diff options
Diffstat (limited to '3500-0.txt')
| -rw-r--r-- | 3500-0.txt | 4588 |
1 files changed, 4588 insertions, 0 deletions
diff --git a/3500-0.txt b/3500-0.txt new file mode 100644 index 0000000..4395e48 --- /dev/null +++ b/3500-0.txt @@ -0,0 +1,4588 @@ +The Project Gutenberg eBook, Ceiriog, by Ceiriog, Edited by Owen M. Edwards + + +This eBook is for the use of anyone anywhere in the United States and most +other parts of the world at no cost and with almost no restrictions +whatsoever. You may copy it, give it away or re-use it under the terms of +the Project Gutenberg License included with this eBook or online at +www.gutenberg.org. If you are not located in the United States, you'll have +to check the laws of the country where you are located before using this ebook. + + + + +Title: Ceiriog + + +Author: Ceiriog + +Editor: Owen M. Edwards + +Release Date: August 19, 2019 [eBook #3500] +[This file was first posted 30 March 2001] + +Language: Welsh + +Character set encoding: UTF-8 + + +***START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK CEIRIOG*** + + +Transcribed from the 1902 Ab Owen edition by David Price, +ccx074@pglaf.org + + [Picture: Public domain cover] + + [Picture: J. Ceiriog Hughes. Tynnwyd y darlun yn ei ardd yn Llandiloes, + yn 1867. [O’r “Oriel Gymreig.”]] + + + + + + [Picture: Decorative graphic spelling Ceiriog] + + + * * * * * + + [Picture: Decorative graphic] + + * * * * * + + LLANUWCHLLYN, AB OWEN. + 1902. + + * * * * * + + ARGRAFFWYD I AB OWEN GAN MRI. HUGHES A’I FAB, + GWRECSAM. + + * * * * * + + + + +Rhagymadrodd. + + +AR un o lethrau’r Berwyn y ganwyd ac y magwyd Ceiriog. Gadawodd ei +gartref anghysbell a mynyddig pan yn fachgen; a’i hiraeth am fynyddoedd a +bugeiliaid bro ei febyd, tra ym mŵg a thwrw Manceinion, roddodd fod i’w +gân pan ar ei thlysaf ac ar ei thyneraf. + +Mab Richard a Phoebe Hughes, Pen y Bryn, Llanarmon Dyffryn Ceiriog, oedd +John Ceiriog Hughes. Ganwyd ef Medi 25ain, 1832. Aeth i’r ysgol yn Nant +y Glog, ger y llan. Yn lle aros gartref ym Mhen y Bryn i amaethu ac i +fugeila wedi gadael yr ysgol, trodd tua Chroesoswallt yn 1848, i swyddfa +argraffydd. Oddiyno, yn 1849, aeth i Fanceinion; ac yno y bu nes y daeth +ei enw yn adnabyddus trwy Gymru. Deffrowyd ei awen gan gapel, a +chyfarfod llenyddol, a chwmni rhai, fel Idris Vychan, oedd yn rhoddi pris +ar draddodiadau ac alawon Cymru. + +Yn 1858 yr oedd yn adrodd rhannau o’i gân fuddugol,—“Myfanwy Fychan,”—yn +Eisteddfod Llangollen, am y mynydd a’i gartref. Yn 1860 cyhoeddwyd ei +“Oriau’r Hwyr;” daeth hwn ar unwaith yn un o’r llyfrau mwyaf poblogaidd +yng Nghymru. Yn 1861 priododd un o rianod gwlad Ceiriog. Yn 1862 +cyhoeddwyd ei “Oriau’r Bore,” lle mae ei awen ar ei thlysaf ac ar ei +grymusaf. O hynny hyd ddiwedd ei oes, daliodd i ganu. Y mae dros chwe +chant o’i ganeuon wedi dod a llawenydd i galon miloedd o Gymry, ac ambell +un ddeigryn i lawer llygad. + +Yn 1865, daeth Ceiriog yn orsaf feistr i Lanidloes. Aeth oddiyno i Dowyn +yn 1870, oddiyno i Drefeglwys yn 1871, ac oddiyno i Gaersws yn yr un +flwyddyu. Yno y bu farw, Ebrill 23ain, 1887. Treuliodd ei febyd, felly, +yn Nyffryn Ceiriog, rhan ganol ei oes ym Manceinion, a’r rhan olaf ym +mlaen Dyffryn yr Hafren. + +Trwy’r blynyddoedd yr oedd tri pheth yn agos iawn at ei +galon,—llenyddiaeth Cymru, yr Eisteddfod, ac addysg Cymru. Yr oedd yn +hoff o Ddafydd ab Gwilym; yr oedd ganddo gariad greddfol at y naturiol +a’r cain. Yr oedd ei fryd ar ddiwygio’r Eisteddfod, ac ar ei gwneyd yn +allu cenhedlaethol. Hiraethai am ddadblygiad cyfundrefn addysg, ac +ymfalchiai yng Ngholeg Prifysgol Cymru. Un o wir feibion y mynyddoedd +oedd. + + * * * * * + +Wrth drefnu’r gyfrol hon, ceisiais ddewis darnau perffeithiaf Ceiriog, +gan adael allan bopeth lle na welir y bardd ar ei oreu. Y canlyniad ydyw +hyn,—dewiswn, er fy ngwaethaf, y dwys a’r tyner yn ei awen, ac nid y +digrif. I’r dwys y rhoddodd Ceiriog fwyaf o’i enaid, ac ymarllwysiad +teimlad ei oriau pruddaf yw ei ganeuon goreu. + +Dymunwn ddiolch yn gynnes i’r Mri. Hughes am gyhoeddi y gyfrol hon imi. +Y mae ganddynt hwy hawl ar y rhan fwyaf o lawer o’r caneuon sydd yn y +gyfrol. Ni buaswn yn gofyn iddynt gyhoeddi y pigion hyn, oni buasai fy +mod yn gwybod y codir awydd ymysg llawer i brynnu y ddwy gyfrol brydferth +gyhoeddwyd yn ystod bywyd Ceiriog, a than ei ofal, ganddynt hwy. + +Ceiriog, yn ddiameu, yw bardd telynegol mwyaf Cymru. Y mae ei +naturioldeb syml a’i gydymdemlad dwys wedi rhoi swyn anfarwol i’w gân. +Nid oes telyn yn yr un bywyd na chyffyrdda Ceiriog â rhai o’i thannau. +Tra aber yn rhedeg yn loew dros raian mân, a thra bo gwrid mwyn yn hanner +gyfaddef serch, ca’r galon ddynol fwynhad a nerth o ganeuon Ceiriog. + +“Alun Mabon” yw ei gampwaith. Y mae miwsig hen alawon yn yr odlau; y mae +bywyd y bugail yma yn ei bryder a’i fwynder. Ynddo darlunia Ceiriog ei +fywyd ei hun, a bywyd pob mynyddwr. + +“Ond bugeiliaid ereill sydd ar yr hen fynyddoedd hyn.” Nid teulu Ceiriog +sydd yn byw ym Mhen y Bryn yn awr. Ym mynwent Llanwnog, ger Caersws, +ymysg y bryniau hanesiol mud, y rhoddwyd y prydydd i huno. Ar groes ei +fedd y mae ysgrif syml, ac englyn o’i waith ei hun,— + + ER + + COF AM + + JOHN CEIRIOG HUGHES, + + A ANWYD MEDI 25, + + 1832, + + A FU FARW EBRILL 23, + + 1887. + + Carodd eiriau cerddorol,—carodd feirdd, + Carodd fyw ’n naturiol; + Carodd gerdd yn angerddol, + Dyma ’i fedd,—a dim lol. + + OWEN M. EDWARDS. + +_Rhydychen_, + _Mawrth_ 1, 1902. + + [Picture: Decorative graphic of birds] + + + + +Cynhwysiad. + +Nant y Mynydd 9 +Meddyliau am y Nefoedd 10 +Mae John yn mynd i Loegr 11 +Bugail yr Hafod 12 +Ti wyddost beth ddywed fy nghalon 13 +Y fenyw fach a’r Beibl mawr 15 +Dychweliad y Cymro 16 +Addfwyn fiwsig 17 +Y Carnadau 17 +Bugeilio’r Gwenith Gwyn 18 +Mae’n Gymro byth 19 +Mi welaf mewf adgof 20 +Dim ond unwaith 20 +Y march ar gwddw brith 21 +Y Ferch o’r Scer 22 +Pa le mae’r hen Gymry 23 +Maes Crogen 24 +Tros y Garreg 25 +Bardd yn ei Awen 26 +Codiad yr haul 27 +Llongau Madog 28 +Serch Hudol 29 +Breuddwyd y Bardd 30 +Corn y Gad 32 +Dafydd y Garreg Wen 34 +Toriad y Dydd 35 +Yr Eneth Ddall 36 +Codiad yr Hedydd 37 +Ar hyd y Nos 38 +Morfa Rhuddlan 38 +Dim ond dechreu 39 +Difyrrwch Gwyr Harlech 40 +Trot y Gaseg 41 +Llances y Dyffryn 42 +Yn Ynys Mon 43 +Cadlef Morgannwg 45 +Mwyn yw myned tua Mon 46 +Hun Gwenllian 47 +Ar ddôl pendefig 48 +A laeswn ni ddwylaw 48 +Llwybr y Pererin 49 +Bedd Llywelyn 49 +A ddywedaist ti fod Cymru ’n dlawd 50 +Peidiwch byth a dwedyd hynny 51 +Dydd trwy ’r ffenestr 52 +Cerddi Cymru 52 +I gadw ’r hen wlad 53 +Myfi sy’n magu ’r baban 54 +Tua Thegid dewch 55 +Hen gwrwg fy ngwlad 56 +Pob rhyw seren fechan wenai 57 +Claddedigaeth Morgan Hen 58 +Myfanwy 59 +Gofidiau Serch 61 +Wrth weld yr haul yn machlud 62 +Y fodrwy briodasol 63 +O weddi daer 64 +Y baban diwrnod oed 65 +Y fam ieuanc 67 +Ceisiais drysor 68 +Y fynwent yn y coed 69 +Claddasom di, Elen 70 +Annie Lisle 71 +Y defnyn cyntaf o eira 72 +Cavour 72 +Y milwr na ddychwel 73 +Garibaldi a charcharor Naples 76 +Glogwyn anwyl 77 +Ffarwel iti, Gymru fad 79 +Tros un o drumiau Berwyn 80 +Dychweliad yr hen filwr 81 +Trwy wledydd dwyreiniol 84 +Y Garreg Wen 85 +Tuag adre 87 +Beibl fy mam 88 +Alun Mabon 89 + + + + +Y Darluniau. + + + [Picture: Decorative graphic of cow and windmill] + +J. CEIRIOG HUGHES. O’r “Oriel Gymreig.” _Wyneb-ddarlun_. + + Tynnwyd y darlun hwn gan Mr. J. Thomas + (_Cambrian Gallery_), yng ngardd Ceiriog yn + Llanidloes, yn haf 1867 +NANT Y MYNYDD. S. M. Jones. _I wynebu tud_ 17 + + “Nant y Mynydd, groew, loew, + Yn ymdroelli tua’r pant.” +CASTELL DINAS BRAN. S. M. Jones. _I wynebu tud_ 41 + + “Mewn derwen agenwyd gan follt + Draig-fellten wen-lachar ac erch.” +DERW’R LLWYN. S. M. Jones. _I wynebu tud_ 64 + + “Wyt ti’n cofio’r lloer yn codi + Dros hen dderw mawr y llwyn?” +MYNYDDOEDD CYMRU. S. M. Jones. _I wynebu tud_ 89 + + “Aros mae’r mynyddoedd mawr, + Rhuo trostynt mae y gwynt.” + + + + +NANT Y MYNYDD. + + + NANT Y MYNYDD, groew, loew, + Yn ymdroelli tua’r pant; + Rhwng y brwyu yn sisial ganu, + O na bawn i fel y nant. + + Grug y Mynydd yn eu blodau, + Edrych arnynt hiraeth ddug + Am gael aros ar y bryniau + Yn yr awel efo’r grug. + + Adar mân y mynydd uchel, + Godant yn yr awel iach; + O’r naill drum i’r llall yn hedeg— + O na bawn fel deryn bach. + + Mab y Mynydd ydwyf innau, + Oddicartref yn gwneyd cân, + Ond mae’m calon yn y myuydd + Efo’r grug a’r adar mân. + + + + +MEDDYLIAU AM Y NEFOEDD. + + +Y mae y tri phennill hyn mewn rhan yn wreiddiol, ac mewn rhan yn +gyfieithiedig. + + DAW meddyliau am y nefoedd + Gydag awel wan y nawn, + Gyda llanw’r môr fe ddeuant, + Gan lefaru ’n felus iawn; + Pan fo ’r mellt fel ser yn syrthio, + Yn y storm gynhyrfus, gref— + Pan fo ’r llong yn teimlo ’r creigiau, + Daw meddyliau am y nef. + + Daw meddyliau am y nefoedd, + I unigedd fforest goed, + Ac i’r anial, lle nas tyfodd + Un glaswelltyn bach erioed. + Ar fynyddau ’r ia tragwyddol, + Ac ar greigiau llymion, lle + Bydd eryrod yn gorffwyso, + Daw meddyliau am y ne. + + Daw meddyliau am y nefoedd + I ynysig leia ’r aig, + Lle mae ’r don yn gosod coron + Gwrel wen ar ben y graig; + Trwy holl gyfandiroedd daear, + Glynnoedd dwfn, a bryniau ban, + Pur feddyliau am y nefoedd + Ddont eu hunain i bob man. + + + + +MAE JOHN YN MYND I LOEGER. + + +Y mae hen dôn wladol o’r enw _Gofid Gwynan_, ac un led dlos ydyw ar y +cyfan, ond nid i gyd felly. Ysgrifennwyd y geiriau canlynol i’w canu +arni, ond nid ydynt yn ymbriodi â’r alaw mor hapus ag y dymunwn. Dymunwn +ddyweyd am y gân ganlynol, mai ychydig iawn o ddychymyg sydd ynddi, ond +fy mod yn dyweyd fy mhrofiad oreu gallwn. + + MAE John yn mynd i Loeger, + A bore fory ’r a; + Mae gweddw fam y bachgen + Yn gwybod hynny ’n dda; + Wrth bacio ’i ddillad gwladaidd, + A’u plygu ar y bwrdd, + Y gist ymddengys iddi, + Fel arch ar fynd i ffwrdd. + + Mae ef yn hel ei lyfrau, + I’r gist sydd ar y llawr; + Yn llon gan feddwl gweled + Gwychderau ’r trefydd mawr. + Nis gwel e ’r deigryn distaw + Ar rudd y weddw drist; + Na ’r Beibl bychan newydd + A roddwyd yn y gist. + + Yn fore, bore drannoeth, + Pan gysgai ’r holl rai bach; + Wrth erchwyn y gwelyau + Mae John yn canu ’n iach. + Carasai aros gartref, + Ond nid oedd dim i’w wneyd— + Fe gawsai aros hefyd, + Pe b’asai ’n meiddio dweyd. + + I gwrdd y tren boreuol, + Cyn toriad dydd yr a,— + “Ffarwel, fy mhlentyn anwyl, + O bydd yn fachgen da! + Y nef a’th amddiffynno, + Fy machgen gwyn a gwiw; + Paid byth anghofio ’th gartref, + Na ’th wlad, na ’th iaith, na’ th Dduw.” + + + + +BUGAIL YR HAFOD. + + + ALAW,—_Hobed o Hilion_. + + PAN oeddwn i’n fugail yn Hafod y Rhyd, + A’r defaid yn dyfod i’r gwair a’r iraidd ŷd; + Tan goeden gysgodol mor ddedwydd ’own i, + Yn cysgu, yn cysgu, yn ymyl trwyn fy nghi; + Gwelaf a welaf, af fan y fynnaf, + Yno mae fy nghalon, efo hen gyfoedion + Yn mwynhau y maesydd a’r dolydd ar hafddydd ar ei hyd. + + Pan oeddwn i gartref, fy mhennaf fwynhad + Oedd naddu a naddu ar aelwyd glyd fy nhad; + Tra ’m chwaer efo ’i hosan a mam efo carth, + Yn nyddu, yn nyddu, ar garreg lân y barth, + Deued a ddeuo, anian dynn yno, + Hedaf yn fy afiaeth ar adenydd hiraeth + I’r hen dŷ, glangynnes, dirodres, adewais yn fy ngwlad. + + Mae’r wennol yn crwydro o’i hannedd ddilyth, + Ond dychwel wna’r wennol yn ol i’w hanwyl nyth; + A chrwydro wnawn ninnau ymhell ar ein hynt, + Gan gofio ’r hen gartref chwareuem ynddo gynt. + Pwyso mae adfyd, chwerwi mae bywyd, + Chwerwed ef a chwerwo, melus ydyw cofio + Annedd wen dan heulwen yr awen a wena arnom byth. + + + + +TI WYDDOST BETH DDYWED FY NGHALON. + + +Achlysurwyd y penillion hyn gan eiriau ymadawol mam yr awdwr, pan oedd hi +yn dychwelyd i Gymru, ar ol talu ymweliad iddo. + + YN araf i safle ’r gerbydres gerllaw, + Y rhodiai fy mam gyda’i phlentyn; + I waelod ei chalon disgynnodd y braw, + Pan welai y fan oedd raid cychwyn. + Ymwelwodd ei gwefus—ei llygaid droi ’n syn, + Rhy floesg oedd i roddi cynghorion; + Fe’i clywais er hynny yn sibrwd fel hyn,— + “Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.” + + Canfyddodd fy llygad mewn dagrau ’n pruddhau, + Gwir ddelw o’i llygad ei hunan; + Hyn ydoedd am ennyd fel yn ei boddhau, + Er nad fy nhristau oedd ei hamcan. + Ond er fod cyfyngder yr ennyd yn gwneyd + Atalfa ar ffrwd o gysuron, + Mudanrwydd rodd gennad i’w hanadl ddweyd,— + “Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.” + + Nid son am gynllwynion y diafol, a’i fryd, + Er ennill ieuenctid i’w afael— + Nid son am ffolineb, a siomiant y byd, + Yr ydoedd pan oedd yn fy ngadael; + Dymunai ’n ddiameu bob lles ar fy nhaith, + Trwy fywyd i fyd yr ysbrydion; + Ond hyn oedd yr oll a ddiangodd mewn iaith,— + “Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.” + + I eiriau dirmygus, dieithrol nid wyf, + Mi wn beth yw llymder gwatwariaeth; + Y munud diffygiwn dan loesion eu clwyf, + Yn nesaf dro’i oll, yn ddieffaith + Do, clywais hyawdledd—er teimlo ei rym, + Mewn effaith ni lŷn ei rybuddion; + Ond hyn gan dynerwch fyth erys yn llym,— + “Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.” + + Mae ysbryd yr oes megis chwyddiad y môr, + Yn chware â chreigiau peryglon; + O’m amgylch mae dynion a wawdiant Dduw Ior, + Wyf finnau ddiferyn o’r eigion; + Fy nghamrau brysurant i ddinistr y ffol, + Ond tra ar y dibyn echryslon + Atelir fi yno gan lais o fy ol,— + “Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.” + + Pe gwelwn yn llosgi ar ddalen y nef, + Y tanllyd lythrennau “NA PHECHA;” + Pe rhuai taranau pob oes yn uu llef— + “Cyfreithiau dy Dduw na throsedda;” + Pe mellten arafai nes aros yn fflam, + I’m hatal ar ffordd anuwiolion, + Anrhaethol rymusach yw awgrym fy mam,— + “Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.” + + + + +GWYN, GWYN YW MUR. + + + GWYN, gwyn yw mur y bwthyn ar y bryn, + O’i bared tŷf rhosynau coch a gwyn; + Tu allan, hardd a pharadwysaidd yw— + Tu fewn mae’r ferch, fy nghariad wen, yn byw. + + + + +Y FENYW FACH A’R BEIBL MAWR. + + +[Mae y gân hon yn un a gerir gennyf fi tra byddaf byw, am fy mod wedi +digwydd ei chyfansoddi rhwng 9 a 10 o’r gloch, boreu Ebrill y 3ydd, 1859. +Boreu trannoeth derbyniais lythyr ymylddu o Gymru, yn dwyn imi y newydd +fod fy anwyl dad wedi cau ei lygaid ar y byd hwn, _ar y dydd a’r awr +grybwylledig_.—J. C. H.] + + DISGYNNAI ’r gwlaw, a gwynt y nos + A ruai yn y llwyn; + Pan oedd genethig dlawd, ddifam, + Yn dal ei chanwyll frwyn; + Wrth wely ei chystuddiol dad, + A’i gliniau ar y llawr, + Gan dynnu ’r wylo iddi’ hun, + A darllen y Beibl mawr. + + Disgynnai ’r gwlaw a gwynt y nos + Gwynfanai am y dydd, + A llosgi ’r oedd y ganwyll frwyn + Uwchben y welw rudd; + A gwylio ’r oedd y fenyw fach + Ei thad o awr i awr, + Gan dorri mewn gweddiau taer, + A darllen y Beibl mawr. + + Disgynnai ’r gwlaw, a gwynt y nos + Dramwyai drumiau ’r wlad, + A chwsg a ddaeth i esmwythâu + Ei chystuddiedig dad; + Ond pa fath gwsg, nis gwyddai hi, + Nes dwedai ’r oleu wawr, + Ei fod ef wedi mynd i’r nef, + Yn swn yr hen Feibl mawr. + + Disgynna ’r gwlaw, ac eto ’r gwynt + A rua yn y llwyn, + Uwchben amddifad eneth dlawd, + Tra deil ei chanwyll frwyn; + Ar ol ei thad, ar ol ei mham, + Ei chysur oll yn awr + Yw plygu wrth eu gwely hwy, + A darllen y Beibl mawr. + + + + +DYCHWELIAD Y CYMRO I’W WLAD EI HUN. + + + O HINSAWDD i hinsawdd mi grwydrais yn hir, + O rewdir y Gogledd i Itali dlos: + Am danat ti Walia, ar fôr ac ar dir, + Hiraethais y dydd a breuddwydiais y nos. + Cyfeiriais fy nghamrau i’r ardal hoff hon, + Ar gopa Clawdd Offa gosodais fy nhraed; + Daeth awel y mynydd fel gwin i fy mron, + A golwg ar Gymru gynhesodd fy ngwaed, + A golwg ar Gymru gynhesodd ngwaed. + + Ar dywod yr anial bu ôl fy nau droed, + Mi deithiais yn oerfel a phoethder yr hin; + O’r fro lle nas tyfodd glaswelltyn erioed, + I wledydd y mêl a gwinllanoedd y gwin; + Yng Nghymru parhaodd fy nghalon o hyd, + Anwylach a harddach oedd hen Walia wen; + Mi groesais y môr i eithafoedd y byd: + Ond croesais yr Hafren i orffwys fy mhen, + Yng nghartref fy nhadau gorffwysaf fy mhen. + + [Picture: “Nant y Mynydd, groew, loew,
Yn ymdroelli tua’r pant.” Tud + 9] + + + + +ADDFWYN FIWSIG. + + + ADDFWYN Fiwsig, addfwyn Fiwsig, + Gwenferch gwynfa ydwyt ti; + Pan anedli, adfywiedig + Awel haf ddaw atom ni. + Gauaf du helbulon, + Droi yn ha; + Danat rhew y galon, + Toddi wna, toddi wna. + Dafnau melus bro gogoniant, + Yn dy lafar di ddisgynnant; + Blodau Eden yn ddiri’, + Dyfant, wenant, beraroglant, + Yn dy lais a’th wyddfod ti. + Nefol ferch ysbrydoledig, + Ti sy ’n puro ’r fron lygredig, + Ti sy ’n llonni ’r cystuddiedig. + Addfwyn Fiwsig, addfwyn Fiwsig + Gwenferch gwynfa ydwyt ti. + + + + +Y CANIADAU. + + +Nid oes gennyf fawr o bleser gydag ysgrifennu un math o farddoniaeth +heblaw caneuon bychain o’r fath hyn. Fy mhlant fy hun ydyw’r Caniadau. +Dymuniad fy nghalon a balchder fy mynwes ydyw eu dwyn i fyny yn blant da. +Wrth adael i rai ddawnsio mewn plentynrwydd, ac i’r lleill chwerthin ac +ysmalio, caiff nifer o honynt gadw carwriaeth ac eraill ganu hen alawon +eu brodir. Caiff bechgyn weithio yn y graig, a bugeilio ar y mynydd, a +phan fydd dolefiad corn y gâd yn galw, fe’u cyfeiriaf i faes y frwydr i +amddiffyn eu cartref, ac i farw’n ddewr tros Ryddid eu mamwlad. Yn nesaf +at ofni Duw ac anrhydeddu y brenin, cant garu eu gwlad a meddwl yn dda am +eu hiaith a’u cenedl. + + + + +BUGEILIO ’R GWENITH GWYN. + + + ALAW,—_Bugeilio ’r gwenith gwyn_. + + EISTEDDAI merch ar gamfa’r cae, + A’i phen gan flodau ’n dryfrith, + I gadw ’r adar bach ffwrdd + Rhag disgyn ar y gwenith. + Rho’i ganiatad i’r deryn to, + A’r asgell fraith gael disgyn; + Rhag ofn ei fod yn eos fach, + A dyna deimlad plentyn. + + Pan welot tithau eneth wan, + Yn gofyn am dy gymorth: + Wrth gil y drws, a glywi di, + Mo ymbil chwaer am ymborth? + Os wyt am fendith ar dy faes, + Gogwydda glust i’w gweddi; + Yr oedd yr haul, a’r gwlith, a’r gwlaw, + Yn meddwl am roi iddi. + + Os wyt am fedi gwenith gwyn, + Gofala beth a heui; + A wyt ti’n hau y dyddiau hyn + Yr hyn ddymunet fedi? + Tra gwelot wlith a gwlaw y nen, + A’r heulwen yn haelionus; + Wel dos i hau ar dir y tlawd, + A chofia’th frawd anghenus. + + + + +MAE’N GYMRO BYTH. + + + ALAW,—_O Gylch y Ford Gron_. + + MAE’N Gymro byth pwy bynnag yw, + A gâr ei wlad ddinam; + Ac ni fu hwnnw ’n Gymro ’rioed, + A wado fro ei fam. + Aed un i’r gâd a’r llall i’r môr, + A’r llall i dorri mawn; + A chario Cymru ar ei gefn + A wnaiff y Cymro iawn. + + _Cydgan_: Does neb yn caru Cymru ’n llai, + Er iddo grwydro ’n ffol; + Mae calon Cymro fel y trai + Yn siwr o ddod yn ol. + + Er mynd ymhell o Walia Wen, + A byw o honi ’n hir, + Ac er i’r gwallt claerdduaf droi + Yn wyn mewn estron dir, + Mae ’r cof am dad a mam yn mynd + I’r bwthyn yn y ddôl, + A chlychau mebyd yn y glust + Yn galw galw ’n ol. + + Enilled aur ac uchel glod, + Mewn gwlad o win a mêl; + Aed yn ei longau ar y môr, + Er maint o’r byd a wêl; + Wrth edrych ar fachludiad haul + A gwylio ser y nos, + Bydd clychau arian yn y gwynt + Yn son am Gymru dlos. + + + + +MI WELAF MEWN ADGOF. + + + ALAW,—_Difyrrwch Arglwyddes Owen_. + + MI welaf mewn adgof hen ysgol y Llan, + A’r afon dryloew yn ymyl y fan: + O’m blaen mae pob carreg yn rhedeg yn rhes, + A’r coedydd gysgodent fy mhen rhag y gwres. + Yng nghanol eu cangau mae telyn y gwynt, + Yn eilio ’r hen alaw a ganwn i gynt; + Rwy ’n teimlo fy nhalcen dan heulwen yr haf, + A ’nghalon yng Ngwalia ple bynnag yr af. + + Rwy’n gweled y defaid a’r ŵyn ar y bryn, + Rwy ’n gweled gwynebau sy ’ngwaelod y glyn; + Rwy’n clywed rhaiadrau yn adsain o draw, + Ar mawrwynt yn erlid y cenllysg ar gwlaw. + O sued yr awel, a rhued y don, + Beroriaeth adgofion yn lleddf ac yn llon, + Boed cwpan dedwyddyd yn wag neu yn llawn, + Yng Ngwalia mae ’r galon ple bynnag yr awn. + + + + +DIM OND UNWAITH YN Y FLWYDDYN. + + + DIM ond unwaith yn y flwyddyn, + Awn i fyny ’r cymoedd cain; + Awn i ogli ’r peraidd borwellt + Llysiau ’r mêl a blodau ’r drain. + Dim ond unwaith yn y flwyddyn + Gwena ’r ddaear oll fel gardd; + Awn aan dro, tua bryniau ’n bro + Dim ond unwaith yn y flwyddyn, + Pwy na chwery, pwy na chwardd? + + + + +Y MARCH A’R GWDDW BRITH. + + + ALAW,—_Y Gadlys_. + + CARADOG eilw ’i ddeiliaid, + Ag udgorn ar ei fant; + Fe ruthrodd y Siluriaid, + Cwympasant yn y pant. + Enciliodd arwyr enwog, + Ond ar y march a’r gwddw brith + Fe ddaw ’r frenhines deg i’w plith + I edrych am Garadog. + + Mae cynnwrf yn y ceunant, + Ar derfyn dydd y gad; + A dynion dewr orweddant, + I farw tros eu gwlad. + Yr afon foddodd fyddin, + Ond ar y march a’r gwddw brith, + Fe ddaw ’r frenhines deg i’w plith, + I edrych am y brenin. + + Fe welodd y Rhufeiniaid + Y march a’r gwddw brith; + Ond gwelodd y Brythoniaid + Frenhines yn eu plith. + Mae ’r corn yn ail-udganu, + Brythoniaid yn eu holau drônt, + Rhufeiniaid yn eu holau ffônt, + O flaen cleddyfau Cymru. + + + + +Y FERCH O’R SCER. + + +Dywedir fod Merch y Scer yn ddarpar gwraig i’r telynor am rai blynyddau, +ond gan iddo trwy ryw ddamwain golli ei olwg, fe berswadiwyd y llances +gan ei pherthynasau a chan ei theimladau ei hun i roi pen ar y +garwriaeth. Gwnaed y dôn gwynfanus a phrydferth hon gan y telynor i +arllwys allan ei siomedigaeth a’i ofid. + + ALAW,—_Y Ferch o’r Scer_. + + ’R wyf yn cysgu mewn dallineb + Ganol dydd a chanol nos; + Gan freuddwydio gweled gwyneb + Lleuad wen a seren dlos. + Tybio gweld fy mam fy hunan— + Gweld yr haul yn danbaid dêr; + Gweld fy hun yn rhoddi cusan + I fy chwaer a Merch y Scer. + + Gwresog ydyw’r haul gwyneblon, + Oer, ond anwyl, ydyw ’r ser; + Gwres oer felly yn fy nghalon + Bâr adgofion Merch y Scer. + Mae fy mam a’m chwaer yn dirion, + Yn rhoi popeth yn fy llaw; + Merch y Scer sy ’n torri ’m calon, + Merch y Scer sy ’n cadw draw. + + Cariad sydd fel pren canghennog, + Pwy na chara Dduw a dyn? + Cangen fechan orflodeuog + Ydyw cariad mab a mun. + O! ’r wy’n diolch ar fy ngliniau, + Am y cariad pur di-ball; + Cariad chwaer sy ’n cuddio beiau— + Cariad mam sy’n caru ’r dall. + + + + +PA LE MAE’ R HEN GYMRY? + + +Bernid unwaith, nid yn unig gan Gymru hygoel, ond gan yr holl deyrnas, +fod llwyth o Indiaid Cymreig yn preswylio parth o’r America ar gyffiniau +yr afon Missouri, ac mai y Padoucas neu y Mandanas oeddynt. Y mae yr +hanes am JOHN EVANS o’r Waunfawr, yn Arfon, yn hynod effeithiol. +Cenhadwr ieuanc, llawn o ysbryd gwladgarol ac o sêl grefyddol ydoedd ef. +Ymgymerodd â’r gorchwyl mawr o fyned i eithafoedd America, i chwilio am +ddisgynyddion Madog, ac i bregethu yr efengyl iddynt. Dilynodd John +Evans yr afon Missouri am 1,600 o filldiroedd, ond tarawyd ef â’r dwymyn, +a bu farw, ymhell o’i fro enedigol, ac mor bell ag erioed oddiwrth yr +Indiaid Cymreig. Y mae pedwar ugain mlynedd er hynny, ac y mae ein barn, +gan mwyaf, wedi cyfnewid o barth i fodolaeth bresennol disgynyddion Madog +ap Owen Gwynedd. Gweler draethawd Thomas Stephens, Ysw., Merthyr Tydfil, +ar y mater. Y mae amcan mawreddus, ynni anturiaethus, taith +aflwyddiannus, a diwedd torcalonnus y Cymro ieuanc hwn yn hynod +darawiadol. + + ALAW,—_Llwyn Onn_. + + MAE ’R haul wedi machlud, a’r lleuad yn codi, + A bachgen o Gymru yn flin gan ei daith; + Yn crwydro mewn breuddwyd, ar lan y Missouri, + I chwilio am lwyth a lefarent ein hiaith. + Ymdrochai y ser yn y tonnau tryloewon, + Ac yntau fel meudwy yn rhodio trwy i hun; + “Pa le mae fy mrodyr?” gofynnai i’r afon + “Pa le mae ’r hen Gymry, fy mhobol fy hun?” + + Fe ruai bwystfilod, a’r nos wnai dywyllu, + Tra ’r dwfr yn ei wyneb a’r coed yn ei gefn; + Yng nghaban y coediwr fe syrthiodd i gysgu, + Ac yno breuddwydiodd ei freuddwyd drachefn. + Fe welai Frythoniaid, Cymraeg wnaent lefaru, + Adroddent eu hanes, deallai bob un. + Deffrôdd yn y dwymyn, bu farw gan ofyn, + “Pa le mae ’r hen Gymry, fy mhobol fy hun?” + + + + +MAES CROGEN BORE TRANOETH. + + +Ar y ffordd rhwng y Waun a Glynceiriog, y mae tŷ fferm mawr, o’r enw +Crogen Iddon. Bu brwydr dost yn yr ardal hon yn 1164, rhwng y Cymry, tan +arweiniad Owen Gwynedd, a Harri II. Y mae ôl ei wersyll mewn amryw +fannau ar yr Orsedd Wen, Bwrdd y Brenin—ac ar ran o’r mynydd perthynol +i’r amaethdy y’m ganwyd ac y’m magwyd i. + + ALAW,—_Y Fwyalchen_. + + Y FRWYDR aeth trosodd o’r diwedd, + A baeddwyd y gelyn yn llwyr; + A’r ser edrychasant ar Wynedd, + A’r bore ddilynodd yr hwyr. + ’R oedd yno ieuenctid yn gorwedd, + Am sefyll tros Wynedd yn bur— + Yn fore daeth mamau a gwragedd, + I chwilio am feibion a gwŷr. + + Fe ganai mwyalchen er hynny, + Mewn derwen ar lannerch y gâd; + Tra ’r coedydd a’r gwrychoedd yn lledu, + Eu breichiau tros filwyr ein gwlad. + Gorweddai gŵr ieuanc yn welw, + Fe drengodd bachgennyn gerllaw; + Tra i dad wrth ei ochor yn farw, + A’i gleddyf yn fyw yn ei law. + + Gan frodyr, chwiorydd, a mamau, + Fe gasglwyd y meirwon ynghyd; + Agorwyd y ffos ac fe ’i cauwyd, + Ond canai ’r Fwyalchen o hyd. + Bu brwydyr Maes Crogen yn chwerw, + Gwyn fyd yr aderyn nas gŵyr + Am alar y byw am y meirw, + Y bore ddilynodd yr hwyr. + + + + +TROS Y GARREG. + + +Pan y bydd llanciau a merched sir Feirionnydd mewn llefydd rhwng Bwlch +Llandrillo a Chlawdd Offa, soniant yn fynych am fyned am dro i sir +Feirionnydd, tros Garreg Ferwyn a thros y Bwlch. Awgrymwyd y gân hon gan +lodes oedd yn myned ag arian i helpu ei mam dalu y rhent am y tŷ bychan +lle y ganwyd ac y bu farw ei thad. + + ALAW,—_Tros y Garreg_. + + FE ddaw wythnos yn yr haf, + Gweled hen gyfeillion gaf; + Tros y mynydd + I Feirionnydd, + Tros y Garreg acw ’r af. + Ar y mynydd wele hi, + Draw yn pwyntio ataf fi; + Fyny ’r bryn o gam i gam, + Gyda ’m troed fy nghalon lam; + Af ag anrheg + Tros y Garreg + I fy unig anwyl fam. + + Fe gaf chware ar y ddôl, + Fe gaf eistedd ar y ’stol, + Wrth y pentan, + Diddan, diddan, + Tros y Garreg af yn ol. + Pan ddaw ’r wythnos yn yr haf, + O fel codaf ac yr af, + Fyny ’r bryn o gam i gam, + Gyda ’m troed fy nghalon lam; + Af ag anrheg + Tros y Garreg + I fy unig anwyl fam. + + + + +BARDD YN EI AWEN. + + +Mae llawer eraill o ddulliau yn bod ar y mesur hwn, ond nid wyf yn +alluog, oddiwrth yr engreifftiau sydd gennyf, i roi barn nac opiniwn pa +un o’r amryw fathau yw y mwyaf dewisol. Y mae y dôn yn ddigon ystwyth ac +ufudd, modd bynnag, i addasu ei hun at y cyfan. Efallai + + Nad oes faws na dwys fesur + O un baich i hen dôn bur, + +mwy nag i awen. + + ALAW,—_Bardd yn ei Awen_. + + MAE Bardd i ddod ryw ddydd, + A brenin-fardd ein bryniau fydd, + Fe ddaw i Gymru lân; + Ei wlad a glyw ei lef, + A ni a phawb a’i hoffwn ef, + Pan gwyd pen gawr y gân; + Fe aiff i ddwyfol fan, + Yn nghiliau dwfn hen galon dyn: + Am Hedd fe gân o hyd, + Fod angel Hedd yn hel ynghyd, + Enwadau ’r byd yn un. + + Fe ddaw y Bardd i’r byd, + A’i gân i ben, O! gwyn eu byd + Y dorf a wêl y dydd; + Pwy wêl y bore gwyn, + Ac heulwen deg cyflawniad hyn, + Y fath gyfundeb fydd! + Daw bardd i fysg ein plant, + I daro tant yn natur dyn; + Am Hedd fe gân o hyd, + Fod angel Hedd yn hel ynghyd + Enwadau ’r byd yn un. + + + + +CODIAD YR HAUL. + + +Mae yr alaw hon yn fwy addas feallai i’w chanu ar offeryn na chyda llais, +oblegid ei bod mor gyflym, nes y mae synwyr, barddoniaeth geiriau, ac +odlau yn cael llithro trostynt o’r bron heb eu cyffwrdd. Yr oedd Handel +yn gydnabyddus iawn gyda’r hen donau Cymreig, ac fe ddefnyddiodd hon yn +ei _Acis and Galatea_. Yr oedd cyfaill o Sais un tro yn chware yr alaw o +dan fy nghronglwyd, ac wedi myned unwaith neu ddwy tros y dôn, pan +waeddodd allan tros ei ysgwydd, “Ai tôn Gymreig y galwch chwi hon? Tôn o +waith Handel yn dôn Gymreig!” Yr oedd yn dda gennyf gael cyfleustra i +esbonio iddo. + + ALAW,—_Codiad yr Haul_. + + GWEL, gwel! wyneb y wawr, + Gwenu mae y bore-gwyn mawr: + Ac wele’r Haul trwy gwmwl rhudd, + Yn hollti ei daith gan dywallt Dydd! + I’w ŵydd adar a ddônt, + Dreigiau ’r Nos o’i olwg a ffônt. + Pwy ddwed hardded ei rudd, + Wyched yw gwynfreichiau Dydd! + Try y môr yn gochfor gwaed, + A’r ddaear dry o dan ei draed, + A’r ddaear dry o dan ei draed. + + Haul, Haul! hyfryd yw Haul, + Gwyneb Hedd yw gwyneb yr Haul: + I fyrdd y dysg fawredded yw + Y gwynwedd dân gyneuodd Duw! + I’w daith’ fyny y daw, + Llygaid dydd a’i gwelant ef draw; + Egyr pob blaguryn byw, + Ar rôs a gwaun yn rhesi gwiw— + Gwel pob peth wyn haul y nen, + E’ gŵyd y byd pan gŵyd ei ben, + E’ gŵyd y byd pan gŵyd ei ben. + + + + +LLONGAU MADOG. + + + ALAW,—Difyrrwch y Brenin. + + WELE’N cychwyn dair ar ddeg, + O longau bach ar fore teg; + Wele Madog ddewr ei fron, + Yn gapten ar y llynges hon. + Mynd y mae i roi ei droed, + Ar le na welodd dyn erioed: + Antur enbyd ydyw hon, + Ond Duw a’i dal o don i don. + + Ser y nos a haul y dydd, + O gwmpas oll yn gwmpawd sydd; + Codai corwynt yn y De, + A chodai ’r tonnau hyd y ne; + Aeth y llongau ar eu hynt, + I grwydro ’r môr ym mraich y gwynt; + Dodwyd hwy ar dramor draeth, + I fyw a bod er gwell er gwaeth. + + Wele’n glanio dair ar ddeg, + O longau bach ar fore teg: + Llais y morwyr glywn yn glir, + ’R ol blwydd o daith yn bloeddio “_Tir_!” + Canent newydd gân ynghyd, + Ar newydd draeth y newydd fyd— + Wele heddwch i bob dyn, + A phawb yn frenin arno ’i hun. + + + + +SERCH HUDOL. + + + ALAW,—Serch Hudol. + + SERCH Hudol swyn, + Sy’n llanw ’r llwyn, + Pan fo myrdd o adar mwyn, + Yn canu yn y coed. + Mae anian oll yn canu ’nghyd, + ’D oes dim yn fyddar nac yn fud, + Mae mwy o fiwsig yn y byd + Na thybiodd dyn erioed. + Corau ’r Wynfa wen, + A ganant byth heb ddod i ben, + Maer delyn aur gan deulu ’r nen, + Yng ngwyddfod Duw ei hun. + Mae cân yn hedeg ar ei hynt, + Yn swn y môr a llais y gwynt, + Bu ser y bore ’n canu gynt, + Paham na chana dyn? + + Serch hudol yw, + Pob peth sy’n byw, + Yn y nef a daear Duw; + O’r haul sy’n llosgi fry— + I’r pryfyn tân yr hwn a roed, + I rodio ’r clawdd a gwraidd y coed, + I oleu ar y llwybyr troed + Sy’n arwain i dy dŷ. + Hardd yw llun a lliw, + Pob peth a ddaeth o ddwylaw Duw, + I ble ’r a llygad dyn nad yw, + Yng ngŵydd y tlws a’r cain? + Prydferthwch sydd yn llanw ’r nef, + A phob creadur greodd Ef, + O’r eryr ar ei aden gref, + I’r dryw sydd yn y drain. + + + + +BREUDDWYD Y BARDD. + + +Nis gwn am un engraifft o bennill ar y mesur hwn, ac nis gwn am neb sydd +yn gallu yr hen alaw odidog heblaw y cyfaill Idris Vychan. Y mae +seibiant yn y dôn ar ddiwedd y chweched llinell, a’r llinell olaf yn +llwythog o ofid a siomedigaeth. Ymdrechais yn y geiriau gadw at gymeriad +neilltuol y llinell olaf. Mae hi fel moeseb oddiwrth, neu eglurhad ar, y +chwe llinell flaenorol. + + ALAW,—_Breuddwyd y Bardd_. + + [Picture: Music] + + EISTEDDAI hen fardd yn ei gadair, + Yn wargrwm a’i wallt fel y gwlan; + A’i feddwl a hedodd i’r amser + Y gwelid ei blant wrth y tân. + Ei amrant a gauodd, ac yna breuddwydiodd + Yn weddw ac unig heb neb iw wahardd— + Yng ngwynfyd ei galon breuddwydiodd y bardd. + + Fe welodd ei hun yn priodi, + Genethig anwylaf y wlad; + Fe glywodd ei gyntaf anedig + Gan wenu ’n ei alw fe ’n “_dad_!” + Ni welodd ef gladdu ei briod a’i deulu, + Na deilen wywedig yn disgyn i’r ardd— + Na, breuddwyd ei febyd freuddwydiodd y bardd. + + Fe glywai hen glychau Llanarmon, + Yn fachgen fe deimlodd ei hun, + Breuddwydiodd hen deimlad y galon, + Sef hiraeth am ddyfod yn ddyn. + Ni chofiodd ef helynt y dyddiau’r aeth trwyddynt, + Ond tybiodd fod popeth yn hyfryd a hardd— + Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd. + + Er na bu un linell mewn argraff + O waith y breuddwydiwr erioed; + Fe wel ef ei waith yn gyfrolau, + A dynion yn rhodio fel coed, + A bechgyn yn darllen cynyrchion ei awen, + Fe wel anfarwoldeb trwy gwsg, ac fe chwardd— + Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd. + + + + +CORN Y GAD. + + + ALAW,—_Rhyfelgan Ap Ivan Bennaeth_. + + [Picture: Music] + + AR y mynydd rhodiai bugail, + Gwelai ’r gelyn ac yn uchel, + Bloeddiodd allan—“Llongau Rhyfel!” + Yna clywai gorn y gâd. + Corn y gâd! + Dyna ganiad corn arswydion, + Traidd ei ddolef trwy Blunlumon, + Cawdor sydd yn galw ’i ddynion. + Corn y rhyfel hollta ’r nefoedd, + Tery arswyd trwy ’r mynyddoedd, + Etyb creigiau pell y cymoedd + Gorn y gâd. + + Fel mae Draig hen Gymru ’n deffro + Tan y amynydd yn ei hogo’, + Cerrig ateb sydd yn bloeddio, + Chwythu ’n uwch wna corn y gâd; + Corn y gâd! + Meibion Berwyn ydynt barod, + Llifant o’r mynyddoedd uchod, + Duant y gwastadedd isod; + Meirch i’r frwydyr gydgarlamant, + Holl gleddyfau Cymru fflamiant, + Mewn urdduniant, cydatebant + Gorn y gâd! + + + + +CORN Y GAD. + + +Meddaf y pleser o ysgrifennu geiriau am y waith gyntaf i hen ryfelgan +Gymreig o radd uchel; o leiaf nid wyf yn gwybod fod neb o’m blaen wedi +cyfansoddi cân ar yr alaw. Ni bu y gerddoriaeth ychwaith yn argraffedig. +Fe ddichon fod y dôn wedi ei chyhoeddi, ac fe ddichon fod rhai o’m +cyfeillion yn gwybod am eiriau hefyd llawer rhagorach na’m heiddo i. Fe +ddywedaf ar fyr eiriau pa fodd y daeth-um ar ei thraws. Fel yr oedd +Idris a minnau un noswaith yn hwmian hen donau i’n gilydd, fe ofynnodd ef +braidd yn sydyn, “A glywsoch chwi Ivan ap Ivan Bennoeth erioed?” +Dywedais, os darfum ei chlywed, na chlywais hi ar yr enw hwnnw. “O,” +ebai yntau, “hen dôn anwyl, nad oes ei gwell gan ein cenedl. Mae +tebygrwydd ynddi, fel yn amryw alawon eraill, i ‘Difyrrwch Gwŷr Harlech,’ +ac nid oes llawer lai o nerth a mawredd ynddi.” Digwyddodd fod ei lais +yn well nag arferol, a’m ystafell innau yn fechan, ac allan â hi nes oedd +y bwrdd yn crynnu, a phlant a phobl ar yr heol yn sefyll i wrando wrth y +tŷ. Dywedai iddo ei chlywed, er yn blentyn, yn cael ei chware gan +seindorf Dolgellau. + + + + +DAFYDD Y GARREG WEN. + + +Tyddyn yw y Garreg Wen, ger Porthmadog. Yno yn y flwydd 1720 y ganwyd +Dafydd, i’r hwn y priodolir cyfan-soddiaeth y dôn sydd ar ei enw. +Dywedir hefyd, ond ar ba sail nis gwyddom, mai efe ydyw awdwr Codiad yr +Hedydd, Difyrrwch Gwyr Cricieth, ac alawon eraill. Y mae y dôn yn un o’r +rhai prydferthaf sydd gennym, ac yn nodedig o alarus a dwys. Bu y +cerddor gobeithiol hwn farw yn 1749, yn 29 oed, a chladdwyd ef ym mynwent +Ynys Cynhaiarn, lle mae cofadail i’w goffadwriaeth, a llun ei delyn yn +gerfiedig arni ynghyd â’r geiriau,—“BEDD DAVID OWEN, neu DAFYDD Y GARREG +WEN.” + + ’R OEDD Dyfydd yn marw, pan safem yn fud + I wylio datodiad rhwng bywyd a byd; + “Ffarwel i ti ’mhriod, fy Ngwen,” ebai ef, + “Fe ddaeth y gwahanu, cawn gwrdd yn y nef.” + + Fe gododd ei ddwylaw, ac anadl ddaeth + I chwyddo ’r tro olaf trwy ’i fynwes oer, gaeth; + “Hyd yma ’r adduned, anwylyd, ond moes + Im’ gyffwrdd fy nhelyn yn niwedd fy oes.” + + Estynwyd y delyn, yr hon yn ddioed + Ollyngodd alawon na chlywsid erioed; + ’R oedd pob tant yn canu ’i ffarweliad ei hun, + A Dafydd yn marw wrth gyffwrdd pob un. + + “O! cleddwch fi gartref yn hen Ynys Fôn, + Yn llwch y Derwyddon, a hon fyddo ’r dôn, + Y dydd y’m gosodir fi ’n isel fy mhen,”— + A’i fysedd chwareuant yr “_Hen Garreg Wen_.” + + #R oedd Dafydd yn marw, pan safem yn fud + I wylio datodiad rhwng bywyd a byd; + Yn swn yr hen delyn gogwyddodd ei ben, + Ac angau rodd fywyd i’r “_Hen Garreg Wen_.” + + + + +TORIAD Y DYDD. + + + ALAW,—_Toriad y Dydd_. + + FE welid cant o honom + Yng ngoleu ’r lleuad brudd, + Yn dringo fyny ’r Wyddfa fawr + I weled Toriad Dydd. + Edrychem ar y nefoedd, + Wrth fynd o fryn i fryn; + Edrychem ar y llynoedd dŵr, + A phwysem ar ein ffyn. + A gwelem y Saith Seren + Oedd yn y gogledd draw, + Yn gwenu ar Saith Seren wen + Oedd yn y llyn gerllaw. + Ond nid oedd amser sefyll, + Nid oedd ond hanner awr, + Na byddai Toriad Dydd yn dod + Ar ben y Wyddfa fawr. + + O’r diwedd cyrhaeddasom + At ffynnon ger ei phen, + Gan ddiolch am gael gwin y graig + Mor agos at y nen. + Dringasom ris i fyny, + A threm fawreddus gaed,— + Yr holl ddwyreiniol fyd yn goch, + Yn fflamio wrth ein traed; + Ataliodd pawb ei anadl, + A phlethodd pawb ei law, + Wrth weld y goelcerth goch yn dod, + A’r nos yn treiglo draw. + Galwasom am y delyn, + Ac yng ngoleuni ’r wawr, + Canasom dôn ar “Doriad Dydd” + Ar ben y Wyddfa fawr. + + + + +YR ENETH DDALL. + + + ALAW, _Toriad y Dydd_. + + MAE llawer un yn cofio + Yr eneth fechan ddall; + Ni welodd neb un fach mor fwyn, + Mor brydferth, ac mor gall; + Fe gerddodd am flynyddau + I ysgol Dewi Sant, + Ar hyd y ffordd o gam i gam, + Yn nwylaw rhai o’r plant. + ’R oedd gofal pawb am dani, + A phawb yn hoffi ’r gwaith + O helpu ’r eneth fach ymlaen, + Trwy holl drofeydd y daith; + Siaradai ’r plant am gaeau, + A llwybrau ger y lli, + Ac am y blodau tan eu traed, + Ond plentyn dall oedd hi. + + Fe glywai felus fiwsig + Yr adar yn y dail; + Fe deimlai ar ei gwyneb bach + Belydrau serch yr haul; + Aroglai flodau ’r ddaear; + Ond nis adwaenai ’r fûn + Mo wên yr haul, a mwy na ’r oll + Mo wên ei mam ei hun. + Mae ’r plentyn wedi marw,— + Ar wely angau prudd + Fe wenodd ar ei mam gan ddweyd, + “Mi welaf doriad dydd!” + Ehedodd mewn goleuni + Oddiwrth ei phoen a’i phall, + A gweled golygfeydd y nef + Y mae yr ENETH DDALL. + + + + +CODIAD YR HEDYDD. + + +Dywedir fod D. Owen wedi mynd i noson-lawen i Blas y Borth, Porthmadog, +ac fe arosodd y telynor yn rhialtwch yr arwest, tan ddau neu dri o’r +gloch yn y bore. Fe ddaeth dydd ar warthaf Dafydd a’i delyn pan oedd y +ddau ar y ffordd adref. Eisteddodd y llanc ar garreg sydd i’w chanfod +eto yn yr ardal, i sylwi ar ehedydd uweh ei ben yn taro cyweirnod ei +galon ar doriad dydd. Dyna’r fan a’r pryd y cyfansoddwyd y dôn _Codiad +yr Hedydd_. + + ALAW,—_Codiad yr Hedydd_. + + CLYWCH, clywch foreuol glod, + O fwyned yw ’r defnynnau ’n dod + O wynfa lân i lawr. + Ai mân ddefnynnau cân + Aneirif lu ryw dyrfa lân + Ddiangodd gyda ’r wawr? + Mud yw ’r awel ar y waun, + Brig y grug yn esmwyth gryn; + Gwrando mae yr aber gain, + Yn y brwyn ymguddia ’i hun. + Mor nefol swynol ydyw ’r sain + Sy ’n dod i ddeffro dyn. + + Cwyd, cwyd ehedydd, cwyd, + O le i le ar aden lwyd, + Yn uwch, yn uwch o hyd; + Cân, cân dy ddernyn cu, + A dos yn nes at lawen lu + Adawodd boen y byd,— + Canu mae a’r byd a glyw, + Ei alaw lon o uchel le; + Cyfyd hiraeth dynol ryw + Ar ei ol i froydd ne: + Yn nes at Ddydd, yn nes at Dduw, + I fyny fel efe. + + + + +AR HYD Y NOS. + + + ALAW,—_Ar hyd y Nos_. + + HOLL amrantau ’r ser ddywedant, + Ar hyd y nos, + Dyma ’r ffordd i fro gogoniant, + Ar hyd y nos. + Goleu arall yw tywyllwch, + I arddangos gwir brydferthwch + Teulu ’r nefoedd mewn tawelwch, + Ar hyd y nos. + O mor siriol gwena seren + Ar hyd y nos; + I oleuo ’i chwaer-ddaearen + Ar hyd y nos. + Nos yw henaint pan ddaw cystudd, + Ond i harddu dyn a’i hwyrddydd, + Rhown ein goleu gwan i’n gilydd + Ar hyd y nos. + + + + +MORFA RHUDDLAN. + + + ALAW,—_Morfa Rhuddlan_. + + GWGODD y nefoedd ar achos y cyfion, + Trechodd Caethiwed fyddinoedd y Rhydd; + Methodd gweddiau fel methodd breuddwydion, + Cleddyf y gelyn a gariodd y dydd; + Cuddied y Morfa tan eira tragwyddol, + Rhewed yr eigion am byth tros y fan; + Arglwydd trugarog, O! tyred i ganol + Achos y cyfiawn a chartref y gwan. + + Brenin y gelyn fydd pen ein gwladwriaeth, + Lleiddiad Caradog a gymer ei le; + Cwymped y delyn ar gwympiad Caradog, + Syrthied i’r ddaear fel syrthiodd efe. + Eto, edrychaf ar draeth y gyflafan, + Wadwyd mo Ryddid, a chablwyd mo ’r Iôr; + Gwell ydoedd marw ar Hen Forfa Rhuddlan, + Gwell ydoedd suddo i Ryddid y môr. + + + + +’DOES DIM OND EISIEU DECHREU. + + + ALAW,—_Y Gadlys_. + + ’DOES dim ond eisieu dechreu, + Mae dechreu ’n hanner gwaith, + I ddysgu pob gwybodau + A deall unrhyw iaith. + Nac ofnwch anhawsderau, + ’Does un gelfyddyd dan y rhôd + Nad all y meddwl diwyd ddod, + I’w deall wedi dechreu. + “Fe hoffwn innau sengyd + Ar ben y Wyddfa draw,” + Medd hen foneddwr gwanllyd + A phastwn yn ei law. + Cychwynnodd yn y boreu, + Ac erbyn hanner dydd yr oedd + Ar ben y mynydd yn rhoi bloedd, + “’Doedd dim ond eisieu dechreu.” + + I fesur y planedau + Sy’n hongian er erioed; + I ddarllen tudalennau + Y ddaear tan dy droed— + Y bachgen efo ’i lyfrau + Ymlaen yr a, ymlaen yr a + I wneuthur drwg neu wneuthur da, + ’Does dim ond eisieu dechreu. + Wel, deuparth gwaith ei ddechreu, + ’Does un ddihareb well; + Cychwynnwch yn y boreu, + Fe ellwch fynd ymhell. + Edrychwch rhwng y bryniau + Ffynhonnau bach sy’n llifo ’i lawr, + Ond ânt i’r môr yn genllif mawr, + ’Does dim ond eisieu dechreu. + + + + +DIFYRRWCH GWYR HARLECH. + + + ALAW,—_Difyrrwch Gwŷr Harlech_. + + WELE goelcerth wen yn fflamio, + A thafodau tân yn bloeddio, + Ar i’r dewrion ddod i daro + Unwaith eto ’n un; + Gan fanllefau ’r tywysogion, + Llais gelynion, trwst arfogion, + A charlamiad y marchogion, + Craig ar graig a gryn. + Cwympa llawer llywydd, + Arfon byth ni orfudd; + Cyrff y gelyn wrth y cant + Orffwysant yn y ffosydd; + Yng ngoleuni ’r goeleerth acw, + Tros wefusau Cymro ’n marw, + Anibyniaeth sydd yn galw + Am ei dewraf dyn. + + Ni chaiff gelyn ladd ac ymlid + Harlech! Harlech; cwyd i’w herlid; + Y mae Rhoddwr mawr ein Rhyddid, + Yn rhoi nerth i ni; + Wele Gymru a’i byddinoedd + Yn ymdywallt o’r mynyddoedd! + Rhuthrant fel rhaiadrau dyfroedd + Llamant fel y lli. + Llwyddiant i’n lluyddion, + Rwystro bâr yr estron, + Gwybod yn ei galon gaiff + Fel bratha cleddyf Brython. + Cledd yn erbyn cledd a chwery, + Dur yn erbyn dur a dery, + Wele faner Gwalia i fyny, + Rhyddid aiff a hi. + + [Picture: Castell Dinas Bran. S. M. Jones. I wynebu tud] + + + + +TROT Y GASEG. + + + ALAW—_Trot y Gaseg_. + + RHAID imi basio heno + Tŷ geneth lana’r fro, + Dymunwn alw yno, + Ond ni wnaiff hynny ’r tro. + Tyrd ti fy merlen hoew, + I fyny ’r dyffryn acw; + Da gwyddost am y tŷ + Y trig fy ngeneth gu— + Dynesu mae yr afon, + Cynesu mae fy nghalon, + Wrth basio ’r Dolydd Gleision, + Ar gefn fy merlen ddu. + + Mae miwsig hen alawon, + Yn swn dy bedwar troed: + Rwy ’n croesi tros yr afon + Mi welaf lwyn o goed. + Tra ’r afon ar y graian, + Yn hwian iddi’ hunan, + Mae seren Gwener gu + Yn crynnu uwch y tŷ, + A’m calon wirion innau + Yn crynnu am y goreu. + Wrth fynd ar loergan oleu + Ar gefn fy merlen ddu. + + Yn y coedwigoedd agos, + Fy merlen lo’wddu lefn, + Y clywais lais yr eos + Wrth deithio ar dy gefn. + Pan oeddit ti yn trotian, + Yr oeddwn innau ’n dotian, + Wrth wrando ’r eos gu + Ac edrych ar y tŷ. + Pan dderfydd y gostegion, + Bydd Merch y Dolydd Gleision, + Mewn cannaid ddillad gwynion, + Ar gefn fy merlen ddu. + + + + +LLANCES Y DYFFRYN. + + + ALAW,—_Llances y Dyffryn_. + + LLANCES y Dyffryn wnaeth bopeth yn iawn, + Llanwodd lawenydd fy nghalon yn llawn; + Glanach yw ’r defaid ar ochr y bryn, + Gwynnach yw ’r alarch ar ddwfr y llyn: + Clysach yw ’r blodau, a glasach yw ’r coed; + Harddach, prydferthach y byd nag erioed. + Gwnaed fi yn ddedwydd foreuddydd a nawn, + Llances y Dyffryn wnaeth bopeth yn iawn. + + Llances y Dyffryn oleuodd y fro, + Gloewach yw ’r afon a glanach yw ’r gro; + Purach fy meddwl a hoewach fy nhroed, + Hoenach yr awen na bu erioed. + Hoffach yw ’r Dyffryn a llonnach pob lle, + Mwynach yw ’r awel o’r dwyrain a’r dê; + Trom fu fy nghalon, ond ’rwan distawn, + Llances y dyffryn wnaeth bopeth yn iawn. + + + + +YN YNYS MON FE SAFAI GWR. + + + ALAW—“_Ymdaith y Mwnc_.” + + YN Ynys Môn fe safai gŵr + Ym min y nos ar fin y traeth; + Fe welai long draw ar y dŵr, + A’i hannerch ar yr eigion wnaeth:— + Dos a gwel fy machgen gwiw, + Dos a sibrwd yn ei glyw + Yn iaith ddinam + Ei anwyl fam, + A dywed fod ei dad yn fyw. + Ymwêl gyda ’m plentyn, a dwed fod ei dad, + Yn edrych yn fynych dros wyneb y lli. + O! chwydder dy hwyliau gan chwaon o’th wlad, + A thyner bo’r awel lle bynnag ’r ei di. + Dos tros y don, + Cei henffych well, + Dwed yno’n llon + Wrth fachgen sydd bell, + Fod Gwalia flodeuog yn moli’r un Duw, + Ac iaith ei gyndadau yn iach ac yn fyw. + + Fod ywen ddu yn hardd uwchben + Y garreg lâs lle cwsg ei fam, + Ac fod ei dad a’i farf yn wen, + Yn grwm ei war, a byr ei gam; + Fod y pistyll eto ’n gry, + Fod yr afon fel y bu, + Ar wely glân + O raian mân, + Yn sisial tôn wrth ddrws y tŷ. + Ymwêl gyda ’m plentyn, a dwed fod ei dad, + Yn edrych yn fynych dros wyneb y lli. + O! chwydder dy hwyliau gan chwaon o’th wlad, + A thyner bo’r awel lle bynnag ’r ei di. + Dos tros y don, + Cei henffych well, + Dwed yno ’n llon + Wrth fachgen sydd bell, + Fod Gwalia flodeuog yn moli ’r un Duw, + Ac iaith ei gyndadau yn iach ac yn fyw. + + Fod ganddo chwaer ar ddelw ’i fam, + Sydd yn parhau i’w garu ef, + Sy ’n llawenhau wrth feddwl am + Gael eto gwrdd yn nef y nef. + Fod ei wlad heb weld ei hail + Am glysni teg a glesni dail; + A dal wrth ben + Ei Gymru wen + Mae awel nef a melyn haul. + Ymwêl gyda ’m plentyn, a dwed fod ei dad, + Yn edrych yn fynych dros wyneb y lli. + O! chwydder dy hwyliau gan chwaon o’th wlad + A thyner bo ’r awel lle bynnag ’r ei di. + Dos tros y don, + Cei henffych well, + Dwed yno ’n llon + Wrth fachgen sydd bell, + Fod Gwalia flodeuog yn moli ’r un Duw, + Ac iaith ei gyndadau yn iach ac yn fyw. + + + + +CADLEF MORGANNWG. + + + O “Syr Rhys ap Tomos.” + + CLYWCH, clywch, hen gadlef Morgannwg, + Wele Rys a’i feirch yn y golwg, + I’w atal ymlaen + ’Dyw mynydd ond maen + Adewir mewn llwch ar ei ol. + Corn y gâd ydyw miwsig yr awel, + Heddyw gwledd gydag Arthur yw rhyfel, + Yn galw ar fynydd a dôl. + Wel sefwch yn hyf gyda ’ch dreigiau, + Ac edrychwch i lawr megis creigiau, + Gawrfloeddio mae Rhyddid i ganol y gâd + I godi’r hen wlad yn ei hol. + + Mae breichiau myrdd yn caledu, + A ffroenau y meirch yn lledu; + A berwi mae gwaed, + Gwŷr meirch a gwŷr traed, + I godi’r hen wlad yn ei hol. + Fry, fry, cyhwfan mae ’r faner, + Trywanu mae ’r cledd at ei hanner; + Yn uwch eto ’n uwch gyda ’r dreigiau, + Ac edrychwch i lawr megis creigiau, + Gawrfloeddio mae Rhyddid i ganol y gâd, + I godi ’r hen wlad yn ei hol! + + + + +MWYN YW MYNED TUA MON. + + + ALAW,—_Hufen Melyn_. + + [Picture: Words and music] + + A ddowch chwi’ rwyf—o ar yr + af-on, A ddowch chwi’ gan-u yn-o’n gôr? + + I weld hy—naws—ed yd—yw + nos-on, A mwyn-ed murmur tònau’r môr? + + A gawn ni fyn-ed ar y Fenai hen-o, I + Yn—ys Mon-a rhwyf—wn gyda’r dôn: O + dowch i gan-u, dowch i nof—io, Dowch i rwyf-o + gyda’r dôn: Mae croes—o an-wyl in—i + yn—o, O mwyn yw myn-ed tu—a Môn. + + Mae ’r bad yn nofio ar yr afon, + A nos o fwyniant ydyw hon; + Mae ’r ser a’r lleuad yn dryloewon, + A’r côr yn canu ar y dòn. + Wel ar y Fenai, ar y Fenai heno, + Y llawen ganwn, rhwyfwn gyda ’r dôn,— + A dyma ’r canu, dyma ’r nofio, + Dyma ’r rhwyfo gyda ’r dôn; + Mae aelwyd lawen inni yno, + O mwyn yw myned tua Môn. + + + + +HUN GWENLLIAN. + + + ALAW,—_Hun Gwenllian_. + + HUN Gwenllian, ferch y brenin, + Gwyn dy fyd ti tan y gŵys; + Cwsg Wenllian, dyner blentyn, + Yn y ddaear ddistaw ddwys. + Cledd y Norman wnaeth gyflafan, + Nid oes gennyt fam yn awr; + Hun Gwenllian, hun Gwenllian, + Cwsg ymhell o’r cystudd mawr. + + Hun Gwenllian, i’th fendithio + Duw ’th gymerodd yn ei gôl; + Mae th frawd hynaf wedi cwympo, + Ni ddaw ’r iengaf byth yn ol. + Yn dy gartref trig y Norman, + Seren Cymru aeth i lawr; + Hun Gwenllian, hun Gwenllian, + Cwsg ymhell o’r cystudd mawr. + + + + +AR DDOL PENDEFIG. + + + ALAW,—_Y Gwenith Gwyn_. + + AR ddol pendefig, heidden wen + Ymgrymai’ phen yn hawddgar; + ’R oedd cnwd o honynt ar y cae, + Fel tonnau hyd y ddaear; + A cher y fan, ar fin rhyw lyn, + ’R oedd gwenith gwyn yn gwenu; + Un gwlith, un gwlaw, oedd ar y ddau, + Y cnydau prydferth hynny. + + Fe roddodd Duw mewn gwlaw a gwlith, + Ei fendith ar y maesydd; + A dyn a godai gyda ’r wawr + I dorri lawr y cynnydd. + Ond rhwng y ddeufaes trowynt ddaeth, + A rhuo wnaeth i’r nefoedd,— + “Fod un yn mynd er bendith dyn, + A’r llall i ddamnio miloedd.” + + + + +A LAESWN NI DDWYLAW? + + + ALAW,—_Llwyn Onn_. + + A LAESWN ni ddwylaw yng nganol y rhyfel, + Tra ’r gelyn yn erlid, a fynnwn ni hedd? + Tra llidiart y fynwent a’i sgrech ar ei hechel + Wrth dderbyn y meddwon i stafell y bedd? + Mae’r blodau sy’n tyfu ar feddrod y meddwyn + Yn gollwng eu dagrau tan gysgod yr yw; + A’r gwynt wrth fynd heibio, fel taran; yn gofyn + “_Pa un ai moesoldeb ai meddwdod gaiff fyw_?” + + + + +LLWYBR Y PERERIN. + + + MI dybiais fod ffordd y pererin i’r nef + Yn un lefn ac hardd-esmwyth trwy ddyffryn glâs gain; + Dangosaist Di ’r ffordd—ac un gul dywell oedd, + Garegog a blin trwy fieri a drain. + Mae temlau a phlasau heb ofid na phoen, + Ond y maent tros gagendor o dir y rhai byw; + Mae afonydd o hedd, ond pa le maent i’w cael,— + Yn y nef yno maent, fry yn nefoedd fy Nuw. + + + + +BEDD LLYWELYN. + + + ALAW,—_Goslef Llywelyn_. + + I FEDDROD Llywelyn mae ’r tir wedi suddo, + Ac arno ’r gwlawogydd arosant yn llyn; + Mae ’r lloer wrth ymgodi, a’r haul wrth fachludo, + Yn edrych gan wrido ar ysgwydd y bryn. + Fy Nghymru, fy Ngwlad, a wyddost ti hyn! + Pa le mae Gwladgarwch yn dangos ei gwedd? + Mae dagrau y cwmwl yn gwybod am dano, + A deryn y mynydd yn nabod y bedd. + + Ar ddamwain mae ’r Cymro yn dyfod i weled, + Lle cwympodd yr olaf fu ddewr ar ei ran; + Yr awel a gwyna a’r ddaear a ddywed, + Fod calon hen Walia yn curo ’n lled wan; + Dieithriaid a ddônt i weled y fan + Y gorffwys Llywelyn wrth ochor ei gledd; + Wel diolch am ddeigryn o’r nefoedd i waered, + Ac am y glaswelltyn yn ymyl y bedd. + + + + +A DDWEDAIST TI FOD CYMRU ’N DLAWD. + + + A DDWEDAIST ti fod Cymru ’n dlawd, + Am fod ei llannau ’n llonydd, + A thithau ’th hun yn cloddio, frawd, + Ym mryniau aur Meirionnydd? + Mae mwy o gyfoeth tan dy droed, + Na ddaeth i galon dyn erioed, + Anwiredd mwy erioed ni wnawd— + Na ddywed byth fod Cymru ’n dlawd. + + I ble y trown o fewn y tir, + Nas gwelir mŵn ei meini + Nad yw ’r meteloedd o’u gwelyâu + Yn edrych am oleuni, + Nad yw y prês a’r arian faen, + Yn galw ar bob Cymro ’n mlaen, + I roi ei ffydd a threio ’i ffawd + Yn holl oludoedd “Cymru dlawd?” + + Estyna ’th fys pan glywot hyn, + Yn cael ei ddweyd am Gymru, + At unrhyw graig, at unrhyw fryn, + Fo ’n edrych ar i fyny. + Mae ’r nentydd oll wrth fynd i’r aig + A cherrig ateb ym mhob craig, + Yn dwedyd “Nac yw” gyda gwawd— + Na ddywed byth fod Cymru ’n dlawd. + + + + +PEIDIWCH BYTH A DWEDYD HYNNY. + + +[Ysgrifennwyd y geiriau i Miss Edith Wynne, yr hon a’u canodd yn +Eisteddfod Genhedlaethol Caernarfon, 1862.] + + + +I. + + + D’WEDWCH fod fy ffroen yn uchel, + Fod fy malchder yn drahaus, + Fod gwamalrwydd ar fy wyneb + A mursendod yn fy llais. + Ond mae terfyn i anwiredd, + I greulondeb a sarhad. + Peidiwch byth a dwedyd hynny, + Imi golli ’m serch at Gymru, + Imi golli iaith fy ngwlad. + + + +II. + + + O mor barod ydyw dynion + I drywanu at y byw; + O mor gyndyn ydynt wedyn + I roi eli ar y briw. + Dodwch garreg ar fy meddrod, + Fel y mynnoch bo ’r coffâd; + Dyna ’r pryd i dd’wedyd hynny, + Imi golli ’m serch at Gymru, + Imi golli iaith fy ngwlad. + + + + +DYDD TRWY ’R FFENESTR. + + + ALAW,—_Dydd Trwy ’r Ffenestr_. + + MAE rhyddid i wylan y môr gael ymgodi, + Ac hedeg i’r mynydd uchelaf ei big; + Mae rhyddid i dderyn ar greigiau ’r Eryri + Ehedeg i waered i weled y wîg; + O rhowch imi delyn, gadewch imi dalu + Croesawiad i Ryddid ar doriad y dydd; + Yfory gyda ’r wawr, byddwn ninnau ’n rhydd, + Byddwn yn rhydd! + + Yfory pan welir yr haul yn cyfodi, + Caf deimlo llawenydd na theimlais erioed; + Ac fel yr aderyn yng ngwlad yr Eryri + Yn ysgafn fy nghalon, ac ysgafn fy nhroed; + Pan welom oleuni yn gwynnu ’r ffenestri, + Rhown garol i Ryddid ar doriad y dydd; + Yfory gyda ’r wawr, byddwn ninnau ’n rhydd, + Byddwn yn rhydd! + + + + +CERDDI CYMRU SYDD YN BYW. + + + CERDDI Cymru sydd yn byw, + Trwy ’r blynyddau yn ein clyw; + Sibrwd ein halawon gynt, + Mae cwynfanau trwm y gwynt; + Dwyn yn ol lais mam a thad + Mae hen donau pur ein gwlad. + + Pan sisialo dail y llwyn, + Clywir chwi yn lleddf a mwyn; + Dweyd mae ’r môr wrth ruo ’i gân + Ddarnau cerddi Cymru lân; + Ac mae clust y Cymro ’n gwneyd + I’r gre’digaeth oll eu dweyd. + + + + +I GADW ’R HEN WLAD MEWN ANRHYDEDD. + + + I GADW ’R hen wlad mewn anrhydedd, + A’r cenin yn fyw a difêth; + Mae rhai yn prydyddu ’n ddiddiwedd, + Ond dyma fy marn am y peth,— + Mwy gwerthfawr nag awen y beirddion, + Neu’r dalent ddisgleiriaf a roed, + Yw tafod y bachgen bach gwirion, + Na ddwedodd anwiredd erioed. + + _Cydgan_: Rhown bopeth sydd hardd ac anfarwol, + Mewn miwsig, barddoniaeth, a cherdd, + I’r geirwir, a’r gonest, a’r gwrol, + Sy’n cadw’r geninen yn werdd. + + Mi adwaen gribddeiliwr ariannog, + Sy’n deall bob tric i wneud pres; + Ond anhawdd anichon cael ceiniog + O’i boced at ddim a fo lês. + Pan allan, os a yn ei gerbyd, + Pan gartref os tyn yn ei gloch; + Mae ’n well i ni’r gonest a’r diwyd + Pe na bai yn werth dimeu goch. + + Ym mhell y bo ’r bobol sy’n grwgnach, + Yn erbyn caledrwydd y byd, + Y rhenti a’r prisiau a’r fasnach, + Tra plethant eu dwylaw ynghyd. + Nid felly y byddai ’r hen Gymry, + Ac os yw dy waed ti yn bur, + ’R wyt yn edrych yn wrol i fyny + Ac yn fachgen sy’n gweithio fel dur. + + + + +MYFI SY’N MAGU ’R BABAN. + + +[Cân mamaeth Gymreig wrth fagu Tywysog Seisnig cyntaf Cymru o “Cantata +Tywysog Cymru.”] + + MYFI sy ’n magu ’r baban, + Myfi sy ’n siglo ’r cryd, + Myfi sy ’n hwian, hwian, + Ac yn hwian hwi o hyd. + Bu ’n crio bore heddyw, + O hanner y nos tan dri; + Ond fi sy ’n colli ’m cysgu, + Mae ’r gofal i gyd arnaf fi. + + Myfi sy ’n magu ’r plentyn, + Bob bore, prydnawn a hwyr; + Y drafferth sydd ei ganlyn, + Fy hunan yn unig ŵyr. + Nis gŵyr ef air o Saesneg, + Nac un gair o’n hen hiaith ni,— + I ddysgu ’r twysog bychan, + Mae ’r gofal i gyd arnaf fi. + + Ond os caf fi ei fagu, + I fyned yn llencyn iach; + Caiff iaith brenhinoedd Cymru + Fod rhwng ei ddwy wefus fach. + A phan ddaw ef yn frenin, + Os na wnaiff fy nghofio fi, + O! cofied wlad y cenin, + Y wlad sydd mor anwyl i ini. + + + + +TUA THEGID DEWCH. + + + CHWI feirdd y trefydd mawr + Sy ’n byw ar fwg a llwch; + Dowch gyda fi yn awr, + Dowch neidiwch i fy nghwch. + Fyny ’r hen Ddyfrdwy nofiwn, + A ffarwel i’r mŵg sydd ar ein hol, + Rhwyfwn ymlaen, a chanwn + Dan y coed a’r pynt, o ddol i ddol. + Ger tref y Bala + Mae lle pysgota, + Ar loew loew lyn; + Awn ymlaen tua ’r dyfroedd hyn, + Moriwn yng nghanol Meirion; + Tynnwn rwyf gyda rhwyd yn hoew, + Ar groew loew lyn. + + Draw, draw yng nghanol gwlad, + Deg, deg fel Eden ardd; + Ceir yno adfywhad + I’r cerddor ac i’r bardd. + Bywyd sydd yn yr awel + Fel y dêl o’r coed, o’r allt, a’r rhiw, + Bywyd y Cymry ’stalwm, + Ysbryd cân a mawl sydd yno ’n byw. + Ger tref y Bala, &c. + + Chwi wŷr y trefydd mawr, + Gwyn, gwyn eich gruddiau chwi, + O dowch am hanner awr + Mewn cwch ar hyd y lli; + Rhwyfwn i fyny ’r afon,## + Gyda gwrid ac iechyd dychwel gewch; + Mae môr rhwng bryniau Meirion, + Tua Thegid dewch, i Degid dewch! + Ger tref y Bala, &c. + + + + +HEN GWRWG FY NGWLAD. + + + HEN gwrwg fy ngwlad ar fy ysgwydd gymerwn, + Pan oeddwn yn hogyn rhwng Hafren ac Wy. + Ac yno y gleisiad ysgwyddog dryferwn + Ar hyfryd hafddyddiaut nas gwelaf byth mwy. + Pe rhwyfwn ganŵ ar y Ganges chwyddedig, + Neu donnau ’r Caveri, rhoi hynny foddhad; + Ond glannau bro Gwalia ynt fwy cysegredig, + A gwell gan fy nghalon hen gwrwg fy ngwlad. + + Hen gwrwg fy ngwlad, ’rwyf fi gyda thi ’n nofio + Afonydd paradwys fy mebyd yn awr; + Hen glychau a thonau o newydd wy ’n gofio, + A glywn ar y dyfroedd pan rwyfwn i lawr. + Mi dreuliais flynyddau a’r llif yn fy erbyn, + I’m hatal rhag dyfod i gartref fy nhad; + Ond pan ddof yn ol fe fydd cant yn fy nerbyn, + I roi i’m rwyf eto yng nghwrwg fy ngwlad. + + Hen gwrwg fy ngwlad, mi a’th rwyfais di ganwaith, + Hyd lynnoedd tryloewon tan goedydd a phynt; + Cymeraist fi hefyd i fynwes wen lanwaith, + Yr hon a ddisglaeriodd trwy f’ enaid i gynt. + Trwy Venice fawreddog mi fum mewn gondola, + Esgynnais y Tafwys a’r Rhein yn fy mâd; + Ond pasio hen gastell Llywelyn llyw ola, + Sydd well gan fy nghalon yng nghwrwg fy ngwlad. + + + + +POB RHYW SEREN. + + +[Suo-gân y Monwyson o “Cantata Tywysog Cymru.”] + + POB rhyw seren fechan wenai, + Yn y nefoedd glir uwch ben; + Rhwyfai cwch i fyny ’r Fenai, + Yng ngoleuni ’r lleuad wen. + Clywid canu—sucganu, + Yn neshau o Ynys Môn,— + Canu, canu, suoganu, + Melus orfoleddus dôn. + + Mewn awelon ac alawon, + At y Castell rhwyfai’r côr; + Ar y tyrau suai ’r chwaon, + Wrth eu godrau suai ’r môr. + Canent, canent, suoganent, + Ar y Fenai loew, dlos; + Dan ystafell y Frenhines, + Suoganent yn y nos. + + “Fel mae ’r lloer yn hoffi sylwi + Ar ei delw yn y lli; + Drych i Rinwedd weld ei glendid + Fyddo oes dy faban di.” + Suoganu i’r Frenines, + Dan y ganlloer loew, dlos, + Felly canodd y Monwyson, + Ar yr afon yn y nos. + + + + +CLADDEDIGAETH MORGAN HEN. + + + HEN frenin hoff anwyl oedd Morgan Hen, + Fe ’i carwyd yng nghalon y bobloedd; + Esgynnodd i’w orsedd yn ddengmlwydd oed, + A chadwodd hi gant o flynyddoedd. + Ar ddydd ei gynhebrwng dilynwyd ei arch + Gan ddengmil o’i ddeiliaid tylodion; + A theirmil o filwyr fu ’n ymladd o’i du, + Ac wythcant o’i ddisgynyddion, + Rhai wrth eu ffyn, a’u gwallt yn wyn, + Eraill ar fronnau yn dechreu byw; + Wyrion, gorŵyrion, a phlant gorŵyrion + Gladdasant y brenin yn Ystrad Yw. + + Ni welwyd un blewyn yn wyn ar ei ben, + Na rhych ar ei dalcen mawr llydan; + ’R oedd deuddeg o’i feibion yn edrych yn hŷn + Na’r brenin oedrannus ei hunan. + Yn nhorf ei gynhebrwng ’roedd bachgen bach mwyn, + Yn drist a phenisel yn twyso + Y march heb ei farchog—y cyfrwy, a’r ffrwyn, + A’r cleddyf yn unig oedd yno. + Rhai wrth eu ffyn, a’u gwallt yn wyn, &c. + + Fe welodd ryfeloedd, bradwriaeth, a thrais, + A gwelodd Forgannwg yn gwaedu; + Ond cadwodd ei goron, a’i orsedd yn ddewr, + A’i diroedd tan faner y Cymry. + Enillodd a chollodd mewn brwydrau dirif, + Am hynny ni chollodd un deigryn; + Ond ar gladdedigaeth ei filwyr, a’i blant, + Fe wylai, fe griai fel plentyn. + Rhai wrth eu ffyn, a’u gwallt yn wyn, &c. + + + + +MYFANWY. + + + [O “Myfanwy Fychan”.] + + “MYFANWY! ’rwy ’n gweled dy rudd + Mewn meillion, mewn briall, a rhos; + Yng ngoleu dihalog y dydd, + A llygaid serenog y nos; + Pan gyfyd claer Wener ei phen + Yn loew rhwng awyr a lli, + Fe ’i cerir gan ddaear a nen. + I f’ enaid, Myfanwy, goleuach, O tecach wyt ti, + Mil lanach, mil mwynach i mi. + + “Fe ddwedir fod beirddion y byd + Yn symud, yn byw ac yn bod, + Rhwng daear y doeth a Gwlad Hud, + Ar obaith anrhydedd a chlod; + Pe bâi anfarwoldeb yn awr + Yn cynnyg ei llawryf i mi, + Mi daflwn y lawryf i lawr— + Ddymunwn i moni, fe ’i mathrwn os na chawn i di,— + Myfanwy, os na chawn i di. + + “O! na bawn yn awel o wynt + Yn crwydro trwy ardd Dinas Brân, + I suo i’th glust ar fy hynt, + A throelli dy wallt ar wahan; + Mae ’r awel yn droiog a blin— + Un gynnes ac oer ydyw hi; + Ond hi sy ’n cusanu dy fin. + O feinwen fy enaid, nid troiog fy serch atat ti, + Tragwyddol yw ’m serch atat ti. + + “Mewn derwen agenwyd gan follt + Draig-fellten wen-lachar ac erch; + Gosodaf fy mraich yn yr hollt + A chuddiaf beithynen o serch. + Ni’m gwelir gan nebun, ond gan + Y wenlloer—gwyn fyd na baet hi, + Er mwyn iti ganfod y fan. + Ond coelio mae ’m calon, fod ysbryd eill sibrwd a thi— + Eill ddwedyd y cwbl i ti.” + + Petrusai Myfanwy _pwy oedd_ a roisai’r beithynen yn gudd? + A dwedai,—“rhyw ffolyn o fardd,” _ond teimlodd ei gwaed yn ei grudd_; + Disgynnodd ei llygaid drachefn ar “na bawn yn awel o wynt + Yn crwydro trwy ardd Dinas Brân,”—_o churodd ei chalon yn gynt_. + “Mi droellet fy ngwallt—O mi wnaet! wyt hynod garedig,” medd hi, + “A phe bawn yn suo i’th glust, mi ddwedwn mai gwallgof wyt ti; + Mi hoffet gael cusan, mi wnaet! ond cymer di ’n araf fy ffrynd,”— + Hi geisiai ymgellwair fel hyn,—_ond O_! _’r oedd ei chalon yn mynd_! + ’R oedd wedi breuddwydio dair gwaith, heb feddwl doi’r breuddwyd i + ben, + Fod un o g’lomenod ei thad, yn nythu yn agen y pren— + Heb gymar yn agen y pren. + + + + +GOFIDIAU SERCH. + + + WYT ti ’n cofio ’r lloer yn codi + Dros hen dderw mawr y llwyn, + Pan ddywedaist yr aberthet + Nef a daear er fy mwyn? + Wyt ti ’n cofio ’r dagrau gollaist + Wrth y ffynnon fechan draw? + Wyt ti ’n cofio ’r hen wresogrwydd,— + Wyt ti ’n cofio gwasgu ’m llaw? + + “_Hyd fy marw_” oedd dy eiriau, + Y parhaet yn ffyddlon im’; + O fy ngeneth, O fy nghariad! + Nid yw poenau marw ’n ddim. + Er wrth dorri ’th addunedau, + I ti dorri ’m calon i,— + Magi anwyl, mae dy gariad + Eto ’n gariad pur i ti. + + Mae ’th lythyrau yn gwneyd i mi + Lwyr anghofio mi fy hun; + Mae dy gudyn gwallt yn hongian, + Fel helygen tros dy lun. + Llun dy wyneb, Magi anwyl, + O mae ’n twynnu fel yr haul, + Nes ’r wy ’n teimlo gwae a gwynfyd + Nef ac uffern bob yn ail. + + O f’ anwylyd! er mai _cyfaill_ + Yw yn awr fy enw i, + Maddeu i mi am ddefnyddio + Yr _hen enw_ arnat ti; + _Cariad_ wyt ti, Magi anwyl, + Bur ddihalog fel erioed; + Troi ’st dy wyneb, cefnaist arnaf, + Minnau garaf ol dy droed. + + + + +WRTH WELD YR HAUL YN MACHLUD. + + + WRTH weld yr haul yn machlud, + Mewn eurog donog dân; + A mil o liwiau ’n dawnsio ’n deg, + Ar fyrdd o donnau mân. + ’Rwy ’n teimlo dwyfol wyddfod— + Shecina Natur yw; + Yn datgan ei ogoniant Ef + Yr Hollalluog Dduw. + + Wrth weld yr haul yn codi, + Yn loew lân ei bryd; + Rwy ’n gweld y glaer Shecina fawr, + Yn amgylchynnu ’r byd. + Os gormod gwedd yr heulwen + I lygad marwol ddyn; + Fath ydyw ei ogoniant Ef + Y Crewr Mawr ei Hun! + + Ar godiad haul yng Nghymru, + Ces lawer boreu gwiw; + Pan blygai ’m tad wrth ben y bwrdd, + I ddiolch am gael byw. + Caem eistedd yn y cysgod, + Tra ’r haul yn croesi ’r nef; + Mi gofiaf byth y weddi hwyr, + Ar ei fachludiad ef. + + + + +Y FODRWY BRIODASOL. + + + CYMER hi Annie, o cymer hi heno, + Mae’th fys gyda ’th galon yn crynnu gan fraw; + Dy fodrwy di ydyw, ni waeth it heb grïo + Os nad wyt yn meddwl am wrthod fy llaw. + Cyn mynd at yr allor y foru gad imi, + A’th fys ei chysegru wrth fynd hyd y ddôl— + Wel dyna hi ’n gymhwys, da gwyddwn O Annie, + Na wnaet ti byth dynnu ’th addewid yn ol. + + Cymer hi Annie, ’does arni ddim cerfiad, + Na gemau cywreinion i’w gweled yn awr; + Ond ceisiwn roi arni berl Rhinwedd, fy nghariad, + Mae engyl ar hwnnw yn edrych i lawr. + Mae gennym ni gariad a leinw ’n holl fywyd, + Yn hwnnw ’r ymffurfia y maen o fawr werth; + Yn hwnnw mae cyfoeth, bywoliaeth ac hawddfyd, + Yn hwnnw, fy nghariad, mae mawredd a nerth. + + Cymer hi Annie, a’r nefoedd ro inni + O fewn ein haur-fodrwy fan fechan i fyw, + Yn bur ac yn ddedwydd—yn unig boed ynddi, + Heblaw ti a minnau, blant bychain a Duw. + Mae ’r bydoedd yn grynion a’r haul a’u goreura, + Gan wneuthur pob planed a lleufer yn llon; + Ond nid oes breswylfod rhwng daear a gwynfa, + Ddedwyddach, berffeithiach, a chrynach na hon. + + Cymer hi, Annie, yn arwydd cyfamod,— + Dwy enfys fach ydyw a’u deuben ynglŷn; + Y gyntaf yn amod mai fi fydd dy briod, + A’r ail un yn amod mai ti fydd fy mun. + Mae’n gyfan, mae’n brydferth, heb gymorth y gemau, + Arwyddnod perffeithiach y ddaear ni fedd; + Does dim eill ei thorri ond pladur lem angau, + Na dim eill ei rhydu ond lleithder y bedd. + + Cymer hi, cymer hi, ofer yw rhwystro, + Dyferwlaw ’r amrantau rhag tywallt i lawr; + Mae ’n storm gyda minnau, gad imi tra dalio, + Roi ’m pen ar dy ysgwydd—rwy’n well Annie ’n awr. + Mae’th ddeigryn fy nghariad, a’m deigryn bach innau, + Yn uno fel gwlithos neu fân arian-byw— + Ond moes imi ’r fodrwy, ti cei hi ’n y boreu + Yng ngwyddfod yr allor, y Beibl, a Duw. + + + + +O WEDDI DAER. + + + [O “Jona.”] + + _O WEDDI daer_! gwyn fyd y fron + A fedro dy anadlu, + Yng nghalon edifeirwch gwir + Y cuddiodd Duw dy allu; + Yr isel lwch yw’th gartref di, + Ac mewn sachlian gwisgi, + Gwyn fyd y llais crynedig gwan + Dywallto ’i hun i weddi. + + _O weddi daer_! tramwyfa wyt + I lu o engyl deithio + I lawr i’r dyfnder at y gwan, + I roi eu hedyn trosto,— + I wlychu gwefus oer y llesg, + A gwin a’i calonoga; + O ddyn! os tynni ŵg y nef, + Dos ar dy lin—_gweddia_. + + [Picture: “Wyt ti’n cofio’r lloer yn codi
Dros hen dderw mawr y + llwyn?”] + + + + +Y BABAN DIWRNOD GED. + + + ’R oedd swn magnelau yn y graig, + A swn tabyrddau ’n curo, + A chlywid trwst ofnadwy traed + Y Ffrancod wedi glanio, + A’r waedd i’r frwydr chwyddai ’n uwch, + Gan alw ’r dewr i daro; + Terfysgwyd y glannau + Gan rym y taranau + A ruent ar lan y môr. + + I dai ’r tylodion rhuthrai gwŷr, + Gan ladd y diamddiffyn, + A flamiai palas hardd gerllaw + Gan dân o longau ’r gelyn; + Fe ffoai mamau gyda’u plant, + A chodai ’r claf mewn dychryn; + Ond ’r oedd yno ddynes, + A babi ’n ei mynwes, + Rhy waelaidd a gwan i ffoi. + + Ei gŵr erfyniai wrth ei phen,— + “O cwyd! O cwyd! fy Eurfron! + Mae ’r march a’r cerbyd wrth y drws, + Tyrd iddo ar dy union! + Olwynwn ymaith fel y gwynt,— + Anwylyd, clyw ’r ergydion! + O Dduw, a ddaeth diwedd + Fy mab, fy etifedd? + Fy mhlentyn a anwyd ddoe!” + + Atebai ’r wraig yn llesg ei llais,— + “Fy mhriod, clyw fy ngweddi, + O gad fi ar y gwely hwn, + Ond gad y baban imi; + Dos at y rheng i gadw ’th wlad, + Fe gadwaf finnau ’r babi.” + Y plentyn a hunai, + A’r tad a’i cusanai, + Ac yna fe ffodd i’r rheng. + + ’Roedd swn cleddyfau yn neshau, + Gwawchiadau ac ysgrechian; + A’r wraig weddiai ’n daer ar Dduw, + Gan edrych ar ei baban; + Ac yna holltwyd drws y tŷ + Gan filwyr oddi allan. + A hithau mewn dychryn + A wasgodd ei phlentyn + Yn nes at ei chalon wan. + + Ar glicied drws ei ’stafell wag, + Hi welai fysedd llofrudd, + Ac ar y foment rhuthrodd haid, + Yn swn rhegfeydd eu gilydd; + A syllent fel gwylltfilod erch, + O amgylch ei gobennydd; + Ar wraig wan yn crynnu, + A ddaliodd i fyny + Ei babi bach diwrnod oed. + + Atebwyd gweddi ’r ffyddiog fam, + A hi a’i mab achubwyd; + Mae hi yn awr ym mynwent werdd + Yr eglwys lle ’i priodwyd; + Ac erbyn heddyw mae y mab + Yn hen weinidog penllwyd, + Yn estyn ei freichiau + I ddangos y Meichiau,— + Y baban y anwyd i ni. + + + + +Y FAM IEUANC. + + +Yr hon a fu farw ymhen ychydig wythnosau ar ol genedigaeth ei bachgen +bychan cyntafanedig. + + “CEWCH eto deimlo ’r heulwen + Yn gynnes ar eich grudd; + Cewch eto deimlo ’r awel + Am lawer hafaidd ddydd; + Peidiwch a son am farw, + Peidiwch a meddwl am + I’ch plentyn fyw heb glywed + Na’ nabod llais ei fam. + + “Peidiwch a son am farw, + Daw eto haul ar fryn; + Ac iechyd ddaw i’ch codi + O’r hen gystuddiau hyn. + Yn wan ei llais atebodd, + Peidiwch a son am fyw! + ’Rwy ’n rhoi fy machgen anwyl + I’ch gofal chwi a Duw.” + + Gadawyd yr ystafell + Am ddim ond ennyd fach, + A chlywid llais yn sibrwd,— + “Fy anwyl fachgen bach! + Fy machgen, O! fy machgen! + O na b’ai ’th fam yn iach; + Fy nghyntaf, olaf blentyn, + Fy anwyl fachgen bach! + + “Fy nghyfaill bychan _newydd_ + ’R wyf fi yn mynd i’r nef; + ’R wy ’n myned at yr Iesu, + _Hen_ gyfaill ydyw Ef!” + Bu farw, ac hi wywodd + Fel blodyn ar y dail, + Gan ddyweyd,—“Fy machgen anwyl!” + Ac “Iesu!” bob yn ail. + + + + +CEISIAIS DRYSOR. + + + CEISIAIS drysor yn y byd + Mi geisiais ac mi gefais un, + Oedd fwy o werth na’r byd ei hun, + Fy anwyl Ann, fy nhrysor drud + + Yn yr arch mae ’r oll yn awr, + Oddigerth y blodeuyn llon + Adawodd angau ar ei bron + I wenu ar y storom fawr. + + Pan suddai ’m llong, tan rym y lli, + O’i hystlys daeth rhyw nerth i’m dwyn + Yn ol i’r lan. Fy mhlentyn mwyn + Bywydfâd bychan oeddyt _ti_. + + Mi hoffwn innau fynd i lawr. + Ond er dy fwyn fy mhlentyn llon, + Mi geisiaf fyw o don i don + Ar wyneb môr fy ngofid mawr + + + + +Y FYNWENT YN Y COED. + + + YN araf y cerddasom, + I’r fynwent yn y coed; + Ac yno y claddasom + Chwaer fechan bedair oed; + Gan bedair o’i chyfeillion iach, + Mewn dillad gwynion claer, + Yng ngwŷdd ei thad a’i brodyr bach, + I huno rhoed ein chwaer. + + Ar waelod bedd y fechan, + Cyn gollwng corff ein chwaer; + Canfyddem arch wen newydd + Fel daeth o ddwylaw ’r saer. + Ein hanwyl fam oedd yno ’n fud, + Heb fawr o feddwl am + I’r plentyn _olaf_ yn y cryd + Ddod _gyntaf_ at ei fam. + + Pan gaffom ninnau ’n gollwng, + Mae gennym weddi daer,— + O boed ein llwch yn deilwng + O lwch ein mam a’n chwaer. + Fe awn yn fynych dros y cae + I’r fynwent yn y coed; + Y fan mae mam, a’r fan y mae + Chwaer fechan bedair oed. + + + + +CLADDASOM DI, ELEN. + + + CLADDASOM di, Elen, ac wrth roi dy ben + I orwedd lle fory down ni, + Dihangodd ochenaid i fyny i’r nen, + A deigryn i lawr atat ti. + + Claddasom di, Elen, a chanwyd dy fedd, + Pe hefyd bâi bosibl ei gau; + Mae llygad yn edrych o hyd ar dy wedd, + Ac ni fedr angau nacau. + + Cyflawnwyd dy freuddwyd, ond ni ddarfu ’r gro, + Ar gauad yr arch dy ddeffroi; + Ond udgorn a gân, ac o’r dywell fro, + Yn wen a dihalog y doi. + + Ai “tywell” ddywedasom? Nid tywyll i ti + Fu pyrth tragwyddoldeb a hedd, + Dy lamp oedd wenoleu;—nid ti, ond nyni, + Sy ’n dwedyd mai du ydyw ’r bedd. + + I ninnau mae breuddwyd i ddyfod i ben,— + Canfyddem di mhell oddi draw + Ar furiau Caersalem, a’th wisg yn glaer-wen, + Yn gwenu gan estyn dy law,— + + I’n derbyn yn ninas dragwyddol dy Dduw; + A thybiem ein bod wedi dod, + I gyffwrdd â’th law, ond deffroisom yn fyw, + Ymhell oddiwrth gyrraedd y nod. + + Claddasom di, Elen, ond rhyngot a ni, + Nis erys gagendor yn hir; + O fewn y bedd yna lle rhoisom dydi, + Claddasom ein hunain yn wir. + + Na, na, nis ffarweliwn, mae ’r Iesu yn fyw, + I’n dwyn ato ’i hun a thydi; + Mae ’r ffordd yn agored o’r ddaear at Dduw, + A’r nef mewn addewid i ni. + + + + +ANNIE LISLE. + + + (Lledgyfieithiad.) + + AR fin yr afon araf yn y goedwig gain, + Fan mae ’r dŵr yn gwneud arluniau gwiail melyn main, + Fan mae ’r adar haf yn canu yn eu temlau dail, + Yma ’r ydoedd am ryw adeg annedd Annie Lisle. + + _Cydgan_: Doed gwanwyn, sued dyfroedd, + Gwened hyfryd haul + Ar y dyffryn, ond nis deffry + Anwyl Annie Lisle. + + Mwyn, mwyn yw ’r awel beraidd, gana fel y dêl, + Trwy ryw fyrdd o erddi gwyrddion, lifant laeth a mel, + Ond ar wely wedi marw gorwedd Annie Lisle, + Hi ni egyr ei du lygad, Angau ’n dyn a’i deil. + + Doed gwanwyn, sued dyfroedd, + Gwened hyfryd haul + Ar y dyffryn, ond nis deffry + Anwyl Annie Lisle. + + “Cwyd fi, fy mam anwylaf, gad i’m weld y plant, + Yn y brwyn a’r melyn helyg draw ar fin y nant; + Hust! mi glywaf fiwsig nefol, miwsig Iesu ’r nef, + Mam anwylaf, mi anelaf at ei fynwes Ef.” + + Doed gwanwyn, sued dyfroedd, + Gwened hyfryd haul + Ar y dyffryn, ond nis deffry + Anwyl Annie Lisle. + + + + +Y DEFNYN CYNTAF O EIRA. + + + YR ôd, yr ôd! mae ’r eira ’n dod! + Rhwng y simneiau dacw fe, + Y defnyn cyntaf yn dod or ne; + Yn chware fel aderyn gwyn, + Trwy fŵg a chaddug y melinau hyn. + Mae ’n ofni disgyn, ac fel pe bae + Yn ail-ymgodi, ond disgyn mae. + Mae yn bwrw golwg tros y ddinas fawr, + Ac yn mesur y ffordd wrth ddod i lawr; + Gan edrych trwy ’r ffenestri ban, + Fry gyda ’r awel o fan i fan. + Mae ’n ymddyrchafu ac yn ymgrynhoi, + Ac yn dal i ddisgyn, ac yn dal i droi— + Ond gwel ei lengoedd! Mil myrddiwn mân + O angylion gwynion y gauaf glân, + Sy ’n dod ag amdo a chistfeddau iâ, + I gladdu meirwon flodau ’r ha. + Y nef sy ’n galw ’r blodyn hardd + I fyw a gwenu o lwch yr ardd. + A phan fydd farw, nis anghofia ’r nef + Mo dyrfa wen ei angladd ef. + + + + +CAVOUR. + + + I FYNY ’r mynydd dringai ef + Wrth ochor Garibaldi, + I weld yr haul yn dringo ’r nef— + Haul Rhyddid Itali. + Ond cyn i’r haul ymddangos ar ben y mynydd mawr + Fe gloddiwyd bedd i Cavour, yng ngoleu gwyn y wawr. + + + + +Y MILWR NA DDYCHWEL. + + + “NI syrthiodd neb erioed i’r bedd, + Na welwyd rhywun prudd ei wedd, + Yn gollwng deigryn arno; + Ond wrth i filwr fynd i lawr, + Mae gwlad yn dod i’w arwyl fawr, + A chenedl oll yn wylo.” + + A thithau, gyfaill, i dy fedd + Gollyngwyd ti, + Yn filwr ieuanc teg ei wedd— + Yn ei filwrol fri. + + Pan wyliem dy febyd darllennem dy lygaid, + A gwelem wrhydri cynhennid dy enaid, + A gwreichion dy ysbryd yn cynneu dy rudd; + Pan droet orchestion dy gyfoed yn wegi, + A phob anhawsderau o’th flaen yn cyd-doddi, + Coronwyd ti ’n arwr ym more dy ddydd. + + Mae cofio’th rinweddau fel milwr a Christion, + Yn hafaidd belydru trwy brudd-der ein calon, + Yn taflu goleuni tros len dy goffhad. + Fe’th ddysgwyd yn fore am Dduw dy rieni— + Ond cyffiwyd y gliniau fu ’n plygu mewn gweddi, + Yn haiarn i elyn dy Dduw a dy wlad. + + Pan wyliem ormesiaeth a’i duon adenydd + Fel nos yn ymledu tros wyneb y gwledydd, + E rwygwyd yr awyr gan udgorn y gâd; + Dyrchafwyd y grechwen,—“Cychwynnwn, cychwynnwn, + Yn ysbryd ein tadau arfogwn, ymruthrwn,” + Nes galwyd i’r frwydr holl gedyrn y wlad. + + Arfau ’n tadyrddu a swn oedd yn dilyn, + Aem ninnau i’r porthladd i’w gweled yn cychwyn, + Ond cadwem yn ymyl ein cyfaill ohyd. + Pan welai ’r fath bryder, ac ofn yn ein calon, + Gorchfygwyd ei lygad gan ddagrau tryloewon, + Ond ffarwel obeithion oleuodd ei bryd. + + Fel gwennol yn dilyn y llong tros yr eigion, + Felly ’r dychymyg ddilynodd ein gwron, + Nes glaniwyd yn llawen heb arf o nacâd— + Gwersyllwyd am ennyd, ond ber fu’r orffwysfa, + Nes sangwyd ar fryniau bythgofiol yi Alma, + Uwchben amchwareufa ddychrynllyd y gâd. + + Edrych gyferbyn ar lengoedd y gelyn + Fel dirif locustiaid yn gwneuthur y dyffryn + Mal affwys echryslon y fall— + A mil o fagnelau yn agor eu gyddfau, + I chwythu tymestloedd ac eirias gawodau, + I gladdu holl rengoedd y llall. + + Ond megis iâ llithrol + Yr Alpau tragwyddol, + Tros greigiau anhygyrch yn ceisio ’r gwrthentyrch islaw: + Trwy danllyd ryferthwy + Gwneir rhuthur ofnadwy, + Trwy ’r afon i’r llechwedd gerllaw. + + Mae rhai yn ymestyn at ystlys y gelyn, + A’r lleill fel taranfollt yn hyrddio i’w erbyn, + I loches y fagnel a’r tân; + Ond llamwyd i’r gloddfa, gorchfygwyd yn Alma, + A’r meirwon led-glywsant y gân. + + Pwy welais yn arwain hen gatrawd fy ngwlad, + Yn flaenaf, yn nesaf i’r gelyn? + Pwy gwympodd ar fynydd llosgfalog y gad, + Gan godi o’i waed i oresgyn? + + Pwy oedd yr un hwnnw a ddaliodd fel tŵr, + Yr ufel raiadrau diri? + Tydi, tydi gyfaill, tydi oedd y gŵr, + A milwr fel hyn oeddyt ti. + + Mynyddoedd yr Alma ddatganant dy werth, + Dy ddewredd, a’th fedr milwrol; + Ond draw yn Scutari datguddiwyd dy nerth, + Fel arwr ar faes Cristionogol. + + Ar wefus y milwr dolurus a gwan, + Y gwasget rawnsypiau tosturi; + A llawer ochenaid daer ddwys ar ei ran, + Gyrhaeddodd y nef yn dy weddi. + + Esmwythaist y clwyfus â balm oddi fry, + Pan ballai daiarol feddygaeth; + A glyn cysgod angau oleuwyd i lu + Pan ddaliet ti lamp Iachawdwriaeth. + + Er cymaint y caret dangnefedd dy wlad, + Ac aelwyd dy riaint yn drigfan; + Rhy bur dy gydwybod i dderbyn mwynhad + A throi oddiwrth erchwyn y truan. + + Pan ddaw y fath adeg—pan na fydd y byd + Yn agor cyfrolau rhyfeloedd, + Coffeir y gwir filwr, a’i enw o hyd, + Fydd beraidd am fil o flynyddoedd. + + Tra dyn ar y ddaear ac hefyd tra bo + Y nefoedd yn edrych ar rinwedd; + Bydd glan y Mynorfor yn anwyl mewn co + Lle rhoddwyd gwir filwr i orwedd. + + Gorphwysa fy nghyfaill yn ngwychder dy fedd, + Ar filoedd disgynned dy ysbryd; + Ond bwried rhyfeloedd i foroedd o hedd, + A dyn i heddychol ddedwyddyd. + + + + +CARCHAROR NAPLES. + + + MEWN carchar du oer y cadwynwyd fi, + Ond clywaf y bobloedd yn bloeddio—bloeddio! + A bloeddio yn nes ac uwch mae y cri, + Fod y dydd yn dod i fy nghollwng i; + A dyna fagnelau yn rhuo,—rhuo! + Mae ’r dorf yn cyhoeddi Jubil-ddydd, + Garibaldi sy ’n dyfod im’ gollwng yn rhydd. + + Mi glywaf yn dod offerynau pres, + A mil o dabyrddau yn tyrddu,—tyrddu! + Cân rhyddid yw hi, a theimlaf ei gwres + Fel y del yn mlaen, yn nes ac yn nes, + Nes mae fy hen garchar yn crynnu,—crynnu! + Fe wêl fy ngolygon oleu ddydd, + Garibaldi sy ’n dyfod i’m gollwng yn rhydd. + + Ein heiyrn a dawdd dan gyffyrddiad ei fys, + Fy nghydgarcharorion, O! bloeddiwn—bloeddiwn, + Mae ’r Eidal ein gwlad yn rbydd yn ddilys, + Mae y sedd yn wag yn y gormes lys, + Caneuon Itali, O! canwn,—canwn! + A diolch i’r nefoedd, daeth y dydd, + Garibaldi gyrhaeddodd, mae ’r Eidal yn rbydd. + + + + +GLOGWYN ANWYL. + + + [O “Owain Wyn.”] + + GLOGWYN anwyl, hoff gan i + Yw hamdden am fynudyn, + Taflu carreg i fy nghi, + Neu eistedd ar dy gribyn: + Gwylio’r afon glir islaw, + A gollwng fy myfyrion + I’r terfysglyd drefydd draw, + Ym miwsig ei murmuron. + + Bywyd Bugail—bywyd yw + Nas gŵyr y byd am dano, + Heibio ’r bryniau wele ’r byw + Fel nant yn rhedeg heibio; + Golud, enw, bydol fri, + Yw eilun-dduwiau dynion; + Mwy na ’r oll i’m golwg i + Yw praidd y bryniau gwylltion. + + Praidd y mynydd—O! fy mhraidd! + Mae pleser wrth eich gwylio, + Cyn i’r ser fachludo braidd, + A chyn i’r dwyrain ddyddio; + Pan gusano’r haul y lli’, + Y’m gyda chwi ein defaid; + Fel ein calon, felly chwi + Ym mynwes eich bugeiliaid. + + Gyda phraidd y mynydd gwyllt, + Tynghedwyd ni a’n dyddiau; + Llwybrau defaid, ŵyn a myllt, + Yw ’r llwybrau deithiwn ninnau; + Weithiau tan y creigiau certh, + Yng nghanol y mynyddoedd, + Dim i’w weld ond bryniau serth, + A thyner lesni’r nefoedd; + + Yna dringo pen y bryn, + Hyd risiau craig ddaneddog, + Gweld y nant, y cwm, a’r glyn, + Y ddôl, y gors, a’r fawnog; + Edrych ar y ceunant du, + Fel bedd ar draws y bryniau; + Bedd, yn wir, medd hanes, fu + I lawer un o’n tadau. + + Llawer craig fygythiol sydd + Yn gwgu ar ein bywyd; + Ond mae arnynt ddwylaw cudd, + Ac nid oes maen yn syflyd; + Clywir llais y dymhestl gref, + A chwiban y corwyntoedd, + Rhua croch daranau ’r nef, + Ond huno wna ’r mynyddoedd. + + Fel yr hen fynyddoedd clyd + Y’m ninnau ym mysg dynion; + Ysed tân ddinasoedd byd, + A chwymped seddau ’r mawrion, + Llwybro gyda ’n defaid wnawn, + A thrin ein huchel diroedd; + Hûn o bur dawelwch gawn + Ym mynwes y mynyddoedd. + + + + +FFARWEL ITI, GYMRU FAD. + + + FFARWEL iti, Gymru fad, + Mynd yr ydym tros y tonnau, + Mynd gan adael ar ein holau + Beddau mam a beddau tad; + O ffarwel, ein hanwyl wlad. + + Tua ’r lan fe drodd y bâd, + Tra cyfeillion ger yr afon + Godant eu cadachau gwynion; + Rhaid dy adael, Gymru fad, + O! ffarwel, ein hanwyl wlad. + + Ffarwel, ffarwel, Gymru fad, + Bydd yr heniaith a ddysgasom, + A’r alawon a ganasom + Gyda ni mewn estron wlad; + Ffarwel iti, Gymru fad. + + + + +TROS UN O DRUMIAU BERWYN. + + + [O “Owain Wyn.”] + + TROS un o drumiau Berwyn. + Ryw noson ddistaw oer, + Y teithiai gŵr lluddedig + Wrth oleu can y lloer. + Fry uwch ei ben yn crynnu + ’Roedd llawer seren dlos, + A chlywid yntau ’n canu + Fel hyn i glust y nos:— + + “Hen fynyddoedd fy mabandod, + Syllant eto ger fy mron; + Wele fi yn ail gyfarfod + Gyda ’r ardal dawel hon; + Cwm wrth ochr cwm yn gorwedd, + Nant a nant yn cwrdd ynghyd, + A chlogwyni gwyllt aruthredd + Wyliant uwch eu pennau ’n fud. + + “Mewn pellenig gartrefleoedd + Wedi ofn a phryder hir, + Hoff freuddwydion fy mlynyddoedd + Sylweddolwyd gan y gwir; + Os ffarweliodd anobeithion + Ar fy ngenedigol wlad, + Ni ffarweliais yn fy nahalon + Gydag anwyl dŷ fy nhad. + + Dacw ’m cartref is y goedwig, + Groesaw! hen arwyddion hedd; + Dacw ’r fynwent gysegredig, + Wele ’r ywen—dyna ’r _bedd_!” + Darfyddodd cân y teithiwr + Mewn teimlad llon a phrudd, + A deigryn gloew, gloew, + Ollyngodd tros ei rudd. + + Aeth heibio dôr ei gartref, + Os gofyn wnei paham, + Awgrymed dy deimladau, + A chofia _fedd ei fam_! + A threnlio ’r noson honno + Ar fedd ei fam wnaeth ef, + Nes suddo ’r seren fore + I eigion gwyn y nef. + + + + +DYCHWELIAD YR HEN FILWR. + + + PELL, pell, yw telyn Cymru + O fy llaw; + Do, dywedais gan alaru— + Byth ni ddaw, + O’r dydd y cenais ffarwel + A chwi wrth fynd i ryfel, + O’m mewn bu ’r geiriau dirgel— + “Byth ni ddaw.” + A rhuai safn y fagnel, + “Byth ni ddaw.” + + Ffarweliais pan yn fachgen + Gyda chwi, + Yng nghanol dyddiau llawen + Rhannwyd ni; + Ond nid yw ’r floedd fu ’n galw + Tros ryddid, gwlad, ac enw, + O fewn fy nglust yn farw, + Na, mae cri + A llais yr amser hwnnw + Gyda mi. + + Ond nid yw ’r holl wynebau + Ger fy mron, + Yr hardd rosynaidd ruddiau + Ieuanc llon. + Bu pellder i’n gwahanu, + Bu amser yn ein gwynnu,— + Do, do, mae wedi claddu + Oll o’r bron; + Ac atynt y’m yn nesu + Bawb a’i ffon. + + Wyt eto, delyn Cymru, + Yn fy llaw; + Ond ieuanc nerth i’th ganu, + Byth ni ddaw. + Ond clywaf swn dy dannau + Yn murmur megis tonnau, + Ar fôr yr hen amserau + Yn ddidaw; + Yn torri ar hoff lannau— + Pell, pell, draw. + + I’th erbyn delyn heddwch, + Pechais i; + Ond eto mewn tawelwch + Wele ni. + Mae llaw a driniodd arfau, + Mae llaw wasnaethodd angau + Yn cyffwrdd gyda’th dannau + Anwyl di; + Os aeth o gof dy chwarau, + Torrer hi. + + Na, na, er ei chaledu + Gan y cledd, + Daw rhwng y bysedd hynny + Bennill hedd; + Os gwelir dwfn ysgrifen + Blynyddoedd ar fy nhalcen, + Os ciliodd enw bachgen + O fy ngwedd— + Rwy ’n teimlo eto ’n llawen, + Ger fy medd. + + Gwir sylweddoliad breuddwyd + Ger fy mron, + Yw gweled eto ’r aelwyd + Anwyl hon. + Ar faesydd rhuddion angau + Trwy dewfwg y magnelau, + Cyfeiriais fil o weithiau + Tros y don; + At gysegredig furiau + Mebyd llon. + + Pell, pell, fu telyn Cymru + O fy llaw; + Do, dywedais gan alaru,— + Byth ni ddaw. + Ond wele ni, gyfeillion, + Yn yfed gwin cysurlon + O gwpan hen adgofion + Yn ddifraw,— + A wele ’r tannau mwynion + Yn fy llaw. + + + + +TRWY WLEDYDD DWYREINIOL. + + + [O “Owain Wyn.”] + + GADEWAIS fy mhraidd ar y mynydd, + A chefnais ar drumiau fy ngwlad, + Breuddwydiais am fyd o lawenydd + Tu allan i furiau fy nhad; + Yn ol i’r mynyddoedd dychwelais, + Ond dysgais, a’m dagrau yn lli, + Os bywyd y milwr arweiniais, + Mai’r cymoedd yw’r cartref i mi. + + Trwy wledydd dwyreiniol tramwyais + Ond cofio gwyllt Walia oedd loes; + O wagedd ieuenctyd yr yfais + Nes chwerwais felusder fy oes; + Nid ofnaf lefaru fy nheimlad,— + Chwi wledydd goruchel eich bri, + Yn mhell byddoch byth o fy llygad,— + Mynyddau ’r hen Ferwyn i mi. + + Mae gobaith cael eto cyn angau + Ailddringo llechweddau fy mro, + I gasglu y praidd i’w corlannau + Hyd lwybrau cynefin i’m co; + Uwch bedd anrhydeddus y milwr + Mae enfys arddunol o fri; + Ond rhowch i mi farw ’n fynyddwr, + A beddrod y bugail i mi. + + + + +Y GARREG WEN. + + + OS pell yw telyn aur fy ngwlad + O’m dwylaw musgrell i; + Os unig wyf o dŷ fy nhad, + Lle gynt chwareuid hi: + Mae ’r _iaith_ er hynny gyda swyn, + Fel ysbrydoliaeth yn fy nwyn, + I ganu cerdd, os nad yn fwyn + I’r byd—mae’n fwyn i mi. + + Mae nant yn rhedeg ar ei hynt + I ardd fy nghartref i, + Lle cododd un o’m teidiau gynt + Ddisgynfa iddi hi. + Mae helyg melyn uwch y fan, + Lle syrthia tros y dibyn ban, + A choed afalau ar y lan, + Yn edrych ar y lli. + + O dan ddisgynfa’r dŵr mae llyn, + A throsto bont o bren; + A charreg fawr, fel marmor gwyn, + Gynhalia’r bont uwch ben. + Fy mebyd dreuliais uwch y lli, + Yn eistedd yno arni hi; + A mwy na brenin oeddwn i, + Pan ar fy Ngharreg Wen. + + Pan ddeuai ’r Gwanwyn teg ei bryd + Ar ol tymhestlog hin, + Ac adfywhau ’r llysieuog fyd + Yn ei gawodydd gwin; + Yn afon fawr ai ’r gornant fach; + Pysgotwn ar ei glennydd iach— + A phin blygedig oedd fy mach + Yn grog wrth edau lîn. + + Ni waeth pa ran o’r eang fyd + A grwydraf tra b’wyf byw, + Wyf wrth y Garreg Wen o hyd, + A’r nant sydd yn fy nghlyw; + A phan hysbyswyf estron ddyn, + Mai ati’ hedaf yn fy hun, + Maddeua ’m ffoledd am mai un + O gofion mebyd yw. + + Ffurfafen bell yw mebyd oes, + Serenog fel y nen; + Ac ymysg dynion neb nid oes, + Na hoffa godi ei ben + I edrych draw i’r amser fu— + A syllaf finnau gyda’r llu— + Ac O! fy seren fore gu + Wyt ti, fy Ngharreg Wen. + + Os cyraedd ail fabandod wnaf, + Cyn gollwng arna’r llen; + Os gauaf einioes byth a gaf, + A’i eira i wynnu ’m pen— + Bydd angau imi ’n “frenin braw,” + Nes caffwyf fynd i Walia draw, + At dŷ fy nhad, i roi fy llaw + Ar ben y Garreg Wen. + + Byth, byth ni ddygir o fy ngho’ + Gyfeillion mud yr ardd; + Nis clywir trystfawr swn y gro + Ar gauad arch y bardd; + A dagrau pur tros ruddiau ’r nen + Fo ’r oll o’r dagrau uwch fy mhen— + Os cyfaill fydd, gwnaed garnedd wen + O gerrig gwynion hardd. + + Colofnau wnaed i feibion bri, + Uchelfawr tua’r nen; + Ond noder fy ninodedd i + Gan garnedd uwch fy mhen; + ’Rol gado gwlad y cystudd mawr, + Os byw fy enw hanner awr, + Na alwed neb fi ar y llawr + Ond Bardd y Garreg Wen. + + + + +TUAG ADRE. + + + O DDYDD i ddydd mae melyn haul + Yn pasio yn ei gerbyd; + O nos i nos mae ’r lleuad wen + Yn codi ac yn machlud? + O awr i awr mae ’r ser yn troi + Ar draws yr eangderau;— + Yn wir, mae holl greadigaeth Duw + Yn teithio tuag adre. + + Mae ’r ffrydlif fach, ar ben y bryn, + Yn rhedeg megys crwydryn; + Ac afon fawr, y dolydd îs, + Yn rhedeg yn y dyffryn; + Mae ’r gwynt yn crwydro yn y nef, + A symud mae ’r cymylau;— + Ac O! mae holl greadigaeth Duw + Yn teithio tuag adre. + + Mae gwynt Diwygiad ar ei daith, + A derw Cymru ’n gildio, + Mae swn gorfoledd yn y dail,— + Mae swn canghenuau ’n cracio; + O! Anadl, tyrd o’r pedwar gwynt, + A chymer y byd mewn hymnau, + Cân a moliant iddo Ef, + I byrth tragwyddol gartre. + + + + +BEIBL FY MAM. + + + Y CYFAN oll sydd genny ’n awr + Yn y cyfanfyd crwn + Yw ’r fendigedig gyfrol hon, + Yw ’r Beibl anwyl hwn. + Mae ’n dechreu gyda dalen deg + Ein pren teuluaidd ni: + Fy mam wrth farw, megis mam + A roddodd hwn i mi. + + Rwy’n cofio ’n dda rai enwau hoff, + Ar ddechreu ’r gyfrol hon; + Fy mrawd, fy chwaer, a’r baban bach + Fu farw wrth y fron. + Rwy ’n cofio ’r hwyr darllennai ’nhad, + Am Grist ac angeu loes; + Ac fel y codai ’r Beibl hwn + Wrth son am waed y groes. + + Mi dreuliais lawer awr erioed, + I feddwl am y fan; + Rwy ’n gweld y teulu ’n fyw, er fod + Eu beddau yn y Llan. + Rwy ’n gweld y plant ar derfyn dydd, + A’r bychan byr ei gam + Yn myned ar ei ddeulin bach, + Wrth lin fy anwyl fam. + + Mae ’r byd yn wag, cofleidiaf di, + Fy Meibl anwyl iawn; + Y fynwent a’th ddalennau di + Yw ’r unig bethau llawn. + Esmwytha di fy ffordd i’r bedd + Trwy ddysgu ’r ffordd i fyw: + Crynedig dwylaw fo ’n dy ddal + Fys anweledig Duw. + + [Picture: “Aros mae’r mynyddoedd mawr,
Rhuo trostynt mae y gwynt.”] + + + + +ALUN MABON. + + + BUGEILGAN DELYNEGOL. + + + +I. + + + ’R OEDD Alun Mabon yn ei ddydd + Yn fachgen cryf a hoew; + Yn berchen grudd a thalcen hardd, + A llygad gloew, gloew. + Er nad oedd goeth ’nol dull y byd, + Fe ellid dweyd er hynny + Fod ganddo galon gynnes bur + Yn natur wedi tyfu. + + Ar fin y mynydd ganwyd ef, + Ac fel y blodyn bychan + Oedd ar y grug wrth gefn ei dŷ, + Blagurodd yntau allan.— + Fe gafodd hafddydd yn yr haul, + A gauaf yn y stormydd; + Ac yna megis blodyn grug, + Fe wywodd ar y mynydd. + + + +II. + + + Ar fin y mynydd ganwyd ef, + Ac fel yr hedydd rhyngo a’r nef + Fe ganodd lawer anthem gref, + Lle nad oedd carreg ateb. + Ond dywed traddodiadol go, + I’r llon a’r prudd o dro i dro + Ddod ato yn ei fryniawg fro + Fel haul a storm i’w wyneb. + + Ar rai o fydrau Cymru lân, + Rhyw gais at roi arluniau mân + O fywyd Alun ydyw ’r gân + Fugeiliol sydd yn canlyn; + Ac mae bywgraffiad byw o’r dyn, + Yn ei ganeuon ef ei hun, + A’i “Arad Goch” yw ’r gyntaf un + Gaiff fyned efo ’r delyn. + + + +III. + + + Os hoffech wybod sut + Mae dyn fel fi yn byw, + Mi ddysgais gan fy nhad + Grefft gyntaf dynol ryw; + Mi ddysgais wneyd y gors + Yn weirglodd ffrwythlon ir, + I godi daear las + Ar wyneb anial dir. + ’Rwy’n gorwedd efo’r hwyr, + Ac yn codi efo’r wawr, + I ddilyn yr ôg, ar ochr y Glôg, + A chanlyn yr arad goch + Ar ben y mynydd mawr. + + Cyn boddio ar eich byd, + Pa grefftwyr bynnag foch, + Chwi ddylech ddod am dro + Rhwng cyrn yr arad goch; + A pheidiwch meddwl fod + Pob pleser a mwynhad + Yn aros byth heb ddod + I fryniau ucha’r wlad. + ’Rwyn gorwedd efo’r hwyr, &c. + + Yn ol eich clociau heirdd, + Bob bore codwch chwi: + Y wawr neu wyneb haul + Yw ’r cloc a’n cyfyd ni; + Y dyddiaduron sydd + Yn nodi ’r haf i chwi; + Ond dail y coed yw ’r llyfr + Sy ’n dod a’r haf i ni. + ’Rwyn gorwedd efo’r hwyr, &c. + + Nis gwn i fawr am fyw + Mewn rhwysg a gwychder byd; + Ond diolch, gwn beth yw + Gogoniant bwthyn clyd; + Ac eistedd hanner awr + Tan goeden ger fy nôr, + Pan aiff yr haul i lawr, + Mewn cwmwl tân i’r môr. + ’Rwyn gorwedd efo ’r hwyr, &c. + + Cerddorion Ewrop ddont + I’ch mysg i roddi cân: + ’R wyf innau ’n ymfoddhau + Ar lais y fronfraith lân; + Wrth wrando ’r gwcw las, + A’r hedydd bychan fry, + A gweled Robyn Goch + Yn gwrando ’r deryn du. + ’Rwy’n gorwedd efo’r hwyr, &c. + + Ddinaswyr gwaelod gwlad, + A gwŷr y celfau cain, + Pe welech Fai yn dod, + A blodau ar y drain— + Y rhosyn ar y gwrych, + A’r lili ar y llyn; + Fe hoffech chwithau fyw + Mewn bwthyn ar y bryn. + ’Rwy’n gorwedd efo’r hwyr, &c. + + Pan rydd yr Ionawr oer + Ei gaenen ar yr ardd, + Y coed a dro’nt yn wyn + Tan flodau barrug hardd; + Daw bargod dan y to + Fel rhes o berlau pur, + A’r eira ddengys liw + Yr eiddew ar y mur. + ’Rwy’n gorwedd efo’r hwyr, &c. + + Daw Ebrill yn ei dro, + A chydag ef fe ddaw + Disymwth wenau haul, + A sydyn gawod wlaw; + Fel cyfnewidiog ferch, + Neu ddyn o deimlad gwan, + Galara ’r awyr las, + A gwena yn y fan. + ’Rwy’n gorwedd efo ’r hwyr, + Ac yn codi efo ’r wawr, + I ddilyn yr ôg ar ochor y Glôg + A chanlyn yr arad goch + Ar ben y mynydd mawr. + + + +IV. + + + Dowch i’r mynydd yn y bore, + Chwi gewch weld y wawr-ddydd deg + Yn ymwrido ar y bryniau, + Fel genethig dair-ar-ddeg. + Diffodd lampau ’r nos, + Goleu ’r ddaear dlos, + Rhodio tros y bryniau mawr, + Gosod cymyl claer + Mewn ymylon aur, + Dyna waith y wylaidd wawr. + + Dowch i’r mynydd gyda’r hwyrddydd, + Pan aiff haul i’w fachlud awr; + Chwi gewch weled brenin Gwynddydd + Yn ei waed yn cwympo i lawr. + Duo ’n ddyfnach bydd + Mynwent laith y dydd, + A daw nifwl ar y môr, + Lleuad gwyd ei phen, + Hwyrddydd rodia ’r nen + I ail oleu lampau ’r Iôr. + + + +V. + + + Mi genais gerdd i’r Arad Goch, + A cherdd ar Ddowch i’r Mynydd: + Ond beth be bawn i eto ’n dod + I ganu cân anghelfydd + Ar alaw anwyl “Blodau ’r Cwm,” + Mae pawb yn gwybod honno; + A beth pe bawn yn dewis pwnc + Y gŵyr pob dyn am dano? + + O! gwyn ei fyd yr hwn nis gŵyr + Am ferch fu ’n flinder iddo; + Ond wn i ddim yn sicr chwaith, + Ai gwyn ei fyd, ai peidio. + Mae’n ddigon hawdd gan ambell un + Sydd wedi cael ei ginio, + Areithio llawer wrth ryw blant + Y gallant aros hebddo. + + Fe guchia gwyneb llawer tad, + Pan glywant gân cariadau: + Tra ’u plant eu hunain wrth eu traed + Yn chwerthin am eu pennau; + Ni welais i ’run deryn bach + Yn hoff o fyw yn unig; + Ac ni fu oen yn hoff o’i fam + Nad oedd yn hoff o oenig. + + Ac ni fu dyn yn hoff o ddyn + Na mam yn hoff o’i phlentyn, + Nad ydoedd serch at ferch neu fab + Yn gyntaf wedi ennyn. + Mae holl ddynoliaeth dyn yn gudd, + A’i enaid fel yn huno, + Nes daw rhyw lygad fel yr haul + I wenu cariad arno. + + Aeddfedodd dyn erioed yn iawn + Ar gangen fawr dynoliaeth, + Os bydd ei wedd heb wrido ’n goch, + Yng ngŵydd ei anwyl eneth. + Ond nid athromaeth dâl i feirdd,— + Barddoniaeth ydyw ’r testyn: + Am hynny tyred, Menna Rhên, + Fy awen a fy nhelyn. + + + +VI. + + + Pan welais gyntaf Menna Rhên + Yn myned tua ’r mynydd, + Yr oedd plentynrwydd tyner llon + Yn dirion ar ei dwyrudd; + Ac efo ’i brawd y byddai beunydd, + Yn adsain miwsig hyd y meusydd; + ’R oedd ganddi lais, a chanddi ddeall + I ganu a charoli’n ddiwall, + Ond nid oedd dim yn Menna Rhên— + Ddim mwy na rhywun arall. + + Mi welais eilwaith Menna Rhen + Yn myned tua ’r mynydd; + A byth er hynny, coeliwch fi, + Bu ’n boenau imi beunydd. + Yr oedd y dôn a genid ganddi + Fel yn aros gyda myfi; + Mi dreuliais ddyddiau mewn myfyrion, + A nosweithiau mewn breuddwydion, + Nes credais fod cân Menna lân + Yn ngwaelod isa ’nghalon. + + Mi welais wedyn Menna Rhen + I’r mynydd hwnnw ’n myned, + Ac mi ddilynais ôl ei throed + Bob cam a fedrwn weled; + Ond hi o’r diwedd oddiweddais, + Ac O! mi deimlais, ac mi ddwedais + Farddoniaeth dlysach mewn un munud + Na dim a genais yn fy mywyd, + Wrth roddi cangen fedwen ferth + Yn nwylaw fy anwylyd. + + + +VII. + + + Tra ’n cysgu ’r nos ddilynol + Canfyddais trwy fy hun, + Y gangen fedwen honno ’n bleth + Am wddf fy anwyl fûn; + Y dail a ddeuent arni, + Yn wyrdd a llawn bywhad; + A gwelwn hi ’n blodeuo ’n hardd, + Ac yna ’n hadu had. + Ond wrth fwynhau fy mreuddwyd + O freuddwyd heb ei ail! + Canfyddwn locust melyn ddu + Ymysg y bedw ddail; + Ymlusgodd ac ymrwyfodd + Nes cyffwrdd gwddf y ferch, + Ac yna breuddwyd mwy nid oedd, + Ond hunllef hagr erch. + + Diolchais am gael deffro + Pan ddaeth yn doriad dydd; + Ond cofiais ddechreu’r breuddwyd hwn + Yn fwy na ’i ddiwedd prudd.— + Meddyliais am y blodau + Oedd ar y brigau cain, + Yn fwy nag am y locust erch + Lochesid yn y rhain. + Fy nghalon losgai ynnof + Wrth gofio llygad Men; + Ac adeiladais lawer llys + A chastell yn y nen; + Ond maluriasant ymaith, + Cyn dechreu mynd yn hen, + Oherwydd cangen _gollen_ ddaeth + Oddiwrth fy Menna Rhên. + + + +VIII. + + + ALAW,—_Hob y Deri Dando_. + + Mae gan bawb ei brofedigaeth, + Paid a siarad gwirion, + Ond myfi gadd siomedigaeth + Paid a thorri ’th galon; + Rhyfedd iawn os na wnaf farw, + Siwr, siwr iawn, + Siomedigaeth chwerw arw; + Mwyn, mwyn, er ei mwyn, + A fyddai marw er ei mwyn. + + Rown i’n meddwl ei bod hi’n ddidwyll, + Paid a meddwl gwirion,— + Peidiwch chwithau bod yn fyrbwyll; + Dyna fel mae dynion. + Dynion sydd a’r synwyr cryfa, + Siwr, siwr iawn, + Ond gwrthodwyd fi gan Menna; + Mwyn, mwyn, er ei mwyn, + A fyddai marw er ei mwyn. + + Rhoddais iddi gangen fedwen, + Beth ddywedodd Menna? + Gyrrodd imi gangen gollen, + Wel, hi wnaeth yn eitha’. + Ond parhaf o hyd i’w hoffi, + Siwr, siwr iawn, + Pe b’ai ’n gyrru amdo imi; + Mwyn, mwyn, er ei mwyn, + A fyddai marw er ei mwyn. + + + +IX. + + + ’R oedd gennyf fi gyfaill pur anwyl a hoff, + Yn fy nghyfarfod bob amser â gwên; + Ac wrtho mi ddwedais fy mod wedi rhoi + Fy neheulaw i Menna Rhên. + Ond ef pan ddeallodd yr hyn oedd yn bod, + Siaradodd â’r llances ei hun— + Efe oedd y locust ddisgynnodd ar ddail + Y fedwen a welais trwy f’ hun. + + Mae llawer ffordd i lofruddio dyn + Yn y byd llofruddiog hwn; + Os cwrddwch â lleidr yng ngwyll y nos, + Bydd angau ar ffroen ei wn; + Fe gymer eich arian ar ol eich lladd, + I’w logell losgedig ei hun, + Ac yna fe ’ch tafl i ffos y clawdd,— + Dyna ffordd _lleidr_ i fwrdro dyn. + + Mae arall o falais yn dod gyda gwên, + I ro’i i ddyn ddiod yn hael, + Mae yntau ’n cymeryd, ond bychan y gŵyr + Mai cwpan o wenwyn mae ’n gael; + Mae un yn ymdrengu, a’r llall yn boddhau + Rhyw deimlad sydd ynddo fe ’i hun— + Fe ddygodd y gwenwyn ryw amcan i ben, + Dyna ffordd _llofrudd_ i fwrdro dyn. + + Mae arall yn byw ac yn bod gyda chwi, + Fel cyfaill diffuant bob pryd, + Ac rywfodd i’ch mynwes yn gynnes yr a, + Nes cael eich cyfrinach i gyd.— + Ac yna mae ’n myned i sibrwd ei serch + I galon un garech eich hun— + Yn ennill y llances garasech erioed; + Dyna ffordd _cythraul_ i fwrdro dyn. + + + +X. + + + ALAW,—_Y Melinydd_. + + Ond chaiff y gangen fedwen + Ddim gwywo ’n goch ei lliw + Nes af i siarad eto + Yng ngwyneb Menna wiw. + Fa la, &c. + + Mae gennyf dŷ fy hunan, + Heb ddegwm, rhent, na threth; + A phan eisteddaf ynddo, + ’Rwy’n frenin ar bob peth. + Fa la, &c. + + Mae gennyf barlwr bychan, + Ac aelwyd fechan lân; + A’m tegell i fy hunan + Sy ’n canu wrth y tân. + Fa la, &c. + + Mae gennyf gant o ddefaid + Yn pori ar y bryn, + A gallaf godi ’m cyfrwy + Ar gefn fy ngheffyl gwyn. + Fa la, &c. + + Mae gennyf ferlyn mynydd, + I fynd i weled Men; + Nad all neb ond fy hunan + Roi rheffyn yn ei ben. + Fa la, &c. + + Mae ’r ardd, a’r cae, a’r ffriddoedd, + A’r tŷ yn eiddo im’; + Ond heb fy Menna anwyl + ’Rwyf fel pe bawn heb ddim. + Fa la, &c. + + Fe ’i ceisiaf unwaith eto, + Ac os gwrthodir fi, + Tros fil o weithiau wedyn + Am Fenna ceisiaf fi. + Fa la, &c. + + + +XI. + + + Gwelais bren yn dechreu glasu + Ei ganghennau yn yr ardd + Ac yn dwedyd wrth yr adar,— + “Wele daeth y Gwanwyn hardd.” + Daeth aderyn bychan heibio, + Ac fe safodd ar ei frig; + Ac fe ganodd gyda deilen + Newydd irlas yn ei big. + + Daeth aderyn bychan arall + Ar las gangen yn y coed, + Fe ysgydwodd blu ei aden + Ac fe ddawnsiodd ar ei droed; + Canodd yntau, a dewisodd + Fan lle carai wneyd ei nyth, + O! mae ’r Gwanwyn fel yn cadw + Natur hen yn ieuanc byth. + + Eis o dan fy nghoeden fedwen + Ac mi godais fry fy mhen, + Ac mi welais ol y gyllell, + Lle torasid cangen Men. + Gwnaeth adgofion i’m ofidio + Na buasai ’r gainc yn wyw; + Ond canfyddais gangen ieuanc + Yn y toriad hwnnw ’n byw. + + O mae gobaith mewn gwrthodiad, + Meddwyf innau wrth fy hun; + Er fy nhorri gallaf dyfu + Eto yn serchiadau ’r fun. + Troes fy wyneb tuag adref, + Teflais lawer tremiad ffol + Tros fy ysgwydd at y fedwen + Lâs adewais ar fy ol. + + + +XII. + + + Wrth ddychwel tuag adref, + Mi glywais gwcw lon, + Oedd newydd groesi ’r moroedd + I’r ynys fechan hon. + + A chwcw gynta’r tymor + A ganai yn y coed, + ’Run fath a’r gwcw gyntaf + A ganodd gynta’ ’rioed. + + Mi drois yn ol i chwilio + Y glasgoed yn y llwyn, + I edrych rhwng y brigau, + Ple ’r oedd y deryn mwyn. + + Mi gerddais nes dychwelais + O dan fy medw bren; + Ac yno ’r oedd y gwcw, + Yn canu wrth fy mhen. + + O! diolch iti, gwcw, + Ein bod ni yma ’n cwrdd— + Mi sychais i fy llygad, + A’r gwcw aeth i ffwrdd. + + + +XIII. + + + Ar ol i’r gog fy ngadaw, efo ’r pren, + Dechreuais ganu ’r alaw Mentra Gwen; + Cyfodi wnes yn union, + A theimlais fwy na digon + O ganu ar fy nghalon, Mentra Men, + Er gwaethaf fy ngelynion, Mentra Men. + + Os gyrraist imi gollen, Menna Wen, + Fe yrraf eto fedwen Menna Wen, + Pe b’ai holl fedw Cymru + Tan farn yn gwywo ’fory, + Mi ddaliwn innau i ganu, Mentra Men, + Nes byddent yn aildyfu, Menna Wen. + + Os gwelaist ddail yn syrthio, ar y pren, + A blodau ’r haf yn gwywo, Menna Wen. + Perogli wedi marw + Wna ’r dail sydd ar y bedw, + Gan ddal y tywydd garw, Menna Wen, + Pren cariad ydyw hwnnw, Menna Wen. + + + +XIV. + + + ALAW,—_Clychau Aberdyfi_. + + Wrth feddwl am y gangen gyll + Ddanfonodd Menna imi; + Draw ’n y pellder clywwn swn + Hen glychau Aberdyfi— + “Menna eto fydd dy fun, + Gâd y pruddglwyf iddo ’i hun, + Cwyd dy galon, bydd yn ddyn,” + Meddai clychau Aberdyfi. + “Un-dau-tri-pedwar-pump-chwech + Cwyd dy galon, bydd yn ddyn,” + Meddai clychau Aberdyfi. + + Hawdd gan glychau ganu ’n llon, + Tra na bo dim i’w poeni: + Hawdd yw cael gweniadau merch, + Ond mil mwy hawdd en colli. + “Menna eto fydd dy fun,” &c. + + Pe bai etifedd i ŵr mawr + Yfory ’n cael ei eni; + I ganu cainc dechreuech chwi, + Hen glychau Aberdyfi. + “Menna eto fydd dy fun,” &c. + + Pe bai rhyw ddeuddyn yn y wlad, + Yfory ’n mynd i’w priodi, + I ganu cainc dechreuech chwi, + Hen glychau Aberdyfi, + “Menna eto fydd dy fun,” &c. + + Pe bawn i fory ’n mynd i’r bedd, + A’m calon wedi torri; + I ganu cainc dechreuech chwi, + Hen glychau Aberdyfi. + “Menna eto fydd dy fun, + Gad y pruddglwyf iddo ’i hun, + Cwyd dy galon, bydd yn ddyn,” + Meddai clychau Aberdyfi. + “Un-dau-tri-pedwar-pump-chwech + Cwyd dy galon, bydd yn ddyn” + Meddai clychau Aberdyfi. + + + +XV. + + + ’R wyf wedi canu llawer + O gerddi Cymru lân, + Ond dyma ’r darn prydferthaf + Sydd gennyf yn fy nghân; + Ymhen rhyw flwyddyn wedyn, + At Menna Rhen daeth brys, + Nes aeth yn Menna Mabon + A modrwy am ei bŷs. + + Yn mhen rhyw flwyddyn arall, + A dyma ddernyn cain; + Pan oedd y gôg yn canu + A’r blodau ar y drain, + Yr ŵyn ar ben y mynydd + Yn chware naid a llam, + Fe wenai Mabon bychan + Ar freichiau gwyn ei fam. + + + +XVI. + + + Ar ysgwydd y gwan fe ddaeth pwys + Trafferthion a helbul y byd, + Fy nheulu gynyddodd, a daeth + Gofynion am ’chwaneg o ŷd; + Ychwaneg o fwyd i’r rhai bach, + Ychwaneg o lafur a thraul; + Er hynny yn nghwmni fy Men, + Yr oedd imi gysur i’w gael. + + Un gweryl a gawsom erioed, + A chweryl dra chwerw oedd hon; + Fe yrrwyd fy hunan a’m gwraig, + Ar tŷ’n bendramwnwgl bron.— + Yr oedd hi ’n bur hoff o roi tro + I weled ei mam tros y bryn; + Ac wrth imi ddwedyd gair croes, + Dechreuodd areithio fel hyn:— + + “Cymeryd fy hel a fy nhrin, + Fy maeddu heb ddarfod na phen: + Cymeryd pob tafod a rhenc, + Fel pe bawn yn ddernyn o bren! + Ai dioddef fel carreg a raid, + Heb deimlad—na llygad—na chlyw! + O! na wnaf, os gwelwch chwi ’n dda, + Wnaf fi ddim er undyn byw! + + “A chymer di fi ar fy ngair, + Fe ’i cedwais erioed hyd yn hyn; + Cyn cei di fy ngwddf tan dy droed, + Bydd dy ben yn eitha gwyn.— + Cymeryd diflasdod a chas, + A galw fy modryb yn ‘sgriw.’— + O! na wnaf, os gwelwch chwi ’n dda, + Wnaf fi ddim er undyn byw! + + “Ni flasa i fynd allan o’r tŷ, + I weled fy chwaer na fy mam, + Nad codi ’r gloch fawr byddi di, + Heb reswm, nag achos, na pham.— + Wna i mono fo, Alun, er neb, + Mi gadwaf anrhydedd fy rhyw; + O! na wnaf os gwelwch chwi ’n dda, + Wnaf fi ddim er undyn byw! + + “’Does gen’ ti ’r un galon o’th fewn, + A phwyll yn dy goryn ni ’roed; + A gwae fi o’r diwrnod a’r awr [_yn crio_.] + Y gwelais dy wyneb erioed! + Mi âf tros y bryn at fy nhad, + I’m hatal ’does undyn a wiw; + Ac aros yn hŵy efo ’th di— + Wnaf fi ddim—wnaf fi ddim! + Wnaf fi ddim er undyn byw!” + +Ac i ffwrdd yr aeth hi, ac i ffwidd y bu hi, ac i ffwrdd yr arosodd, am +nas gwn i pa hyd. Ond tra yr oedd hi efo ’i mam a’i theulu, a minnau yn +fy helbul efo fy mhlant bach, mi genais gerdd i ysgafnhau fy nghalon, ac +fel hyn y cenais,— + + + +XVII. + + + Mae ’r lloer yn codi tros yr aig + Ac ogof Craig Eryri; + Ond beth yw cartref heb fy ngwraig, + Ond ogof ddioleuní? + Y mae pob munud megis awr, + Ac awr, O! Menna, ’n flwyddyn. + Pe bawn i heno ’n dderyn to, + Caet heno weled Alun. + + O na bai cadair Morgan Mud, + Neu un o’r hen freindlysau, + Yn mynd a fi, fy ngeneth wen, + Tros ben y coed a’r caeau. + Mi rown fy ngwefus wrth dy glust, + A gwnawn i ti freuddwydio; + Nes codet trwy dy gwsg i ddod, + Yn ol at Alun eto. + + Ond i fy nghadair wellt yr af, + A cheisiaf huno, Menna; + Ac mewn breuddwydion cyn bo hir + Mi ddeuaf innau yna. + Yn awr ’rwy ’n cau fy amrant swrth + Wrth gychwyn i dy wyddfod; + Breuddwydia dithau, felly hed, + A thyred i’m cyfarfod. + + + +XVIII. + + + Mi dreuliais wythnos gyfan, + A Menna bach i ffwrdd; + A’r tŷ yn llanast tryblith, + A’r llestri hyd y bwrdd. + ’R oedd gennyf was a hogyn + Yn cynhauafa mawn: + Ac eisiau pobi bara + A daeth yn fuan iawn. + + ’R oedd godro un o’r gwartheg + Yn gasach na phob peth, + Oherwydd Menna ’n unig + Gai gydied yn ei theth. + A throi yn hesp wnaeth pedair + O’r gwartheg mwyaf blith; + A llaeth y lleill a surodd, + A’r byd a drodd o chwith. + + Ac am y gegin, druan, + ’R oedd hi heb drefn na llun: + Y plant ddechreuent grïo, + A chrïais innau f’ hun. + Mi flinais ar fy einioes, + Aeth bywyd imi ’n bwn: + A gyrrais efo ’r hogyn + I Menna ’r llythyr hwn:— + + + +XIX. + + + ALAW,—_Bugail Aberdyfi_. + + Mi geisiaf eto ganu cân, + I’th gael di ’n ol, fy ngeneth lân, + I’r gadair siglo ger y tân, + Ar fynydd Aberdyfi; + Paham, fy ngeneth hoff, paham, + Gadewaist fi a’th blant dinam? + Mae Arthur bach yn galw ’i fam, + A’i galon bron a thorri; + Mae ’r ddau oen llawaeth yn y llwyn, + A’r plant yn chware efo ’r ŵyn; + O tyrd yn ol, fy ngeneth fwyn, + I fynydd Aberdyfi. + + Nosweithiau hirion mwliog du + Sydd o fy mlaen, fy ngeneth gu: + O! agor eto ddrws y tŷ, + Ar fynydd Aberdyfi. + O! na chaet glywed gweddi dlos + Dy Arthur bach cyn cysgu ’r nos, + A’i ruddiau bychain fel y rhos, + Yn wylo am ei fami; + Gormesaist lawer arnaf, Men, + Gormesais innau—dyna ben: + O tyrd yn ol, fy ngeneth wen, + I fynydd Aberdyfi. + + Fel hyn y ceisiaf ganu cân + I’th gael di ’n ol, fy ngeneth lân, + I eistedd eto ger y tân, + Ar fynydd Aberdyfi; + ’Rwy ’n cofio’th lais yn canu ’n iach— + Ond ’fedri di, na neb o’th âch, + Ddiystyrru gweddi plentyn bach + Sydd eisieu gweld ei fami. + Rhyw chware plant oedd d’weyd ffarwel, + Cyd-faddeu wnawn, a dyna ’r fel, + Tyrd tithau ’n ol, fy ngeneth ddel, + I fynydd Aberdyfi. + + + +XX. + + + Fe ddaeth yr hogyn adref, + A rhoddodd sicrhad, + Fod Menna ’n mynd i aros + Yn nhy ei mam a’i thad. + Os oeddem wedi priodi, + Yn bendant dwedai hi + Nad oedd dim modd cymodi + A dyn o’m tymer i. + + Fod i’r holl fechgyn fyned + I’w magu ganddi hi: + Ac i’r genethod ddyfod + O dan fy ngofal i. + ’R oedd hi yn ymwahanu, + Ac felly ’n canu ’n iach; + Ond hoffai roddi cusan + Ar wefus Enid fach. + + A thrannoeth hi ddychwelodd + I ddwyn y rhwyg i ben: + Ond O! fe dorrodd dagrau + O eigion calon Men; + Cymerodd Arthur afael + Am wddf ei fam a fi, + Ac fel rhyw angel bychan, + Fe ’n hailgymododd ni. + + + +XXI. + + + Wyddoch chwi beth, mae ffraeo + Yn ateb diben da; + Pe na bai oerni ’r gauaf + Ni theimlem wrês yr ha; + Pe na bai ymrafaelio, + Ni byddai ’r byd ddim nes, + Yn wir mae tipyn ffraeo + ’N gwneyd llawer iawn o les. + + + +XXII. + + + Awel groes ar fy oes godai ’n gryf wedyn, + Daeth i mi adwyth mawr, clefyd, a thwymyn: + Rhoddai mhlant ddwylaw’n mhleth, ogylch fy ngwely, + Minnau ’n fud welwn fyd arall yn nesu. + Is fy mhen, ias fy medd deimlais yn dyfod, + A daeth ofn, afon ddofn, ddu i’m cyfarfod; + Ond ’roedd grudd ar fy ngrudd, ar yr awr ddua, + A rhoi gwin ar fy min ddarfu fy Menna. + + O! os bu ias y bedd, allan o’r briddell, + Hi a fu ennyd fer yn fy hen babell; + Yn fy nhraed teimlais waed, dyn wedi huno, + Ond fe drodd angau draw wedi fy nharo. + Fel y graig safai ’m gwraig anwyl yn ëon, + Ac i’r nef, gweddi gref yrrodd o’i chalon: + Rhoi ei grudd ar fy ngrudd, ar yr awr ddua, + A rhoi gwin ar fy min, ddarfu fy Menna. + + + +XXIII. + + + Ar ol fy hir gystudd, + ’Rwy ’n cofio ’r boreuddydd + Y’m cariwyd mewn cader dros riniog fy nôr: + Ac ar fy ngwyn dalcen + Disgynnodd yr heulwen, + Ac awel o’r mynydd ac awel o’r môr. + Ar ol imi nychu + Yn gaeth ar fy ngwely + Am fisoedd o gystudd, o glefyd a phoen; + Fy nghalon lawenodd + Wrth weld ar y weirglodd + Y gaseg a’r ebol, y ddafad a’r oen. + + Trwy wenlas ffurfafen + Fe wenai yr heulwen, + Ac mi a’i gwynebais, ac yfais y gwynt; + A’r adar a ddeuent + I’m hymyl, a chanent, + Nes teimlais fy nghalon yn curo fel cynt. + Fy ngeneth ieuengaf + Ac Arthur ddaeth ataf, + A gwenu mewn dagrau wnai Menna gerllaw; + A daeth fy nghi gwirion, + Gan ysgwyd ei gynffon, + A neidiodd i fyny a llyfodd fy llaw. + + + +XXIV. + + + Ond O! mae llawer blynedd, + Er pan own gynt yn eistedd, + O flaen fy nrws tan wenau ’r haul; + ’Rol gadael gwely gwaeledd. + A llawer tywydd garw + Sydd er yr amser hwnnw, + Mae ’m plant yn wragedd ac yn wŷr, + A Menna wedi marw. + + Claddasom fachgen bychan, + Ac yna faban gwiwlan, + Ond chododd Menna byth mo’i phen + ’Rol ini gladdu ’r baban. + ’Rwy ’n cofio ’r Sul y Blodau + Yr aeth i weld eu beddau, + Pan welais arwydd ar ei gwedd, + Mai mynd i’r bedd ’roedd hithau. + + Penliniodd dan yr ywen, + A phlannodd aur-fanadlen, + Mieri Mair, a chanri ’r coed, + A brig o droed y glomen. + Y blodau gwyllt a dyfent + Ar ddau fedd yn y fynwent; + Ond gywo ’r oedd y rhosyn coch + Ar foch y fam a’i gwylient. + + Ac er pan gladdwyd Menna, + Un fynwent yw ’r byd yma: + Y fodrwy hon sydd ar fy mys + Yw’ r unig drysor fedda. + Y fodrwy hon a gadwaf, + Y fodrwy hon a garaf, + A dyma destun olaf cerdd, + Gwreichionen awen, olaf. + + + +XXV. + + + Mae Menna ’n y fynwent yn isel ei phen, + A thi ydyw ’r fodrwy fu ar ei llaw wen: + Ar law fy anwylyd rwy ’m cofio dy roi, + Ac wrth imi gofio, mae ni calon yn troi— + Fy llygaid dywyllant, a chau mae fy nghlyw, + ’Rwyf fel pe bawn farw, ac fel pe bawn fyw: + Ond megis fy mhriod wrth adael y byd, + Mae modrwy ’r adduned yn oer ac yn fud. + + Pan roddwyd ti gyntaf ar law Menna Rhen, + ’R oedd coedydd yn ddeiliog, a natur mewn gwen, + Y clychau yn canu, a’r byd fel yn ffol,— + Ond cnul oedd yn canu pan ges i di ’n ol. + Mewn gwenwisg briodas y dodais i di, + O wenwisg yr amdo dychwelaist i mi; + O! fodrwy ’r adduned, nes gwywo ’r llaw hon, + Fe’th gadwaf di ’n loew, fe’th gadwaf di’n gron. + + + +XXVI. + + + Aros mae ’r mynyddau mawr, + Rhuo trostynt mae y gwynt; + Clywir eto gyda ’r wawr, + Gân bugeiliaid megis cynt. + Eto tyfa ’r llygad dydd, + Ogylch traed y graig a’r bryn; + Ond bugeiliaid newydd sydd + Ar yr hen fynyddoedd hyn. + + Ar arferion Cymru gynt, + Newid ddaeth o rod i rod; + Mae cenedlaeth wedi mynd, + A chenedlaeth wedi dod. + Wedi oes dymestlog hir, + Alun Mabon mwy nid yw; + Ond mae ’r heniaith yn y tir, + A’r alawon hen yn fyw. + + + + +***END OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK CEIRIOG*** + + +******* This file should be named 3500-0.txt or 3500-0.zip ******* + + +This and all associated files of various formats will be found in: +http://www.gutenberg.org/dirs/3/5/0/3500 + + +Updated editions will replace the previous one--the old editions will +be renamed. + +Creating the works from print editions not protected by U.S. copyright +law means that no one owns a United States copyright in these works, +so the Foundation (and you!) can copy and distribute it in the United +States without permission and without paying copyright +royalties. Special rules, set forth in the General Terms of Use part +of this license, apply to copying and distributing Project +Gutenberg-tm electronic works to protect the PROJECT GUTENBERG-tm +concept and trademark. Project Gutenberg is a registered trademark, +and may not be used if you charge for the eBooks, unless you receive +specific permission. If you do not charge anything for copies of this +eBook, complying with the rules is very easy. You may use this eBook +for nearly any purpose such as creation of derivative works, reports, +performances and research. They may be modified and printed and given +away--you may do practically ANYTHING in the United States with eBooks +not protected by U.S. copyright law. Redistribution is subject to the +trademark license, especially commercial redistribution. + +START: FULL LICENSE + +THE FULL PROJECT GUTENBERG LICENSE +PLEASE READ THIS BEFORE YOU DISTRIBUTE OR USE THIS WORK + +To protect the Project Gutenberg-tm mission of promoting the free +distribution of electronic works, by using or distributing this work +(or any other work associated in any way with the phrase "Project +Gutenberg"), you agree to comply with all the terms of the Full +Project Gutenberg-tm License available with this file or online at +www.gutenberg.org/license. + +Section 1. General Terms of Use and Redistributing Project +Gutenberg-tm electronic works + +1.A. By reading or using any part of this Project Gutenberg-tm +electronic work, you indicate that you have read, understand, agree to +and accept all the terms of this license and intellectual property +(trademark/copyright) agreement. If you do not agree to abide by all +the terms of this agreement, you must cease using and return or +destroy all copies of Project Gutenberg-tm electronic works in your +possession. If you paid a fee for obtaining a copy of or access to a +Project Gutenberg-tm electronic work and you do not agree to be bound +by the terms of this agreement, you may obtain a refund from the +person or entity to whom you paid the fee as set forth in paragraph +1.E.8. + +1.B. "Project Gutenberg" is a registered trademark. It may only be +used on or associated in any way with an electronic work by people who +agree to be bound by the terms of this agreement. There are a few +things that you can do with most Project Gutenberg-tm electronic works +even without complying with the full terms of this agreement. See +paragraph 1.C below. There are a lot of things you can do with Project +Gutenberg-tm electronic works if you follow the terms of this +agreement and help preserve free future access to Project Gutenberg-tm +electronic works. See paragraph 1.E below. + +1.C. The Project Gutenberg Literary Archive Foundation ("the +Foundation" or PGLAF), owns a compilation copyright in the collection +of Project Gutenberg-tm electronic works. Nearly all the individual +works in the collection are in the public domain in the United +States. If an individual work is unprotected by copyright law in the +United States and you are located in the United States, we do not +claim a right to prevent you from copying, distributing, performing, +displaying or creating derivative works based on the work as long as +all references to Project Gutenberg are removed. Of course, we hope +that you will support the Project Gutenberg-tm mission of promoting +free access to electronic works by freely sharing Project Gutenberg-tm +works in compliance with the terms of this agreement for keeping the +Project Gutenberg-tm name associated with the work. You can easily +comply with the terms of this agreement by keeping this work in the +same format with its attached full Project Gutenberg-tm License when +you share it without charge with others. + +1.D. The copyright laws of the place where you are located also govern +what you can do with this work. Copyright laws in most countries are +in a constant state of change. If you are outside the United States, +check the laws of your country in addition to the terms of this +agreement before downloading, copying, displaying, performing, +distributing or creating derivative works based on this work or any +other Project Gutenberg-tm work. The Foundation makes no +representations concerning the copyright status of any work in any +country outside the United States. + +1.E. Unless you have removed all references to Project Gutenberg: + +1.E.1. The following sentence, with active links to, or other +immediate access to, the full Project Gutenberg-tm License must appear +prominently whenever any copy of a Project Gutenberg-tm work (any work +on which the phrase "Project Gutenberg" appears, or with which the +phrase "Project Gutenberg" is associated) is accessed, displayed, +performed, viewed, copied or distributed: + + This eBook is for the use of anyone anywhere in the United States and + most other parts of the world at no cost and with almost no + restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or re-use it + under the terms of the Project Gutenberg License included with this + eBook or online at www.gutenberg.org. If you are not located in the + United States, you'll have to check the laws of the country where you + are located before using this ebook. + +1.E.2. If an individual Project Gutenberg-tm electronic work is +derived from texts not protected by U.S. copyright law (does not +contain a notice indicating that it is posted with permission of the +copyright holder), the work can be copied and distributed to anyone in +the United States without paying any fees or charges. If you are +redistributing or providing access to a work with the phrase "Project +Gutenberg" associated with or appearing on the work, you must comply +either with the requirements of paragraphs 1.E.1 through 1.E.7 or +obtain permission for the use of the work and the Project Gutenberg-tm +trademark as set forth in paragraphs 1.E.8 or 1.E.9. + +1.E.3. If an individual Project Gutenberg-tm electronic work is posted +with the permission of the copyright holder, your use and distribution +must comply with both paragraphs 1.E.1 through 1.E.7 and any +additional terms imposed by the copyright holder. Additional terms +will be linked to the Project Gutenberg-tm License for all works +posted with the permission of the copyright holder found at the +beginning of this work. + +1.E.4. Do not unlink or detach or remove the full Project Gutenberg-tm +License terms from this work, or any files containing a part of this +work or any other work associated with Project Gutenberg-tm. + +1.E.5. Do not copy, display, perform, distribute or redistribute this +electronic work, or any part of this electronic work, without +prominently displaying the sentence set forth in paragraph 1.E.1 with +active links or immediate access to the full terms of the Project +Gutenberg-tm License. + +1.E.6. You may convert to and distribute this work in any binary, +compressed, marked up, nonproprietary or proprietary form, including +any word processing or hypertext form. However, if you provide access +to or distribute copies of a Project Gutenberg-tm work in a format +other than "Plain Vanilla ASCII" or other format used in the official +version posted on the official Project Gutenberg-tm web site +(www.gutenberg.org), you must, at no additional cost, fee or expense +to the user, provide a copy, a means of exporting a copy, or a means +of obtaining a copy upon request, of the work in its original "Plain +Vanilla ASCII" or other form. Any alternate format must include the +full Project Gutenberg-tm License as specified in paragraph 1.E.1. + +1.E.7. Do not charge a fee for access to, viewing, displaying, +performing, copying or distributing any Project Gutenberg-tm works +unless you comply with paragraph 1.E.8 or 1.E.9. + +1.E.8. You may charge a reasonable fee for copies of or providing +access to or distributing Project Gutenberg-tm electronic works +provided that + +* You pay a royalty fee of 20% of the gross profits you derive from + the use of Project Gutenberg-tm works calculated using the method + you already use to calculate your applicable taxes. The fee is owed + to the owner of the Project Gutenberg-tm trademark, but he has + agreed to donate royalties under this paragraph to the Project + Gutenberg Literary Archive Foundation. Royalty payments must be paid + within 60 days following each date on which you prepare (or are + legally required to prepare) your periodic tax returns. Royalty + payments should be clearly marked as such and sent to the Project + Gutenberg Literary Archive Foundation at the address specified in + Section 4, "Information about donations to the Project Gutenberg + Literary Archive Foundation." + +* You provide a full refund of any money paid by a user who notifies + you in writing (or by e-mail) within 30 days of receipt that s/he + does not agree to the terms of the full Project Gutenberg-tm + License. You must require such a user to return or destroy all + copies of the works possessed in a physical medium and discontinue + all use of and all access to other copies of Project Gutenberg-tm + works. + +* You provide, in accordance with paragraph 1.F.3, a full refund of + any money paid for a work or a replacement copy, if a defect in the + electronic work is discovered and reported to you within 90 days of + receipt of the work. + +* You comply with all other terms of this agreement for free + distribution of Project Gutenberg-tm works. + +1.E.9. If you wish to charge a fee or distribute a Project +Gutenberg-tm electronic work or group of works on different terms than +are set forth in this agreement, you must obtain permission in writing +from both the Project Gutenberg Literary Archive Foundation and The +Project Gutenberg Trademark LLC, the owner of the Project Gutenberg-tm +trademark. Contact the Foundation as set forth in Section 3 below. + +1.F. + +1.F.1. Project Gutenberg volunteers and employees expend considerable +effort to identify, do copyright research on, transcribe and proofread +works not protected by U.S. copyright law in creating the Project +Gutenberg-tm collection. Despite these efforts, Project Gutenberg-tm +electronic works, and the medium on which they may be stored, may +contain "Defects," such as, but not limited to, incomplete, inaccurate +or corrupt data, transcription errors, a copyright or other +intellectual property infringement, a defective or damaged disk or +other medium, a computer virus, or computer codes that damage or +cannot be read by your equipment. + +1.F.2. LIMITED WARRANTY, DISCLAIMER OF DAMAGES - Except for the "Right +of Replacement or Refund" described in paragraph 1.F.3, the Project +Gutenberg Literary Archive Foundation, the owner of the Project +Gutenberg-tm trademark, and any other party distributing a Project +Gutenberg-tm electronic work under this agreement, disclaim all +liability to you for damages, costs and expenses, including legal +fees. YOU AGREE THAT YOU HAVE NO REMEDIES FOR NEGLIGENCE, STRICT +LIABILITY, BREACH OF WARRANTY OR BREACH OF CONTRACT EXCEPT THOSE +PROVIDED IN PARAGRAPH 1.F.3. YOU AGREE THAT THE FOUNDATION, THE +TRADEMARK OWNER, AND ANY DISTRIBUTOR UNDER THIS AGREEMENT WILL NOT BE +LIABLE TO YOU FOR ACTUAL, DIRECT, INDIRECT, CONSEQUENTIAL, PUNITIVE OR +INCIDENTAL DAMAGES EVEN IF YOU GIVE NOTICE OF THE POSSIBILITY OF SUCH +DAMAGE. + +1.F.3. LIMITED RIGHT OF REPLACEMENT OR REFUND - If you discover a +defect in this electronic work within 90 days of receiving it, you can +receive a refund of the money (if any) you paid for it by sending a +written explanation to the person you received the work from. If you +received the work on a physical medium, you must return the medium +with your written explanation. The person or entity that provided you +with the defective work may elect to provide a replacement copy in +lieu of a refund. If you received the work electronically, the person +or entity providing it to you may choose to give you a second +opportunity to receive the work electronically in lieu of a refund. If +the second copy is also defective, you may demand a refund in writing +without further opportunities to fix the problem. + +1.F.4. Except for the limited right of replacement or refund set forth +in paragraph 1.F.3, this work is provided to you 'AS-IS', WITH NO +OTHER WARRANTIES OF ANY KIND, EXPRESS OR IMPLIED, INCLUDING BUT NOT +LIMITED TO WARRANTIES OF MERCHANTABILITY OR FITNESS FOR ANY PURPOSE. + +1.F.5. Some states do not allow disclaimers of certain implied +warranties or the exclusion or limitation of certain types of +damages. If any disclaimer or limitation set forth in this agreement +violates the law of the state applicable to this agreement, the +agreement shall be interpreted to make the maximum disclaimer or +limitation permitted by the applicable state law. The invalidity or +unenforceability of any provision of this agreement shall not void the +remaining provisions. + +1.F.6. INDEMNITY - You agree to indemnify and hold the Foundation, the +trademark owner, any agent or employee of the Foundation, anyone +providing copies of Project Gutenberg-tm electronic works in +accordance with this agreement, and any volunteers associated with the +production, promotion and distribution of Project Gutenberg-tm +electronic works, harmless from all liability, costs and expenses, +including legal fees, that arise directly or indirectly from any of +the following which you do or cause to occur: (a) distribution of this +or any Project Gutenberg-tm work, (b) alteration, modification, or +additions or deletions to any Project Gutenberg-tm work, and (c) any +Defect you cause. + +Section 2. Information about the Mission of Project Gutenberg-tm + +Project Gutenberg-tm is synonymous with the free distribution of +electronic works in formats readable by the widest variety of +computers including obsolete, old, middle-aged and new computers. It +exists because of the efforts of hundreds of volunteers and donations +from people in all walks of life. + +Volunteers and financial support to provide volunteers with the +assistance they need are critical to reaching Project Gutenberg-tm's +goals and ensuring that the Project Gutenberg-tm collection will +remain freely available for generations to come. In 2001, the Project +Gutenberg Literary Archive Foundation was created to provide a secure +and permanent future for Project Gutenberg-tm and future +generations. To learn more about the Project Gutenberg Literary +Archive Foundation and how your efforts and donations can help, see +Sections 3 and 4 and the Foundation information page at +www.gutenberg.org + +Section 3. Information about the Project Gutenberg Literary +Archive Foundation + +The Project Gutenberg Literary Archive Foundation is a non profit +501(c)(3) educational corporation organized under the laws of the +state of Mississippi and granted tax exempt status by the Internal +Revenue Service. The Foundation's EIN or federal tax identification +number is 64-6221541. Contributions to the Project Gutenberg Literary +Archive Foundation are tax deductible to the full extent permitted by +U.S. federal laws and your state's laws. + +The Foundation's principal office is in Fairbanks, Alaska, with the +mailing address: PO Box 750175, Fairbanks, AK 99775, but its +volunteers and employees are scattered throughout numerous +locations. Its business office is located at 809 North 1500 West, Salt +Lake City, UT 84116, (801) 596-1887. Email contact links and up to +date contact information can be found at the Foundation's web site and +official page at www.gutenberg.org/contact + +For additional contact information: + + Dr. Gregory B. Newby + Chief Executive and Director + gbnewby@pglaf.org + +Section 4. Information about Donations to the Project Gutenberg +Literary Archive Foundation + +Project Gutenberg-tm depends upon and cannot survive without wide +spread public support and donations to carry out its mission of +increasing the number of public domain and licensed works that can be +freely distributed in machine readable form accessible by the widest +array of equipment including outdated equipment. Many small donations +($1 to $5,000) are particularly important to maintaining tax exempt +status with the IRS. + +The Foundation is committed to complying with the laws regulating +charities and charitable donations in all 50 states of the United +States. Compliance requirements are not uniform and it takes a +considerable effort, much paperwork and many fees to meet and keep up +with these requirements. We do not solicit donations in locations +where we have not received written confirmation of compliance. To SEND +DONATIONS or determine the status of compliance for any particular +state visit www.gutenberg.org/donate + +While we cannot and do not solicit contributions from states where we +have not met the solicitation requirements, we know of no prohibition +against accepting unsolicited donations from donors in such states who +approach us with offers to donate. + +International donations are gratefully accepted, but we cannot make +any statements concerning tax treatment of donations received from +outside the United States. U.S. laws alone swamp our small staff. + +Please check the Project Gutenberg Web pages for current donation +methods and addresses. Donations are accepted in a number of other +ways including checks, online payments and credit card donations. To +donate, please visit: www.gutenberg.org/donate + +Section 5. General Information About Project Gutenberg-tm electronic works. + +Professor Michael S. Hart was the originator of the Project +Gutenberg-tm concept of a library of electronic works that could be +freely shared with anyone. For forty years, he produced and +distributed Project Gutenberg-tm eBooks with only a loose network of +volunteer support. + +Project Gutenberg-tm eBooks are often created from several printed +editions, all of which are confirmed as not protected by copyright in +the U.S. unless a copyright notice is included. Thus, we do not +necessarily keep eBooks in compliance with any particular paper +edition. + +Most people start at our Web site which has the main PG search +facility: www.gutenberg.org + +This Web site includes information about Project Gutenberg-tm, +including how to make donations to the Project Gutenberg Literary +Archive Foundation, how to help produce our new eBooks, and how to +subscribe to our email newsletter to hear about new eBooks. + |
