor tywynnodd, +A godrau y cwmwl cadduglyd oreurodd, +Disgwyliais am haul--ond y Seren fachludodd + Cyn i mi weled ond cysgod y wawr. + +"Fy ngwlad! O fy ngwlad! yn ofer yr hidlwyd + I'th fynwes fendithion rhagorach nag un, +Yn ofer ag urdd bryd a phryd y'th anrhegwyd, + Cywreindeb i fab, a phrydferthwch i fun; +Yn ofer tywynni mewn gwedd ddigyfartal, +A blodau amryliw yn hulio dy anial, +A nentydd yn siarad ar wely o risial, + A pbob peth yn ddwyfol ond ysbryd y dyn. + +"Yn ofer y tardd trwy dy dir heb eu gofyn + Ddillynion per anian yn fil ac yn fyrdd; +Yn ofer y gwisgwyd pob dol a phob dyffryn + A dillad Paradwys yn wyn ac yn wyrdd; +Yn ofer rhoi awen o Nef i dy adar, +A gwythi o berl i fritho dy ddaear; +Yn ofer pob dawn tra mae bonllef a thrydar + Yr angrhed a'i anrhaith yn llenwi dy ffyrdd. + +"Dy goelgrefydd greulon wna d'ardd yn anialdir, + Ei sylfaen yw gwaed, a gorthrymder a cham: +Pa oergri fwrlymaidd o'r Ganges {102a} a glywir? + Maban a foddwyd gan grefydd y fam: +Ond gwaddod y gwae iddi hithau ddaw heibio; +O! dacw'r nen gan y goelcerth yn rhuddo, +Ac uchel glogwyni y Malwah {102b} 'n adseinio + Gan ddolef y weddw o ganol y fflam. + +"Gobeithiais cyn hyn buasai enw Duw Israel, + A'r aberth anfeidrol ar ael Calfari, +Yn destun pob cerddi o draeth Coromandel, + A chonglau Bengal hyd i eithaf Tickree; {102c} +Ac onid oedd Bramah yn crynu ar ei cherbyd, +Er y pryd y bu Swartz yn cyhoeddi fod bywyd +Yn angau y groes i Baganiaid dwyreinfyd?-- + Pan gredodd fy nhad yr hyn ddysgodd i mi. {102d} + +"A'th ddoniau yn nwch, ac yn uwch dy sefyllfa, + A'th enaid yn dan o enyniad y Nef, +Cyhoeddaist ti, Heber, yr unrhyw ddiangfa, + Gyda'r un serch ac addfwynder ag ef; +Dyferai fel gwlith ar y rhos dy hyawdledd, +Enillai'r digred at y groes a'r gwirionedd, +Llonyddai'r gydwybod mewn nefol drugaredd;-- + Mor chwith na chaf mwyach byth glywed dy lef. + +"Doe i felynion a gwynion yn dryfrith, + Cyfrenit elfennau danteithion y nen; +Y plant a feithrinit neshaent am dy fendith, + A gwenent wrth deimlo dy law ar eu pen; +Doe y datgenit fod Nef i'r trallodus-- +Heddyw ffraethineb sy' fud ar dy wefus-- +Ehedaist o'r ddaear heb wasgfa ofidus, + I weled dy Brynwr heb gwmwl na llen. {103a} + +'Fy ngwlad! O fy ngwlad! bu ddrwg i ti'r diwrnod + 'Raeth Heber o rwymau marwoldeb yn rhydd; +Y grechwen sy'n codi o demlau'r eulunod, + Ac uffern yn ateb y grechwen y sydd; +Juggernaut {103b} erch barotoa'i olwynion-- +Olwynion a liwir gan gochwaed dy feibion-- +Duodd y nos--ac i deulu Duw Sion + Diflannodd pob gobaith am weled y dydd." + +Yn araf, fy mrawd, paid, paid anobeithio, + Gwnai gam ag addewid gyfoethog yr IOR: +A ddiffydd yr haul am i seren fachludo? + Os pallodd yr aber, a sychodd y mor? +Na, na, fe ddaw bore bydd un Haleluia, +Yn ennyn o'r Gauts hyd gopau Himalaya, {104a} +Bydd baner yr Oen ar bob clogwyn yn India, + O aelgerth Cashgur hyd i garth Travancore. + +A hwyrach mai d'wyrion a gasglant dy ddelwau + A fwrir i'r wadd ar bob twmpath a bryn, +Ar feddrod ein Heber i'w rhoi yn lle blodau,-- + Ei gyfran o ysbail ddymunodd cyn hyn: +Heber! ei enw ddeffrodd alarnadau, +Gydymaith mewn galar, rho fenthyg dy dannau, +Cymysgwn ein cerddi, cymysgwn ein dagrau, + Os dinodd y gerdd bydd y llygad yn llyn. + +Yn anterth dy lwydd, Heber, syrthiaist i'r beddrod, + Cyn i dy goryn ddwyn un blewyn brith; +Yn nghanol dy lesni y gwywaist i'r gwaelod, + A'th ddeilen yn ir gan y wawrddydd a'r gwlith: +Mewn munyd newidiaist y meitr am goron, +A'r fantell esgobawl am wisg wen yn Sion, +Ac acen galarnad am hymn anfarwolion, + A thithau gymysgaist dy hymn yn eu plith. + +Llwyni Academus, {104b} cynorsaf dy lwyddiant, + Lle gwridaist wrth glod y dysgedig a'r gwar; +Y cangau a eiliaist a droed yn adgofiant + O alar ac alaeth i'r lluoedd a'th gar: +Llygaid ein ieuenctid, a ddysgwyd i'th hoffi, +Wrth weled dy ardeb yn britho ffenestri +A lanwant, gan gofio fod ffrydiau Caveri + Yn golchi dy fynwent wrth draeth Tanquebar. + +Llaith oedd dy fin gan wlithoedd Castalia, + O Helicon yfaist ym more dy oes; +Ond hoffaist wlith Hermon a ffrydiau Siloa, + A swyn pob testynau daearol a ffoes: +Athrylith, Athroniaeth, a dysg yr Awenau, +A blethent eu llawryf o gylch dy arleisiau; +Tithau'n ddi-fost a dderbyniaist eu cedau, + I'w hongian yn offrwm ar drostan y Groes. + +Pan oedd byd yn agor ei byrth i dy dderbyn, + Gan addaw pob mwyniant os unit ag ef,-- +Cofleidiaist y Groes, a chyfrifaist yn elyn + Bob meddwl a geisiai fynd rhyngot a'r nef: +Yn Hodnet {105} yn hir saif dy enw ar galonnau +Y diriaid ddychwelwyd yn saint trwy'th bregethau-- +Amddifad gadd borth yn dy briod a thithau-- + Y weddw a noddaist--y wan wneist yn gref. + +Gadewaist a'th garant--yn ysbryd Cenadwr + Y nofiaist tros donnau trochionog y mor, +I ddatgan fod Iesu yn berffaith Waredwr + I Vahmond Delhi, ac i Frahmin Mysore; +Daeth bywyd ac adnerth i Eglwys y Dwyrain-- +Offrymwyd ar allor Duw Israel a Phrydain-- +Yn nagrau a galar Hindoo gallwn ddarllain + Na sengaist ti India heb gwmni dy IOR. + +O Gor Trichinopoly, cadw di'n ddiogel + Weddillion y Sant i fwynhau melus hun, +Pan ferwo y weilgi ar lan Coromandel, + Gofynnir adfeilion ei babell bob un;-- +Ond tawed ein pruddgerdd am bennill melusach, +A ganodd ein Heber ar dannau siriolach, +Yn arwyl y Bardd a pha odlau cymhwysach + Dilynir ei elor na'i odlau ei hun? + +"Diangaist i'r bedd--ni alarwn am danad, + Er mai trigfa galar a niwl ydyw'r bedd; +Agorwyd ei ddorau o'r blaen gan dy Geidwad, + A'i gariad gwna'r ddunos yn ddiwrnod o hedd. +Diangaist i'r bedd--ac ni welwn di mwyach +Yn dringo rhiw bywyd trwy ludded a phoen: +Ond breichiau rhad ras a'th gofleidiant ti bellach, + Daeth gobaith i'r euog pan drengodd yr Oen. + +"Diangaist i'r bedd--ac wrth adael marwoldeb + Rhwng hyder ac ofn, os unwaith petrusaist, +Dy lygaid agorwyd yn nydd tragwyddoldeb, + Ac angel a ganodd yr Anthem a glywaist. +Diangaist i'r bedd--byddai'n bechod galaru, +At Dduw y diangaist--y Duw a dy roes: +Efe a'th gymerodd--Efe wna'th adferu + Digolyn yw angau trwy angau y groes." + +* * * * * + +Cyfieithiad yw'r ddau bennill olaf o emyn Heber ei hun,-- + +"Thou art gone to the grave, but we will not deplore thee, +Though sadness and sorrow encompass the tomb." + + + +SEREN BETHLEHEM. + + +(Cyfieithiad o Saesoneg H. K. White.) + +Pan bo ser anhraethol nifer + Yn britho tywyll lenni'r nen, +At _un_ yn unig drwy'r eangder + Y tal i'r euog godi ei ben; +Clywch! Hosanna'n felus ddwndwr + Red i Dduw o em i em, +Ond _un_ sy'n datgan y Gwaredwr, + Honno yw Seren Bethlehem. + +Unwaith hwyliais ar y cefnfor + A'r 'storm yn gerth, a'r nos yn ddu, +Minnau heb na llyw, nac angor, + Na gwawr, na gobaith o un tu, +Nerth a dyfais wedi gorffen, + Dim ond soddi yn fy nhrem, +Ar fy ing y cododd seren, + Seren nefol Bethlehem. + +Bu'n llusern a thywysydd imi, + Lladdodd ofn y dyfrllyd fedd, +Ac o erchyll safn y weilgi + Dug fi i borthladd dwyfol hedd;-- +Mae'n awr yn deg, a minnau'n canu, + F'achub o'r ystorom lem, +A chanaf pan bo'r byd yn ffaglu + Seren! Seren! Bethlehem! + + + +AT MANOR DEIFI. + + +TO E. WHITLEY, ESQ., BRONCOED. + +_Cardigan, March 30th, 1835_. + +MY EVER DEAR SIR, + +Old recollections--and recollections dearer for being old--make Broncoed +and the name of Whitley much dearer to my memory and heart than other +names and places. My own former humble home is now another's,--I know it +no more; and there is scarcely a house now in the parish into which I +would venture to turn besides yours, your cousin's, Mr. Clough's and two +or three more. Yet, I feel a tie between me and Mold and its +inhabitants, which nothing but death can unloose. There lies the grave +of my dear, though poor parents, and there burst the dawn of my brightest +days. The same Providence which smiled upon the beginning of my happier +years, continues kind still. I have indeed abundant reason to thank +heaven for the many, many blessings which have been showered upon my +path; nor do I forget the kind hands which were employed in showering +them, and your own amongst the number. + +When I first came to Manordeifi, there was but one service on the Sunday, +and that almost entirely in Welsh. Seeing that five of the principal +families in Pembrokeshire were under my pastoral care, and that neither +themselves nor their dependants understood any Welsh, I established two +services, one entirely English, the other exclusively in our beloved +Welsh. + + + +CATHL I'R EOS. + + +Pan guddio nos ein daear gu + O dan ei du adenydd, +Y clywir dy delori mwyn, + A chor y llwyn yn llonydd; +Ac os bydd pigyn dan dy fron + Yn peri i'th galon guro, +Ni wnai, nes torro'r wawrddydd hael, + Ond canu a gadael iddo. + +A thebyg it' yw'r feinir war + Sydd gymar gwell na gemau, +Er cilio haul, a hulio bro + A miloedd o gymylau; +Pan dawo holl gysurwyr dydd, + Hi lyna yn ffyddlonaf; +Yn nyfnder nos o boen a thrais + Y dyry lais felusaf. + +Er dichon fod ei chalon wan + Yn delwi dan y dulid, +Ni chwyna, i flino'i hanwyl rai,-- + Ei gwen a guddia'i gofid: +Ni pheidia'i chan trwy ddunos faith, + Nes gweled gobaith goleu +Yn t'wynu, megys llygad aur, + Trwy bur amrantau'r boreu. + + + +ABAD-DY TINTERN. + + +Pa sawl bron a oerodd yma? + Pa sawl llygad ga'dd ei gloi? +Pa sawl un sydd yn y gladdfa, + A'r cof o honynt wedi ffoi? +Pa sawl gwaith, ar wawr a gosber + Swniai'r gloch ar hyd y glyn? +Pa sawl _Ave_, cred a phader, + Dd'wedwyd rhwng y muriau hyn? + +Ar y gareg sydd gyferbyn, + A faluriwyd gan yr hin, +Tybiaf weld, o flaen ei eilun, + Ryw bererin ar ei lin; +Tybiaf fod y mwg o'r thuser + Eto'n codi'n golofn wen, +A bod swn yr organ seinber + Eto yn dadseinio'r nen. + +Ond Distawrwydd wnaeth ei phabell + Lle cartrefai'r anthem gynt; +Nid oes yma, o gor i gangell, + Un erddygan, ond y gwynt.-- +Felly darffo pob coel-grefydd, + Crymed byd ger bron y Gwir; +Hedd a chariad, ar eu cynnydd, + Fo'n teyrnasu tros y tir. + + + +CAN GWRAIG Y PYSGOTWR. + + +Gorffwys donn, dylifa'n llonydd, +Paid a digio wrth y creigydd; +Y mae anian yn noswylio, +Pa'm y byddi di yn effro? +Dwndwr daear sydd yn darfod,-- +Cysga dithau ar dy dywod. + +Gorffwys for! mae ar dy lasdon +Un yn dwyn serchiadau 'nghalon; +Nid ei ran yw bywyd segur, +Ar dy lifiant mae ei lafur; +Bydd dda wrtho, for diddarfod, +Cysga'n dawel ar dy dywod. + +Paid a grwgnach, bydd yn ddiddig, +Dyro ffrwyn ym mhen dy gesig; +A pha esgus iti ffromi? +Nid oes gwynt ym mrig y llwyni: +Tyrd a bad fy ngwr i'r diddos +Cyn cysgodion dwfn y ceunos. + +Iawn i wraig yw teimlo pryder +Pan bo'i gwr ar gefn y dyfnder; +Ond os cyffry dig dy donnau, +Pwy a ddirnad ei theimladau? +O bydd dirion wrth fy mhriod,-- +Cysga'n dawel ar dy dywod. + +Byddar ydwyt i fy ymbil, +For didostur, ddofn dy grombil; +Trof at Un a all dy farchog +Pan bo'th donnau yn gynddeiriog; +Cymer Ef fy ngwr i'w gysgod, +A gwna di'n dawel ar dy dywod. + +[Gwraig y Pysgotwr. "Gorffwys for, mae ar dy lasdon +Un yn dwyn serchiadau 'nghalon.": alun105.jpg] + + + +Y DDEILEN GRIN + + +Sech yw'r ddeilen ar y brigyn, +Buan iawn i'r llaid y disgyn; +Ond y meddwl call a ddarllen +Wers o addysg ar y ddeilen. + +Unwaith chwarddodd mewn gwyrddlesni, +Gwawr y nef orftwysodd arni; +Gyda myrddiwn o gyfeillion, +Dawnsiodd yn yr hwyr awelon. + +Darfu'r urdd oedd arni gynnau, +Prin y deil dan wlith y borau, +Cryna rhag y chwa ireiddlon +Sydd yn angeu i'w chyfoedion. + +Ni all haul er ymbelydru, +Na llawn lloer er ei hariannu, +Ac ni all yr awel dyner +Alw yn ol ei hen ireidd-der. + +Blaguro ychydig oedd ei chyfran, +Rhoi un wen ar wyneb anian; +Llef o'r nef yn Hydref waedda-- +Darfu'th waith,"--a hithau drenga. + + + + +Footnotes: + + +{1a} O wawl-arluniau gan y diweddar John Thomas. + +{1b} O wawl-arluniau gan y diweddar John Thomas. + +{1c} O wawl-arluniau gan y diweddar John Thomas. + +{1d} O wawl-arluniau gan y diweddar John Thomas. + +{26} Cyfeiriad at farwolaeth echrydus Iorwerth II. Cym. _The Bard_, +Gray. + +{27} Man y llofruddiwyd llawer o hil Edward. + +{28} Harri VII., buddugwr Bosworth. + +{33} Yr arwyddair dan Loer arian y Twrc yw,--"Nes llenwi hol ddaear." + +{45a} Flodden Field, by Sir Walter Scott. + +{45b} Siege of Corinth, by Lord Byron; and Siege of Valencia, by Mrs. +Hemans. + +{47} The English Channel. + +{53} Hesperus, the evening star. + +{101} Caveri.--Afon yn Ngorllewin Hindostan, a lifa heibio Trichinopoly, +claddfa yr Esgob Heber, ac a ymarllwysa i for Coromandel wrth Tranquebar. + +{102a} Ganges--prif afon India--gwrthddrych addoliad y Brahminiaid. +Cyffredin ydyw i wragedd daflu eu mabanod i'w thonnau er mwyn boddio y +duw Himalaya, a elwir yn Dad y Ganges. + +{102b} Y Malwah.--Rhes o fynyddoedd uchel yng nghanol Hindostan. Nid yw +cyngor na cherydd Prydeiniaid yn gallu rhwystro yr arfer greulon +gynhwynol o losgi gweddwon byw gyda'u gwyr meirw. + +{102c} Nid anghyffelyb Hindostan i drionglyn, Coromandel, Tickree, a +Bengal, ydynt y conglau. + +{102d} Tybir bod tua 40,000 o Gristionogion, ond bod mwy na'u hanner yn +Babyddion, yn y Carnatic. Nid yw prin werth crybwyll mai un o hil +dyscyblion Swartz, cenadwr enwog tua chan' mlynedd yn ol, ydyw yr Hindoo +a ddychymyga yr Alarnad. + +{103a} Angeu disyfyd a gymerodd Heber ymaith tra y mwynhai drochfa +dwymn. Y dydd o'r blaen--y Sabbath--cyflawnai ddyledswyddau ei daith +esgobawl. + +{103b} Juggernaut--un o eilunod pennaf Hindostan. Ar ei gylchwyl +llusgir ef ar gert enfawr i ymweled a'i hafoty. Ymdafla miloedd o'i +addolwyr dan ei olwynion trymion, ac yno y llethir hwynt. + +{104a} Gauts--mynyddoedd uchel wrth Travancore, penrhyn +deheuol.--Himalaya, mynyddoedd uwch, wrth Cashgur, penrhyn gogleddol +Hindostan. + +{104b} Llwyni Academus. Nid oes ond a wypo a ddichon ddychymygu y parch +a dalwyd yn Rhydychen i Heber, ar parch a delir eto i'w enw. Yno y daeth +gyntaf i wydd yr oes drwy ei Balestine, a gyfieithwyd i'r Gymraeg mor +ardaerchog gan yr unig wr cyfaddas i'r gorchwyl--yr enwocaf Gymro, Dr. +Pughe. + +{105} Hodnet--yn Amwythig--yno y cyflawnai Heber swydd Bugail +Cristionogol yn ddifefl hyd ei symudiad i India. + + + +***END OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK GWAITH ALUN*** + + +******* This file should be named 14865.txt or 14865.zip ******* + + +This and all associated files of various formats will be found in: +https://www.gutenberg.org/dirs/1/4/8/6/14865 + + + +Updated editions will replace the previous one--the old editions +will be renamed. + +Creating the works from public domain print editions means that no +one owns a United States copyright in these works, so the Foundation +(and you!) can copy and distribute it in the United States without +permission and without paying copyright royalties. Special rules, +set forth in the General Terms of Use part of this license, apply to +copying and distributing Project Gutenberg-tm electronic works to +protect the PROJECT GUTENBERG-tm concept and trademark. Project +Gutenberg is a registered trademark, and may not be used if you +charge for the eBooks, unless you receive specific permission. If you +do not charge anything for copies of this eBook, complying with the +rules is very easy. You may use this eBook for nearly any purpose +such as creation of derivative works, reports, performances and +research. They may be modified and printed and given away--you may do +practically ANYTHING with public domain eBooks. Redistribution is +subject to the trademark license, especially commercial +redistribution. + + + +*** START: FULL LICENSE *** + +THE FULL PROJECT GUTENBERG LICENSE +PLEASE READ THIS BEFORE YOU DISTRIBUTE OR USE THIS WORK + +To protect the Project Gutenberg-tm mission of promoting the free +distribution of electronic works, by using or distributing this work +(or any other work associated in any way with the phrase "Project +Gutenberg"), you agree to comply with all the terms of the Full Project +Gutenberg-tm License (available with this file or online at +https://gutenberg.org/license). + + +Section 1. General Terms of Use and Redistributing Project Gutenberg-tm +electronic works + +1.A. By reading or using any part of this Project Gutenberg-tm +electronic work, you indicate that you have read, understand, agree to +and accept all the terms of this license and intellectual property +(trademark/copyright) agreement. If you do not agree to abide by all +the terms of this agreement, you must cease using and return or destroy +all copies of Project Gutenberg-tm electronic works in your possession. +If you paid a fee for obtaining a copy of or access to a Project +Gutenberg-tm electronic work and you do not agree to be bound by the +terms of this agreement, you may obtain a refund from the person or +entity to whom you paid the fee as set forth in paragraph 1.E.8. + +1.B. "Project Gutenberg" is a registered trademark. It may only be +used on or associated in any way with an electronic work by people who +agree to be bound by the terms of this agreement. There are a few +things that you can do with most Project Gutenberg-tm electronic works +even without complying with the full terms of this agreement. See +paragraph 1.C below. There are a lot of things you can do with Project +Gutenberg-tm electronic works if you follow the terms of this agreement +and help preserve free future access to Project Gutenberg-tm electronic +works. See paragraph 1.E below. + +1.C. The Project Gutenberg Literary Archive Foundation ("the Foundation" +or PGLAF), owns a compilation copyright in the collection of Project +Gutenberg-tm electronic works. Nearly all the individual works in the +collection are in the public domain in the United States. If an +individual work is in the public domain in the United States and you are +located in the United States, we do not claim a right to prevent you from +copying, distributing, performing, displaying or creating derivative +works based on the work as long as all references to Project Gutenberg +are removed. Of course, we hope that you will support the Project +Gutenberg-tm mission of promoting free access to electronic works by +freely sharing Project Gutenberg-tm works in compliance with the terms of +this agreement for keeping the Project Gutenberg-tm name associated with +the work. You can easily comply with the terms of this agreement by +keeping this work in the same format with its attached full Project +Gutenberg-tm License when you share it without charge with others. + +1.D. The copyright laws of the place where you are located also govern +what you can do with this work. Copyright laws in most countries are in +a constant state of change. If you are outside the United States, check +the laws of your country in addition to the terms of this agreement +before downloading, copying, displaying, performing, distributing or +creating derivative works based on this work or any other Project +Gutenberg-tm work. The Foundation makes no representations concerning +the copyright status of any work in any country outside the United +States. + +1.E. Unless you have removed all references to Project Gutenberg: + +1.E.1. The following sentence, with active links to, or other immediate +access to, the full Project Gutenberg-tm License must appear prominently +whenever any copy of a Project Gutenberg-tm work (any work on which the +phrase "Project Gutenberg" appears, or with which the phrase "Project +Gutenberg" is associated) is accessed, displayed, performed, viewed, +copied or distributed: + +This eBook is for the use of anyone anywhere at no cost and with +almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or +re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included +with this eBook or online at www.gutenberg.org + +1.E.2. If an individual Project Gutenberg-tm electronic work is derived +from the public domain (does not contain a notice indicating that it is +posted with permission of the copyright holder), the work can be copied +and distributed to anyone in the United States without paying any fees +or charges. If you are redistributing or providing access to a work +with the phrase "Project Gutenberg" associated with or appearing on the +work, you must comply either with the requirements of paragraphs 1.E.1 +through 1.E.7 or obtain permission for the use of the work and the +Project Gutenberg-tm trademark as set forth in paragraphs 1.E.8 or +1.E.9. + +1.E.3. If an individual Project Gutenberg-tm electronic work is posted +with the permission of the copyright holder, your use and distribution +must comply with both paragraphs 1.E.1 through 1.E.7 and any additional +terms imposed by the copyright holder. Additional terms will be linked +to the Project Gutenberg-tm License for all works posted with the +permission of the copyright holder found at the beginning of this work. + +1.E.4. Do not unlink or detach or remove the full Project Gutenberg-tm +License terms from this work, or any files containing a part of this +work or any other work associated with Project Gutenberg-tm. + +1.E.5. Do not copy, display, perform, distribute or redistribute this +electronic work, or any part of this electronic work, without +prominently displaying the sentence set forth in paragraph 1.E.1 with +active links or immediate access to the full terms of the Project +Gutenberg-tm License. + +1.E.6. You may convert to and distribute this work in any binary, +compressed, marked up, nonproprietary or proprietary form, including any +word processing or hypertext form. However, if you provide access to or +distribute copies of a Project Gutenberg-tm work in a format other than +"Plain Vanilla ASCII" or other format used in the official version +posted on the official Project Gutenberg-tm web site (www.gutenberg.org), +you must, at no additional cost, fee or expense to the user, provide a +copy, a means of exporting a copy, or a means of obtaining a copy upon +request, of the work in its original "Plain Vanilla ASCII" or other +form. Any alternate format must include the full Project Gutenberg-tm +License as specified in paragraph 1.E.1. + +1.E.7. Do not charge a fee for access to, viewing, displaying, +performing, copying or distributing any Project Gutenberg-tm works +unless you comply with paragraph 1.E.8 or 1.E.9. + +1.E.8. You may charge a reasonable fee for copies of or providing +access to or distributing Project Gutenberg-tm electronic works provided +that + +- You pay a royalty fee of 20% of the gross profits you derive from + the use of Project Gutenberg-tm works calculated using the method + you already use to calculate your applicable taxes. The fee is + owed to the owner of the Project Gutenberg-tm trademark, but he + has agreed to donate royalties under this paragraph to the + Project Gutenberg Literary Archive Foundation. Royalty payments + must be paid within 60 days following each date on which you + prepare (or are legally required to prepare) your periodic tax + returns. Royalty payments should be clearly marked as such and + sent to the Project Gutenberg Literary Archive Foundation at the + address specified in Section 4, "Information about donations to + the Project Gutenberg Literary Archive Foundation." + +- You provide a full refund of any money paid by a user who notifies + you in writing (or by e-mail) within 30 days of receipt that s/he + does not agree to the terms of the full Project Gutenberg-tm + License. You must require such a user to return or + destroy all copies of the works possessed in a physical medium + and discontinue all use of and all access to other copies of + Project Gutenberg-tm works. + +- You provide, in accordance with paragraph 1.F.3, a full refund of any + money paid for a work or a replacement copy, if a defect in the + electronic work is discovered and reported to you within 90 days + of receipt of the work. + +- You comply with all other terms of this agreement for free + distribution of Project Gutenberg-tm works. + +1.E.9. If you wish to charge a fee or distribute a Project Gutenberg-tm +electronic work or group of works on different terms than are set +forth in this agreement, you must obtain permission in writing from +both the Project Gutenberg Literary Archive Foundation and Michael +Hart, the owner of the Project Gutenberg-tm trademark. Contact the +Foundation as set forth in Section 3 below. + +1.F. + +1.F.1. Project Gutenberg volunteers and employees expend considerable +effort to identify, do copyright research on, transcribe and proofread +public domain works in creating the Project Gutenberg-tm +collection. Despite these efforts, Project Gutenberg-tm electronic +works, and the medium on which they may be stored, may contain +"Defects," such as, but not limited to, incomplete, inaccurate or +corrupt data, transcription errors, a copyright or other intellectual +property infringement, a defective or damaged disk or other medium, a +computer virus, or computer codes that damage or cannot be read by +your equipment. + +1.F.2. LIMITED WARRANTY, DISCLAIMER OF DAMAGES - Except for the "Right +of Replacement or Refund" described in paragraph 1.F.3, the Project +Gutenberg Literary Archive Foundation, the owner of the Project +Gutenberg-tm trademark, and any other party distributing a Project +Gutenberg-tm electronic work under this agreement, disclaim all +liability to you for damages, costs and expenses, including legal +fees. YOU AGREE THAT YOU HAVE NO REMEDIES FOR NEGLIGENCE, STRICT +LIABILITY, BREACH OF WARRANTY OR BREACH OF CONTRACT EXCEPT THOSE +PROVIDED IN PARAGRAPH F3. YOU AGREE THAT THE FOUNDATION, THE +TRADEMARK OWNER, AND ANY DISTRIBUTOR UNDER THIS AGREEMENT WILL NOT BE +LIABLE TO YOU FOR ACTUAL, DIRECT, INDIRECT, CONSEQUENTIAL, PUNITIVE OR +INCIDENTAL DAMAGES EVEN IF YOU GIVE NOTICE OF THE POSSIBILITY OF SUCH +DAMAGE. + +1.F.3. LIMITED RIGHT OF REPLACEMENT OR REFUND - If you discover a +defect in this electronic work within 90 days of receiving it, you can +receive a refund of the money (if any) you paid for it by sending a +written explanation to the person you received the work from. If you +received the work on a physical medium, you must return the medium with +your written explanation. The person or entity that provided you with +the defective work may elect to provide a replacement copy in lieu of a +refund. If you received the work electronically, the person or entity +providing it to you may choose to give you a second opportunity to +receive the work electronically in lieu of a refund. If the second copy +is also defective, you may demand a refund in writing without further +opportunities to fix the problem. + +1.F.4. Except for the limited right of replacement or refund set forth +in paragraph 1.F.3, this work is provided to you 'AS-IS', WITH NO OTHER +WARRANTIES OF ANY KIND, EXPRESS OR IMPLIED, INCLUDING BUT NOT LIMITED TO +WARRANTIES OF MERCHANTIBILITY OR FITNESS FOR ANY PURPOSE. + +1.F.5. Some states do not allow disclaimers of certain implied +warranties or the exclusion or limitation of certain types of damages. +If any disclaimer or limitation set forth in this agreement violates the +law of the state applicable to this agreement, the agreement shall be +interpreted to make the maximum disclaimer or limitation permitted by +the applicable state law. The invalidity or unenforceability of any +provision of this agreement shall not void the remaining provisions. + +1.F.6. INDEMNITY - You agree to indemnify and hold the Foundation, the +trademark owner, any agent or employee of the Foundation, anyone +providing copies of Project Gutenberg-tm electronic works in accordance +with this agreement, and any volunteers associated with the production, +promotion and distribution of Project Gutenberg-tm electronic works, +harmless from all liability, costs and expenses, including legal fees, +that arise directly or indirectly from any of the following which you do +or cause to occur: (a) distribution of this or any Project Gutenberg-tm +work, (b) alteration, modification, or additions or deletions to any +Project Gutenberg-tm work, and (c) any Defect you cause. + + +Section 2. Information about the Mission of Project Gutenberg-tm + +Project Gutenberg-tm is synonymous with the free distribution of +electronic works in formats readable by the widest variety of computers +including obsolete, old, middle-aged and new computers. It exists +because of the efforts of hundreds of volunteers and donations from +people in all walks of life. + +Volunteers and financial support to provide volunteers with the +assistance they need, is critical to reaching Project Gutenberg-tm's +goals and ensuring that the Project Gutenberg-tm collection will +remain freely available for generations to come. In 2001, the Project +Gutenberg Literary Archive Foundation was created to provide a secure +and permanent future for Project Gutenberg-tm and future generations. +To learn more about the Project Gutenberg Literary Archive Foundation +and how your efforts and donations can help, see Sections 3 and 4 +and the Foundation web page at https://www.gutenberg.org/fundraising/pglaf. + + +Section 3. Information about the Project Gutenberg Literary Archive +Foundation + +The Project Gutenberg Literary Archive Foundation is a non profit +501(c)(3) educational corporation organized under the laws of the +state of Mississippi and granted tax exempt status by the Internal +Revenue Service. The Foundation's EIN or federal tax identification +number is 64-6221541. Contributions to the Project Gutenberg +Literary Archive Foundation are tax deductible to the full extent +permitted by U.S. federal laws and your state's laws. + +The Foundation's principal office is located at 4557 Melan Dr. S. +Fairbanks, AK, 99712., but its volunteers and employees are scattered +throughout numerous locations. Its business office is located at +809 North 1500 West, Salt Lake City, UT 84116, (801) 596-1887, email +business@pglaf.org. Email contact links and up to date contact +information can be found at the Foundation's web site and official +page at https://www.gutenberg.org/about/contact + +For additional contact information: + Dr. Gregory B. Newby + Chief Executive and Director + gbnewby@pglaf.org + +Section 4. Information about Donations to the Project Gutenberg +Literary Archive Foundation + +Project Gutenberg-tm depends upon and cannot survive without wide +spread public support and donations to carry out its mission of +increasing the number of public domain and licensed works that can be +freely distributed in machine readable form accessible by the widest +array of equipment including outdated equipment. Many small donations +($1 to $5,000) are particularly important to maintaining tax exempt +status with the IRS. + +The Foundation is committed to complying with the laws regulating +charities and charitable donations in all 50 states of the United +States. Compliance requirements are not uniform and it takes a +considerable effort, much paperwork and many fees to meet and keep up +with these requirements. We do not solicit donations in locations +where we have not received written confirmation of compliance. To +SEND DONATIONS or determine the status of compliance for any +particular state visit https://www.gutenberg.org/fundraising/donate + +While we cannot and do not solicit contributions from states where we +have not met the solicitation requirements, we know of no prohibition +against accepting unsolicited donations from donors in such states who +approach us with offers to donate. + +International donations are gratefully accepted, but we cannot make +any statements concerning tax treatment of donations received from +outside the United States. U.S. laws alone swamp our small staff. + +Please check the Project Gutenberg Web pages for current donation +methods and addresses. Donations are accepted in a number of other +ways including including checks, online payments and credit card +donations. To donate, please visit: +https://www.gutenberg.org/fundraising/donate + + +Section 5. General Information About Project Gutenberg-tm electronic +works. + +Professor Michael S. Hart was the originator of the Project Gutenberg-tm +concept of a library of electronic works that could be freely shared +with anyone. For thirty years, he produced and distributed Project +Gutenberg-tm eBooks with only a loose network of volunteer support. + +Project Gutenberg-tm eBooks are often created from several printed +editions, all of which are confirmed as Public Domain in the U.S. +unless a copyright notice is included. Thus, we do not necessarily +keep eBooks in compliance with any particular paper edition. + +Most people start at our Web site which has the main PG search facility: + + https://www.gutenberg.org + +This Web site includes information about Project Gutenberg-tm, +including how to make donations to the Project Gutenberg Literary +Archive Foundation, how to help produce our new eBooks, and how to +subscribe to our email newsletter to hear about new eBooks. + diff --git a/14865.zip b/14865.zip Binary files differnew file mode 100644 index 0000000..09a2a8b --- /dev/null +++ b/14865.zip diff --git a/LICENSE.txt b/LICENSE.txt new file mode 100644 index 0000000..6312041 --- /dev/null +++ b/LICENSE.txt @@ -0,0 +1,11 @@ +This eBook, including all associated images, markup, improvements, +metadata, and any other content or labor, has been confirmed to be +in the PUBLIC DOMAIN IN THE UNITED STATES. + +Procedures for determining public domain status are described in +the "Copyright How-To" at https://www.gutenberg.org. + +No investigation has been made concerning possible copyrights in +jurisdictions other than the United States. Anyone seeking to utilize +this eBook outside of the United States should confirm copyright +status under the laws that apply to them. diff --git a/README.md b/README.md new file mode 100644 index 0000000..a42eab6 --- /dev/null +++ b/README.md @@ -0,0 +1,2 @@ +Project Gutenberg (https://www.gutenberg.org) public repository for +eBook #14865 (https://www.gutenberg.org/ebooks/14865) |
