summaryrefslogtreecommitdiff
path: root/22528-8.txt
diff options
context:
space:
mode:
Diffstat (limited to '22528-8.txt')
-rw-r--r--22528-8.txt2694
1 files changed, 2694 insertions, 0 deletions
diff --git a/22528-8.txt b/22528-8.txt
new file mode 100644
index 0000000..db52ed7
--- /dev/null
+++ b/22528-8.txt
@@ -0,0 +1,2694 @@
+The Project Gutenberg eBook, Cerddi'r Mynydd Du, by Various, Edited by W.
+Griffiths, Illustrated by Llew Morgan
+
+
+This eBook is for the use of anyone anywhere at no cost and with
+almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or
+re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included
+with this eBook or online at www.gutenberg.org
+
+
+
+
+
+Title: Cerddi'r Mynydd Du
+ Caneuon Hen a Diweddar
+
+
+Author: Various
+
+Editor: W. Griffiths
+
+Release Date: September 6, 2007 [eBook #22528]
+
+Language: Welsh
+
+Character set encoding: ISO-8859-1
+
+
+***START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK CERDDI'R MYNYDD DU***
+
+
+E-text prepared by Al Haines
+
+
+
+Note: Project Gutenberg also has an HTML version of this
+ file which includes the original illustrations.
+ See 22528-h.htm or 22528-h.zip:
+ (https://www.gutenberg.org/dirs/2/2/5/2/22528/22528-h/22528-h.htm)
+ or
+ (https://www.gutenberg.org/dirs/2/2/5/2/22528/22528-h.zip)
+
+
+
+
+
+[Frontispiece: G. Davies, Ysw., Seattle, U.D., I'r hwn y cyflwynir y
+gyfrol hon, a thrwyddo ef i'r holl frodorion ar wasgar.]
+
+
+
+
+
+
+ Adgof dedwydd am a fu
+ Wna Fynydd Gwyn o'r Mynydd Du.
+
+
+
+CERDDI'R MYNYDD DU
+
+sef
+
+CANEUON HEN A DIWEDDAR
+
+WEDI EU CASGLU A'U TREFNU GAN Y
+
+PARCH. W. GRIFFITHS
+
+(G. AP LLEISION), YSTRADGYNLAIS.
+
+GYDA DARLUNIAU GAN
+
+MR. LLEW MORGAN.
+
+
+
+
+
+
+
+ABERHONDDU:
+Argraffwyd gan ROBT. READ,
+yn Swyddfa'r "Brecon & Radnor Express," Y Bulwark.
+1913.
+
+
+
+
+CYNWYSIAD.
+
+
+ Cyflwyniad
+ With Droed y Mynydd Du
+ Adgofion Mebyd
+ Llynau'r Giedd
+ Shon Wil Khys
+ Pen y Cribarth
+ Yn y Mawn ar ben y Mynydd
+ Bugail y Mynydd Du
+ Hela'r Twrch Trwyth
+ Afon Giedd
+ Ffaldau Moel Feity
+ Y Llynfell
+ Llyga d y Dydd ar Waen Ddolgam
+ O'r Niwl i'r Nef
+ Gwilym Shon
+ Llyn y Fan (Gwatwargerdd)
+ Ffrydiau Twrch
+ Angladd ar y Mynydd Du
+ Y Gof Bach
+ Ffynon y Brandi
+ Dafydd y Neuadd Las
+ Cyw
+ Llyn y Fan
+ Ar y Banau
+ Breuddwyd Adgof
+ Cân y Dwyfundodiaid
+
+
+
+
+Illustrations
+
+
+G. Davies, Ysw., Seattle, U.D., I'r hwn y cyflwynir y gyfrol hon, a
+thrwyddo ef i'r holl frodorion ar wasgar. . . . . . _Frontispiece_
+
+Cerfiad mewn trawst perthynol i hen amaethdy Brynygroes, yn dynodi adeg
+ei adeiladu, ac enw ei breswylydd. Mae y lle wedi ei ddal gan yr un
+llinach am dros 400 0 flynyddoedd.
+
+Bryn-Y-Groes.
+
+Mynwent Cwmgiedd.
+
+Gored Y Giedd.
+
+Trem I'r Mynydd Du.
+
+Cwmgiedd (Rhan Isaf).
+
+Ffynon-Y-Cwar.
+
+Pont-Ynys-Twlc.
+
+Penparc.
+
+Llocior'r Defaid.
+
+Maen Derwyddol Ger LLaw Llyn-Y-Fan Fawr.
+
+LLyn-Y-Fan.
+
+
+
+
+[Illustration: Cerfiad mewn trawst perthynol i hen amaethdy Brynygroes,
+yn dynodi adeg ei adeiladu, ac ewn ei breswylydd. Mae y lle wedi ei
+ddal gan yr un llinach am dros 400 o flynyddoedd.]
+
+
+[Illustration: Bryn-Y-Groes.]
+
+
+
+
+CYFLWYNEDIG
+
+1
+
+GRIFFITH DAVIES, Ysw.,
+
+SEATTLE, WASHINGTON, AMERICA.
+
+
+ At foneddwr--brodor glân,
+ Lyfr bychan, dos a'th gân,
+ Nid oes genyf anrheg well
+ Iddo ar Gyfandir pell
+ Na'r caneuon syml hyn--
+ Cerddi bro ei faboed gwyn.
+
+ Yma gwelodd gynta'r byd,
+ Giedd suai gwsg ei gryd,
+ Yn ei dyfroedd laslanc llon
+ Dysgodd gyntaf nofio'r don,
+ Ar ei glanau yfai ddysg,
+ Yn ei llynau daliai'r pysg.
+
+ Am flynyddau wedi hyn
+ Cerddai'r fro, a dringai'r bryn.
+ Anturiaethus fu ei daith
+ I'r pellderoedd lawer gwaith;
+ A chyfrinach anian gu
+ Glywodd ar y Mynydd Du.
+
+ Myn brodorion yr Hen Wlad
+ Adrodd beunydd mewn mwynhad
+ Am ei deithiau yma a thraw
+ Gyda'i lyfr yn ei law;
+ Hoffai wybod meddwl dyn,
+ Meddwl Duw yn fwy na'r un.
+
+ Haf a gauaf, tes a gwynt,
+ Carai fyn'd i'r Capel gynt,
+ Rhoes ei ddawn yn offrwm byw
+ Ar allorau sanctaidd Duw;
+ Casglodd yma fanna bras,
+ Canodd yma gerddi gras.
+
+ I'r cwrdd gweddi ffyddlawn bu,
+ Yn yr Ysgol, athraw cu;
+ Ei ddisgyblion dros y byd
+ Dystiant am ei wersi drud,
+ Hauodd ef ar lawer dol,
+ Tyf cynhauaf gwyn o'i ol.
+
+ Diwrnod yn y cwmwl trwm
+ Ydoedd hwnw yn y Cwm
+ Aeth a'r delfryd lanc di-ail
+ Tua gwlad machludiad haul;
+ Yn y cwmwl nid oedd gwên,
+ Wylai'r ieuanc, wylai'r hen.
+
+ Mae blynyddau maith er hyn,
+ Newid sydd ar fro a bryn;
+ Hen gyfoedion wedi myn'd,
+ Nid oes mwy ond _ambell_ ffrynd,
+ Yntau fry ar dyrau llwydd
+ Gafodd fyd a Duw yn rhwydd.
+
+ Daw hanesion dros y dón,
+ Hanes glân fel ewyn hon,
+ Hanes calon eang, hael,
+ Fedra roi mor llon a chael,
+ Hanes bywyd sydd a'i fryd
+ Beunydd i brydferthu byd.
+
+ Frodor anwyl, hoff yn awr
+ Ganddo gofio llwybrau'r wawr,
+ Mae y Mynydd Du o hyd
+ Iddo'n gyfrinachau'i gyd,
+ Salmau'r neint sydd ar ei glyw--
+ Mynydd ei Wynfydau yw.
+
+ Lyfr bychan, dos a'th gân
+ Drosodd i'r boneddwr glân;
+ Nid oes genyf anrheg well
+ Iddo ar Gyfandir pell
+ Na'r caneuon syml hyn--
+ Cerddi gwlad ei faboed gwyn.
+
+ G. AP LLEISION.
+
+
+
+
+Wrth Droed y Mynydd Du.
+
+ 'Roedd blodau ar y dyffryn,
+ A Mai o dan y coed,
+ Yn chwareu gyda'r awel
+ Yn lion ac ysgafn droed:
+ Fe ganai y fwyalchen
+ Ar gangen las uwchben,
+ Heb wrando cyfrinachau serch
+ Y ddau oedd dan y pren.
+
+ Fe welsant flodau'n tyfu
+ Ar bedwar-ugain Mai,
+ Ond welodd neb er hynny,
+ Eu serch yn myn'd yn llai;
+ Adroddant wrth en gilydd
+ Adgofion blwyddi fu,
+ Pan rodient dan oleuni'r lloer
+ Hyd llethrau'r Mynydd Du.
+
+ "'Rwy'n cofio'r noson gyntaf
+ I'th welais, f'anwyl un,
+ Pan deimlais yn fy nghalon
+ Fod mellt yn llygad mun;
+ 'Rwy'n cofio'th wylio'n rhedeg
+ Fel ewig dros yr allt,
+ A'r nos oedd yn dy lygad, Gwen,
+ A'r aur oedd yn dy wallt."
+
+ "Ond dofi wnaeth y fellten
+ Oedd yn dy lygad, Gwen,
+ Ac yn lle aur daeth eira
+ I aros ar dy ben:
+ Mi garaf eto'th lygad,
+ Fy nghariad, clyw fy ngair,
+ A charaf eto'r eira, Gwen,
+ Fel cerais gynt yr aur."
+
+ "'Rwy'n cofio gofyn iti,
+ O dan y bedw bren,
+ A wnaethet fy mhriodi,
+ Addewaist tithau, Gwen:
+ Ysbio rhwng y cangau
+ 'Roedd goleu llwyd y lloer,
+ A ninnau rhwng ei llewyrch, Gwen,
+ Heb deimlo'r gwynt yn oer."
+
+ "'Rwy'n cofio'r boreu dedwydd,
+ A'r nef yn las uwchben,
+ Pan unwyd ein calonnau,
+ Fe gofi dithau, Gwen:
+ Ti wridaist wrth yr allor
+ Fel cwmwl cynta'r wawr;
+ A chrynu wnai fy nghalon, Gwen,
+ Fel gweli'm dwylaw'n awr."
+
+ "Fe gododd llawer storom,
+ Fe'n curwyd gan y dón,
+ Bu llawer pryder chwerw
+ Yn llechu dan ein bron;
+ Cyn hir â'r storom olaf
+ I blith y stormydd fu,
+ Ac huno gawn yn dawel, Gwen,
+ Wrth odreu'r Mynydd Du."
+
+_Abercrave._
+
+R. BEYNOK, B.A.
+
+
+[Illustration: MYNWENT CWMGIEDD.]
+
+
+
+
+Adgofion Mebyd.
+
+ Heda meddwl i'r gorphenol,
+ I baradwys bore oes,
+ Pan oedd bywyd yn ddymunol,
+ Pryd na chwythai awel groes;
+ Cysegredig oedd y twyni
+ Lle chwareuem amser gynt,
+ Nid oedd gofid wedi'i eni,
+ Nid oedd brad yn swn y gwynt.
+
+ Yr oedd engyl ar y llwybrau,
+ 'N syllu arnom hyd y ffyrdd,
+ Eden ydoedd "Penyffaldau,"
+ Lle treuliasom oriau fyrdd;
+ Oriau glân heb wag oferedd
+ I lychwino'r tymhor gwyn;
+ Darn o'r nef yn ein hedmygedd
+ Oedd y llecyn prydferth hyn.
+
+ Cynal oedfa wedi'r oedfa
+ Wnelem ni ar ben y Bryn,
+ Nid oedd neb yn gwag-rodiana
+ Y nos Suliau sanctaidd hyn;
+ Pobi ieuainc yn finteioedd
+ Dyrent yma wedi'r cwrdd,
+ Gan orfoledd naws y nefoedd,
+ O! mor anhawdd oedd myn'd ffwrdd.
+
+ Cofio'r adeg pan neillduem
+ I ryw gonglau unig iawn,
+ Yno'n fynych yr arferem,
+ Heb un "dorf," berffeithio'n dawn;
+ Adrodd darnau y "Pen Chwarter,"
+ Er eu gloewi, wnelem 'nawr,
+ Yna wedyn gan ein hyder,
+ Nid oedd neb yn tori lawr.
+
+ Ambell noson deg o'r wythnos
+ Gwelid ni dan lwyni heirdd,
+ Fel "derwyddon" yr hen oesau
+ Yn cael orig gyda'r beirdd;
+ "Oriau'r Hwyr" ac "Oriau'r Bore,"
+ "Oriau Ereill" Ceiriog Hughes,
+ A ddarllenem am y gore,
+ Cyn bod son am _football news_.
+
+ Dysgu nyddu'r "cynghaneddion,"
+ A llinellu yn ddiball,
+ A chael ffrwd o grechwen iachus
+ Wrth ddarganfod ambell wall;
+ Hyn yw'r rheswm fod fy ardal
+ Wedi codi beirdd o nod,
+ Wrth fyfyrio pethau ofer
+ Ellir byth gyrhaeddyd clod.
+
+ Wrth ymlwybro tua'r Capel
+ Dros y bryn, y waun, a'r ddol,
+ Nid oedd calon un addolydd
+ Yn dychmygu pethau ffol;
+ Gwelem Dduw yn mrig y perthi
+ 'N llosgi, megys Moses gynt,
+ Caem ein dwyfol ysbrydoli,
+ A'n gweddnewid ar ein hynt.
+
+ Seiniau adar bach y llwyni
+ Dorai'n fiwsig ar ein clyw,
+ Yr oedd natur yn ein tywys
+ Tuag allor cysegr Duw;
+ Megys Enoch gynt yn rhodio
+ Rhodiai tadau dros bob rhiw;
+ Dal cymundeb â'r ysbrydol
+ Ydyw rhodio gyda Duw.
+
+GWILYM WYN.
+
+
+
+
+Llynau'r Giedd.
+
+ Hen afon hoff! dy ganmol wnaf,
+ A chanaf i dy Lynau,
+ Cyrchleoedd difyr, llon, di-loes,
+ Fu rhai'n ar hyd yr oesau;
+ Bum innau'n chwareu lawer tro,
+ A nofio yn eu dyfroedd,
+ A hel eu pysg, ddydd mebyd ter,
+ Oedd imi'n haner nefoedd.
+
+ Llyn "dysgu nofio" oedd "Llyn Scwd,"
+ A brwd oedd plant am dano,
+ Nid oedd ei debyg yn y wlad
+ I chware' tra'd a dwylo';
+ Ei waelod welodd llawer un,
+ A blin fu'r ymdrech droion
+ I ffrwyno'r lli', a dysgu'n llon
+ I farchog ton yr afon.
+
+ "Llyn Gored" sydd fel gwydr-ddrych
+ Pan fyddo sych yr afon,
+ A'r graig uwchben wrth wel'd ei llun
+ Addolai'i hun yn gyson;
+ Ond pan ddaw llif i lawr drwy'r llyn
+ Yn ewyn gwyn cynddaredd,
+ Yn synu pawb bydd dyfroedd iach
+ Niagra fach Cwmgiedd.
+
+ Nid yw "Llyn Cwar" yn fawr ei faint,
+ Er cymaint son am dano,
+ Gogoniant hwn yw'r ffynnon lon
+ Sy'n llifo'n gyson iddo;
+ Rhyw gawg yw ef i ddal ei gwin
+ Yn mhoethder hin yr hafau,
+ Pan sych yr afon yn mhob man,
+ Llyn Cwar ddiwalla'n heisiau.
+
+ "Llyn Dafydd Morgan," dyma fe,
+ Mewn creigle mae ei wely,
+ A physg yr afon dd'ont yn llon
+ O dan ei don i gysgu;
+ Mae Dafydd Morgan yn ei fedd,
+ A Giedd eto'n llifo,
+ Ond aros mae y llyn o hyd,
+ A'r byd yn myned heibio.
+
+ "Llyn Felin Fach" ar lawr y Cwm,
+ Mae heddyw'n llwm ei gylchoedd,
+ Mae'r felin gynt oedd wrth ei lif
+ Yn adfail er's canrifoedd;
+ Bu llawer rhod o dan ei don
+ Yn gyson ei throadau,
+ A holi'n segur mae o hyd--
+ Pa le mae yd y tadau?
+
+ Llyn dwfn yr "Olchfa," du ei liw,
+ Cymydog yw i'r mynydd,
+ A'r miloedd defaid yn yr ha'
+ A olchir yma'n ddedwydd;
+ Os du ei don, daw'r praidd yn wyn
+ I'r cnaif o'r llyn yn gyson,
+ A thra bo'r Mynydd Du, parhâ
+ Yr "Olchfa" yn yr afon.
+
+ Mae eto Lynau'n uwch i'r lan,
+ Ar ffordd y Fan a'r Carnau,
+ Y Cefn Mawr a'r Gareg Goch,
+ A glyw y croch raiadrau,
+ Dyfnder yn galw dyfnder sy'
+ Yn gry' ar hyd y mynydd,
+ A Giedd lama'n ewyn gwyn
+ O lyn i lyn i'r Werydd.
+
+_Cwmgiedd._
+
+RHYS POWEL (_Yorath_).
+
+
+
+
+Shon Wil Rhys.
+
+ 'Rwyf yn awr mewn gwth o oedran,
+ Ac yn gwisgo'r blewyn brith,
+ Hen gymeriad hynod ydwyf,
+ Wedi'i fagu yn eich plith;
+ Nid oes neb sydd yn trigianu
+ Yn nghyffiniau afon Gwys
+ Wedi cerfio'i enw'n ddyfnach
+ Yn y wlad na Shon Wil Rhys.
+
+ Caled i mi a fu bywyd,
+ O'i gychwyniad hyd yn hyn,
+ Megys myrtwydd heb wên heulwen
+ Dan gysgodau dwfn y glyn;
+ Rhwyfo wyf mewn dyfroedd dyfnion,
+ Cyn ac wedi cym'ryd gwraig,
+ Ond 'rwyf fi a'r llong heb suddo,
+ Ac heb daro'n erbyn craig.
+
+ Os mai gwael yw'm gwedd yn fynych,
+ Os mai llwydaidd yw fy ngwisg,
+ Nid yw'n deg i neb i farnu
+ Gwerth y cnewllyn wrth y plisg;
+ Haera rhai na ches fy nghrasu'n
+ Ddigon caled, medde'n nhw,
+ Ond ni fu y rhai'n yn ngenau'r
+ Ffwrn o gwbl gwnaf fy llw.
+
+ Llawer coegyn sydd am wneuthur
+ Ffwl o honwyf lawer pryd,
+ Peidiwch chwi er hyn camsynied,
+ Y mae Shoni yma'i gyd;
+ Os yr ydwyf yn ddiniwed,
+ Nid wyf fi i gyd yn ffol,
+ Nid y fi yw'r unig berson
+ Fu fel Dafydd yn nillad Saul.
+
+ Pan yn nghryfder nerth ac iechyd
+ Teithiais lawer ar fy hynt,
+ Trwy gul gymoedd a thros fryniau
+ I gyrddau mawr yr amser gynt;
+ Yno wylo, neidio, a moli,
+ A rhoi proc i'r hen Amen,
+ Rhoddais _oil_ ar _wheel_ y bregeth
+ Ganwaith cyn y doi i'r pen.
+
+ Mae'r pregethwyr doniol hyny
+ Bron i gyd yn llwch y llawr,
+ Yn adgofio am eu haeledd
+ Y mae llawer hen got fawr;
+ Nid oedd un pregethwr enwog
+ Yn y de na'r gogledd draw
+ Na fum i ryw dro yn rhywle
+ Gyda'r brawd yn ysgwyd llaw.
+
+ Hen bregethwyr tanllyd Cymru,
+ Yn y wlad ac yn y dref,
+ Oedd y dyddiau gwlithog hyny
+ Yn gynefin iawn am llef;
+ Os pregethwyr mwy dysgedig
+ A gyfodwyd yn ein plith,
+ Hen bregethwyr cynt, er hyny,
+ I Shon Rhys am fêl a blith.
+
+ 'Rwyf yn awr yn Rhosydd Moab,
+ Bron a chyrhaedd pen fy nhaith,
+ Os yw'r llwybr yn gerygog,
+ Nid yw'r siwrnai ddim yn faith;
+ Os yw cefnfor f'oes yn arw,
+ Yn ddiangol af i'r lan,
+ Daw y porthladd clyd, dymunol,
+ I fy ngolwg yn y man.
+
+Parch. D. ONLLWYN BRACE.
+
+
+
+
+Pen y Cribarth.
+
+ Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth,
+ I ben y Cribarth uchel?
+ I deg fwynhau prydnawn-ddydd mwyn,
+ Ar war y clogwyn tawel,
+ Ac yfed iechyd dros ei fin,
+ O gwpan gwin yr awel.
+
+ Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth,
+ I ben y Cribarth Talfrig?
+ I edrych ar y fywiog fro
+ Sydd dano yn weledig,
+ Ardaloedd eang hyd y môr
+ Yw'r oror estynedig.
+
+ Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth,
+ I ben y Cribarth eto?
+ I dremio draw i ben y Fan,
+ 'Does dim ond anian yno--
+ Yn fynydd mawr, a defaid mân,
+ A nentydd glân yn llifo.
+
+ Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth,
+ I ben y Cribarth golau?
+ Mae hedd yn awr lle bu cyn hyn
+ Ddaeargryn yu y creigiau,
+ Cawn ddarllen ar bob careg bron
+ Hanesion o'r hen oesau.
+
+ Mae'n hyfryd myn'd ar hyd y Garth,
+ I ben y Cribarth beunydd,
+ Ac uno ym mheroriaeth lon
+ Alawon yr ehedydd;
+ Tra'r byd yn mhell, a'r nef gerllaw,
+ Pwy na ddaw yn addolydd?
+
+_Maesyderi, Abercrave._
+
+T. J. DAVIES (_Iscoed_).
+
+
+
+
+Yn y Mawn ar ben y Mynydd.
+
+ Ar y mynydd yr emynaf,
+ Ar faen sedd mewn hedd mwyneiddiaf;
+ Rhoddaf alaw ar ddu foelydd,
+ Yn y mawn ar ben y mynydd.
+
+ Awel bur a haul y boreu,
+ Yma geir fel am y goreu,
+ Yn rhoi yni i'r awenydd,
+ Yn y mawn ar ben y mynydd.
+
+ Ond, er hyny, nid yr anial
+ Mawnog hwn yw'r man i gynal
+ Hwyl y gwanwyn hael ei gynydd,
+ Yn y mawn ar ben y mynydd.
+
+ Ar y bryniau mawr wybrenol
+ Mae dystawrwydd mud, ystyriol,
+ Yn sobreiddio naws boreu-ddydd,
+ Yn y mawn ar ben y mynydd.
+
+ Ni cheir cor yn chwareu carol
+ Yn y llwyn yn llu awenol;
+ Mae cor mwyn y llwyn yn llonydd
+ Yn y mawn ar ben y mynydd.
+
+ Chwery _un_ â chywir anian,
+ Ei grwth unig wrtho'i hunan;
+ Cu iawn ydyw cân ehedydd
+ Yn y mawn ar ben y mynydd.
+
+ Ef yw cerddor dor y daran,
+ Difraw troedia fro y trydan;
+ Bwria'i unawd o'r wybrenydd,
+ Yn y mawn ar ben y mynydd.
+
+[Illustration: GORED Y GIEDD.]
+
+[Illustration: TREM I'R MYNYDD DU.]
+
+ O bell clywir y gog dirion,
+ Gyda'r awel o'r godreuon,
+ Efo moliant haf ymwelydd,
+ Yn y mawn ar ben y mynydd.
+
+ Draw ac yma drwy y cymoedd,
+ Cri a glywir o'r creigleoedd,
+ Bywiog alaw y bugeilydd,
+ Yn y mawn ar ben y mynydd.
+
+ Truman cribog, muriog, mawrion,
+ A'u hesgeiriau yn ysgyrion,
+ Yma wyliant uwch y moelydd,
+ Yn y mawn ar ben y mynydd.
+
+ Metha'r haf a'i fwynaf wenau,
+ Wyrddu llen i ben y banau;
+ Oeda'r gauaf yn dragywydd,
+ Yn y mawn ar ben y mynydd.
+
+ Ymherodraeth y mawr wywdra,
+ Heb eginyn bywiog wena;
+ Lle ni chawn na llwyn na chynydd,
+ Yn y mawn ar ben y mynydd.
+
+ Ac ar fynwes cwr y fawnog
+ Torwyd lluniau traed y llwynog,
+ Heibio hwylia yn ysbeilydd,
+ Yn y mawn ar ben y mynydd.
+
+ Ar y clogwyn mawr cilwgus
+ Haf awelon sydd yn felus,
+ A chael enyd fach o lonydd,
+ Yn y mawn ar ben y mynydd.
+
+ Mwynhau heddwch y mynyddoedd,
+ A mwynderau y mawndiroedd,
+ Sy'n baradwys iawn i brydydd,
+ Yn y mawn ar ben y mynydd.
+
+GWYDDERIG.
+
+
+
+
+Bugail y Mynydd Du.
+
+ Rhys oedd bugail y Mynydd Du,
+ A theilwng fab y wawrddydd,
+ Yn nghwmni Toss, ei hanes fu
+ Fel chwedl ar y mynydd.
+
+ Arferai godi gyda'r haul,
+ Pan ddelai 'r wawr i'r Bannau,
+ A mynai yn ei belydr glân
+ Gael bedydd tan bob borau.
+
+ Hyd Fawnen Gwys a'r Esgair Ddu
+ Fe ddeadellai'r defaid,
+ A Toss yn barod, wrth ei law,
+ I wneud ei arch a'i amnaid.
+
+ Y gauaf fel yr haf o hyd
+ Bu ef yn ffyddlon iddynt,
+ Wynebai storm Bwlch-adwy'r-gwynt,
+ A dryccin eira, drostynt.
+
+ A chalon ysgafn oedai'n hir
+ Yn awyr iach y bryniau,
+ Tra'r awel bur a'i phwyntyl llon
+ Yn lliwio'n goch ei ruddiau.
+
+ Fe garodd edrych dros y ddôl
+ Draw i bellderau'r mynydd,
+ A gwrando swn y nentydd byw
+ Yn galw ar eu gilydd.
+
+ Fe godai'i lais mewn hapus gân
+ O ddiolchiadau calon,
+ A chododd allor lawer gwaith
+ Ar ben y Cerrig Coegion.
+
+ Ar ben y mynydd--pell o'r dref,
+ Nef oedd agosaf iddo,
+ Newyddion byd a aent yn hen
+ Wrth deithio tuag ato.
+
+ Felused iddo yn yr hwyr
+ Oedd cysgod clyd ei fwthyn,
+ A Men ei briod wrth y tan
+ Ar aelwyd y Twyn Melyn.
+
+ Aeth llawer gauaf dros ei ben
+ Yn stormydd ar y bryniau,
+ Cyn iddo groesi dros y glyn
+ I wlad yr hafddydd golau.
+
+ Mae Men ac yntau yn y bedd,
+ Ac adfail yw y bwthyn,
+ Ond gwena'r haul a brefa'r praidd
+ O hyd ar ben Twyn Melyn.
+
+_Abercrave._
+
+RHYS DAVIES (_Ap Brychan_).
+
+
+
+
+
+Hela'r Twrch Trwyth.
+
+(Addawodd Olwen briodi Cilhwoh os'y llwyddai i ddwyn y gwellaif a'r
+ellyn arian oedd yn nhalcen Twrch Trwyth iddi. Aeth Cilhwch at Arthur
+i geisio cymhorth. Galwodd Arthur ei dywysogion ynghyd i'r helfa.
+Llwyddwyd ar ol ymdrech galed a chyfnod hir o hela o'r Iwerddon drwy
+Gymru i Cernyw i sierhau a geisiai Olwen. Ond diangodd y Twrch a'i
+fywyd ganddo.--MABINOGION.)
+
+Croesodd yr helfa y Mynydd Du, ac oddiwrth hyn y deillia yr enw
+Cwmtwrch.
+
+ Udganodd yr helgorn ar fynydd a bryn,
+ A'i swn dros y moroedd adseiniodd yn syn,
+ A chododd y gwledydd yn llwyth ar ol llwyth,
+ Ar alwad ein Harthur i hela'r Twrch Trwyth.
+
+ Daeth gwyr Ynys Prydain ynghyd o'r tair cainc,
+ A dewrion gwyr Llydaw, a Norman a Ffrainc,
+ A'u helgwn a'u gwaedgwn yn naw cant ac wyth,
+ Yn blysio'n angerddol am waed y Twrch Trwyth.
+
+ Marchogion a groesent y tonau yn awr
+ Mewn rhwysg i'r Iwerddon a'r haf ar y llawr,
+ A bloeddiai'r Gwyddelod--"Daeth dydd talu'r pwyth,
+ Ac Arthur i'n gwared o law y Twrch Trwyth."
+
+ Yn nghraig Esgair oerfel rhoi helsain wnai'r cwn,
+ A'r Twrch a'i saith berchyll a glywent y swn.
+ A chnoi a thraflyncu y ddaear wnai'r wyth,
+ A chrynodd yr Ynys dan rhoch y Twrch Trwyth.
+
+ Dechreuodd yr helfa a hela fu'n awr
+ O foreu hyd nos ac o'r nos hyd y wawr.
+ A deuparth yr Ynys a wnaed yn ddi-ffrwyth,
+ Gan wenwyn llysnafedd o enau Twrch Trwyth.
+
+ Trwy'r mor o'r Iwerddon i Gymru ar hynt
+ Troes Twrch ei gyfeiriad a'i wrych yn y gwynt,
+ A'r helwyr yn dilvn--ni fu y fath lwyth
+ O wyn ar y tonau ag ewyn Twrch Trwyth.
+
+ Yn Aberdaugleddyf pan glaniodd y baedd,
+ Bu dychryn drwy'r dalaeth ac alaeth a gwaedd.
+ A dyn ac anifail, ac egin a ffrwyth,
+ Ddifrodwyd o'r ddaear dan ddanedd Twrch Trwyth.
+
+ O Benfro i Llwchwr y brysiodd 'rol hyn,
+ Ac helwyr a helgwn yn dilyn yn dyn.
+ Pum perchyll wrth Aman a laddwyd o'r wyth,
+ A ffroeni'n ffyrnicach a wnai y Twrch Trwyth.
+
+ Medd ef wrth ei berchyll, "awn heibio Ddolgam,
+ Llwynmoch a Chwmclyd a dialwn ein cam,
+ A thaflwn holl greigiau'r Gellie'n un llwyth,
+ Yn garnedd marwolaeth ar helwyr Twrch Trwyth."
+
+ Ofnadwy fu'r ymdrech yn nghwmwd Sarnfan,
+ Drwy'r erchyll ddyfnderau hyd fro Craig-y-Fran.
+ Dattodai y creigiau yn bwyth ar ol pwyth
+ Dan wellaif mawr miniog yn nhalcen Twrch Trwyth.
+
+[Illustration: CWMGIEDD (RHAN ISAF).]
+
+ Y bryniau ysgythrog faluriwyd i lawr,
+ (Mae'r cread yn deilchion fan hono yn awr).
+ Marchogion a helgwn a grynent gan fwyth
+ Yn swn dirgryniadau o'chneidiau Twrch Trwyth.
+
+ Yn nghraig Tyle Garw bu'r Twrch ar fin tranc,
+ A rhanwyd ei berchyll, ond ef yn ei wanc
+ A groesodd i'r Tywi--yr olaf o'r wyth,
+ A'r awyr yn wefr o hela'r Twrch Trwyth.
+
+ A misoedd a biwyddi o hela a wnaed
+ Yr ellyn a'r gwellaif o'i dalcen a gaed,
+ Ond Arthur ddilynodd a gwaddill ei lwyth,
+ O'r Hafren i Cernyw ar ol y Twrch Trwyth.
+
+ Y Twrch a ddiflanodd 'does neb wyr i ble,
+ Ac Arthur yn Nghernyw mewn cwsg byth mae e'.
+ Ond tystio drwy'r oesoedd wna pob iaith a llwyth
+ Mai helfa ddychrynllyd oedd helfa Twrch Trwyth.
+
+G. AP LLEISION.
+
+
+
+
+
+Afon Giedd.
+
+ Mae afon chwyrn y Giedd
+ Yn tarddu yn y mawn,
+ Daw ar ei phen i waered
+ Dros greigydd enbyd iawn;
+ Ar gefn ei chroch raiadrau,
+ Ddiwrnod mawr ei lli,
+ Daw darn ar ddaro o'r creigiau
+ Yn 'sglyfaeth gyda hi.
+
+ Hi dwmla bobls mawrion,
+ Dynelli o bob rhyw,
+ A chaiff ei hadgyfnerthu
+ Gan afon rymus Cyw;
+ Mae'n myn'd dan wraidd y coedydd,
+ A charia'r rhai'n drachefn,
+ A diorsedda'r pontydd,
+ Nes gwneud y lle'n ddidrefn.
+
+ Un boreu yn Gorphenaf,
+ Mi gofiaf yn ddilai,
+ Pan ddaeth ei llif dychrynllyd
+ I gym'ryd wyth o dai;
+ Y Cwm sy'n ofni'r afon
+ Byth wedyn ar y gwlaw,
+ A'r nos ni feiddia gysgu
+ Rhag arswyd llif a ddaw.
+
+ Ofnadwy ar ein clustiau
+ Yw swn ei chenllif hi,
+ A'r cerrig mawrion fflachiant
+ Yn wreichion yn ei lli';
+ Ei tharth a gwyd i fyny
+ Yn gwmwl tua'r nen,
+ A gwaedda yn gynddeiriog,
+ 'Mi fynaf fod yn ben.'
+
+ Mae pawb yn cyfreithloni
+ Yr enw gafodd hi,
+ A chiaidd, ciaidd ydyw
+ O fewn ein dyddiau ni;
+ Ond Ef sy'n dal y wyntyll,
+ A'r dyfroedd yn Ei law,
+ Ostega ei chynddaredd
+ A'r gair bach hwnw, 'Taw.'
+
+ Os rhuo mae y Giedd
+ Am gael ei ffordd ei hun,
+ Da genym fod ei Harglwydd
+ Yn noddfa byth i ddyn;
+ Mae'r plant sydd ar ei glanau
+ Yn anwyl ganddo Ef,
+ A diogel yn mhob dryccin
+ Yw etholedig nef.
+
+ Wrth wel'd y gwyllt lifeiriant
+ Yn pasio drws fy nhy,
+ Mae'r wers o flaen fy llygaid,
+ 'Mod inau fel ei lli',
+ Yn myn'd i'r goriwaered,
+ I'r tragwyddoldeb pell;
+ O! Arglwydd, pan gaf orphwys,
+ Rho imi wlad sydd well.
+
+_Cwmgiedd._
+
+HOWELL POWELL.
+
+
+
+
+
+Ffaldau Moel Feity.
+
+ Wrth droed y Foel arddunol,
+ Ger murmur Tawe fwyn,
+ Mae'r Ffaldau llwyd, henafol,
+ Rhwng meini braf a brwyn;
+ O'u cylch mae'r bryniau uchel
+ Yn gwenu uwch eu pen,
+ A'r Fan yn spio arnynt
+ Drwy gymyl yn y nen.
+
+ Mor swynol ydyw canfod,
+ Ar foreu hafddydd gwyn,
+ Y defaid dirifedi
+ Yn britho'r bryniau hyn;
+ Y'mysg y cerrig garw
+ Sy'n gestyll rhag y gwynt,
+ Llochesant rhag ystormydd
+ Dramwyant ar eu hynt.
+
+ Amaethwyr Crai a Llywel,
+ Ar ddydd 'crynhoi' y Fo'l,
+ A foreugyrchant yma,
+ Mi welir neb yn ol;
+ Daw hefyd wyr Llanddeusant
+ Ar eu ceffylau bach
+ I geisio'r defaid crwydrol,
+ A'u dwyn hwy adre'n iach.
+
+ Ceir gweled gwyr Glyntawe
+ A'u gyroedd yma'n dod,
+ Ni fu y fath brysurdeb
+ Mewn unrhyw fan erio'd:
+ Pob un a'i gi a welir
+ Yn casglu'r praidd o'r bron,
+ A'u dwyn i fewn i'r Ffaldau,
+ Rhwng muriau cedyrn hon.
+
+ Ar ol eu dwyn i'r Ffaldau,
+ Bydd pawb yn brysur iawn,
+ Pob un yn dal ei eiddo
+ I'w Ffald ei hun a gawn;
+ Os digwydd ambell ddafad
+ Estronol yma ddod,
+ Bydd llawer llygad arni
+ Yn ceisio gwneud ei 'nhod.'
+
+ Wrth droi a thrafod llawer
+ Fe welir ambell un
+ O'r defaid, dros y muriau,
+ Yn cym'ryd ffordd ei hun;
+ Ac ar eu hol yn sydyn
+ Bydd tyrfa fawr o gwn,
+ A'r lle yn haleliwia
+ Byddarol gan y swn.
+
+ Doethineb cenedlaethau
+ O ffermwyr yma fu,
+ Yn traethu am hanesion
+ Helyntion Mynydd Du;
+ Adroddent am wrhydri
+ Yr hen fugeiliaid gynt,
+ Ac enwau'r cwn a glywir
+ O hyd yn myn'd drwy'r gwynt.
+
+ Mor ddedwydd ydyw bywyd
+ Cyffredin gwyr y wlad,
+ Yn heddwch y mynyddoedd
+ Mae iddynt wir fwynhad;
+ Fe gollir y bugeiliaid,
+ Rhai newydd ddaw o hyd,
+ Ond erys y mynyddoedd
+ Heb newid oesau'r byd.
+
+_Ystradgynlais._
+
+LLEWELYN JONES.
+
+
+
+
+
+Y Llynfell.
+
+ Afonig a dardd yn ffrwd gref o'r ogof gerllaw
+ Castell Craig-y-nos.
+
+ Fuoch chwi wrth Danyrogof?
+ Welsoch chwi y temlau cain?
+ Glywsoch chwi gynghanedd Llynfell
+ Fel organ gref yn llanw rhain?
+
+ Welsoch chwi wrth droed y clogwyn
+ Fel y rhuthra ffrwd mor falch
+ I oleuni o dywyllwch
+ Llwybrau cudd y cerrig calch?
+
+ Bu yn hir yn nwfn gysgodion
+ Bro y gwyll--heb wawr na rhos;
+ Feiddia neb fyn'd hyd ei llwybrau
+ Unig yn rodfeydd y nos.
+
+ Carwn wybod peth o hanes
+ Gwlad heb flodyn ynddi hi,
+ Heb un deryn bach yn canu;
+ Heb un ganghen uwch ei lli.
+
+ Ond fe geidw ei chyfrinach,
+ Ni fyn son am ddim sy'n ol;
+ 'Myn'd y'mlaen' yw hanes afon;
+ 'Aros' ydyw hanes dol.
+
+ Dywedir fod ei dyfroedd gloew
+ Yn newid lliw cyn delo gwlaw;
+ Dyma broffwyd llwyd y Blaenau--
+ Wêl y ddrycin cyn y daw.
+
+ Ni wyr hi ddim am dymhorau,
+ Welodd hi erioed mor ha';
+ Ni fu gauaf yn ei rhwymo
+ Yng nghadwynau oer yr ia.
+
+ Y mae rhamant yn ei hanes,
+ Cuddio wna rhag gwawrddydd dlos,
+ Dim ond ym mhrydnawn ei bywyd
+ Gwel yr haul wrth Graig-y-nos.
+
+ Afon fechan, megis tithau,
+ Minau garwn deithio'n rydd,
+ Drwy gysgodion, i oleuni
+ Pen y daith yng Ngwlad y dydd.
+
+_Corrig Haffes._
+
+MYFYR MAI.
+
+
+
+
+Llygad y Dydd ar Waen Ddolgam.
+
+ Gem y ddôl yw'r tlws flodeuyn,
+ Wisga'n fore ar ei bron,
+ Mae'n gwresawu pob pelydryn
+ Ddaw o'r haul i'w fynwes lon,
+ Natur fu yn paentio'i aeliau
+ Gyda phluen awel rydd,
+ Wrth ymolchi mewn pelydrau
+ Gwyna amrant llygad dydd.
+
+ Lygad siriol lawn cyfaredd
+ Yn agored o fy mlaen;
+ Ei fychander yw ei fawredd,
+ A'i holl rwysg yw bod yn blaen;
+ Try i ffurf a lliw yr huan
+ Wrth gwmnia gydag ef,
+ Er dadblygu'u lygad gloew-lan,
+ Aros wna yn nhês y nef.
+
+ Lygad effro, nad yw'n hepian
+ Nes yr huna anian dlos,
+ Yn ei wynder, wrtho'i hunan,
+ Gwena'r dydd a chysga'r nos;
+ Dysgwn wers y glân flodeuyn,
+ Yn y gwlith ei lygad ylch,
+ Fel na chenfydd un brycheuyn
+ Yn y llygaid sydd o'i gylch.
+
+ Lygad dydd, a chanwyll eurliw
+ Yn ei ganol, megis tân,
+ Ai nid heulrod glaswellt ydyw
+ Egyr ag ymylwe mân?
+ Er ei fod yn nghanol tyrfa
+ O'i wyn-frodyr ar y waen,
+ Wrth yr un ni chenfigena,
+ Mae ei burdeb yn ddi-staen.
+
+ Flodyn gwylaidd, byth ni ddringa
+ Ben y clawdd am sylw'r byd,
+ Mewn dinodedd y cartrefa,
+ Gyda'r blodau lleia'i gyd;
+ Hwn wrth fyw mewn gostyngeiddrwydd
+ Ddysga wersi i lawer un,
+ A ddisgynodd i ddinodedd
+ Wrth wneud duw o hono'i hun.
+
+ Dena lygad rhyw forwynig,
+ Sycha'i sendyl yn y gwlith,
+ Wrth dramwyo'r llwybr unig
+ Gyda'r wawr i gyrchu'r blith;
+ Plyga'n wylaidd i anwylo
+ Blodyn siriol 'gwaen Ddolgam,'
+ Am fod arall yn blodeuo
+ Ar hoff fedd ei thad a'i mam.
+
+ Anwyl flodyn, anhawdd cefnu,
+ Gan ei adael ar y ddôl,
+ Wrth fiarwelio, 'rwyf yn credu
+ Ei fod yn syllu ar fy ol;
+ O! am fyw ei fywyd gloew,
+ Gyda chalon onest, rydd,
+ Fel y gallwn, cyn fy marw,
+ Ddod yn wyn fel Llygad Dydd.
+
+GWILYM WYN.
+
+
+
+
+O'r Niwl i'r Nef.
+
+[Achlysurwyd y gân dyner hon gan farwolaeth llanc ieuanc o Abercraf ar
+ei flordd yn ol o Lyn-y-Fan. Darfu iddo ef a dau lanc arall golli eu
+ffordd yn y niwl. Cyrhaeddodd ei gyfeillion adref yn fyw, ond ar ol
+tridian o ymchwil deuwyd o hyd i'w gorph et yn ymyl afon Twrch. Yr
+oedd ar ei berson ar y pryd Destament Cymraeg a nifer o draethodau
+crefyddol.]
+
+ Rwy'n mynd, fy nhad a mam,
+ I wlad na ddof yn ol;
+ 'Rol teithio llawer cam
+ Dros lawer bryn a dôl.
+ Rwyf wedi blino'n lân,
+ Fy nerth sydd yn gwanhau,
+ Mae afon o fy mlaen,
+ A niwl o'm cylch yn cau.
+ Tuhwnt i'r Mynydd Du,
+ Rwy'n gweld rhyw hyfryd wlad,
+ A thuag atti hi
+ Rwy'n mynd, fy mam a nhad.
+
+ Rwyf wedi colli 'm ffordd,
+ Fy ffryndiau sydd ar goll,
+ A minnau yn y nos
+ Yn chwilio am danynt oll.
+ Ond nid oes un a ddaw
+ I'm cwrdd yr ochr hyn,
+ Ond mae yr ochr draw
+ Yn llawn o engyl gwyn.
+ Ac fel yn dweud i gyd,
+ Na chaf fi unrhyw gam,
+ Rwy'n mynd i'r bythol fyd,
+ Ffarwel, fy nhad a mam.
+
+ Mae afon o fy mlaen,
+ Rwy'n clywed swn y don;
+ Rwy'n gweld y rhai sy'n byw
+ Tuhwnt i ffrydiau hon.
+ Mae melus hun yn dod,
+ 'Rol dydd o ludded maith,
+ A minnau 'n teimlo fod
+ Gorphwysfa ar ben y daith.
+ I groesi 'rochr draw,
+ Nid oes ond megis cam,
+ Rwy'n mynd i'r byd a ddaw,
+ Ffarwel, ffarwel fy mam.
+
+WATCYN WYN.
+
+
+
+
+
+Gwilym Shon.
+
+ Mae Gwilym Shôn yn awr yn hen,
+ Mae'r eira ar ei ben,
+ Yn araf ddisgyn dros ei en
+ Nes gwneyd ei farf yn wen;
+ Ar fin y nant mae'i fwthyn tlawd
+ Yng nghwmwd godreu'r bryn,
+ Ni wyr rhwysgfawredd pell a ffawd
+ Ddim am y bwthyn hyn.
+
+ Bob nos fe gwsg ar wely gwellt,
+ A chysgu'n esmwyth wna,
+ Hyd nes daw'r wawrddydd drwy y dellt
+ I ddywedyd "Bore da;"
+ Ac yn ei goleu daw i lawr,
+ Ac ar ei liniau trwm
+ Gweddio wna yn ngoleu'r wawr
+ Gerllaw ei wely llwm.
+
+ Un hoff o'r mynydd yw efe,
+ Bydd yno'n fore iawn
+ O olwg pobman ond y Ne',
+ Rhwng y twmpathau mawn;
+ Heb wybod am rwysgfawredd dyn,
+ Na moethau'r palas gwych,
+ Mae yno'n siarad wrtho'i hun,
+ A bwyta'i damaid sych.
+
+ Bu ef mewn gweddi lawer gwaith
+ Yng nghysgod llwyn o frwyn,
+ A bu yr awel ar ei thaith
+ Yn ewrando ar ei gwyn.
+ Fe safodd ganwaith ar y bryn
+ I gofio'r dyddiau gynt,
+ Ac mewn myfyrdod elai'n syn
+ Cyn cychwyn ar ei hynt.
+
+ Yn fore, bore, bydd ar daith
+ Yn rhodio'i lwybr cam,
+ A chadd foreufwyd lawer gwaith
+ Yn mwthyn bach fy mam;
+ Fe wyddai mam heb unrhyw gais
+ Pa bryd oedd Shôn am fwyd,
+ Hi adnabyddai wrth ei lais,
+ Ac wrth ei wyneb llwyd.
+ A phan yn bwyta'i damaid mwyn,
+ A ninnau'r plant gerllaw,
+ Murmurai Shôn mewn banner cwya
+ Am bethau'r byd a ddaw.
+
+ Wrth rodio'r caeau 'nol a blaen
+ Nid yw am gwrdd a'r un;
+ Fe groesa ef ar draws y waen
+ Er cael bod wrtho'i hun;
+ A siarad mae pan ar ei daith
+ O hyd mewn distaw dôn,
+ Nes wy'n dychmygu ambell waith
+ Fod angel gyda Shôn.
+
+ Mae'r plant yn dianc rhagddo'n syn,
+ Yn cilio tua'r pant,
+ Ac yntau dianc fry i'r bryn,
+ Yn cilio rhag y plant.
+ Diniwed yw, yn ofni'r byd
+ Ei wawdio ar ei hynt,
+ Tra'n gafael mae ei serch o hyd
+ 'Nol yn yr amser gynt.
+
+ 'Does ganddo awrlais yn y byd,
+ Na modd ychwaith i'w chael,
+ Ond adnabydda ef o hyd
+ Yr amser wrth yr haul;
+ Proffwydo'r tywydd teg o draw,
+ Ni fethodd ef erio'd,
+ A chanfod mae y gawod wlaw
+ Ddiwrnodau cyn ei dod.
+
+ Mae yn y capel erbyn pryd
+ Ar fore Sabboth Duw,
+ Y mae ei weddi dawel, fud,
+ Yn gwneyd ei fawl yn fyw;
+ Ac os dechreua cennad Iôn
+ Ddarlunio gwerth y gwaed,
+ Er heb Amen, canfyddir Shôn
+ Yn codi ar ei draed.
+
+ Aeth dynion ieuainc caled, hy',
+ Er cael difyrrwch ffol
+ Un hwyr i wawdio wrth ei dy,--
+ Ond troisant yn eu hol
+ A braw a gwelwder ar bob gwedd,
+ Can's torrodd ar eu clyw--
+ Swn Shôn o ymyl gwlad yr hedd
+ Yn galw ar ei Dduw.
+
+ Fry yn yr unig anial gwm
+ Dan goedydd cnau ac ynn,
+ Y mae adfeilion bwthyn llwm
+ Yng nghanol drain a chwyn;
+ A Gwilym Shôn a ddaw bob dydd
+ I'r waen uwchlaw y ty,
+ Ac edrych ar yr adfail bydd
+ A chofio'r dyddiau fu.
+
+ Ac os wyt ti, ddarllennydd mwyn,
+ Am ofyn im paham,--
+ O! gwel yn adfail dan y llwyn,--
+ Hen fwth ei dad a'i fam.
+ Bu yna'n chwareu'n blentyn llon,
+ Fe dyfodd yna'n ddyn,
+ Mae gweld y lle yn glwyf i'w fron,
+ Galara wrtho'i hun.
+
+ Mae'r danadl lle bu'r aelwyd gynt,
+ A'r drysni lle bu'r tân,
+ Bu yno'n gwrando swn y gwynt,
+ Bu yno'n canu cân,
+ A chyda'r teulu lawer gwaith
+ Bu'n plygu ar ei lin,
+ Cyn gwybod am ofidiau'r daith
+ Ar amgylchiadau blin.
+
+ Dan ormes colli wnaeth ei dad,
+ Y cartref llawn o hedd;
+ Yn fuan ei rieni mad
+ Orweddent yn y bedd.
+ Fe garai eneth dros y bryn
+ A chariad bore oes,--
+ Canfyddodd hithau'n mynd 'r glyn
+ A'i gafael yn y groes.
+
+ Ei galon dan y saethau dwys
+ A dorrai fel ei rudd,
+ Ei fywyd oll o dau y pwys
+ Ai beunydd yn fwy prudd,
+ Ond daw drwy'r storom waetha 'rioed
+ Ar fore gauaf llwm
+ I weld yr adfail dan y coed,
+ Ac wylo tua'r cwm;
+ A dyry dro i ben y bryn
+ Yn llaw clwyfedig serch,
+ I weld o draw y bwthyn gwyn,
+ Hen gartre'i gariad ferch.
+
+BEN DAVIES.
+
+
+
+
+Llyn y Fan.
+
+(GWATWARGERDD).
+
+ Mae'r ienctyd yn ffeindio anrhydedd wrth rodio,
+ 'Does dim yn eu blino tra'u dwylo yn rhydd,
+ Ond dilyn eu trwynau i fyny i'r Banau
+ I weled y Llynau--dwr llonydd.
+
+ Mae yno berllanau o gwmpas y Llynau,
+ Coed lemon, coed 'falau, yn flodau i'r brig,
+ Ar dir yn y dwyrain yn ngolwg yr heulwen
+ Hwy ledan' fel Eden fawledig.
+
+ Mae'r carne fel gerddi o ddail y Dwmdili,
+ Y riw a'r rhosmari yn tyfu o'r don;
+ Pob brigyn per ogle yn rhedeg o'r hade,
+ Ac amryw o lysiau gwyrddleision.
+
+ Rhyfeddod diddarfod oedd gwel'd y gwylanod
+ Yn llusgo'r llyswenod, llwyth hynod, o'u lle;
+ A'r fulfran oedd barod i frathu'r brithyllod,
+ Wrth neidio at blufod y Blaene.
+
+ Nid dyfal ei dafod all rifo'r rhyfeddod,
+ Na'u cofio 'nol eu canfod yn nghysgod y gwlydd;
+ Yr hwyaid sydd wylltion, a'r gwyddau ni a'u gwelsom
+ Yn nofio yn nghrochan y Crychydd.
+
+ Os nad y'ch chwi'n credu ini gael y fath rali
+ Wrth dreulio ein carne drwy'r cernydd o dre,
+ Wel, codwch eich cilwg i ben y Fan amlwg,
+ Cewch wel'd yr un olwg a nine.
+
+PWY YW'R AWDWR?
+
+
+
+
+Ffrydiau Twrch.
+
+ Mae'r testyn wedi'i enwi
+ Ffrydiau Twrch,
+ A'r gronfa wedi tori
+ Ffrydiau Twrch;
+ Mae'r dyfroedd rhwng y cerig
+ Yn ffrydio'n grych berwedig
+ O rywle anweledig
+ Ym mol y bryn mynyddig
+ Uwchlaw'r Cellie hyllig,
+ A'i dwrf fel taran ffyrnig
+ Ar godiad tir rhwygedig,
+ A chreigiau maluriedig
+ Sydd yno'n rhesi unig
+ O gedyrn arfogedig
+ Yn gwylio'r dderwen dewfrig
+ Eistedda'n llwyn caeadfrig,
+ A'r pigau melldigedig,
+ A'r blodau caboledig,
+ A noda fan synedig
+ Ffrydiau Twrch.
+
+ A welsoch chwi y Ffrydiau?
+ Ffrydiau Twrch;
+ A daniwyd chwi gan donau
+ Ffrydiau Twrch?
+ Os naddo, ewch i'w gweled
+ Yn gyru dros y gwa'red
+ Yn ewyn gwyn i waered
+ Gan boeri ar eu pared,
+ A lluchio'r meini'n lluched
+ O hirbell yn ddiarbed;
+ Y cenllif gwyllt wrth fyned
+ Sy'n llamu bob yn llymed,
+ Gan rhwygo mal rhyw oged
+ Y tiroedd, gan ddweyd, Tyred
+ I'r moroedd er ymwared,
+ Fe chwala'r bryn cewch weled,
+ A'i feini ânt mor faned
+ A hoelion Tudur Aled;
+ Mac Twrch yn methu cerdded
+ O achos ei mawr syched,
+ A chwter James, er gwyched,
+ A safant oll nes yfed
+ Ffrydiau Twrch.
+
+ O'r Mynydd Du daw allan
+ Ffrydiau Twrch,
+ Yn fwrlwm gloew purlan,
+ Ffrydiau Twrch,
+ Gan rhuo, rhuo beunydd
+ A llu o ladron lledrydd
+ A'n gwlwm gyda'u gilydd
+ I chwilio am gorlenydd
+ Y defaid dofion beunydd,
+ A'u dal a'u dwyn o'r dolydd,
+ A'u crogi rhwng y creigydd,
+ A'u gwerthu er eu gwarthrudd,
+ A chuddio'u crwyn rhag cywilydd,
+ Ac arswyd yn y corsydd
+ Na ddaw eu gwir berchenydd
+ I wybod yn dragywydd
+ Am wal y drwg ymwelydd;
+ O! na bai i'r llifogydd
+ I beidio bod yn llonydd
+ Nes llifo dros eu glenydd,
+ A rhoddi pobo fedydd,
+ A boddi'r lladron llwydrudd,
+ Mi alwn hyn yn grefydd
+ Ffrydiau Twrch.
+
+[Illustration: FFYNON-Y-CWAR.]
+
+[Illustration: PONT-YNYS-TWLC.]
+
+ Parhâ i darddu'n gyson,
+ Ffrydiau Twrch,
+ Na syched byth dy ffynon,
+ Ffrydiau Twrch,
+ Ymlaen â thi, gan olchi
+ Y llygredd a'r budreddi
+ Sydd yn Nghwmtwrch yn croni,
+ Ac wrth y _George_ boed iti
+ I aros o dosturi;
+ Hen Waterlw y cewri
+ Boed iti i ddifodi
+ Hen olion gwaed oddiarni,
+ A chario byth i golli
+ Yr hen esgidiau mawrfri
+ A gawsant eu pedoli
+ Fel carnau meirch Napoli
+ I gicio llawer bwli--
+ Rhai sy'n rhy faith i'w henwi,
+ A llawer wedi tewi;
+ O ganol eu drygioni
+ Boed iti loewi a gloewi
+ Y llefydd ffordd y llifi,
+ Nes bo Cwmtwrch yn codi
+ Ar unwaith o'i drueni
+ Mor lân, mor bur a chenlli
+ Ffrydiau Twrch.
+
+PWY YW YR AWDWR?
+
+
+
+
+Angladd ar y Mynydd Du.
+
+Yn yr hon ateser pan fyddai brodor o Llanddeusant farw yn Ystradgynlais
+elai pobl yr Ystrad â'r corph dros y mynydd hyd Aberdeudwrch, a deuai
+pobl Llanddeusant i'w gyfarfod yno i'w ddwyn i ben y daith.
+
+ Droe y mynydd i Landdeusant,
+ Heibio'r Gareg Goch a'r Llwyn,
+ Araf, araf, â'r cynhebrwng
+ Hyd y llethrau rhwng y brwyn;
+ Adref dros y llwybr garw,
+ Brodor sydd yn troi yn ol,
+ Un o ddefaid iesu ydyw,
+ Ddyga angeu yn ei gol.
+
+ Myn'd dros orwel draw i orwel
+ Mae cynhebrwng prudd y sant,
+ Myn y galon wrth fyn'd heibio
+ Ddweyd ei chyni wrth bob nant;
+ Ar lechweddau unig anian,
+ O! mor dawel yw yr awr,
+ Myn'd a'r elor tua'r fynwent
+ Trwy gynteddoedd gwyn y wawr.
+
+ Dacw'r dorf yn Aberdeudwrch,
+ Lle try rhai yn ol i dref,
+ Canant yno'n iach i'w gilydd,
+ Gyda chanu mawl i'r nef;--
+ "Ffarwel, gyfeillion anwyl iawn,
+ Dros ennyd fechan ni 'madawn,
+ Henffych i'r dydd cawn eto gwrdd
+ Yn Salem fry oddeutu'r bwrdd."
+ Myn yr hedydd ar ei aden
+ Uno yn y ffarwel brudd,
+ A rhoi odlau'r wawr i'r hwyrgan
+ Efo'i delyn fechan, gudd.
+
+ Gyrr y Cerrig Coegion hwythau
+ Emyn ateb ar eu hynt,
+ Hed yr emyn uwch y cymyl
+ Tua'r nef y'nghol y gwynt;
+ Fry, i fryniau iach y Wynfa,
+ Fry, ymhell tu draw i'r glyn,
+ Fe hebryngwyd sant o oror
+ Mynydd Du i Fynydd Gwyn.
+
+_Cefnymeusydd, Abercrave._
+
+W. GWERNWY RICHARDS.
+
+
+
+
+
+Y Gof Bach.
+
+ Ar lawrdir Cwmgiedd mor fyw yn fy nghof,
+ Yn ymyi yr afon yw'r hen efail gof;
+ A'r muriau yn llwydion, a'r heiyrn yn ystor,
+ A'r enwau cerfiedig ar hyd yr hen ddor.
+
+ Dyn bach o gorpholaeth oedd William y go',
+ Ychydig droedfeddi mewn plyg ydoedd o;
+ Ond er yn grymedig i'r byd dan ei faich,
+ 'Roedd tân yn ei lygad, a dur yn ei fraich.
+
+ Gwr diwyd oedd William ar hyd ei oes hir,
+ A swn ei forthwylion fel clychau drwy'r tir;
+ Llwyr weithiau ei ddiwrnod ac ambell nos fawr
+ Bu'r efail yn wreichion hyd doriad y wawr.
+
+ Ni bu diniweittiach mewn efail yn bod,
+ Na neb yn hapusach waeth sut troai'r rhod;
+ 'Roedd Martha ac yntau mewn llanw a thrai,
+ A'u gwenau bob amser fel blodau mis Mai.
+
+ Os byddai anifail dihwyl yn y fro,
+ Yr unig physigwr oedd William y go';
+ 'Does undyn a wyr pa sawl un wnaeth e'n iach,
+ A ffroeni gwarogaeth wnai'r rhain i'r gof bach.
+
+ Fe drefnai wibdeithiau i'r Bannau bob haf,
+ A chodai y pentre i'r boreu teg, braf;
+ 'Dyw taith i'r Cyfandir yn ddim byd yn awr
+ At daith y gof bach i ben y Fan Fawr.
+
+ Fe ddeuai'r merlynod ynghyd o bob parth,
+ Rhai buain o Balleg, rhai dofion o'r Garth;
+ A Dic, asyn Dosia, yn rhwym dan ei sach,
+ A ddysgai ufydd-dod--ddydd gwyl y gof bach.
+
+ Fel cadben yn arwain ei fyddin i'r gad,
+ Neu hyf anturiaethwr yn chwilio am wlad,
+ Y dygai ei fintai drwy'r corsydd a'r mawn,
+ A'r awel yn chwerthin drwy'r nef wrth ei ddawn.
+
+ 'Roedd ganddo storiau--rhai doniol bob un,
+ A llawer un daclus o'i wead ei hun,
+ Storiau ei garu â lodes y Plas
+ "Yn y got a'r gwt fain a'r siaced gron las."
+
+ Mi'i clywais yn tystio, a phwy wyddai'n well?
+ Fod merlod y wlad yn ei adwaen o bell;
+ A rhedent pan gollent bedolau'n ddibaid
+ I'r fail at William i achwyn eu traed.
+
+ 'Roedd William yn Gristion, a'i enaid bob dydd
+ Yn mwg yr hen efail yn gwynu mewn ffydd;
+ A llawer i noson ystyriem hi'n fraint
+ I glywed ei weddi yn nghyrddau y saint.
+
+ Bu'n iechyd i galon ac ysbryd y lle
+ Ei ddilyn i'r mynydd a'i wrando yn nhre';
+ 'Roedd llwybrau cyfiawnder o hyd dan ei draed,
+ A bendith yn stor yn ei gynghor a gaed.
+
+ Mae'r afon o hyd yn myn'd drwy y lle,
+ A'r efail ar lawr, a'r gof bach yn y ne';
+ Ond adgof sy'n gofyn yn brudd ar ei hynt--
+ Pa'm na bae'r oes nawr fel yn yr hen oesau gynt?
+
+G. AP LLEISION.
+
+
+[Illustration: PENPARC.]
+
+[Illustration: LLOCIO'R DEFAID.]
+
+
+
+
+Ffynon y Brandi.
+
+ Ar ochr bryn yn Llywel lon
+ Mae'r ffynon loyw, lonydd,
+ A'i dyfroedd pur r'ont flas a blys
+ I hwylus wyr y mynydd;
+ O'r graig fe dardd ei phurol win,
+ Ar fin y ffordd mor handi,
+ Ni pherchir ffynon yn y plwy'
+ Yn fwy na Ffynon Brandi.
+
+ Er gwres yr haul a phoethder ha',
+ O! fel yr ia mae'r ffynon,
+ A pherlau grisial ar ei grudd
+ O ddydd i ddydd yn gyson;
+ Fe fethodd haul, a methu wna,
+ Fe ddigia wrth ei hoerni,
+ A gwel'd ei llun mewn dwfr oer
+ Wna'r lloer wrth Ffynon Brandi.
+
+ Yn nhymor haf canolddydd poeth,
+ Bu'n foeth i lawer crwydryn,
+ A llawer _gipsy_ ar ei chlun
+ A wlychodd fin ei phlentyn;
+ Bugeiliaid ac ymdeithwyr sy',
+ A gweithwyr hy' Rhys Dafis,
+ Yn mon y mawn a'u bara chaws,
+ Yn lapio naws ei gwefus.
+
+ Tafarndy yw o oes i oes,
+ Heb feddwdod, _noise_, na _nonsense_,
+ Nis gall cyfreithiau Prydain Fawr
+ Fyth dori lawr y _licence_;
+ Y graig yw _counter_ cryf y _bar_,
+ Ac ar ei gwar mae'r ffynon,
+ A Duw sy'n tynu o'r _machine_
+ Y gwin i'r daearolion.
+
+ Y tarw Scotch, a'r Cymro gwych,
+ A brith-goch ych Glasfynydd,
+ Y pony wyllt, a'r lodes lân,
+ A defaid mân y mynydd,
+ A phlant boch-cochion, heblaw Toss,
+ A Rover, Moss, a Handi,
+ Pob un yn dyfod yn ei dro
+ I dapo'r faril frandi.
+
+ Pe bae masnachwyr Llundain fawr
+ Yn dyfod lawr i Gymru,
+ Ac i dafarndy'r Trianglas
+ I brofi blas y brandi,
+ Caent ruddiau fel y damasc coch,
+ Ac fel y gloch, fonwesau,
+ Ac iechyd hir i fagu mêr,
+ A chryfder yn ei lwynau.
+
+ Do, lawer gwaith am amser hir,
+ Pan yn rheoli'r heolydd,
+ Mi ddrachtiais inau wrth y _bar_,
+ Yn unig ar y mynydd;
+ Ar ol manylu ar ei min,
+ A sugno gwin o'i gwefus,
+ Ces fara brith a chlwt o gaws,
+ Drwy fyn'd ar draws Tom Harris.
+
+ Mae'r ffynon hon yn tarddu erio'd,
+ Er cyfnod creadigaeth,
+ A Duw ei Hun fu'n tapo'r graig
+ Yn ddirgel mewn rhagluniaeth;
+ Eistedda dirwest ar ei sedd
+ Yn lân ei gwedd i'n lloni,
+ Diolchwn Dduw tra fyddwn byw
+ Am Ffynon wiw y Brandi.
+
+RHYS DAVIES (_Llew Llywel_).
+
+
+
+
+Dafydd y Neuadd Las.
+
+ Mac genyf dyddyn bychan
+ Ar fron y Mynydd Du,
+ Bu'n gysgod i'm yn faban,
+ I'm tad, a thaid nhadcu.
+
+ Mi gerddais pan yn blentyn
+ Hyd lethrau'r mynydd mawr;
+ A sengais "droed yr ebol"
+ Yn llaith gan wlith y wawr.
+
+ Ar ben y Lorfa dawel
+ Chwareuwn gyda'r wyn;
+ A miwsig nant y mynydd
+ Yn llifo dros y llwyn.
+
+ Do, treuliais lawer orig
+ Ar lan yr afon iach;
+ A gwynfyd i fy nghalon
+ Oedd dal y brithyll bach.
+
+ Bum yno wedi hyny
+ Yn cael fy nal fy hun,
+ Ond er i'm gael fy nala,
+ Mi ddeliais inau un.
+
+ Ar ben y Lorfa dawel
+ Aeth Gwen a'm calon oll;
+ A gwelodd yr hen fynydd
+ Ddwy galon fach ar goll.
+
+ Ar dwyni'r Gareg Ddiddos,
+ Ac hyd y dyffryn bras,
+ Bu'r ddwy yn crwydro llawer
+ Cyn dod i'r Neuadd Las.
+
+ Aeth haner canrif heibio
+ Er daeth y rhain ynghyd,
+ Ond ieuanc yn y galon
+ Yw'r cariad cynta'i gyd.
+
+ Wrth ganu'r hen alawon
+ Ganasom gyda blas;
+ Un rhamant ydyw bywyd
+ Ar aelwyd Neuadd Las.
+
+_Cefnymeusydd, Abercraf._
+
+RHYS DAVIES (_Ap Brychan_).
+
+
+
+
+
+Cyw.
+
+ Ar ochr y Cribarth
+ Dwy afon fach sy'
+ Yn tarddu yn gyson
+ O fron Mynydd Du;
+ Cydredeg a dawnsio
+ Drwy'r ddôl mae y pâr,
+ A rhywun a'u henwodd
+ Yn geiliog a giar.
+
+ A chanu wna'r ceiliog
+ Yn llon yn y fro,
+ A'r iar sydd yn gregan
+ O hyd ar ei gro;
+ Chwareuant alawon
+ I'w gilydd heb ball,
+ A chanu a nesu
+ Mae'r naill at y llall.
+
+ 'Nol caru a chanu
+ Drwy'r fawnen a'r pant,
+ Yn nghwlwm tangnefedd
+ Ymuna'r ddwy nant;
+ A ffrwyth y briodas
+ Yw'r afon fach, fyw,
+ Sy'n rhedeg i'r Giedd,
+ A'i henw yw--Cyw.
+
+
+
+
+Llyn y Fan.
+
+ Af i'r Bannau gyda'r wawrddydd,
+ Af yn llawen tua'r llyn,
+ Lle mae ysbryd hen draddodiad
+ Byth yn aros yn ei wyn:
+ Crwydraf wrth y dyfroedd grisial,
+ Yno i wrando ar y gwynt
+ Sydd yn cwyno yn hiraethus
+ Ar ol rhamant dyddiau gynt.
+
+ Lyn y Fan! pwy wyr ei hanes?
+ Pwy all ddweyd yr helynt fu
+ Ar y noson loergan gyntaf
+ Pan ddaeth ser i'r Mynydd Du
+ Pwy all ddenu'r graig i siarad
+ Am ei phrofiad, fore gwyn,
+ Pan y gwelodd hithau gyntaf
+ Arall graig yn nwr y llyn?
+
+ Ai rhyw afon fechan, unig,
+ Grwydrodd yma'n llesg a gwan,
+ Wedi colli'r ffordd i huno
+ Yn nhangnefedd craig y Fan?
+ Careg fechan yn y fynwent
+ Dd'wed am arall grwydryn cu,
+ Wedi colli'r llwybrau unig,
+ Hunodd ar y Mynydd Du.
+
+ Cân medelwyr ar y meusydd,
+ Gyda thoriad borau gwyn,
+ Ond mae'r gân o hyd yn marw
+ Wrth neshau i lan y llyn;
+ Unig, unig yw ei hanes,
+ Yma mae yn hedd i gyd,
+ Huna'n dawel yn y cysgod,
+ Wedi digio wrth y byd.
+
+ A fu adar y dryglinoedd
+ Yma'n hedfan ar eu hynt?
+ A fu'r dôn erioed yn gwynu
+ O dan fflangell lem y gwynt?
+ A fu udgorn hen y dymhestl
+ Yn adseinio ar ei lan?
+ Wyr ystormydd a chorwyntoedd
+ Am y ffordd i Lyn y Fan?
+
+ Nid oes yma swyn y lili,
+ Yma nid oes rhosyn gwiw,
+ Ond daw serch yn dirf ac iraidd,
+ Lle mae'r blodau'n methu byw;
+ Heb un llwybr ar y moelydd
+ I'w gyfeirio tua'r lan,
+ I'r unigedd a'r distawrwydd
+ Fe ddaeth serch i Lyn y Fan.
+
+ Gyda'i braidd mae'r bugail unig
+ Wrth y llyn yn rhodio'n rhydd,
+ Ond paham y ceidw'r defaid
+ Wrth y llyn ar hyd y dydd?
+ Nid yw'n clywed bref ddolefus
+ Dafad glwyfus ar y lan:
+ A fu bugail mor esgeulus
+ A Rhiwallon Llyn y Fan?
+
+ Wrth y Llyn gorwedda'r defaid,
+ Yno y breuddwydiant hwy:
+ Ond ni wyddant fod y bugail
+ Yn breuddwydio llawer mwy;
+ Beth yw'r pryder sy'n ei wyneb?
+ Fentrodd oen i'r dyfroedd glân?
+ Neu, a gollwyd un o'r defaid?
+ Pam mae'r bugail heb un gân?
+
+ 'Does ond un all roi esboniad
+ Ar yr holl bryderon hyn:
+ Nis gall bugail fod yn llawen
+ Gyda'i galon yn y llyn:
+ Gwelodd yno feinir geinwen
+ Yn y dyfroedd teg, di-stwr,
+ Ac mae yntau fyth er hyny
+ Fwy na'i haner yn y dwr.
+
+ Torodd gwawr ar nos Rhiwallon,
+ Cadd ei galon eto'n ol:
+ Gwelwyd dau yn rhodio'n llawen
+ Un boreuddydd dros y ddol;
+ Ond fe wawriodd boreu arall
+ Ar Rhiwallon wedi hyn,
+ Pan y gwelwyd gwraig y bugail
+ Eto'n ol yn nwr y llyn.
+
+ Cilio 'mhell wnaeth biwyddi rhamant,
+ Cilio wnaeth y dyddiau gwyn,
+ Pan fu serch yn crynu'n ofnus
+ Wrth y dyfroedd gloewion hyn;
+ Nid oes heddyw un Rhiwallon
+ Yn bugeilio ar y lan,
+ Ond mae ysbryd hen draddodiad
+ Eto'n fyw wrth Lyn y Fan.
+
+_Abercraf._
+
+Parch. R. BEYNON, B.A.
+
+
+
+
+Ar y Banau.
+
+ Clychau'r wawr sy'n canu
+ Ar y Mynydd Du,
+ Cilia ser o'r llynoedd,
+ Loewon lu.
+
+ Fly yn mhyrth y bore
+ Clywaf hedydd bach,
+ Yn dihuno asbri'r
+ Awel iach.
+
+ Fel cawodydd arian
+ Ei felodi dyn,
+ Wna y mynydd imi'n
+ Fynydd gwyn.
+
+ Ffrydlif o hyawdledd
+ Yn y cwmwl gwyn;
+ Pe bai neb yn gwrando,
+ Canu fyn.
+
+ O! na bawn i'n hedydd,
+ Fyth yn llon fy llef,
+ Allwn ar adenydd
+ Hollti'r nef.
+
+ Blodau'r Grug sy'n gwrido
+ Yn eu cartre' cun,
+ Am fod cusan huan
+ Ar eu min.
+
+ Bu y nos yn wylo
+ Am fod tlysni nghudd,
+ Trodd y dagrau'n berlau
+ Ar eu grudd.
+
+ O! na bawn i'n flod'yn
+ Ar y mynydd pell,
+ Dal i berarogli,
+ Er yn mhell.
+
+
+[Illustration: MAEN DERWYDDOL GER LLAW LLYN-Y-FAN FAWR]
+
+[Illustration: LLYN-Y-FAN.]
+
+ Teimlaf ar y mynydd
+ Swyn yr amser gynt;
+ Clywaf Fabinogi
+ Yn y gwynt.
+
+ Clywaf rhwng y creigydd
+ Ymchwydd tonnau'r aig;
+ Gwelaf eu hysgrifen
+ Ar y graig.
+
+ Gwelaf graith y dymhestl
+ Ar y bryniau erch,
+ Clywaf hefyd furmur
+ Suon serch.
+
+ Gwelaf las y wybren,
+ Cofiaf lygad Gwen,
+ Syrthiaf i'w chyfrinedd
+ Dros ym mhen.
+
+ Gwen yn awr yw byrdwn
+ Cân yr hedydd myg;
+ Er ei mwyn y gwrida
+ Blodau'r Grug.
+
+ Sonia'r neint am dani
+ Rhwng y grug a'r brwyn;
+ Llwythog yw yr awel
+ Gan ei swyn.
+
+ Dilyn ei huloliaeth
+ Ar y bannau hyn
+ Wna y mynydd imi'n
+ Fynydd gwyn.
+
+_Ystradgynlais._
+
+W. R. WILLIAMS.
+
+
+
+
+Breuddwyd Adgof.
+
+ Rhyw noson yn fy mreuddwyd,
+ Yn esmwyth es am dro
+ Yn ol i gwmwd tawel
+ Fy ngenedigol fro,
+ A gwelwn Bontygiedd,
+ Heb fwthyn Pegi gynt,
+ A rhoes ochenaid hiraeth
+ Wrth basio yn y gwynt.
+
+ Es heibio'n brudd fy nghalon
+ I Blasycoed ar daith,
+ Ond Siams ni chefais yno,
+ Na'r dall basgedwr chwaith;
+ Gwag imi yr aneddau,
+ Heb un o'r cwmni llon,
+ A throais tua'r afon
+ I holi helynt hon.
+
+ Bu amser arni hithau
+ Yn amlwg wrth ei waith,
+ A gwelwn ol llifogydd
+ Ar hyd ei gwely llaith;
+ 'Roedd hen athrofa nofio
+ Fydenwog Llyn y Sgwd,
+ Yn awr yn ynys goedig
+ Yn nghanol y ddwy ffrwd.
+
+ Es eto i Gae Ffynon,
+ Yr Arch, fu'n net ddigêl,
+ Lle'r aem i chwareu _rounders_
+ Yn ddedwydd gyda'r bel;
+ Ond, Ah! cauedig ydoedd,
+ Ac nid oedd cyfoed cu
+ Yn aros gyda'i "fando"
+ I son am bethau fu.
+
+ Mi deithiais eto i fyny
+ At efail y gof bach,
+ Lle buom lawer canwaith
+ Yn ymddigrifo'n iach;
+ Ond carnedd oedd yr efail
+ A'i bentan erbyn hyn,
+ A'r hen of bach duwiolaf
+ A aeth yn gerub gwyn.
+
+ Fe welais Craig-y-defaid,
+ 'Roedd hon yr un o hyd,
+ Heb gyfnewidiad arni,
+ Er holl dreigliadau byd;
+ Y defaid arni borent
+ Yn ddifyr yn eu hedd,
+ Ond mae'r hen fugail gofiwn
+ Yn awr yn llwch y bedd.
+
+ Diosgais fy esgidiau
+ Wrth droi i'r fynwent brudd,
+ Ac hiraeth aeth yn gawod
+ O ddagrau dros fy ngrudd;
+ Darllenais ar y meini
+ Feddargraff tad a mam,
+ Ac enwau torf o ffryndiau
+ Boreuddydd mwyn, dinam.
+
+ Mi es am dro i'r capel,
+ Anwylaf yw i fil,
+ Lle dysgais fyn'd a'm hadnod
+ I'r cwrdd a'r Ysgol Sul;
+ Mi holais dan y pulpud--
+ Ble mae'r proffwydi glân
+ A welais gynt yn llosgi
+ O'i fewn yn ddwyfol dân?
+
+ Y seddau yma godent
+ Wynebau ger fy mron,
+ Hen seintiau haner canrif,
+ Colofnau'r deml hon;
+ A d'wedais wrth fy nghalon,
+ Y tadau nid y'nt mwy,
+ Y nef ar hyn agorodd,
+ A gwaeddais--Dacw hwy.
+
+ Deffroais o fy mreuddwyd,
+ A'r dydd oedd ar y wlad,
+ Dechreuais feddwl allan
+ Y freuddwyd mewn tristhad;
+ Deallais wedi hyny
+ Nad oedd y freuddwyd brudd
+ Ond gweledigaeth noswaith
+ O wrioneddau'r dydd.
+
+_Penygraig._
+
+G. JAMES.
+
+
+
+
+Cân y Dwyfundodiaid.
+
+ Rhyw fyrdd a mwy na hyny,
+ 'Does neb all ddweyd ond Duw;
+ Yw haeddiant Crist yn drymach
+ Na phechod dynolryw:
+ Pe buasai yn yr arfaeth
+ I fyn'd i uffern dân,
+ Fe olch'sai'r holl gythreuliaid
+ I gyd yu berffaith lân.
+
+ Er cwrdd â geiriau newydd,
+ I roddi ei glod i ma's,
+ Ac uno â'r holl angelion,
+ Ac etifeddion gras;
+ Heb enwi dim o'r unpeth
+ Ond unwaith yn y gân,
+ Hyd eithaf tragwyddoldeb,
+ 'Ddaw 'glod E' byth yn mla'n.
+
+ Pe bai angelion nefoedd
+ Bob un yn myn'd yn fil,
+ Ac enill rhyw fyrddiynau
+ Bob mynyd yn y sgil,
+ I roddi ei glod Ef allan
+ Am farw ar y pren,
+ Hyd eithaf tragwyddoldeb,
+ 'Ddoi dim o'r gwaith i ben.
+
+ 'Tai sant am bob glaswelltyn
+ Sydd ar y ddaear lawr,
+ A mil am bob tywodyn
+ Sy' ar fin y moroedd mawr,
+ Tafodau gan y rhei'ny
+ Fwy na rhifedi'r dail,--
+ Rhy fach i ddweyd gogoniant
+ Sy'n haeddiant _Adda'r ail_.
+
+ 'Tai un o'r cor nefolaidd
+ Yn dod o'r nef i lawr
+ I rifo llwch y ddaear
+ A gwlith y borau wawr,
+ Fe allai wneuthur hyny
+ Mewn 'chydig iawn o bryd,
+ Dweyd haner haeddiant Iesu
+ Nid all y cor i gyd.
+
+ Dywedodd Duw ei Hunan
+ Wrth Abram yn ddiffael,
+ Lai lai i arbed Sodom,
+ Pe buasent yno i'w cael;
+ Ni dd'wedodd, ac ni ddywed,
+ Wrth un pechadur trist,
+ Ddim llai i gadw enaid
+ Na haeddiant Iesu Grist.
+
+ Mae dyndod glân i'w weled
+ Yn mherson Iesu hardd,
+ Pan ddaeth y milwyr ato,
+ A'i weled yn yr ardd,--
+ Eu cwympo 'ngwysg eu cefnau
+ A gair o'i enau, clyw,
+ Sy'n dangos i ni'n eglur
+ Ei fod yn gywir Dduw.
+
+ Mae 'ddoliad iddo'n perthyn,
+ 'Nol dim ddeallais i,
+ Gan holl drigolion daear,
+ A lluoedd nefoedd fry:
+ Os gwir a dd'wed y Beibl,
+ Sef genau'r Ysbryd Glân,
+ Pa fodd gall Dwyfundodiaid
+ I ddwyn eu credo 'mla'n?
+
+ Fe rodd y Tad ei Hunan
+ Y cyfan yn ei law,
+ Sydd yn y nef a'r ddae'r,
+ A chymaint ag a ddaw:
+ Athrawiaeth gyfeiliornus,
+ I'w chredu nid oes llun,
+ I'r Duw anfeidrol _fentro_
+ Y rhai'n yn nwylaw dyn!
+
+ Os credai'r Dwyfundodiaid,
+ Rhaid i mi ddwyn yn mla'n
+ Ryw grefydd groes i'r Beibl,
+ A iaith yr Ysbryd Glân,
+ Sy'n dweyd mai'n enw'r Iesu
+ Y plyga pawb o'r bron,
+ Sydd yn y nef a'r ddaear,
+ A than y ddaear hon.
+
+ Os nad oedd ond creadur,
+ Mae gan iuddewon sail
+ I ddweyd yn ngwyneb Beibl
+ Na ddaeth mo _Adda'r ail_:
+ Yr achos fod y rhei'ny
+ Yn gwrthod Iesu, clyw,
+ Yw eisieu gallu credu
+ Ei fod yn berffaith Dduw.
+
+ 'Dyw'r Tad o ran ei Berson
+ Yn barnu neb o'r byd;
+ Fe rodd bob barn yn gryno
+ Yn nwylaw'r Mab i gyd:
+ Os gwir dd'wed Dwyfundodiaid,
+ Nad oedd ond Dyndod, clyw,
+ Rhaid iddo farnu'r Beibl
+ Am ddweyd ei fod yn Dduw.
+
+ Mi wn i angeu gredu
+ Am Iesu ar y gro's
+ 'Run peth a'r Dwyfundodiaid,
+ Mai Dyn oedd e'n ddi-os;
+ Newidiodd Hwn ei feddwl
+ Ar foreu'r trydydd dydd,--
+ Efe oedd wedi'i rwymo,
+ A'r Iesu'n rhodio'n rhydd.
+
+ Cynghora i'r Dwyfundodiaid
+ I gredu ar sicrach sail
+ Mai dyn oedd Adda'r cyntaf,
+ Duw-ddyn yw _Adda'r ail_;
+ Ei Ddyndod oedd yr aberth
+ Offrymwyd drosom ni,
+ A'i Dduwdod oedd yr allor
+ A'i daliai ar Galfari.
+
+ Nid all'sai Duw dim dyoddef,
+ 'Doedd ganddo Ef ddim gwa'd,--
+ Heb ollwng gwaed, medd Beibl,
+ 'Doedd dim foddlonai'r Tad;
+ Ei gyfraith lân droseddwyd,
+ A'r bai oedd ar y dyn,--
+ Cyn gwneud y rhwyg i fyny,
+ Rhaid clwyfo'r Mab ei Hun.
+
+ O credwch fod yr Iesu
+ Mor uchel Dduw a'r Tad,
+ Mor isel Ddyn a ninau,
+ Yn meddu cig a gwa'd;
+ Bydd 'rundeb yn rhyfeddod
+ I dragwyddoldeb hir,--
+ 'Dall neb ei gyflawn ddirnad,
+ Ac eto mae yn wir.
+
+ 'Rwy'n credu iddo ddyfod
+ O gariad lawr o'r nef,
+ 'Rwy'n credu fod y Duwdod
+ Yn wastad ynddo Ef;
+ 'Rwy'n credu fod e'n ddigon
+ I ateb cais y Tad,
+ A bod maddeuant cyflawn
+ I'r duaf yn ei wa'd.
+
+ Dych'mygaf wel'd angelion
+ A'u calon bron yn brudd,
+ Wrth fyn'd i uffern obry
+ I ro'i cadwynau'n rhydd,
+ I ollwng diafliaid allan,
+ Fwy na rhifedi'r dail,
+ I fynydd bach Calfaria,
+ I brofi'r _Adda'r ail_.
+
+ Dych'mygaf wei'd cyfiawnder
+ A'i filiau yno'n llawn,
+ A'r gyfraith lân droseddwyd
+ Yn gwaeddi, Rhaid cael Iawn;
+ A'r Tad yn cilio o'r golwg,
+ A'r Iesu ar y pren,--
+ Pa ryfedd bod i'r haulwen
+ Dair awr i guddio'i ben!
+
+ Dych'mygaf weli'd cythreuliaid
+ 'N dynwared llawenhau,
+ Fod uffern yn agored,
+ A'r nefoedd wedi'i chau,
+ A'r Gwr a wnaeth y cyfan
+ Yn hongian ar y gro's,
+ A'r haul yn cuddio'i wyneb,
+ Nes gyru'r dydd yn nos.
+
+ Dych'mygaf wel'd ysbrydion
+ Y cyfiawn aeth i'r nef
+ Yn plygu lawr yn fynych
+ I edrych arno Ef,
+ A bron a gwaeddi allan--
+ Os Iesu gyll y dydd,
+ Cawn fyned oll i garchar
+ Na dde'wn ni byth yn rhydd.
+
+ Mae'r Gair yn dweyd i'r meini
+ I hollti fach a mawr,
+ A llen y deml rwygo
+ O fyny hyd i lawr,
+ A'r beddau ddechreu rhwygo,
+ A'r meirw neidio'n rhydd,--
+ Mae'n arwydd digon goleu
+ I angeu golli'r dydd.
+
+ A swn y gair Gorphenwyd,
+ Pan floeddiwyd ganddo Ef,
+ A gauodd ddrysau uffern,
+ Agorodd byrth y nef,
+ A dynodd o garcharau
+ Fyrddiynau i fod yn rhydd,
+ Trodd ddyffryn cysgod angeu
+ Yn hyfryd foreu ddydd.
+
+ 'Does feddyg ar y ddaear,
+ Nac hefyd yn y nef,
+ 'Mhlith dynion nac angelion,
+ Gyffelyb iddo Ef;
+ Gall symud pechod chwerw,
+ A chodi'r marw'n fyw,--
+ Anturiaf fy enaid arno,
+ 'Rwy'n credu fod e'n fyw.
+
+ 'Ddaeth barn y Dwyfundodiaid
+ Erioed i uffern, clyw,
+ Maent yno'n rhwym i gredu
+ Fod Iesu Grist yn Dduw;
+ Ac yn y nefoedd oleu
+ Diamheu nad oes un
+ Nad ydyw'n moli'n wastad
+ Y Duwdod yn y Dyn.
+
+ Cymerwch eich cynghori
+ Gan Lywydd dae'r a nef,
+ I chwilio'r Ysgrythyrau,
+ Sy'n tystio am dano Ef;
+ A pheidio credu'r diafol,
+ Peth annymunol yw,
+ Bod neb yn beiddio gwadu
+ Y peth a dd'wedodd Duw.
+
+ Y man ca'dd Satan fantais
+ Ar ddynion yn yr ardd,
+ Pan dwyllwyd Adda i fwyta
+ O'r pren oedd wedi ei wa'rdd
+ Canlyniad hyn sy'n effaith
+ Hyd yma ar gyflwr dyn,
+ Y diafol rhydd e'i gredu
+ Yr hyn ni chred ei hun.
+
+OWAIN DAFYDD.
+
+Gosodir y gân hon i fewn am fod ei hawdwr yn un o Frodorion y Mynydd Du.
+
+
+
+***END OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK CERDDI'R MYNYDD DU***
+
+
+******* This file should be named 22528-8.txt or 22528-8.zip *******
+
+
+This and all associated files of various formats will be found in:
+https://www.gutenberg.org/dirs/2/2/5/2/22528
+
+
+
+Updated editions will replace the previous one--the old editions
+will be renamed.
+
+Creating the works from public domain print editions means that no
+one owns a United States copyright in these works, so the Foundation
+(and you!) can copy and distribute it in the United States without
+permission and without paying copyright royalties. Special rules,
+set forth in the General Terms of Use part of this license, apply to
+copying and distributing Project Gutenberg-tm electronic works to
+protect the PROJECT GUTENBERG-tm concept and trademark. Project
+Gutenberg is a registered trademark, and may not be used if you
+charge for the eBooks, unless you receive specific permission. If you
+do not charge anything for copies of this eBook, complying with the
+rules is very easy. You may use this eBook for nearly any purpose
+such as creation of derivative works, reports, performances and
+research. They may be modified and printed and given away--you may do
+practically ANYTHING with public domain eBooks. Redistribution is
+subject to the trademark license, especially commercial
+redistribution.
+
+
+
+*** START: FULL LICENSE ***
+
+THE FULL PROJECT GUTENBERG LICENSE
+PLEASE READ THIS BEFORE YOU DISTRIBUTE OR USE THIS WORK
+
+To protect the Project Gutenberg-tm mission of promoting the free
+distribution of electronic works, by using or distributing this work
+(or any other work associated in any way with the phrase "Project
+Gutenberg"), you agree to comply with all the terms of the Full Project
+Gutenberg-tm License (available with this file or online at
+https://www.gutenberg.org/license).
+
+
+Section 1. General Terms of Use and Redistributing Project Gutenberg-tm
+electronic works
+
+1.A. By reading or using any part of this Project Gutenberg-tm
+electronic work, you indicate that you have read, understand, agree to
+and accept all the terms of this license and intellectual property
+(trademark/copyright) agreement. If you do not agree to abide by all
+the terms of this agreement, you must cease using and return or destroy
+all copies of Project Gutenberg-tm electronic works in your possession.
+If you paid a fee for obtaining a copy of or access to a Project
+Gutenberg-tm electronic work and you do not agree to be bound by the
+terms of this agreement, you may obtain a refund from the person or
+entity to whom you paid the fee as set forth in paragraph 1.E.8.
+
+1.B. "Project Gutenberg" is a registered trademark. It may only be
+used on or associated in any way with an electronic work by people who
+agree to be bound by the terms of this agreement. There are a few
+things that you can do with most Project Gutenberg-tm electronic works
+even without complying with the full terms of this agreement. See
+paragraph 1.C below. There are a lot of things you can do with Project
+Gutenberg-tm electronic works if you follow the terms of this agreement
+and help preserve free future access to Project Gutenberg-tm electronic
+works. See paragraph 1.E below.
+
+1.C. The Project Gutenberg Literary Archive Foundation ("the Foundation"
+or PGLAF), owns a compilation copyright in the collection of Project
+Gutenberg-tm electronic works. Nearly all the individual works in the
+collection are in the public domain in the United States. If an
+individual work is in the public domain in the United States and you are
+located in the United States, we do not claim a right to prevent you from
+copying, distributing, performing, displaying or creating derivative
+works based on the work as long as all references to Project Gutenberg
+are removed. Of course, we hope that you will support the Project
+Gutenberg-tm mission of promoting free access to electronic works by
+freely sharing Project Gutenberg-tm works in compliance with the terms of
+this agreement for keeping the Project Gutenberg-tm name associated with
+the work. You can easily comply with the terms of this agreement by
+keeping this work in the same format with its attached full Project
+Gutenberg-tm License when you share it without charge with others.
+
+1.D. The copyright laws of the place where you are located also govern
+what you can do with this work. Copyright laws in most countries are in
+a constant state of change. If you are outside the United States, check
+the laws of your country in addition to the terms of this agreement
+before downloading, copying, displaying, performing, distributing or
+creating derivative works based on this work or any other Project
+Gutenberg-tm work. The Foundation makes no representations concerning
+the copyright status of any work in any country outside the United
+States.
+
+1.E. Unless you have removed all references to Project Gutenberg:
+
+1.E.1. The following sentence, with active links to, or other immediate
+access to, the full Project Gutenberg-tm License must appear prominently
+whenever any copy of a Project Gutenberg-tm work (any work on which the
+phrase "Project Gutenberg" appears, or with which the phrase "Project
+Gutenberg" is associated) is accessed, displayed, performed, viewed,
+copied or distributed:
+
+This eBook is for the use of anyone anywhere at no cost and with
+almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or
+re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included
+with this eBook or online at www.gutenberg.org
+
+1.E.2. If an individual Project Gutenberg-tm electronic work is derived
+from the public domain (does not contain a notice indicating that it is
+posted with permission of the copyright holder), the work can be copied
+and distributed to anyone in the United States without paying any fees
+or charges. If you are redistributing or providing access to a work
+with the phrase "Project Gutenberg" associated with or appearing on the
+work, you must comply either with the requirements of paragraphs 1.E.1
+through 1.E.7 or obtain permission for the use of the work and the
+Project Gutenberg-tm trademark as set forth in paragraphs 1.E.8 or
+1.E.9.
+
+1.E.3. If an individual Project Gutenberg-tm electronic work is posted
+with the permission of the copyright holder, your use and distribution
+must comply with both paragraphs 1.E.1 through 1.E.7 and any additional
+terms imposed by the copyright holder. Additional terms will be linked
+to the Project Gutenberg-tm License for all works posted with the
+permission of the copyright holder found at the beginning of this work.
+
+1.E.4. Do not unlink or detach or remove the full Project Gutenberg-tm
+License terms from this work, or any files containing a part of this
+work or any other work associated with Project Gutenberg-tm.
+
+1.E.5. Do not copy, display, perform, distribute or redistribute this
+electronic work, or any part of this electronic work, without
+prominently displaying the sentence set forth in paragraph 1.E.1 with
+active links or immediate access to the full terms of the Project
+Gutenberg-tm License.
+
+1.E.6. You may convert to and distribute this work in any binary,
+compressed, marked up, nonproprietary or proprietary form, including any
+word processing or hypertext form. However, if you provide access to or
+distribute copies of a Project Gutenberg-tm work in a format other than
+"Plain Vanilla ASCII" or other format used in the official version
+posted on the official Project Gutenberg-tm web site (www.gutenberg.org),
+you must, at no additional cost, fee or expense to the user, provide a
+copy, a means of exporting a copy, or a means of obtaining a copy upon
+request, of the work in its original "Plain Vanilla ASCII" or other
+form. Any alternate format must include the full Project Gutenberg-tm
+License as specified in paragraph 1.E.1.
+
+1.E.7. Do not charge a fee for access to, viewing, displaying,
+performing, copying or distributing any Project Gutenberg-tm works
+unless you comply with paragraph 1.E.8 or 1.E.9.
+
+1.E.8. You may charge a reasonable fee for copies of or providing
+access to or distributing Project Gutenberg-tm electronic works provided
+that
+
+- You pay a royalty fee of 20% of the gross profits you derive from
+ the use of Project Gutenberg-tm works calculated using the method
+ you already use to calculate your applicable taxes. The fee is
+ owed to the owner of the Project Gutenberg-tm trademark, but he
+ has agreed to donate royalties under this paragraph to the
+ Project Gutenberg Literary Archive Foundation. Royalty payments
+ must be paid within 60 days following each date on which you
+ prepare (or are legally required to prepare) your periodic tax
+ returns. Royalty payments should be clearly marked as such and
+ sent to the Project Gutenberg Literary Archive Foundation at the
+ address specified in Section 4, "Information about donations to
+ the Project Gutenberg Literary Archive Foundation."
+
+- You provide a full refund of any money paid by a user who notifies
+ you in writing (or by e-mail) within 30 days of receipt that s/he
+ does not agree to the terms of the full Project Gutenberg-tm
+ License. You must require such a user to return or
+ destroy all copies of the works possessed in a physical medium
+ and discontinue all use of and all access to other copies of
+ Project Gutenberg-tm works.
+
+- You provide, in accordance with paragraph 1.F.3, a full refund of any
+ money paid for a work or a replacement copy, if a defect in the
+ electronic work is discovered and reported to you within 90 days
+ of receipt of the work.
+
+- You comply with all other terms of this agreement for free
+ distribution of Project Gutenberg-tm works.
+
+1.E.9. If you wish to charge a fee or distribute a Project Gutenberg-tm
+electronic work or group of works on different terms than are set
+forth in this agreement, you must obtain permission in writing from
+both the Project Gutenberg Literary Archive Foundation and Michael
+Hart, the owner of the Project Gutenberg-tm trademark. Contact the
+Foundation as set forth in Section 3 below.
+
+1.F.
+
+1.F.1. Project Gutenberg volunteers and employees expend considerable
+effort to identify, do copyright research on, transcribe and proofread
+public domain works in creating the Project Gutenberg-tm
+collection. Despite these efforts, Project Gutenberg-tm electronic
+works, and the medium on which they may be stored, may contain
+"Defects," such as, but not limited to, incomplete, inaccurate or
+corrupt data, transcription errors, a copyright or other intellectual
+property infringement, a defective or damaged disk or other medium, a
+computer virus, or computer codes that damage or cannot be read by
+your equipment.
+
+1.F.2. LIMITED WARRANTY, DISCLAIMER OF DAMAGES - Except for the "Right
+of Replacement or Refund" described in paragraph 1.F.3, the Project
+Gutenberg Literary Archive Foundation, the owner of the Project
+Gutenberg-tm trademark, and any other party distributing a Project
+Gutenberg-tm electronic work under this agreement, disclaim all
+liability to you for damages, costs and expenses, including legal
+fees. YOU AGREE THAT YOU HAVE NO REMEDIES FOR NEGLIGENCE, STRICT
+LIABILITY, BREACH OF WARRANTY OR BREACH OF CONTRACT EXCEPT THOSE
+PROVIDED IN PARAGRAPH F3. YOU AGREE THAT THE FOUNDATION, THE
+TRADEMARK OWNER, AND ANY DISTRIBUTOR UNDER THIS AGREEMENT WILL NOT BE
+LIABLE TO YOU FOR ACTUAL, DIRECT, INDIRECT, CONSEQUENTIAL, PUNITIVE OR
+INCIDENTAL DAMAGES EVEN IF YOU GIVE NOTICE OF THE POSSIBILITY OF SUCH
+DAMAGE.
+
+1.F.3. LIMITED RIGHT OF REPLACEMENT OR REFUND - If you discover a
+defect in this electronic work within 90 days of receiving it, you can
+receive a refund of the money (if any) you paid for it by sending a
+written explanation to the person you received the work from. If you
+received the work on a physical medium, you must return the medium with
+your written explanation. The person or entity that provided you with
+the defective work may elect to provide a replacement copy in lieu of a
+refund. If you received the work electronically, the person or entity
+providing it to you may choose to give you a second opportunity to
+receive the work electronically in lieu of a refund. If the second copy
+is also defective, you may demand a refund in writing without further
+opportunities to fix the problem.
+
+1.F.4. Except for the limited right of replacement or refund set forth
+in paragraph 1.F.3, this work is provided to you 'AS-IS', WITH NO OTHER
+WARRANTIES OF ANY KIND, EXPRESS OR IMPLIED, INCLUDING BUT NOT LIMITED TO
+WARRANTIES OF MERCHANTIBILITY OR FITNESS FOR ANY PURPOSE.
+
+1.F.5. Some states do not allow disclaimers of certain implied
+warranties or the exclusion or limitation of certain types of damages.
+If any disclaimer or limitation set forth in this agreement violates the
+law of the state applicable to this agreement, the agreement shall be
+interpreted to make the maximum disclaimer or limitation permitted by
+the applicable state law. The invalidity or unenforceability of any
+provision of this agreement shall not void the remaining provisions.
+
+1.F.6. INDEMNITY - You agree to indemnify and hold the Foundation, the
+trademark owner, any agent or employee of the Foundation, anyone
+providing copies of Project Gutenberg-tm electronic works in accordance
+with this agreement, and any volunteers associated with the production,
+promotion and distribution of Project Gutenberg-tm electronic works,
+harmless from all liability, costs and expenses, including legal fees,
+that arise directly or indirectly from any of the following which you do
+or cause to occur: (a) distribution of this or any Project Gutenberg-tm
+work, (b) alteration, modification, or additions or deletions to any
+Project Gutenberg-tm work, and (c) any Defect you cause.
+
+
+Section 2. Information about the Mission of Project Gutenberg-tm
+
+Project Gutenberg-tm is synonymous with the free distribution of
+electronic works in formats readable by the widest variety of computers
+including obsolete, old, middle-aged and new computers. It exists
+because of the efforts of hundreds of volunteers and donations from
+people in all walks of life.
+
+Volunteers and financial support to provide volunteers with the
+assistance they need, is critical to reaching Project Gutenberg-tm's
+goals and ensuring that the Project Gutenberg-tm collection will
+remain freely available for generations to come. In 2001, the Project
+Gutenberg Literary Archive Foundation was created to provide a secure
+and permanent future for Project Gutenberg-tm and future generations.
+To learn more about the Project Gutenberg Literary Archive Foundation
+and how your efforts and donations can help, see Sections 3 and 4
+and the Foundation web page at https://www.gutenberg.org/fundraising/pglaf.
+
+
+Section 3. Information about the Project Gutenberg Literary Archive
+Foundation
+
+The Project Gutenberg Literary Archive Foundation is a non profit
+501(c)(3) educational corporation organized under the laws of the
+state of Mississippi and granted tax exempt status by the Internal
+Revenue Service. The Foundation's EIN or federal tax identification
+number is 64-6221541. Contributions to the Project Gutenberg
+Literary Archive Foundation are tax deductible to the full extent
+permitted by U.S. federal laws and your state's laws.
+
+The Foundation's principal office is located at 4557 Melan Dr. S.
+Fairbanks, AK, 99712., but its volunteers and employees are scattered
+throughout numerous locations. Its business office is located at
+809 North 1500 West, Salt Lake City, UT 84116, (801) 596-1887, email
+business@pglaf.org. Email contact links and up to date contact
+information can be found at the Foundation's web site and official
+page at https://www.gutenberg.org/about/contact
+
+For additional contact information:
+ Dr. Gregory B. Newby
+ Chief Executive and Director
+ gbnewby@pglaf.org
+
+Section 4. Information about Donations to the Project Gutenberg
+Literary Archive Foundation
+
+Project Gutenberg-tm depends upon and cannot survive without wide
+spread public support and donations to carry out its mission of
+increasing the number of public domain and licensed works that can be
+freely distributed in machine readable form accessible by the widest
+array of equipment including outdated equipment. Many small donations
+($1 to $5,000) are particularly important to maintaining tax exempt
+status with the IRS.
+
+The Foundation is committed to complying with the laws regulating
+charities and charitable donations in all 50 states of the United
+States. Compliance requirements are not uniform and it takes a
+considerable effort, much paperwork and many fees to meet and keep up
+with these requirements. We do not solicit donations in locations
+where we have not received written confirmation of compliance. To
+SEND DONATIONS or determine the status of compliance for any
+particular state visit https://www.gutenberg.org/fundraising/donate
+
+While we cannot and do not solicit contributions from states where we
+have not met the solicitation requirements, we know of no prohibition
+against accepting unsolicited donations from donors in such states who
+approach us with offers to donate.
+
+International donations are gratefully accepted, but we cannot make
+any statements concerning tax treatment of donations received from
+outside the United States. U.S. laws alone swamp our small staff.
+
+Please check the Project Gutenberg Web pages for current donation
+methods and addresses. Donations are accepted in a number of other
+ways including checks, online payments and credit card donations.
+To donate, please visit:
+https://www.gutenberg.org/fundraising/donate
+
+
+Section 5. General Information About Project Gutenberg-tm electronic
+works.
+
+Professor Michael S. Hart was the originator of the Project Gutenberg-tm
+concept of a library of electronic works that could be freely shared
+with anyone. For thirty years, he produced and distributed Project
+Gutenberg-tm eBooks with only a loose network of volunteer support.
+
+Project Gutenberg-tm eBooks are often created from several printed
+editions, all of which are confirmed as Public Domain in the U.S.
+unless a copyright notice is included. Thus, we do not necessarily
+keep eBooks in compliance with any particular paper edition.
+
+Most people start at our Web site which has the main PG search facility:
+
+ https://www.gutenberg.org
+
+This Web site includes information about Project Gutenberg-tm,
+including how to make donations to the Project Gutenberg Literary
+Archive Foundation, how to help produce our new eBooks, and how to
+subscribe to our email newsletter to hear about new eBooks.
+